Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i)             Maer (neu berson sy'n llywyddu)

(ii)            Aelodau'r Cabinet

(iii)           Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Rhoddodd y Maer hysbysiad i’r Cyngor ynghylch ei weithgareddau ers y cyfarfod diwethaf, gan gynnwys mynychu gwobrau gwirfoddolwyr BAVO, sy’n dathlu’r bobl leol hynny sy’n cyfrannu eu hamser er budd eraill yn y gymuned.  Cafodd y fraint o gyflwyno gwobr Gwirfoddolwr Chwaraeon y Flwyddyn i Shannie Bowen, sy’n cynnal cyfarfodydd wythnosol gydag arweinyddion Pobl Ifanc Egnïol Maesteg trwy gydol y flwyddyn ysgol, gan eu helpu gyda'u llyfrau gwaith, eu cefnogi â'u cynnydd, a threfnu lleoliadau gwaith. 

 

Roedd enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth Flynyddol y Maer bellach yn cael eu derbyn, a'r gwobrau yn agored i bobl sy'n byw yn y fwrdeistref sirol, yn ogystal â grwpiau a busnesau lleol.  Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan CBS Pen-y-bont ar Ogwr a gellir lawrlwytho ffurflen enwebu.  Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 24 Ionawr, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad ym mis Mawrth.

 

Cafodd y Maer yr anrhydedd o gynrychioli'r Awdurdod yn nigwyddiad Sul y Cofio a gynhaliwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan osod torch ar ran CBS Pen-y-bont ar Ogwr a'i thrigolion. 

 

Cyhoeddodd y Maer fod y digwyddiad "Music with the Mayor" cyntaf, a gynhaliwyd yn Court Colman ar 10 Tachwedd, wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan gasglu £1,300 ar gyfer elusen y Maer.

 

Atgoffodd y Cynghorwyr y byddai'n casglu ar gyfer y banc bwyd yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Rhagfyr.  Gall cynghorwyr hefyd ddod â'u calendrau adfent gwrthdro fel bo modd i’r banc bwyd eu casglu, ac anogodd bawb i gymryd rhan. 

 

Cyhoeddodd hefyd fod uned newydd-anedig Ysbyty Tywysoges Cymru wedi derbyn gwobr bwysig gan UNICEF, am y cymorth y mae'r Uned yn ei roi i famau a babanod.  Dywedodd fod yr Uned ar flaen y gad yng Nghwm Taf ac yng Nghymru hefyd. 

 

Dirprwy Arweinydd

 

Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd hysbysiad i’r aelodau yngl?n â’r ystod eang o ddigwyddiadau lleol a gynhelir ledled y fwrdeistref fel bo modd iddynt roi gwybod i’w hetholwyr.  Bydd digwyddiadau'n dechrau ar 22 Tachwedd pan fydd gr?p Casglu Arian Marie Curie Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl yn cynnal noson o grefftau, caneuon, a lluniaeth yn Eglwys Unedig Pen-y-bont ar Ogwr, ynghyd â pherfformiad gan y gr?p corawl Sounds Familiar.  Bydd ‘Nadolig Gwyn’ blynyddol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei gynnal ar 23 Tachwedd, pan fydd Siôn Corn yn teithio o ganol y dref i'w groto yn Carnegie House, ac yna'n cynnau goleuadau'r dref.  Gall plant ymweld ag ef yn ei groto ar 30 Tachwedd, ac ar 7 a 14 Rhagfyr.

 

Bydd Parêd Jingle Bell Porthcawl yn cael ei gynnal ar 29 Tachwedd gyda cherddoriaeth fyw gan fand pres, stondinau bwyd, reidiau i blant, a llwyfan Bridge FM, ac yn y Grand Pavilion y Grand bydd Only Men Aloud yn cyflwyno A Merry Little Christmas. 

Ar 30 Tachwedd, bydd Gorymdaith Nadolig Maesteg yn cynnal arddangosfa tân gwyllt a’n cynnau’r goleuadau Nadolig, a bydd yr unig Santa Gwyrdd yn Ne Cymru ym Mharc Gwledig Bryngarw, bydd yno ar 1 Rhagfyr hefyd.  Ar 7 Rhagfyr, bydd llwybr y ceirw pren yn agor ym Mharc Gwledig Bryngarw a bydd gofyn i blant helpu Siôn i ddod o hyd i’r ceirw coll.  Bydd y ceirw hefyd ar goll ar 7, 8, 14 a 15 Rhagfyr.  Bydd Crefftau Arfordirol Nadoligaidd yng Nghanolfan Chwaraeon D?r Rest Bay ar 8 Rhagfyr, a bydd digwyddiad Craceri Nadolig Porthcawl sy'n cynnwys marchnad Nadoligaidd, stondinau bwyd stryd, reidiau i blant, groto Siôn Corn, band pres, a mwy.  Rhwng 14 Rhagfyr a 5 Ionawr, bydd y Grand Pavilion yn cynnal pantomeim Snow White, a bydd y nofio blynyddol yn digwydd ar Ddydd Nadolig ei hun.  Cyhoeddodd y bydd y digwyddiad yn 55 oed eleni, a’i fod n cael ei gynnal er budd i Gymdeithas Alzheimer Cymru.  Y thema eleni yw 'A Trip Down Memory Lane', a bydd disgwyl i’r nofwyr yn gwisgo fel atgof Nadolig.

 

Aelod Cabinet Cymunedau

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau y bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r ymdrechion parhaus i hyrwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog, gyda'r elfen ddiweddaraf yn cynnwys sefydlu cynllun gwarantu cyfweliadau i gyn-filwyr.  Dywedodd wrth yr Aelodau fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyflwyno gwobr efydd i'r Cyngor fel rhan o’u Cynllun Cydnabyddiaeth i Gyflogwyr Amddiffyn.  Mae'r cynllun yn cydnabod ymrwymiad a chefnogaeth cyflogwyr y DU i bersonél amddiffyn, ac mae'n cyflwyno gwobrau efydd, arian, ac aur i gyflogwyr sy'n cefnogi'r rhai sy'n gwasanaethu neu wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, ynghyd â'u teuluoedd.

 

Aelod Cabinet Gwasanaeth Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod Llywodraeth Cymru, wrth baratoi ar gyfer pwysau anochel a roddir ar ysbytai yn y gaeaf, wedi dyrannu cyfanswm o £4.3m i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, bydd £2.7m o’r ffigwr yn cael ei ddefnyddio mewn partneriaeth â sefydliadau yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.  O ganlyniad, mae’r Bwrdd Iechyd wedi gorfod cydweithio'n agos â phob un o'r awdurdodau lleol yn y rhanbarth er mwyn adnabod cynigion sydd wedi’i dylunio i ddatrys y broblem sylweddol hon.  Ar ôl ystyried y ceisiadau ar draws y rhanbarth, roedd yn falch o gadarnhau bod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael £600,000. 

Caiff yr arian ei ddefnyddio i wella'r ddarpariaeth gymunedol, gan gynnwys y Tîm Amlasiantaethol Brys, ynghyd â buddsoddiad yn y trydydd sector i gynyddu eu gallu i gefnogi'r ddarpariaeth gymunedol o wasanaethau.  Bydd yn cael ei ddefnyddio hefyd i gynyddu capasiti o fewn y gwasanaethau a’r timau sy'n bodoli eisoes, ac ar gyfer ffyrdd newydd o weithio gyda'n darparwyr gofal cartref.

 

Cyhoeddodd hefyd fod £250,000 pellach wedi'i ddyrannu i gynyddu niferoedd gwelyau, i alluogi dulliau newydd o weithio integredig sy'n cynyddu capasiti, i atal unrhyw dderbyniadau diangen i Ysbyty Tywysoges Cymru, ac er mwyn gyflymu rhyddhau lle bo'n briodol. 

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod ymgyrch flynyddol y Cyngor i gael rhieni sydd â’u plant wedi gadael cartref i ystyried bod yn ofalwyr maeth.  Ar yr adeg yma o'r flwyddyn, gallai rhai rhieni deimlo effaith yr hyn a elwir yn 'Syndrom Nyth Gwag', ac mae ymchwil wedi dangos y gallai arwain at iselder a cholli pwrpas.  Dywedodd fod y Cyngor yn awyddus i rieni fyfyrio ar eu dyheadau hirdymor, ac i fod yn ymwybodol o ba mor werthfawr y gallent fod i blentyn maeth. Fel pobl sydd eisoes wedi magu eu plant eu hunain, maent yn meddu ar y profiad a'r sgiliau bywyd angenrheidiol.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol fod y Gist Gymunedol, ers bron i 20 mlynedd, wedi buddsoddi mwy na miliwn o bunnoedd mewn chwaraeon ar lawr gwlad ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Menter gan Chwaraeon Cymru yw hon sy'n darparu grantiau o hyd at £1,500 i grwpiau cymunedol, clybiau chwaraeon, a chlybiau ieuenctid cymwys.  Hysbysodd y Cyngor fod arian grant o’r fath yn rhan hanfodol o’r cymorth sy’n cynnal clybiau, yn enwedig o ystyried yr ymdrechion diweddar i sicrhau dyfodol chwaraeon cymunedol yn yr hir dymor drwy annog mwy o drosglwyddo asedau cymunedol, ac yn wyneb heriau cyllidebol parhaus.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol wybod i'r Cyngor am y grwpiau a oedd wedi elwa'n ddiweddar o arian y Gist Gymunedol, gan gynnwys Every Link Counts, i sefydlu clwb Boccia ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu, Clwb Can?io Maesteg a Chlwb Can?io Pen-y-bont ar Ogwr, a ddefnyddiodd eu cyllid i hyfforddi ac i brynu offer ar gyfer aelodau iau a phobl ag anableddau.  Mae Clwb Pêl-rwyd Pen-y-bont ar Ogwr wedi defnyddio arian cist gymunedol i annog mwy o ferched i ymuno mewn chwaraeon ac i sicrhau eu bod yn gallu symud o lefel iau i’r lefel oedolion.  Mae'r arian hefyd wedi cefnogi hyfforddi hyfforddwyr, dyfarnwyr, a swyddogion cymorth cyntaf, offer a chostau llogi cyfleusterau a mwy.  Anogodd yr Aelodau i hybu timau chwaraeon a chlybiau lleol i ddysgu mwy am sut y gall cynllun ariannu'r Gist Gymunedol eu cefnogi.  Y dyddiad cau ar gyfer y rownd nesaf o geisiadau am gyllid fydd 27 Tachwedd, gyda'r manylion ar gael ar wefan Cist Gymunedol Chwaraeon Cymru neu trwy gysylltu â'r swyddog datblygu chwaraeon, Andrew Jones.

 

Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal trafodaethau ag Ymddiriedolaeth Corfforaeth Cynffig ynghylch prydles reoli hirdymor ar gyfer Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig.  Dywedodd fod y Cyngor wedi bod yn gweithio tuag at drosglwyddo rheolaeth y safle ers bron i ddegawd bellach, a'i fod wedi bod yn cefnogi'r Ymddiriedolaeth wrth iddi geisio penodi sefydliad newydd a all barhau â'r gwaith hwn ar ôl i'r brydles gael ei dychwelyd ar 31 Rhagfyr 2019.  Hysbysodd y Cyngor fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgymryd â gwiriadau 'diwydrwydd dyladwy' ar ôl dod i'r casgliad mai hwy sydd yn y sefyllfa orau i reoli'r buddiannau cadwraeth ar y safle.  Roedd yn cydnabod ac yn diolch i bawb a oedd wedi gweithio yn y Warchodfa neu sydd wedi gwirfoddoli yno tra'r oedd wedi ei reoli gan y Cyngor.

 

Fe wnaeth yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio longyfarch disgyblion yn Ysgol Gynradd Corneli, Ysgol y Ferch o'r Sgêr, a'r Ganolfan Integredig i Blant am gynnig help llaw i fabanod yn Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig.  Dywedodd fod y babanod angen ystafell ddosbarth newydd ar ôl i bibell dorri a’u gadael heb wres ac angen atgyweiriadau helaeth.  Dywedodd fod eu cyd-ddisgyblion wedi ymgyrchu i wneud lle iddynt tra bod y gwaith yn cael ei wneud.

 

Prif Weithredwr

 

Cyhoeddodd y Prif Weithredwr fod nifer o staff y Cyngor wedi cael eu cydnabod gan Wobrau Heddlu De Cymru ar ôl ennill Gwobr Partneriaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu am 2019.  Cyflwynwyd y wobr am eu hymdrechion fel rhan o'r Gr?p Adolygiad ac Ymateb Hunanladdiad.  Mae'r gr?p yn cynnwys cynrychiolwyr o'r timau Cyfathrebu, Diogelu ac Addysg, a Chymorth i Deuluoedd, ac mae'n dod â chydweithwyr o'r Cyngor, o iechyd, yr heddlu, a sefydliadau'r trydydd sector ynghyd.  Mae'r gr?p yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu cymorth penodol sydd wedi'i gynllunio i helpu pobl i gael gafael ar wasanaethau sy'n cefnogi lles meddyliol, gan atal hunan-niwed a hunanladdiad.  Llongyfarchodd y staff ar eu hymdrechion. 

 

Cyhoeddodd y Prif Weithredwr hefyd fod y staff hefyd wedi trefnu cynllun casglu ar gyfer Banc Bwyd Nadolig i gefnogi teuluoedd lleol ac unigolion sy'n wynebu caledi.  Drwy gydol yr wythnos nesaf bydd lleoliadau casglu yn cael eu  sefydlu yng nghegin a mannau egwyl y staff yn y Swyddfeydd Dinesig, a bydd rhestr o eitemau bwyd a rhai eraill y mae eu hangen ar frys yn cael eu dosbarthu fel rhan o'r e-bost wythnosol i’r holl staff. Roedd hwn yn cael ei drefnu erbyn y Nadolig, yn ogystal â chasgliad Banc Bwyd parhaus y Maer.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z