Cyflwynodd
y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad oedd yn amlinellu
prif gynigion y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru).
Dywedodd
fod y Bil wedi'i gyhoeddi ym mis Tachwedd eleni, ac wedi cyflwyno
nifer o gynigion, fel a ganlyn:
Trefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol
- Bydd yr oed pleidleisio ar gyfer etholiadau
llywodraeth leol yn cael ei ostwng o 18 i 16, a bydd yr hawl i
sefyll a phleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yn cael ei
ymestyn i breswylwyr cymwys sy'n ddinasyddion tramor yng
Nghymru.
- Caiff awdurdodau lleol a chynghorau cymunedol
eu rhoi ar gylch etholedig pum mlynedd parhaol, gan drosglwyddo'r
pwerau i Lywodraeth Cymru er mwyn sefydlu cofrestr ddigidol Cymru
gyfan, sy'n caniatáu i dreialu ffyrdd newydd o gynnal
etholiadau lleol (e.e. pleidleisio drwy'r post, oriau pleidleisio
newydd, pleidleisio'n electronig, cyfrif yn
electronig).
Meini prawf gwahardd rhag sefyll fel
cynghorydd
- Gwaherddir pobl sydd wedi cael eu dyfarnu'n
fethdalwyr, yn droseddwyr rhyw cofrestredig neu wedi treulio cyfnod
o 3 mis neu fwy yn y carchar (dedfryd ohiriedig neu
beidio).
- Caniateir i staff y cyngor sefyll mewn
etholiadau ar ran awdurdod lleol maent yn gweithio iddo, ond bydd
gofyn iddynt ymddiswyddo os cânt eu hethol.
Trefniadau Llywodraethu
- Bydd y Bil yn cyflwyno p?er o gymhwysedd
cyffredinol i awdurdodau lleol a chynghorau cymunedol cymwys, gan
roi p?er iddynt weithredu dros lesiant eu priod gymuned, annog
effeithiolrwydd a gwerth gorau posibl am arian.
- Bydd angen i awdurdodau lleol benodi Prif
Swyddog Gweithredol gan gyhoeddi trefniadau ar gyfer rheoli eu
perfformiad. Mae'r Bil yn cyflwyno swyddogaethau i'w rhannu rhwng y
gwahanol lefelau o fewn y Cabinet, ac yn gofyn i gynghorau ddarparu
ar gyfer cyfnodau mamolaeth i gynghorwyr.
- Bydd gofyn i Bwyllgorau Safonol gyhoeddi Adroddiad
Blynyddol, a bydd angen i gynghorau cymunedol ddrafftio a chyhoeddi
cynllun hyfforddi ar gyfer cynghorwyr a staff
Cwmnïau sydd wedi uno
- Bydd cyfle i fwy nag un awdurdod lleol weithio
ar draws y rhanbarth drwy bwyllgorau cyfunedig corfforaethol. Mae
hefyd yn rhoi p?er i Lywodraeth Cymru ymyrryd neu ofyn i un
awdurdod lleol gynorthwyo awdurdod arall os credir nad yw cyngor
penodol yn bodloni gofynion perfformiad (yn seiliedig ar
hunanasesiad ac adolygiad cyfoedion).
- Bydd unrhyw gwmnïau sy'n uno yn gwneud hynny'n
wirfoddol. Gall dau awdurdod lleol, neu fwy, gyflwyno cais i
Llywodraeth Cymru i uno cwmnïau. Mae'r Bil yn nodi'r broses a
rheoliadau ymgynghori cyhoeddus ffurfiol gofynnol i greu awdurdod
lleol cyfun. Mae modd i gynghorau wneud cais i'w
diddymu.
Ymgysylltu â'r cyhoedd
- Bydd gofyn i awdurdodau lleol gyhoeddi
strategaeth gyfranogi gyhoeddus. Rhoddir dyletswydd ar awdurdodau
lleol i annog y bobl leol i gyfrannu i lywodraeth leol.
- Bydd awdurdodau lleol angen cyflwyno
cynlluniau ar gyfer deisebau cyhoeddus, gweddarlledu'r holl
gyfarfodydd cyhoeddus (yn ddibynnol ar reoliadau) a gwneud
trefniadau i gynghorwyr fod yn bresennol o bell. Ni fydd y
darpariaethau hyn yn berthnasol i gynghorau cymunedol.
- Bydd gofyn i Gynghorau Cymunedol
ganiatáu i aelodau'r cyhoedd wneud cynrychiolaethau yn ystod
cyfarfodydd a chyhoeddi adroddiadau blynyddol ar ddiwedd bob
blwyddyn ariannol.
Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y
byddai Cynghorau yn cael dewis eu system bleidleisio eu hunain, lle
gellir herio etholiadau drwy'r system fwyafrifol syml bresennol neu
system bleidleisio drosglwyddadwy sengl
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd
wrth yr Aelodau bod rhaid cynnal pleidlais o fewn Cyngor er mwyn
newid y system bleidleisio oddi mewn iddo, gyda lleiafswm o ddwy
ran o dair o Aelodau yn ffafrio'r newid.
Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd
fod y Pwyllgor Archwilio yn newid ei enw i Bwyllgor Archwilio a
Llywodraethu. Byddai lleygwr yn cael ei ddynodi'n Gadeirydd a
byddai traean y Pwyllgor yn aelodau lleyg. Manylwyd ar swyddogaethau newydd Y Pwyllgor
Archwilio a Llywodraethu yn adran 114 y bil.
Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd y bydd gofyn i'r Cyngor weddarlledu'r holl gyfarfodydd
cyhoeddus, nid oes manylion ynghylch hyn ar hyn o bryd.
Bu i aelod ofyn pryd fydd y Bil yn cael ei roi
ar waith. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y
byddai'r Deddf ei rhoi ar waith erbyn Haf 2020.
Croesawodd un Aelod gynigion y Bil newydd, a
nododd mai mantais un ohonynt oedd y gofyn i wneud presenoldeb o
bell ar gael i'r holl Aelodau. Nododd bod llawer o'r Aelodau yn
gweithio ac yn ei chael hi'n anodd mynychu'r cyfarfodydd, ond wrth
ganiatáu iddynt fod yn bresennol o bell, a rhoi strwythur
cadarn mewn lle, bydd posib iddynt fynychu'r cyfarfod gan wella
presenoldeb yr Aelodau sy'n gweithio ar y cyfan.
Ystyriodd y Cadeirydd y byddai presenoldeb o
bell yn fanteisiol; fodd bynnag, roedd cysylltedd rhyngrwyd da yn
hanfodol i wneud hyn yn llwyddiant.
Dywedodd Aelod ei fod yn ffafrio'r Bil newydd,
ond byddai'n hoffi gweld mwy o eglurhad am y systemau
pleidleisio.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y gofyn am Adroddiad
Blynyddol y Pwyllgor Safonol, ac roedd yn credu y byddai'n
adroddiad byr am nad oedd gan y Pwyllgor Safonau lwyth achosion
sylweddol.
PENDERFYNWYD: Y
byddai'r Aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad.