Agenda item

Apeliadau

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       (1)     Bod yr apeliadau a ddaeth i law ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, fel y'u hamlinellir yn adroddiad y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, yn cael eu nodi.

 

                                  Rhif y Cod:                       Pwnc yr Apêl:

 

D/19/3236305 (1871)    Estyniad llawr cyntaf arfaethedig ar y cefn

                                      15, Victoria Road, Mynydd Cynffig.  

 

A/19/3237153 (1872)     Cais amlinellol ar gyfer hyd at 24 o anheddau a gwaith cysylltiedig.  Tir oddi ar Heol Ton-du, i'r gogledd o Rodfa Pascoe, Pen-y-bont ar Ogwr

 

D/19/3237852 (1874)     Ailfodelu annedd gan gynnwys codi'r uchder, ac estyniadau ar y cefn a’r ochr

                                       3, Nottage Mead, Porthcawl

 

A/19/3238160 (1875)     Adeiladu tair annedd ar wahân a garejys ar wahân (Ailgyflwyno P/18/381/OUT), Briary Wood, Briary Way, Bracla.

 

A/19/3229986 (1864)     Newid defnydd i d? gwyliau a osodir uwchben garej driphlyg; newidiadau i ganiatâd P/16/539/FUL i gynnwys newidiadau i wydr, drws mynedfa a gorffeniad y to yn y cefn, Delfryn, Heol Las, Mawdlam.

 

A/19/3239599 (1876)     Newid defnydd i leoliad golchi ceir â llaw drwy godi canopi sefydlog a lledu un drws: 35, Heol Village Farm, Stad Ddiwydiannol Village Farm, y Pîl.

 

C/19/3240183 (1876)     Newid defnydd i leoliad golchi ceir â llaw drwy godi canopi sefydlog a lledu un drws, 35 Heol Village Farm, Stad Ddiwydiannol Village Farm, y Pîl

 

A/19/3239745 (1877)     Cadw defnydd y tir er mwyn gosod un garafán sipsi breswyl sefydlog ynghyd â chodi ystafell ddydd/amlbwrpas, un garafán deithiol a lle i barcio ceir, The Yard, Rogers Lane, Cefn Cribwr.

 

C/19/3239759 (1878)     Defnydd heb ei awdurdodi ar gyfer storio carafán.

 

A/19/3239912 (1879)     Trosi garej bresennol yn salon harddwch (ailgyflwyno P/18/297/FUL), 14 Woodland Avenue, Pencoed

 

                          (2)        Y dylid nodi bod Arolygydd/arolygwyr a benodwyd gan Weinidogion Cymru wedi penderfynu ar yr apeliadau a ganlyn ers y cyfarfod Pwyllgor diwethaf:-

 

Rhif y Cod                      Pwnc yr Apêl

 

C/19/3229249 (1862)   Gwaith heb ei awdurdodi i greu maes parcio ceir, Fferm Mount Pleasant, Heol y Fferm, Cefn Cribwr. (A bod yr Hysbysiad Gorfodi yn cael ei amrywio/cadarnhau)

 

A/19/3229220 (1863)   Cadw'r maes parcio (arwyneb athraidd) i wasanaethu menter siop fferm. Tir yn Fferm Mount Pleasant, Cefn Cribwr.

 

D/19/3233932 (1867)   Estyniad ochr llawr cyntaf (lle gwag oddi tano ar gyfer parcio), newid to i dalcen pen ac ymestyn dormer yn y cefn, 42 Parcau Avenue, Pen-y-bont ar Ogwr

 

C/19/3226431 (1860)   Materion a gadwyd yn ôl i P/14/742/OUT i gadw annedd fel y'i hadeiladwyd gyda phwll nofio a phaneli gwydrog uwchben waliau terfyn 22 Abergarw Meadows (Plot 11), Brynmenyn.

 

D/19/3233411 (1866)   Cadw ffens o flaen annedd, 81 Stryd y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr

 

                         (3)       Bod arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru wedi penderfynu ar yr apêl ganlynol ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, a'i fod wedi rhoi cyfarwyddyd iddo gael ei ganiatáu, yn ddarostyngedig i amodau:-:-

 

Rhif y Cod                    Pwnc yr Apêl

 

D/19/3236305 (1871)  Estyniad llawr cyntaf arfaethedig yn y cefn, 15 Victoria Road, Mynydd Cynffig

 

                         (4)       Nodwyd y penderfynwyd yr apêl ganlynol ers i'r Arolygiaeth Gynllunio wrthod yn y Pwyllgor diwethaf, gan fod y dyddiad ar gyfer gwneud yr apêl wedi dod i ben.

 

Rhif y Cod                     Cynnig

 

H/19/3232985 (1865)   Arwyddion arfaethedig i'r cyfleuster golchi ceir, tir yn safle Owen G Motors, Parc Busnes Dunraven, Pen-y-bont ar Ogwr.

 

                         (5)       Nodwyd y penderfynwyd yr apêl ganlynol ers i'r Arolygiaeth Gynllunio wrthod yn y Pwyllgor diwethaf, gan fod y dyddiad ar gyfer gwneud yr apêl wedi dod i ben.

 

Rhif y Cod                     Cynnig

 

A/19/3237301 (1873)   Cais amlinellol ar gyfer 2 annedd ar wahân, hen orsaf Troswr BT, Island Farm Road, Pen-y-bont ar Ogwr.   

Dogfennau ategol: