Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) 2019 ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Pen-y-bont ar Ogwr 2006-2021

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu adroddiad, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am ganfyddiadau Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) 2019 Cynllun Datblygu Lleol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi'i atodi yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu rhywfaint o wybodaeth gefndirol. Mae'n rhaid i AMB 2019 gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru cyn 31

Hydref 2019 a bodlonwyd y targed hwn a'i gyflwyno ar 28 Hydref 2019.

 

Prif nod yr AMB yw asesu i ba raddau y mae Strategaeth a Pholisïau'r CDLl yn cael eu cyflawni. Felly, mae gan yr AMB ddwy brif rôl, yn gyntaf, ystyried a yw'r Polisïau a nodwyd yn y broses fonitro yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus ac yn ail, ystyried y Cynllun yn ei gyfanrwydd yn erbyn yr holl wybodaeth a gasglwyd, i benderfynu a oes angen adolygu'r Cynllun yn llwyr neu'n rhannol.

 

Aeth y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu yn ei flaen i nodi bod angen ystyried hyn yn erbyn cyfres o nodau a dangosyddion monitro er mwyn monitro perfformiad y CDLl.

 

Yn y cyd-destun hwn roedd yn ofynnol i'r AMB nodi Polisïau nad ydynt yn cael eu gweithredu ac ar gyfer pob Polisi o'r fath:

 

  • Amlinellu'r rhesymau pam nad yw'r Polisi'n cael ei weithredu;
  • Nodi’r camau y gellir eu cymryd i alluogi'r Polisi i gael ei weithredu;
  • Nodi a oes angen diwygio'r Cynllun ai peidio;
  • Pennu'r cyflenwad tir ar gyfer tai o'r Adroddiad Argaeledd Tir ar gyfer Tai ar gyfer y flwyddyn honno ac am y cyfnod llawn ers mabwysiadu'r Cynllun;
  • Nodi nifer yr anheddau fforddiadwy ychwanegol net a marchnad gyffredinol a adeiladwyd yn ardal yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) ar gyfer y flwyddyn honno ac am y cyfnod llawn ers mabwysiadu'r Cynllun.

 

Aeth ymlaen i ddweud bod y Llawlyfr CDLl yn atodi'r gofyniad hwn, drwy nodi ffactorau ychwanegol y dylid eu hasesu yn yr AMB, a dangoswyd y rhain ym Mharagraff 3.6 yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p, Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, bod llawer o newidiadau wedi bod ers 2013 a fydd yn effeithio ar y gwaith o roi'r CDLl ar waith yn llwyddiannus, a'r mwyaf nodedig yw'r newidiadau yn economi Cymru a'r newidiadau yn y cyd-destun rhanbarthol. Felly, mae'r AMB yn ystyried a yw'r strategaeth ddatblygu sy'n sail i'r CDLl yn parhau yn ddilys ac yn asesu a yw'r Polisïau Strategaeth a gaiff eu cynnwys yn y CDLl yn effeithiol o ran cyflawni'r Strategaeth Ddatblygu a bodloni amcanion y Cynllun.

 

Mae Paragraff 4.3 yr adroddiad wedi'i restru ar ffurf pwyntiau bwled, beth mae'r Rheoliadau CDLl a'r Llawlyfr CDLl yn nodi y mae'n rhaid i’r AMB ei gynnwys.

 

Nododd yr adroddiad wedyn fod trosolwg o Ddata Monitro'r CDLl ar gyfer pumed cyfnod yr AMB yn rhoi cipolwg diddorol ar weithredu'r CDLl dros y 12 mis diwethaf. Rhestrwyd y canfyddiadau allweddol yng nghyswllt hyn ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

Wedyn esboniodd fod Pennod 5 o'r AMB yn darparu dadansoddiad manwl o lwyddiant y Cynllun hyd yma, yn erbyn y dangosyddion monitro a'r ffactorau o ran cyflawni gwaith datblygu cynaliadwy.

 

Wedyn, rhoddodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu grynodeb o gasgliadau'r adroddiad.

 

Gofynnodd Aelod a oedd nifer yr eiddo manwerthu gwag yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys yr unedau hynny a oedd yn wag ar hyn o bryd ym marchnad dan do Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Dywedodd y Swyddog Cyflwyno y byddai'n ymchwilio i'r pwynt hwn ac yn cysylltu ymhellach â'r Aelod y tu allan i'r cyfarfod. 

 

PENDERFYNWYD:             Bod yr Aelodau'n nodi cynnwys yr adroddiad AMB.

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z