Agenda item

Bridgend's Local Government Education Services

I ddod gyda Chyflwyniad pwynt p?er.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad a oedd yn diweddaru'r Aelodau Fforwm Cyngor Cymunedol a Thref ar wasanaethau addysg llywodraeth leol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Eglurodd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal 60 ysgol, yn cynnwys 48 Ysgol Gynradd (4 yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg), 9 Ysgol Uwchradd (1 yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg) a 2 ysgol addysg arbennig.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod Pen-y-bont ar Ogwr yn un o bum awdurdod lleol yng ngwasanaeth addysg ar y cyd Consortiwm Canolbarth y De ar gyfer gwella ysgol. Rhoddodd wybod i Aelodau mai cyllideb net y Cyngor ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd oedd tua £114m yn 2019-20, a oedd yn cynrychioli 42% o gyfanswm cyllideb net y Cyngor o £271m.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd ffigyrau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr a fanylwyd arnynt yn 3.3 yr adroddiad. Cyflwynodd hefyd ystadegau mewn perthynas â chyllidebau ysgol a disgybl a fanylwyd arnynt yn 3.5 a 3.6 yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd gyflwyniad a oedd yn egluro'r pynciau a soniwyd amdanynt uchod yn fanylach gan nodi'r prif bwyntiau canlynol:

 

       Ar y cyfan, mae disgyblion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gwneud cynnydd da rhwng yr oed statudol ysgol o bum mlwydd oed ac un ar bymtheg.

 

       Mae presenoldeb disgyblion yn gryf ac yn cymharu'n ffafriol yn rheolaidd gyda chyfartaledd Cymru gyfan.

 

       Mae data gwahardd disgyblion ar y cyfan yn unol â chyfartaledd Cymru gyfan, er, yn ddiweddar, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi profi cynnydd yng ngwaharddiadau cyfnod penodol.

 

       Ar y cyfan, mae'r cynnydd a wnaed gan ddysgwyr bregus un ai yn unol â chyfartaledd Cymru gyfan, neu yn rhagori ar y cyfartaledd.

 

Darparodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd ragor o wybodaeth ynghylch disgyblion a oedd yn dangos y canlynol:

 

       Dros gyfartaledd o 3-blynedd, mae 18.1% o ddisgyblion rhwng 5 a 15 mlwydd oed yn gymwys ar gyfer cinio ysgol am ddim (sydd ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan o 17.9%).

 

       Mae 7.7% o ddisgyblion 5 mlwydd oed a h?n yn siarad Cymraeg yn rhugl (sy'n is na chyfartaledd Cymru gyfan o 16.2%).

 

       Mae 6.0% o ddisgyblion yn lleiafrifoedd ethnig (sy'n is na chyfartaledd Cymru gyfan o 11.0%.

 

       Mae gan 20.2% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig (sy'n is na chyfartaledd Cymru gyfan o 22.6%).

 

       Gofalodd yr awdurdod lleol am 131 plentyn o bob 10,000 yn 2018 (sy'n uwch na chyfartaledd Cymru gyfan o 102 plentyn o bob 10,000).

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod gwelliannau wedi eu gwneud mewn ysgolion a oedd wedi eu dangos gan asesiadau diweddar Estyn. Darganfuwyd bod gan Ben-y-bont ar Ogwr 31 ysgol yn y categori cymorth 'gwyrdd' (i fyny o 27 yn 2017-2018); 22 ysgol yn y categori cymorth 'melyn' (i fyny o 21 yn 2017-2018); 4 ysgol yn y categori cymorth 'ambr' (i lawr o 9 yn 2017-2018); a 3 ysgol yn y categori cymorth 'coch' (yr un ffigwr â 2017-2018).

 

Ychwanegodd bod y prosesau monitro 'ysgolion sy'n destun pryder' yn effeithiol a bod effaith y systemau penodol a chadarn hyn ar gyfer sicrhau cynnydd yn glir. Er enghraifft, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf: mae nifer yr ysgolion yng nghategorïau adolygu neu fonitro Estyn wedi lleihau o 11 i 6; ac mae nifer yr ysgolion yn y categorïau cymorth 'coch' neu 'ambr' wedi lleihau o 12 i 7.

Cynghorodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod yr awdurdod lleol yn rhoi pwyslais sylweddol ar bwysigrwydd llais y dysgwr. Fel rhan o'r adolygiad ôl-16, roedd pob cyngor myfyrwyr ysgolion uwchradd yn cymryd rhan mewn gweithdai i greu mewnbwn llais y dysgwr i 'uchelgeisiau ar gyfer addysg 16-18 ar draws Sir Pen-y-bont ar Ogwr'. Yn ddiweddarach yn y broses, lansiwyd arolwg manwl i sefydlu safbwyntiau dysgwyr ynghylch y ddarpariaeth 16-18 presennol ac ymatebodd dros 2400 o ddysgwyr rhwng 16-18 mlwydd oed.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd gysyniad 'Tîm Pen-y-bont ar Ogwr', a oedd yn cydnabod y ffaith bod yr holl bartneriaid darparu a
rhanddeiliaid yn tanysgrifio i'r un weledigaeth ac yn canolbwyntio'n llwyr, trwy'r amser, ar wella canlyniadau dysgwyr.

 

Drwy 'Tîm Pen-y-bont ar Ogwr', mae disgwyl i ysgolion weithio o fewn eu clwstwr i ddatblygu dysgu ac i rannu arfer da.  Cafodd hyn ei ddangos drwy ddogfennau 'Strategaeth ar Dudalen (SOAP) y tîm. 

 

Yn yr un modd, roedd sawl strwythur yn hwyluso diwylliant dysgu lle'r oedd gweithwyr proffesiynol yn medru tynnu ar brofiadau eraill a dysgu ganddynt (e.e. cyfarfodydd penaethiaid a grwpiau ehangach lle y rhennir arfer effeithiol).

 

Roedd hefyd sawl rhwydwaith dysgu proffesiynol sefydledig ar draws y fwrdeistref wedi cyfrannu at ddatblygu diwylliant dysgu cynaliadwy.

 

Trafododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd ynghylch nodau, blaenoriaethau a gweledigaeth strategol yr awdurdod mewn perthynas â blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Cynghorodd bod yr awdurdod lleol wedi gweithio'n agos gydag ysgolion yn ogystal ag arweinwyr tîm gweithredol o fewn y gyfarwyddiaeth i gytuno ar gyfeiriad Tîm Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Trafododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd hefyd effeithiolrwydd arweiniad aelodau etholedig a swyddogion a bod y cyswllt rhyngddynt yn effeithiol. Dywedodd bod gan Aelodau a Swyddogion brofiad o'r awdurdod lleol ac yn meddu ar weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer plant a phobl ifanc.

 

Darparodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fanylion ynghylch pum cynnig yr ymgynghoriad teithio dysgwyr. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 14 Hydref 2019 a 5 Ionawr 2020, ac roedd yn cynnwys y cynigion canlynol:

 

       Tynnu trafnidiaeth yn ôl ar gyfer dysgwyr sy'n elwa o lwybrau cerdded sydd ar gael i'r ysgol ac sy'n byw o fewn y trothwyon dwy/tair milltir.

       Cael gwared ar hebryngwyr o bob tacsi a bws mini sydd â llai nag 8 teithiwr.

       Cael gwared ag enghreifftiau penodol yn y polisi ynghylch trafnidiaeth disgresiwn.

       Cael gwared â thrafnidiaeth ar gyfer dysgwyr ôl-16 (ac eithrio dysgwyr yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ysgolion ffydd).

       Cael gwared â'r holl drafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol ar gyfer disgyblion meithrin.

 

Darparodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fanylion ynghylch yr ymgynghoriad ôl-16 a'r tri opsiwn sy'n cael eu hystyried.

 

Opsiwn 1

Cymysgedd o ysgolion chweched dosbarth gyda rhai uniadau i greu canolfan(nau) chweched dosbarth newydd wedi eu cynnal gan yr awdurdod lleol.

Opsiwn 2

Cymysgedd o ysgolion chweched dosbarth gyda rhai uniadau i greu canolfan(nau) chweched dosbarth wedi eu llywodraethu gan goleg addysg bellach.

Opsiwn 3

Cadw'r chweched ddosbarth ym mhob ysgol - y sefyllfa bresennol (hy model trydyddol wedi ei ddosbarthu ar sail cydweithrediad, ond gyda datblygiadau pellach er mwyn gwella darpariaeth yr opsiwn hwn).

 

Darparodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd grynodeb o wasanaethau addysg a chanfyddiadau Estyn.

 

       Yn ôl y rhan fwyaf o ddangosyddion cyrhaeddiad disgybl (ee dangosydd y cyfnod sylfaen, dangosydd pwnc craidd cyfnod allweddol 3, Lefel 1, Lefel 2, Lefel 2+ a Lefel 3), mae'r awdurdod lleol yn perfformio yn well na chyfartaledd Cymru gyfan ac yn cymharu'n ffafriol yn erbyn awdurdodau lleol tebyg.

       Fodd bynnag, mae safonau yng nghyfnod allweddol 2, perfformiad mewn pynciau penodol (hy gwyddoniaeth yng nghyfnod allweddol 4) a pherfformiad o ddysgwyr mwy abl a thalentog ar lefel ôl-16 wedi eu nodi fel meysydd i'w datblygu.

       Mae cyrhaeddiad grwpiau bregus yn gyffredinol gryf (ee mae presenoldeb a chyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys am ginio ysgol am ddim ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan yn gyson).

       Fodd bynnag, mae'r bwlch perfformiad rhwng disgyblion sy'n gymwys am ginio ysgol am ddim a disgyblion nad ydynt yn gymwys am ginio am ddim angen gwella.

       O safbwynt presenoldeb disgyblion, mae'r awdurdod lleol yn perfformio'n well na chyfartaledd Cymru gyfan yn gyson ac, ar y cyfan, yn rhagori ar berfformiad awdurdodau lleol tebyg. Fodd bynnag, mae nifer y gwaharddiadau cyfnod penodol o fewn yr awdurdod lleol yn cynyddu ac wedi ei nodi fel maes i'w wella.

       Mae cymorth ar gyfer gwelliant ysgol ar y cyfan yn dda gydag 88% o ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr nawr yn cael eu categoreiddio fel rhai sydd agen cymorth 'gwyrdd' neu 'felyn' (o 76% yn 2016-2017). Yn yr un modd, ers mis Medi 2017, mae nifer yr ysgolion yng nghategorïau adolygu neu fonitro Estyn wedi lleihau o 12 i 7.

       Fodd bynnag, er gwaethaf cymorth sylweddol gan Gonsortiwm Canolbarth y De, a'r awdurdod lleol yn gweithredu ei bwerau statudol o ymyriad, nid yw'r cynnydd sy'n cael ei wneud gan dair ysgol categori cymorth 'coch' Pen-y-bont ar Ogwr yn ddigon chwim ac yn parhau i fod yn un o flaenoriaethau allweddol yr awdurdod lleol.

       Mae darpariaeth ar gyfer y grwpiau a nodwyd yn dda ar y cyfan. Er enghraifft, mae cymorth wedi ei dargedu ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn parhau i arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Yn yr un modd, mae gwasanaethau 'Ffiniau Gofal' yr awdurdod lleol yn parhau i arddangos effaith gadarnhaol ar atal plant rhag dod yn blant sy'n derbyn gofal.

       Mae'r awdurdod lleol yn gweithio'n effeithiol gydag ystod eang o bartneriaid darparu (gan gynnwys ei ysgolion a Chonsortiwm Canolbarth y De). Mae cysyniad 'Tîm Pen-y-bont ar Ogwr', sy'n rhoi pwyslais sylweddol ar bwysigrwydd gweithio cydweithredol, yn cael ei hyrwyddo ar bob cyfle.

       Tra bod yr awdurdod lleol yn gwneud defnydd effeithiol o'i adnoddau, mae'n cydnabod yr heriau ariannol sylweddol y mae'n eu hwynebu; yn enwedig o safbwynt y pwysau presennol a rhagamcanol ar gyllidebau a ddirprwyir a chyllidebau a gedwir yn ganolog.

       Mae datblygiad y Panel Mynediad at Addysg a sefydliad y Tîm Grwpiau Bregus yn 2018 yn arddangos y buddsoddiad sylweddol y mae'r awdurdod lleol wedi ei wneud er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn elwa o brofiadau dysgu wedi eu teilwra a phrosesau diogelwch cadarn.

       I gloi, er ei fod yn barod i adnabod yr heriau mae'n eu hwynebu, safbwynt yr awdurdod lleol yw bod ei wasanaethau addysg ar y cyfan yn effeithiol. Mae gwasanaethau addysg llywodraeth leol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar y cyfan wedi eu harwain yn dda, ac o ganlyniad, mae'r awdurdod lleol yn sicrhau canlyniadau da ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr.

 

Roedd crynodeb o argymhellion ESTYN fel a ganlyn:

 

A1        Codi safonau llythrennedd mewn ysgolion cynradd

 

A2        Gwella canlyniadau ar gyfer dysgwyr chweched dosbarth ôl-16

A3        Cyflymu'r gwelliannau mewn ysgolion sy'n destun pryder

 

A4        Cryfhau rôl Fforwm Strategol Addysg Cymru er mwyn sicrhau cynnydd amserol wrth ddarparu'r blaenoriaethau sydd wedi eu nodi yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.

 

I gloi, roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau gan Aelodau a hefyd, eglurodd pe bai ganddynt gwestiwn yn dilyn y cyfarfod, y gallent e-bostio EDSU.

 

Diolchodd yr Arweinydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd am y cyflwyniad cynhwysfawr a gofynnodd i'r Aelodau a oedd ganddynt unrhyw gwestiynau.

 

Dywedodd Cynghorydd Evans bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd wedi egluro bod gwahaniaeth mewn perfformiad plant sy'n derbyn cinio ysgol am ddim a phlant nad oeddent yn derbyn cinio ysgol am ddim. Gofynnodd beth oedd y materion a oedd yn ymwneud â hyn a beth y gellid ei wneud.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod cyllid grant datblygu disgybl ychwanegol wedi ei dderbyn a fyddai'n targedu'r disgyblion penodol hyn.

 

Gofynnodd Cynghorydd Evans beth y gellid ei wneud ar gyfer y plant sy'n cael trafferth yn gyffredinol. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod bywyd cartref plant yn ganolog i'w perfformiad.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio bod hwn yn bwynt pwysig i'w godi a bod angen cymorth gan deuluoedd yn ogystal â chymorth i deuluoedd. Nododd mai'r ysgolion cryfaf mewn perthynas â pherfformiad disgyblion oedd y rhai a oedd yn cynnwys y rhieni fwyaf, felly mae hyn yn rhywbeth y mae angen i'r awdurdod lleol ei wella.

 

Nododd yr Arweinydd, er bod hyn angen gwaith parhaus, mae ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn perfformio'n dda, ond mae'r bwlch mewn perfformiad rhwng disgyblion angen ei leihau.

 

Gofynnodd Aelod mewn perthynas ag Opsiwn 3 o'r Ymgynghoriad Ôl-16, y byddai hyn yn cael ei drafod yng nghyfarfod Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 1. A oedd unrhyw adborth o hynny?

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod llawer o gwestiynau da a thrafodaethau yn y cyfarfod hwnnw, a dywedodd bod sawl sylw cadarnhaol wedi ei wneud ynghylch Opsiwn 3. Ychwanegodd y bydd yr awdurdod yn ystyried risgiau a manteision pob opsiwn unwaith bod digon o adborth wedi ei dderbyn gan y cyhoedd ac yna adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Craffu a'r Cabinet.

 

Gofynnodd Aelod a fydd yr ysgolion a rhieni yn cael eu hymgynghori. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai'r ysgolion a rhieni yn cael eu hymgynghori. Eglurodd bod yr iaith a ddefnyddir yn wahanol ac wedi ei deilwra er mwyn sicrhau bod pawb yn deall y cynlluniau yn llawn.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw welliannau i Ysgol Gynradd West Park o ran y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod y Cyngor wedi cyflogi Arbenigwr Ynni newydd a oedd wedi bod mewn cyswllt â Phennaeth yr ysgol ac wedi dweud bod y biliau eisoes wedi lleihau yno. Eglurodd hefyd bod y seilwaith yn cael ei asesu mewn categorïau o A i D, a nododd nad oedd unrhyw ysgol yng nghategori D; fodd bynnag, mae angen mynd i'r afael â phroblemau seilwaith mewn sawl ysgol.

 

Nododd Aelod bod ffigyrau'r siaradwyr Cymraeg yn is na chyfartaledd Cymru. Gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud i sicrhau bod plant ac oedolion yn cael eu hannog i ddysgu'r iaith Gymraeg.

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod hyn yn broblem, a bod addysgu'r iaith Gymraeg yn cynnwys oedolion a phlant. Eglurodd bod 5 Ysgol Cyfrwng Cymraeg yn perfformio'n dda, ond bod ffocws cyfartal ar sicrhau bod ysgolion iaith Saesneg yn cael y cyfle i ddysgu'r iaith Gymraeg.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio y byddai cynnwys pobl mewn dysgu ieithoedd yn gyffredinol yn fuddiol a nododd ei fod yn haws dysgu ieithoedd eraill pan mae pobl yn dysgu ail iaith yn gynnar yn eu bywydau.

 

Gofynnodd Aelod beth oeddem yn ei wneud i sicrhau ein bod yn paratoi ein hysgolion ar gyfer y dyfodol, yn benodol, ysgolion sydd ym Mand C ar hyn o bryd. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd mai'r prif flaenoriaethau oedd sicrhau bod digon o le yn yr ysgolion a bod ysgolion yn addas at eu dibenion.  Ychwanegodd bod arian a dderbynnir gan y Llywodraeth, yn anffodus, ar gyfer adeiladu ysgolion newydd yn unig, ac nid i ddarparu gwelliannau seilwaith i ysgolion presennol.

 

Eglurodd Cynghorydd Jenkins bod tair ysgol yn ardal Llyfni a oedd angen eu diweddaru a'u moderneiddio, e.e. tyrbinau gwynt a phaneli solar, a fyddai'n fuddsoddiad a fyddai'n arbed arian yn y tymor hir.  Cynigodd opsiynau ynghylch rhedeg ysgolion yn fwy effeithlon a oedd yn cynnwys uno'r holl wyliau yn un, gweithio trwy gydol y gwyliau haf traddodiadol a chau'r ysgolion yn ystod cyfnod y gaeaf, a fyddai'n arbed ynni a chostau cynnal a chadw.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd Cynghorydd Jenkins am ei sylwadau a nododd ei fod yn dda cael syniadau ynghylch sut gall yr awdurdod wneud pethau'n wahanol. Ychwanegodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y byddai'r arian a dderbyniwyd yn cael ei wario mewn ysgolion a byddwn angen ystyried lle y gellir gwneud y buddsoddiadau gorau a'u talu'n ôl ar gyfradd resymol.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd am ddiweddariad blynyddol ar yr eitem hon er mwyn adolygu'r cynnydd.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Fforwm Cyngor Cymunedol a Thref:

 

  1. Yn nodi cynnwys yr adroddiad ac;

Yn gofyn am ddiweddariad blynyddol i adolygu'r broses.

Dogfennau ategol: