Agenda item

Strategaeth Eiddo Gwag

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu'r Strategaeth Eiddo Gwag 2019-2023 sydd wedi'i chynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad yn ffurfiol.

 

Wrth esbonio'r cefndir, cadarnhaodd fod defnyddio eiddo gwag o'r newydd yn flaenoriaeth i'r Awdurdod Lleol, a bod arweinwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i hynny. Mae'r Strategaeth yn nodi'r bwriad y bydd "y Cyngor" a'i bartneriaid yn ceisio lleihau nifer yr adeiladau gwag ar draws y Fwrdeistref sirol a helpu i gyfrannu at gynyddu nifer y tai sydd ar gael i'w gwerthu neu eu rhentu.

 

Er mwyn cyflawni'r flaenoriaeth hon, mae Gweithgor Eiddo Gwag wedi cael ei ffurfio, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob gwasanaeth o fewn yr Awdurdod sy'n gweithio gydag eiddo gwag. Prif amcan y Gweithgor yw cyflawni'r amcanion strategol, sef gwneud defnydd o'r newydd o eiddo preswyl sydd wedi bod yn wag ers cyfnod hir.

 

Mae'r Gymdeithas Landlordiaid Cofrestredig yn cydnabod effaith eiddo gwag ar ardal a'r gymuned, ac roeddent yn croesawu'r cynigion, ac yn cadarnhau bod angen strategaeth gadarn sy'n egluro'r sancsiynau a'r mesurau gorfodi sydd ar gael.

 

Mae sawl diweddariad wedi cael eu cyflwyno i'r Strategaeth ddrafft, ac amlinellwyd y rhain ym mharagraff 4.6 yr adroddiad.

 

O ran y cynnydd hyd yma, dywedodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth, yn ogystal ag adrodd yn flynyddol ar y Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus cenedlaethol ar gyfer eiddo gwag, y bydd y gwaith sy'n deillio o'r Strategaeth yn cael ei fesur ac yn destun adroddiadau ynghylch ansawdd y gwaith ymgysylltu a gorfodi a gyflawnwyd. Y nod fydd dangos yr ymdrechion i sicrhau bod adeiladau gwag yn cael eu defnyddio o'r newydd. Bydd hyn yn cynnwys cofnodi nifer y llythyrau a ddosbarthwyd, yr ymatebion a gafwyd a'r camau gorfodi a gymerwyd. Dangoswyd peth o'r wybodaeth ystadegol hyd yma yn gysylltiedig â hyn ym mharagraff 4.7 yr adroddiad.

 

O ganlyniad i'r gweithgareddau hyn, o blith y 20 eiddo mwyaf problemus a aseswyd ac y dyfarnwyd sgôr iddynt gan y Cyngor drwy ddefnyddio'r meini prawf yn y Strategaeth, mae:-

 

5 - bellach yn cael eu defnyddio

2 - wedi'u rhestru ar ocsiwn y mis hwn

5 - yn destun trafodaeth ar gyfer camau gweithredu Adran 215 posib

2 - ar werth yn dilyn ymgysylltu helaeth

1 - yn cael ei ddal gan yr Adran Gynllunio gan fod ystlumod yn clwydo ynddo. Bydd angen Arweiniad gan Lywodraeth Cymru ynghylch hyn.

3 - ceisiadau grant wedi'u cyflwyno ond wedi'u gwrthod gan na fodlonwyd y meini prawf cymhwysedd

2 - yn destun trafodaeth â'r adran gyfreithiol ynghylch camau gorfodi pellach. 

 

Bydd ymyrraeth y Strategaeth yn cael ei mesur, ac adroddiadau'n cael eu llunio ar hynny, er mwyn esbonio maint y gwaith ymgysylltu a gorfodi a gyflawnwyd.

 

Cwblhaodd y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth ei gyflwyniad drwy gadarnhau bod 1296 o dai'r sector preifat yn wag am chwe mis neu fwy ym mis Ebrill 2019. Mae hyn i gyfrif am 2% o eiddo preswyl.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol ddiolch i'r Gweithgor Eiddo Gwag a diolchodd am y gwelliannau yr oeddent wedi'u cyflwyno, o ran cyflawni'r amcanion strategol o wneud defnydd o'r newydd o dai sydd wedi bod yn wag ers cyfnod hir. Ychwanegodd ei bod yn edrych ymlaen i weld cynnydd pellach yn y dyfodol, tuag at greu mwy o gartrefi cyfanheddol yng nghymoedd y Fwrdeistref Sirol, lle'r oedd nifer sylweddol o gartrefi'n wag o hyd.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o weld bod Eiddo Gwag yn y Fwrdeistref Sirol wedi cael ei ystyried yn flaenorol gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol, ac y byddai'n cael ei ailystyried ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf er mwyn mesur cynnydd. Yn y dyfodol, yr oedd yn gobeithio y byddai'r Cyngor yn ystyried gosod premiwm ar y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo sydd yn dal i fod yn wag am gyfnod hir, oherwydd teimlai y dylai cartrefi gwag gael eu meddiannu lle bynnag y bo hynny'n bosibl.

 

PENDERFYNWYD:                    Mabwysiadodd y Cabinet hwnnw Strategaeth Eiddo Gwag 2019-2023 yn ffurfiol.     

Dogfennau ategol: