Agenda item

Cronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad er mwyn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Cabinet am gais am gyllid o Gronfa Her economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru, a gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i dderbyn cynnig am gyllid ac ymrwymo i gytundebau â phartneriaid darparu fel bo'n briodol.

 

Fel gwybodaeth gefndirol, roedd yr adroddiad yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru o'r farn fod yr economi sylfaenol yn cynnwys gwasanaethau a chynnyrch sylfaenol y bydd pobl yn dibynnu arnynt i gadw'r boblogaeth yn ddiogel, yn gysurus a gwâr. Dangoswyd enghreifftiau o'r economi sylfaenol yr oedd Llywodraeth Cymru yn cyfeirio atynt ar ffurf pwyntiau bwled ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.

 

Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod ymagwedd Llywodraeth Cymru at gefnogi a datblygu'r economi sylfaenol yn canolbwyntio ar dri maes, fel y manylwyd ym mharagraff 3.4 yr adroddiad.

 

I gefnogi hyn, roedd Llywodraeth Cymru wedi sefydlu'r canlynol: -

 

·       Cynllun Gweithredu Economaidd (CGE) a oedd wedi pennu'r cyfeiriad ar gyfer ymagwedd ehangach a mwy cytbwys at ddatblygu economaidd, gan symud tuag at ffocws ar 'le' a chryfhau a chynyddu cydnerthedd cymunedau.

 

·       Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Bwrdd Cynghori Gweinidogol ar yr Economi Sylfaenol er mwyn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ynghylch ymyraethau ac arfer gorau cyfredol a'r dyfodol; cefnogi ymgysylltu ehangach â rhanddeiliaid yn yr economi sylfaenol; a hyrwyddo cydgysylltu mentrau perthnasol o fewn y llywodraeth a thu hwnt.

 

Roedd hyn yn cynnwys cronfa £4.5 miliwn i gefnogi Cronfa'r Economi Sylfaenol.

 

Yn dilyn lansiad y gronfa, cyflwynodd Swyddogion gais i ariannu prosiect B-Ridges ym mis Gorffennaf 2019.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol, fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO) wedi cael gwybod gan Lywodraeth Cymru fod y cynnig ar gyfer prosiect B-Ridges wedi'i gymeradwyo.  Bydd gan y prosiect B-Ridges is-bennawd: Sir Pen-y-bont ar Ogwr - Manwerthu | Buddsoddi | Datblygu | Tyfu | Esblygu | Cynnal.

 

Nod y prosiect B-Ridges yw creu pecyn cymorth i ganiatáu i fusnesau sy'n cychwyn yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg ddod yn gynaliadwy. Caiff yr ardaloedd hyn eu targedu am eu bod o fewn ardal Tasglu'r Cymoedd ac felly'n gymwys i dderbyn y cyllid sydd wedi'i glustnodi. Fodd bynnag, bydd swyddogion yn ymgysylltu â chyllidwyr eraill er mwyn chwilio am gyfleoedd i ehangu'r dull a fabwysiadwyd gan y prosiect B-Ridges ymhellach i ardaloedd eraill yn y Fwrdeistref Sirol. 

 

Ar gyfer cais prosiect B-Ridges cynigiwyd grant o £75k tuag at gyfanswm cost prosiect o £100k, gyda'r bwlch o ran cyllid wedi'i gyflenwi drwy raglen gyllido 'Kickstart'.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio y byddai'r cyllid o fudd i fusnesau sy'n ystyried eu sefydlu eu hunain yn nhrefi Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg. Llongyfarchodd y Swyddogion am chwilio am y fath gyfleoedd cyllido.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd, pe bai'r cynllun yn llwyddiannus a mwy o gyllid yn cael ei sicrhau hyn y dyfodol, y byddem yn ystyried gweithredu hynny mewn trefi eraill yn y Fwrdeistref Sirol, hy, Porthcawl a Phencoed.

 

PENDERFYNWYD:               Bod y Cabinet:

 

(1)            Yn nodi'r cyllid a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni prosiect B-Ridges i dreialu dulliau newydd o alluogi busnesau newydd yn yr economi sylfaenol ddechau masnachu o ganol trefi; rhoi cymorth fel bod unedau sy'n wag ar hyn o bryd yn cael eu meddiannu; darparu cymorth cyngor busnes i fusnesau sy'n cychwyn yn yr economi sylfaenol; cynorthwyo busnesau newydd i greu swyddi newydd.

 

(2)         Yn awdurdodi'r Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, i ymrwymo i gytundebau priodol i dderbyn y cyllid a chyflawni'r prosiect.   

Dogfennau ategol: