Agenda item

Canlyniad yr Ymgynghoriad 'Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr'

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a'r Swyddog A151 Dros Dro adroddiad a hysbysai'r Cabinet ynghylch canlyniad ymgynghoriad 'Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr' 2019, a ofynnai i ddinasyddion rannu eu barn ynghylch nifer o gynigion allweddol yn gysylltiedig â'r gyllideb sydd dan ystyriaeth dros gyfnod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o'r gweithgarwch ymgynghori, dadansoddi a'r prif ganfyddiadau.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod Cyngor bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gostwng ei gyllideb o £27.07miliwn dros y pedair blynedd diwethaf, ac mai'r disgwyl oedd y byddai angen gostyngiadau sylweddol pellach dros y pedair blynedd nesaf.

 

Ychwanegodd fod ymarfer ymgynghori cyhoeddus wedi cael ei gynnal dros gyfnod o wyth wythnos o 9 Medi 2019 hyd 3 Tachwedd 2019. Gofynnwyd i'r ymatebwyr rannu eu barn ar ystod o gynigion yn gysylltiedig â'r gyllideb sydd dan ystyriaeth rhwng 2020-21 a 2023-24, gan gynnwys cynnig i godi'r dreth gyngor ac ystyried cwtogi gwasanaethau gan gynnwys glanhau strydoedd, TCC, rheoli pla, digwyddiadau canol y dref, gwasanaethau dysgu i oedolion, gwasanaethau cymorth addysg, yn ogystal â chau un o'i dair canolfan ailgylchu gymunedol.

 

Disgrifiai'r adroddiad sut yr oedd proses ymgynghori'r gyllideb, yn nhermau ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch hyn, wedi esblygu ers cyflwyno'r broses honno yn 2013-14, gan gynnwys ymgynghori â grwpiau oedran amrywiol a oedd yn cynnwys y genhedlaeth iau mewn cymdeithas.

 

Ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad A yr oedd Adroddiad Ymgynghori a nodai'r farn a fynegwyd gan rai a oedd wedi cymryd rhan yn y broses eleni, ynghyd â'r gyfradd ymateb a'r dulliau rhyngweithio a ddefnyddiwyd gan ymatebwyr ar ffurf tabl ym mharagraff 4.3 yr adroddiad.

 

Ar ôl hynny, roedd paragraff 4.4 yn esbonio'r prif ffigurau a themâu a godai o'r ymgynghoriad cyhoeddus, a rhoddodd y Prif Weithredwr grynodeb o'r rhain er budd yr Aelodau.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd fod 3,417 o ymatebion i'r arolwg wedi dod i law, a bod hynny'n cynrychioli cynnydd o 27% o gymharu â chyfanswm y llynedd o 2,677 o ymatebion. Teimlai fod hyn yn welliant sylweddol yn y broses ymgynghori. Roedd hyn yn rhoi darlun cywirach i'r Cyngor o'r hyn yr oedd y cyhoedd am wario arian arno/ei gwtogi yn nhermau'r gwasanaethau a ddarperir gan yr Awdurdod ac ati.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol ddiolch i sefydliadau fel Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr a Halo am gynnal rhai o'r sesiynau hefyd, a hynny dros ardaloedd eang sy'n rhan o'r Fwrdeistref Sirol. Nododd fod 3,417 o arolygon wedi cael eu cwblhau, a gofynnodd faint o'r arolygon hynny a gwblhawyd yn Gymraeg.

 

Dywedodd y Swyddog Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod 12 o ymatebion wedi dod i law yn Gymraeg, a 5 o'r rheiny o'r Panel Dinasyddion.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol hefyd, o'r holl Ganolfannau Cymuned ac Ysgolion yr ymwelwyd â hwy, a oedd unrhyw brif wahaniaethau yn nhermau'r adborth a gafwyd rhwng gwahanol grwpiau.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod yr adborth gan bobl iau yn adlewyrchu barn fwy cytbwys na barn rhai aelodau o'r genhedlaeth h?n o bosib, yn yr ystyr eu bod yn dymuno gwarchod amrywiaeth fwy o wasanaethau.

 

Teimlai'r Aelod Cabinet - Cymunedau fod y broses ymgynghori yn datblygu'n fwyfwy gwerthfawr ac ystyrlon o'r naill flwyddyn i'r nesaf, wrth i gyfranogiad y cyhoedd gynyddu dros y cyfnod hwnnw. Roedd y cyhoedd yn dechrau cael dealltwriaeth well hefyd o'r pwysau sydd o flaen y Cyngor (hefyd o'r naill flwyddyn i'r nesaf), oherwydd y toriadau parhaus i'w gyllideb.

 

Cytunai'r Prif Weithredwr â hyn, gan ychwanegu bod Swyddogion wedi rhoi esboniad i'r cyhoedd yn y sesiynau ymgynghori ynghylch y meysydd gwasanaeth lle'r oedd hi'n haws cyflwyno toriadau. Cafodd agweddau eraill perthnasol eu hesbonio hefyd, er enghraifft, y gwahaniaeth rhwng gwariant cyfalaf a gwariant refeniw ac ati.

 

Daeth yr Arweinydd â'r drafodaeth ar yr eitem hon i ben drwy ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cynnydd o 4.7% i'r setliad y byddai'r Cyngor yn ei dderbyn yn y flwyddyn i ddod.

 

PENDERFYNWYD:       Bod y Cabinet yn nodi canlyniad yr ymgynghoriad â phartïon â buddiant, fel y nodir yn yr adroddiad ymgynghori.     

Dogfennau ategol: