Agenda item

Deddf Trwyddedu 2003, Datganiad Polisi Trwyddedu ac Asesiad Effaith Gronnus

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu adroddiad a drafodai rôl y Cyngor fel awdurdod trwyddedu, fel corff rheoleiddio ar gyfer tafarndai, clybiau, siopau diodydd trwyddedig a siopau cludfwyd sydd ar agor yn hwyr yn y nos.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd gofyn am gymeradwyaeth i gyhoeddi Datganiad Polisi Trwyddedu ar gyfer y cyfnod nesaf o bum mlynedd, ac i gymeradwyo Polisi ac Asesiad Effaith Gronnus arbennig yn rhan o'r broses honno.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu fod yn rhaid i'r Cyngor gyflawni ei swyddogaethau i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu a ganlyn:

 

            Atal trosedd ac anhrefn;

            Atal niwsans cyhoeddus;

            Diogelwch y cyhoedd;

          Amddiffyn plant rhag niwed

 

Cadarnhaodd fod y Cyngor wedi dod yn Awdurdod Trwyddedu yn 2005, a'i bod hi bellach yn bryd cynnal adolygiad pum mlynedd o Ddatganiad y Polisi Trwyddedu.  Proses ffurfiol yw hon, ac amlinellwyd y broses statudol ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.  Esboniodd fod yr Ymgynghoriad ar hyn yn cael ei gynnal ar-lein rhwng 17 Mehefin 2019 a 9 Medi 2019.  Roedd yr ymgyngoreion statudol yn cynnwys yr Heddlu, yr Awdurdod Tân, y Cydwasanaethau Rheoleiddio, y Bwrdd Iechyd Lleol, adrannau eraill y Cyngor a'r Swyddfa Gartref.

 

Yr oedd hefyd yn cynnwys yr holl Aelodau Etholedig, Cynghorau Tref a Chymuned, Rheolwr Canol y Dref a chynrychiolwyr masnach.

 

Yn Natganiad y Polisi Trwyddedu nodir sut mae'r Cyngor yn arfer ei swyddogaethau a'i ymagwedd at benderfyniadau. Nodir hefyd yr hyn y mae'n disgwyl i ddarpar ymgeiswyr ei ystyried wrth baratoi ceisiadau am drwyddedau newydd neu amrywiadau o bwys.  Yn adran 9 y polisi hwn nodir nifer o fesurau y gellid eu hystyried, yn dibynnu ar natur yr eiddo. Cynghorodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu, ar wahân i Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, nid oedd unrhyw dueddiadau na materion newydd yn deillio o'r ymgynghoriad a fyddai'n teilyngu newid polisi.  O ganlyniad i hynny, roedd y Datganiad cyffredinol arfaethedig wedi'i gynnwys yn Atodiad A yr adroddiad. Dywedodd fod y newidiadau i'r datganiad hwnnw wedi'u hamlygu yn goch.  Roedd a wnelo'r diweddariadau cyntaf ag amcanion corfforaethol y Cyngor. Roedd siâp neu lefelau meysydd cyfrifoldeb nifer o Gyfarwyddiaethau wedi newid, ac ar sail hynny, roedd angen edrych ymhellach ar rai diwygiadau ar dudalen 40 yr adroddiad, hy, lle'r oedd angen diweddaru rhai o gyfeiriadau'r cyrff a restrwyd yno.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu fod a wnelo'r ail fater â'r Polisi Effaith Gronnus Arbennig sydd ar waith yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Effaith Gronnus yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio sut y gall dwysedd eiddo trwyddedig mewn ardal neilltuol gael effaith negyddol ar drosedd ac anhrefn, sbwriel wedi'i ollwng, ymddygiad gwrth-gymdeithasol a niwsans. Os bydd y Cyngor yn gweld bod tystiolaeth o broblem mewn ardal, gall gynnwys polisi i ymdrin ag Effaith Gronnus o fewn y prif Ddatganiad Polisi.  Bu polisi o'r fath yn weithredol ar Strydoedd Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr ers 2005. Effaith y polisi yw rheoli faint o eiddo newydd neu newidiadau o bwys i eiddo a geir o fewn yr ardal. Mae'r polisi i bob pwrpas yn creu rhagdybiaeth wrthbrofadwy yn gysylltiedig â phob cais neu amrywiad newydd, oni all yr ymgeisydd ddangos na fydd ei eiddo yn ychwanegu at y problemau a geir yn y lleoliad dan sylw.

 

Y prif newid eleni yw bod yn rhaid i'r Cyngor gynnal Asesiad Effaith Gronnus a chyhoeddi dogfen ar wahân cyn mabwysiadu polisi ar gyfer ardal benodol. 

 

Aeth yn ei blaen i esbonio fod Heddlu De Cymru yn gofyn i'r Cyngor gadw'r polisi sy'n gysylltiedig â strydoedd Heol Derwen, Stryd y Farchnad, Stryd Wyndham a rhannau o Stryd Nolton ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.  Roedd llythyr oddi wrth yr Heddlu i'r perwyl hwnnw wedi'i gynnwys yn Atodiad B yr adroddiad.

 

O ran yr amcanion trwyddedu, roedd Heddlu De Cymru wedi casglu bod cael polisi effaith gronnus wedi cyfrannu'n uniongyrchol at ostwng cofnodion trosedd yng nghanol y dref yn ogystal ag achosion o riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu fod yr Asesiad drafft wedi'i gynnwys yn Atodiad C yr adroddiad. Yn rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus, dywedodd fod holiadur wedi'i gynnwys i nodi materion sy'n destun pryder yn gysylltiedig ag eiddo trwyddedig yng nghanol y dref.

 

Mae maint y sampl, sef cyfanswm o 15, yn fach, ac fe gafwyd ymateb gan aelodau o'r cyhoedd, partïon â buddiant a deiliaid trwydded i'r ymgynghoriad hwnnw. 

Roedd 93% o blaid cadw'r polisi effaith gronnus ac roedd y prif faterion a oedd yn destun pryder wedi'u rhestru ar ffurf pwyntiau bwled ym mharagraff 4.7 yr adroddiad.

 

Roedd y polisi yn un o gyfres o fesurau y gellir eu defnyddio i reoli effaith eiddo trwyddedig, gan gynnwys gorfodi, defnyddio TCC a chynlluniau masnach fel Pubwatch.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu mai casgliad yr asesiad oedd bod tystiolaeth i gefnogi parhau â'r polisi effaith gronnus yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, a bod hynny'n weithred gymesur er mwyn ymdrin â'r problemau a nodwyd yno.

 

Effaith mabwysiadu'r polisi hwn fydd creu rhagdybiaeth wrthbrofadwy y bydd ceisiadau am eiddo newydd neu i amrywio eiddo presennol yn cael eu gwrthod, lle bo sylwadau perthnasol yn dod i law, yn fwyaf tebygol oddi wrth yr heddlu yn gysylltiedig â throsedd ac anhrefn, er y gallai'r sylwadau hynny ymwneud â niwsans cyhoeddus hefyd, oni all yr ymgeisydd ddangos na fydd y cais yn ychwanegu at yr effaith negyddol ar strydoedd canol y dref sydd wedi'u cynnwys yn y polisi 

 

Er nad polisi cyffredinol oedd y polisi hwn, mae'n rhoi'r cyfrifoldeb ar y gweithredwr.

 

Os nad oedd yr awdurdodau cyfrifol na'r cyhoedd yn pryderu o gwbl am arddull arfaethedig na gweithrediad yr eiddo, ac nad oeddent yn cyflwyno unrhyw sylwadau, byddai'r cais yn cael ei ganiatáu.

 

Daeth y Rheolwr Tîm - Trwyddedu â'i chyflwyniad i ben drwy gadarnhau bod y polisi'n anelu i leihau'r achosion o drosedd ac anhrefn a phroblemau'n gysylltiedig ag alcohol, a sicrhau bod Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn amgylchedd diogel i bobl sy'n ymweld â'r ardal ac yn gweithio ynddi.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol ei bod hi'n braf nodi y byddai'r Polisi diwygiedig yn cyfrannu'n sylweddol at liniaru pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn enwedig yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn enwedig yn yr ardaloedd gorlawn hynny o'r dref lle ceir nifer sylweddol o sefydliadau sydd ar agor yn hwyr yn y nos yn agos at ei gilydd.

 

Mynegodd yr Arweinydd siom yn nifer yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad, gan gyfeirio hefyd at y ffaith y dylid cyfeirio at bob un o'r pedair tref yn y Fwrdeistref Sirol yn y Polisi hwn, a'u cynnwys ynddo.

 

PENDERFYNWYD:         Bod y Cabinet yn nodi'r adroddiad a fyddai'n cael ei gyflwyno gerbron y Cyngor ar 18 Rhagfyr 2019.

Dogfennau ategol: