Agenda item

Deddf Trwyddedu 2003 - Datganiad Polisi Trwyddedu ac Asesiad Effaith Gronnus

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu adroddiad a drafodai rôl y Cyngor fel awdurdod trwyddedu, fel corff rheoleiddio ar gyfer tafarndai, clybiau, siopau diodydd trwyddedig a siopau cludfwyd sydd ar agor yn hwyr yn y nos.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd gofyn am gymeradwyaeth i gyhoeddi Datganiad Polisi Trwyddedu ar gyfer y cyfnod nesaf o bum mlynedd, ac i gymeradwyo Polisi ac Asesiad Effaith Cronnus arbennig yn rhan o'r broses honno.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu fod yn rhaid i'r Cyngor gyflawni ei swyddogaethau i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu a ganlyn:

 

            Atal trosedd ac anhrefn;

            Atal niwsans cyhoeddus;

            Diogelwch y cyhoedd;

         Amddiffyn plant rhag niwed

 

Cadarnhaodd fod y Cyngor wedi dod yn Awdurdod Trwyddedu yn 2005, a'i bod hi bellach yn bryd cynnal adolygiad pum mlynedd o Ddatganiad y Polisi Trwyddedu.  Proses ffurfiol yw hon, ac amlinellwyd y broses statudol ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.  Esboniodd fod yr Ymgynghoriad ar hyn yn cael ei gynnal ar-lein rhwng 17 Mehefin 2019 a 9 Medi 2019.  Roedd yr ymgyngoreion statudol yn cynnwys yr Heddlu, yr Awdurdod Tân, y Cydwasanaethau Rheoleiddio, y Bwrdd Iechyd Lleol, adrannau eraill y Cyngor a'r Swyddfa Gartref.

 

Yr oedd hefyd yn cynnwys yr holl Aelodau Etholedig, Cynghorau Tref a Chymuned, Rheolwr Canol y Dref a chynrychiolwyr masnach.

 

Yn Natganiad y Polisi Trwyddedu nodir sut mae'r Cyngor yn arfer ei swyddogaethau a'i ymagwedd at benderfyniadau.  Y mae hefyd yn nodi'r hyn y mae'n disgwyl i ddarpar ymgeiswyr ei ystyried wrth baratoi ceisiadau am drwyddedau newydd neu amrywiadau o bwys.  Yn adran 9 y polisi hwn nodir nifer o fesurau y gellid eu hystyried, yn dibynnu ar natur yr eiddo.   Dywedodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu, ar wahân i Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, ei bod hi'n deg dweud nad oedd unrhyw dueddiadau na materion newydd yn deillio o'r ymgynghoriad a fyddai'n teilyngu newid polisi.  O ganlyniad i hynny, roedd y Datganiad cyffredinol arfaethedig wedi'i gynnwys yn Atodiad A yr adroddiad.  Dywedodd fod y newidiadau i'r datganiad hwnnw wedi'u hamlygu yn goch.  Roedd a wnelo'r diweddariadau cyntaf ag amcanion corfforaethol y Cyngor.  Roedd siâp neu lefelau meysydd cyfrifoldeb nifer o Gyfarwyddiaethau wedi newid, ac ar sail hynny, roedd angen edrych ymhellach ar rai diwygiadau ar dudalen 40 yr adroddiad, hy, lle'r oedd angen diweddaru rhai o gyfeiriadau'r cyrff a restrwyd yno.

 

Esboniodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu fod a wnelo'r ail fater â'r Polisi Effaith Gronnus Arbennig sydd ar waith yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Effaith Gronnus yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio sut y gall dwysedd eiddo trwyddedig mewn ardal neilltuol gael effaith negyddol ar drosedd ac anhrefn, sbwriel wedi'i ollwng, ymddygiad gwrth-gymdeithasol a niwsans.  Os bydd y Cyngor yn gweld bod tystiolaeth o broblem mewn ardal, gall gynnwys polisi i ymdrin ag Effaith Gronnus o fewn y prif Ddatganiad Polisi.  Bu polisi o'r fath yn weithredol ar Strydoedd Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr ers 2005.  Effaith y polisi yw rheoli faint o eiddo newydd neu newidiadau o bwys i eiddo a geir o fewn yr ardal. Mae'r polisi i bob pwrpas yn creu rhagdybiaeth wrthbrofadwy yn gysylltiedig â phob cais newydd neu amrywiad, oni all yr ymgeisydd ddangos na fydd ei eiddo yn ychwanegu at y problemau a geir yn y lleoliad dan sylw.

 

Y prif newid eleni yw bod yn rhaid i'r Cyngor gynnal Asesiad Effaith Gronnus a chyhoeddi dogfen ar wahân cyn mabwysiadu polisi ar gyfer ardal benodol. 

 

Aeth yn ei blaen i esbonio fod Heddlu De Cymru yn gofyn i'r Cyngor gadw'r polisi sy'n gysylltiedig â strydoedd Heol Derwen, Stryd y Farchnad, Stryd Wyndham a rhannau o Nolton Street ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.  Roedd llythyr oddi wrth yr Heddlu i'r perwyl hwnnw wedi'i gynnwys yn Atodiad B yr adroddiad.

 

O ran yr amcanion trwyddedu, roedd Heddlu De Cymru wedi casglu bod cael polisi effaith gronnus wedi cyfrannu'n uniongyrchol at ostwng cofnodion trosedd yng nghanol y dref yn ogystal ag achosion o riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

 

Ychwanegodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu fod yr Asesiad drafft wedi'i gynnwys yn Atodiad C yr adroddiad.  Yn rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus, dywedodd fod holiadur wedi'i gynnwys i nodi materion sy'n destun pryder yn gysylltiedig ag eiddo trwyddedig yng nghanol y dref.

 

Mae maint y sampl, sef cyfanswm o 15, yn fach, ac fe gafwyd ymateb gan aelodau o'r cyhoedd, partïon â buddiant a deiliaid trwydded i'r ymgynghoriad hwnnw. 

Roedd 93% o blaid cadw'r polisi effaith gronnus ac roedd y prif faterion a oedd yn destun pryder wedi'u rhestru ar ffurf pwyntiau bwled ym mharagraff 4.7 yr adroddiad.

 

Roedd y polisi yn un o gyfres o fesurau y gellir eu defnyddio i reoli effaith eiddo trwyddedig, gan gynnwys gorfodi, defnyddio TCC a chynlluniau masnach fel Pubwatch.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu mai casgliad yr asesiad oedd bod tystiolaeth i gefnogi parhau â'r polisi effaith gronnus yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, a bod hynny'n weithred gymesur er mwyn ymdrin â'r problemau a nodwyd yno.

 

Effaith mabwysiadu'r polisi hwn fydd creu rhagdybiaeth wrthbrofadwy y bydd ceisiadau am eiddo newydd neu i amrywio eiddo presennol yn cael eu gwrthod, lle bo sylwadau perthnasol yn dod i law, yn fwyaf tebygol oddi wrth yr heddlu yn gysylltiedig â throsedd ac anhrefn, er y gallai'r sylwadau hynny ymwneud â niwsans cyhoeddus hefyd, oni all yr ymgeisydd ddangos na fydd y cais yn ychwanegu at yr effaith negyddol ar strydoedd canol y dref sydd wedi'u cynnwys yn y polisi 

 

Er nad polisi cyffredinol oedd y polisi hwn, mae'n rhoi'r cyfrifoldeb ar y gweithredwr.

 

Os nad oedd yr awdurdodau cyfrifol na'r cyhoedd yn pryderu o gwbl am arddull arfaethedig na gweithrediad yr eiddo, ac nad oeddent yn cyflwyno unrhyw sylwadau, byddai'r cais yn cael ei ganiatáu.

 

Daeth y Rheolwr Tîm - Trwyddedu â'i chyflwyniad i ben drwy gadarnhau bod y polisi'n anelu i leihau'r achosion o drosedd ac anhrefn a phroblemau'n gysylltiedig ag alcohol, a sicrhau bod Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn amgylchedd diogel i bobl sy'n ymweld â'r ardal ac yn gweithio ynddi.

 

Roedd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol yn croesawu'r adroddiad, ac ychwanegodd fod Aelodau a Swyddogion am weld holl ardaloedd y Fwrdeistref Sirol yn ddiogel yn y pen draw, gan gynnwys canol tref Pen-y-bont ar Ogwr, er mwyn i bawb allu mwynhau lletygarwch y busnesau a oedd yn ffurfio economi'r nos ym mhob ardal o'r Sir.

 

Ychwanegodd ei bod hi'n iawn i'r ymgynghoriad dynnu sylw at yr ardaloedd prysuraf a oedd yn destun pryder, ac mai canlyniad cywir hynny oedd bod Heddlu De Cymru wedi gwneud cais i gadw'r Ardal Effaith Gronnus yn rhan o'r Polisi, gan fod achosion o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau. Cyfeiriodd at dudalen 23 yr adroddiad a dywedodd y dylid ychwanegu at y prif drefi a restrwyd, a chynnwys Pencoed.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai'r Polisi yn amharu ar fasnach mewn unrhyw fwytai neu fusnesau bistro drwy'r Fwrdeistref Sirol, waeth a oedd y rheiny'n masnachu eisoes neu'n ddarpar fusnesau newydd.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu mai anaml os o gwbl y byddai'r mathau hyn o lefydd yn denu unrhyw fath o drafferth. Roedd y mannau lle ceir ymddygiad gwrthgymdeithasol yn tueddu i fod yn lleoliadau mwy a oedd ar agor am gyfnodau hir hyd yr oriau mân, ac nad oeddent yn gweini bwyd, fel clybiau nos ac ati.

 

Teimlai un o'r Aelodau y dylai'r Ardal Effaith Gronnus gynnwys ardal ar ben uchaf Stryd Nolton ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Byddai hyn yn cynnwys Heol Ewenni a Heol y Bont-faen gan fod nifer o leoliadau ar agor yn hwyr yn y nos mewn ardal weddol gyfyng yn y lleoliad hwn. Roedd hi'n tynnu sylw at hyn gan fod aelodau o'r cyhoedd ac Aelodau lleol wedi codi pryderon neu wrthwynebu ceisiadau cynllunio neu drwyddedu ar gyfer busnesau yn yr ardal yn y gorffennol, a chan fod pryderon wedi codi ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol yn neu yng nghyffiniau'r busnesau hyn, a oedd yn agos at lety preswyl.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu y gellid monitro'r ardal hon yn y dyfodol, a phe bai'r pryderon hynny a godwyd yn gwaethygu neu heb wella, y gellid ystyried cynnwys yr ardal hon hefyd yn yr Ardal Effaith Gronnus y tro nesaf y byddai'r polisi'n cael ei adolygu.

 

Cyfeiriodd Aelod at y rhan honno o'r adroddiad a roddai wybodaeth am yr "Awdurdodau Cyfrifol" a oedd wedi'u cynnwys o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, a nododd fod yr Awdurdod Tân yn cael ei ystyried ymhlith yr awdurdodau hynny. Gofynnodd a oeddent hwy, fel yr Heddlu, wedi cael gwahoddiad i Wrandawiadau Trwyddedu, ac a oeddent wedi gwrthwynebu cais am unrhyw fath o Drwydded yn gysylltiedig â Busnes Hwyr y Nos.

 

Atebodd y Rheolwr Tîm - Trwyddedu drwy ddweud bod yr Awdurdod Tân yn ymgynghorai statudol pan fyddai unrhyw gais yn cael ei gyflwyno am Drwydded Eiddo newydd, neu i amrywio Trwydded Eiddo bresennol. Roedd hyn ar sail iechyd a diogelwch yn unig, ymhlith rhesymau eraill, hy, uchafswm capasiti'r eiddo ac ati ar unrhyw bryd o ran cwsmeriaid. Pe bai unrhyw un yn gwrthwynebu unrhyw gais o'r fath mewn unrhyw ffordd, boed y sawl sy'n gwrthwynebu yn gorff statudol neu'n aelod o'r cyhoedd, byddai Gwrandawiad yn cael ei drefnu fel bo modd i'r Is-bwyllgor Trwyddedu ystyried safbwyntiau'r holl bartïon perthynol cyn iddo gwneud penderfyniad ynghylch y cais, naill ai i roi caniatâd; rhoi caniatâd gydag amodau neu wrthod y cais.

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Cyngor:

 

           (1)                     Yn cymeradwyo cyhoeddi Datganiad y Polisi Trwyddedu sydd wedi'i gynnwys yn Atodiad A i'r adroddiad, ar gyfer y cyfnod 2019 hyd 2024.

 

           (2)                     Hefyd yn cymeradwyo cyhoeddi Asesiad Effaith Gronnus yn rhan o'r Datganiad Polisi Trwyddedu uchod ac yn cymeradwyo Polisi Effaith Gronnus, fel y nodir yn Adran 6 y Datganiad Polisi Trwyddedu y cyfeirir ato uchod.

Dogfennau ategol: