Agenda item

Derbyn y cwestiynau canlynol gan:

1.    Cynghorydd T Thomas i’r Aelod Cabinet – Cymunedau

 

A yw’r Aelod Cabinet yn cytuno y dylai priffyrdd yr awdurdod hwn fod yn hygyrch i bawb waeth beth fo’u hoed, eu hanabledd neu unrhyw nodwedd warchodedig arall?

 

2.    Cynghorydd A Hussain i’r Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

A all yr Aelod Cabinet roi gwybod i'r Cyngor ynghylch pa gamau gweithredu sydd wedi eu cymryd er mwyn lleihau lefelau Unigedd ac Arwahanrwydd a'u heffaith negyddol ar Iechyd a Llesiant ein poblogaeth h?n yn ein Bwrdeistref Sirol?

 

3.    Cynghorydd MC Voisey i’r Arweinydd

 

A all Arweinydd y cyngor gyfiawnhau pam ei fod yn credu na ddylai fod gan aelodau etholedig y cyngor hwn yr hawl i ofyn cwestiynau yng nghyfarfodydd y cyngor a chraffu yn y siambr ar y penderfyniadau a wneir gan y weinyddiaeth hon?”

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd T Thomas i'r Aelod Cabinet - Cymunedau

 

A yw'r Aelod Cabinet yn cytuno y dylai priffyrdd yr awdurdod hwn fod yn hygyrch i bawb waeth beth fo'u hoedran, eu hanabledd neu unrhyw nodwedd arall warchodedig?

 

Ymateb yr Aelod Cabinet - Cymunedau

 

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i wella mynediad i'r rhwydwaith priffyrdd. Ceir ymrwymiad i sicrhau hynny, a chamau gweithredu i gefnogi'r ymrwymiad hwnnw. Rhwng blynyddoedd ariannol 2017/18 ac 19/20, mae cyfanswm o 113 o gyrbau isel wedi cael eu gosod yn rhan o raglen barhaus i osod cymhorthion i gerddwyr. Cafodd y gosodiadau eu trefnu yn ôl blaenoriaeth ar sail lefelau defnydd yn yr ardaloedd perthnasol.

 

Bellach mae gennym 61 o lwybrau cerdded diogel i'r Ysgol, a'r rheiny wedi'u hasesu ac yn cael eu defnyddio. Mae gennym raglen gynigion flynyddol i dynnu sylw Llywodraeth Cymru at welliannau arfaethedig i'n rhwydwaith. Drwy'r rhaglen honno llwyddwyd i sicrhau £950,000 o fuddsoddiad eleni yn unig ar gyfer Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, a £432,000 i ddatblygu llwybrau Teithio Egnïol amlddefnydd.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Thomas ei fod yn hapus â'r ymateb, ond ychwanegodd y byddai'n gwerthfawrogi cael cyfarfod â'r Aelod Cabinet - Cymunedau ar fater cysylltiedig yn ymwneud â'i ward, a chytunodd yr Aelod Cabinet i hynny.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd JP Blundell

 

A allai'r Aelod Cabinet - Cymunedau amlinellu sut mae'r Cyngor yn bwriadu gweithredu rhaglen i osod cyrbiau isel ledled y Fwrdeistref Sirol?

 

Ymateb

 

Mae hyn yn cael ei roi ar waith yn yr ardaloedd lle ceir y mwyaf o gerddwyr ac/neu ar ôl derbyn ceisiadau gan y cyhoedd i osod cyrbiau yn ôl yr angen. Ystyriwyd gwaith hefyd ar y cyd â Chynllun Teithiau Egnïol y Cyngor. Roedd cylchfan Llangrallo yn enghraifft o waith a oedd yn gysylltiedig â'r Cynllun hwnnw, lle gosodwyd cyrbiau isel er mwyn helpu pobl a'u hannog i deithio drwy ddulliau egnïol i fannau penodol, hy swyddfeydd a chanolfannau cyfagos.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd B Sedgebeer  

 

A yw'r Aelod Cabinet - Cymunedau yn cytuno bod buddsoddi i greu llwybrau troed/troedffyrdd ar Heol Felindre, Pencoed, wedi cynyddu mynediad at y gwahanol rwydweithiau priffordd a geir yn yr ardal honno.

 

Ymateb

 

Ydy, ac mae hyn yn rhan o raglen ehangach a gaiff ei hehangu i ardaloedd eraill o'r Fwrdeistref Sirol, er mwyn creu pwyntiau mynediad rhwyddach fydd yn galluogi aelodau o'r cyhoedd i fynd o'r naill leoliad i'r llall, yn enwedig pobl anabl ac ati.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd A Hussain i'r Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

A allai'r Aelod Cabinet roi gwybod i'r Cyngor pa gamau a gymerwyd i leihau lefelau Unigrwydd ac Arwahanrwydd ac effaith negyddol hynny ar Iechyd a Llesiant ein poblogaeth oedrannus yn y Fwrdeistref Sirol?

 

Ymateb yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

 

Adroddwyd cyd-destun yr agenda Atal a Llesiant gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Llesiant ym mis Ebrill 2015 yn wreiddiol, a rhoddwyd adolygiad o gynnydd i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol Oedolion ym mis Ebrill 2016.  Cafodd adroddiadau dilynol ar atal a llesiant eu cyflwyno gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 ym mis Mawrth 2018 ac ar 10 Hydref 2019.

 

Mae'r gwasanaeth Atal a Llesiant yn gweithio gyda phartneriaid i gynyddu cyfleoedd cynaliadwy yn y gymuned.

 

Mae amrywiaeth o weithgareddau a mentrau cymunedol wedi cael eu sefydlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr er mwyn mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd.  Mae'r enghreifftiau hyn wedi parhau i gynyddu, gan gynnwys rhaglenni 'Olympage' sy'n helpu oedolion h?n i gymryd rhan mewn gemau a gweithgareddau wedi'u haddasu i gynyddu gweithgarwch corfforol, lleihau unigrwydd, cynyddu hyder a byw bywyd mwy egnïol ac iach.  Dechreuwyd cynnal y rhaglenni hyn yn wreiddiol mewn lleoliadau gofal dydd a gofal preswyl, ond ceir bellach raglenni'n gysylltiedig â hybiau cymunedol, rhaglenni i bobl ag anableddau dysgu, gweithgareddau mewn canolfannau cymuned a lleoliadau hamdden/diwylliannol yn ogystal â lleoliadau gofal annibynnol.

 

“Rydyn ni wedi gallu addasu gweithgareddau a chynllunio cyfres o weithgareddau a digwyddiadau blynyddol er mwyn sicrhau bod modd cynnwys pawb".

Cydgysylltydd yr Hyb Cymunedol.

 

“Ddoe, ymwelais â'r sesiynau Olympage Diwylliannol. Roedd nifer dda yn bresennol.  Daeth 15 o'r gr?p i'r sesiynau a chael llond y lle o hwyl.  Wrth i'r bobl sgwrsio dechreuwyd dwyn atgofion am gerddoriaeth, a dechreuodd rhai ddawnsio a chanu ohonynt eu hunain hyd yn oed".

Cynghorydd Cymuned Lleol Cwm Ogwr.

                          

Drwy adeiladu ar waith a ddatblygwyd drwy'r rhaglen 'Olympage' mae'r Cyngor wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer prosiect 'Super-Agers' drwy'r Gronfa Iach ac Egnïol.  Bydd y prosiect hwn yn gweithredu ar draws holl ardal Bwrdd Iechyd newydd Cwm Taf Morgannwg, gan gynnwys Cynghorau Merthyr a Rhondda Cynon Taf, ac mae'n cynnwys gwaith ar y cyd â'r Trydydd Sector ehangach, y Bwrdd Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus. Bydd y gwaith yn cynnwys meithrin cydnerthedd yn ein cymunedau drwy sicrhau bod oedolion h?n yn perchnogi cyfleoedd. Bydd y rhaglen yn cynorthwyo oedolion h?n i gynnal ac arwain gweithgareddau, a hefyd yn cynorthwyo gwirfoddolwyr h?n i gynnal cyfleusterau cymunedol bywiog.

 

“Wrth inni lansio'r Gronfa Iach ac Egnïol, cyflëwyd y neges fod y manteision i'n hiechyd meddwl a chorfforol yn glir. Mae'r prosiectau hyn yn dangos dull arloesol newydd o gefnogi pobl o bob oed ac o bob cefndir".

Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

 

Ceir ymgysylltiad cynyddol ag ysgolion cynradd ac uwchradd, gan gydnabod eu potensial i gyfrannu at Heneiddio'n Dda ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gwaith pontio'r cenedlaethau a datblygiad cymunedau cyfeillgar ag oed, gan gynnwys:

 

a. Hyfforddiant cyfeillion ac eiriolwyr dementia mewn ysgolion uwchradd (Ysgol Yr Archesgob McGrath, Ysgol Gyfun Pencoed). Mae hyn wedi golygu gwaith partneriaeth cryf â BAVO. Caiff manteision y gwaith hwn eu hadolygu ymhellach er mwyn nodi unrhyw wersi i'w dysgu cyn ehangu'r rhaglen.

b. Gweithgareddau pontio'r cenedlaethau rhwng ysgolion cynradd ac oedolion h?n (rhaglen CCLl - Cwm Ogwr, ymweliadau'r ysgol feithrin â Bryn y Cae ac ati);

c. Prosiectau cyfleuster sydd yn helpu i ddod â phobl ynghyd (Gardd Dementia Bryn y Cae).

 

“Roedd yn hwyl bod gyda'n gilydd yn chwarae gemau”.

Plentyn Ysgol Gynradd.

“Digwyddiad gwych…. ac mae pawb wedi mwynhau’n fawr”.

Oedolyn H?n.

 

Mae rhaglen ranbarthol Bywydau'r Parc wedi bod yn gweithio gydag oedolion h?n i gael mynediad at gyfleoedd ar garreg y drws yn yr amgylchedd naturiol. Mae'r rhaglen hon yn cynnig cyfleoedd lleol a chyfleus mewn parciau a lleoliadau cymunedol. Mae ffocws ar Tai Chi a Yoga cymunedol wedi cael ei ddatblygu, gyda gweithgareddau'n cael eu harwain gan oedolion sydd wedi derbyn cymorth i feithrin sgiliau a chymwysterau.

 

“Mae G wedi cael llwyddiant aruthrol wrth ymgysylltu, cyflawni a chynnal diddordeb ein cymunedau h?n, ac mae e'n wirioneddol anhygoel.  Mae e wedi cefnogi gweithgareddau rheolaidd mewn lleoliadau gofal ac yn angerddol iawn ynghylch gwella llesiant pobl h?n."

Rheolwr Gweithrediadau, Atal a Llesiant

            

Mae'r rhaglen Caru Cerdded yn cefnogi cyfleoedd i gerdded yn y gymuned dan arweiniad gwirfoddolwyr. Mae'r cyfleoedd hynny'n gynhwysol ac yn cyfrannu at les meddyliol. Ceir 13 o deithiau wythnosol a g?yl Caru Cerdded flynyddol i hyrwyddo cyfleoedd i gyfranogwyr newydd.

 

Rheolir Cynllun y Gist Gymunedol gan y Cyngor ar ran Chwaraeon Cymru, ac mae'r cynllun wedi darparu £71,892 o gyllid i gefnogi prosiectau lleol (gan gyfrannu £5,556 at ymdrin ag anghydraddoldeb).  Ymhlith yr enghreifftiau y mae cynnwys pobl sydd wedi goroesi strôc yng nghanolfan bowlio dan do Pen-y-bont ar Ogwr, rhaglenni gweithgaredd gyda SHOUT ac ati.

 

“Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r gymuned.  Mae'r Clwb Strôc yn defnyddio ein cyfleusterau yn rheolaidd.  Rydym yn ddiolchgar iawn i’n haelodau sydd wedi gwirfoddol i sicrhau bod hyn yn digwydd bob wythnos".

Bowlio Dan Do Ogwr

 

Enghraifft arall o gefnogi Unigrwydd ac Arwahanrwydd yw'r Memory Lane Café a sefydlwyd gan aelod o'r cyhoedd, ac a gefnogwyd gan CBSPO, PABM ac AWEN drwy ymagwedd gydgynhyrchiol. Roedd yr unigolyn wedi gweld bod angen datblygu cymorth cadarnhaol gan gymheiriaid i ofalwyr sy'n cefnogi rhywun sy'n byw gyda dementia. Yr oedd hefyd yn cael ei ystyried yn amgylchedd cadarnhaol a diogel i ofalwyr a'r bobl y maent yn eu cefnogi gael cymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae'n cefnogi'r syniad o greu cysylltiadau naturiol ag eraill ac yn cefnogi cydnerthedd gofalwyr. Mae rhwng 20 a 25 o bobl yn mynychu'r gr?p. Yn ddiweddar, mae'r Gr?p wedi ehangu o'r Ganolfan ac yn trefnu teithiau ac yn cynnal gweithgareddau mewn lleoliadau eraill yn y gymuned.

            

Ceir ymrwymiad i gydweithio â phartneriaid Iechyd yng Nghynllun Busnes y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a bydd yr ymagwedd hon yn cynnwys cydleoli gwasanaethau a all gyfrannu at ganlyniadau llesiant.

 

Mae'r Hyb Llesiant yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn cyllid o Gronfa Gofal Integredig y Cyngor a Hamdden Halo. Bydd y cyfleusterau yn cefnogi cyflogadwyedd, datblygiad cymunedol a'r gweithlu, gofod ymgysylltu i'r Trydydd Sector ac ystafelloedd gweithgaredd gr?p.  Bydd y canlyniadau'n canolbwyntio ar gymorth dementia, atal cwympiadau, trechu unigrwydd ac arwahanrwydd a llesiant corfforol meddyliol.

 

Bydd y ffocws hwn ar gydleoli a hygyrchedd cyfleusterau a gwasanaethau yn cael ei ehangu i leoliadau eraill os yw'r achos busnes yn cefnogi hynny.  Byddai'r lleoliadau dan ystyriaeth yn cynnwys Neuadd y Dref Maesteg, Canolfan Chwaraeon Maesteg, Pafiliwn y Grand (Porthcawl) a chanolfannau cymuned.

 

Mae'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant hefyd yn cefnogi pwyllgorau rheoli gwirfoddol canolfannau cymuned a lleoliadau cymunedol. Ceir gwaith partneriaeth i ddatblygu cyfleoedd am gymorth atal a llesiant, yn enwedig yn gysylltiedig â rhaglenni Cydgysylltu Cymunedol Lleol.

 

Mae Gofal Cymdeithasol Oedolion wedi cefnogi cyfleoedd dydd ers sawl blwyddyn, gyda chyfres o egwyddorion yn sail iddynt sy'n canolbwyntio ar yr athroniaeth ganlynol:-

 

"Dylid cael mwy o wasanaethau lleol sy'n cefnogi presenoldeb cadarnhaol yn y gymuned, gan feithrin perthnasoedd â phobl leol."

 

Yn y gorffennol, mae'r Gwasanaeth wedi buddsoddi i ddatblygu cynlluniau er mwyn sefydlu Canolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr, Gwasanaethau Cysylltiedig â Gwaith (WOOD B/BLEAF). Prosiectau seiliedig ar waith yw'r rhain i oedolion ag anableddau ym Mharc Bryngarw a Stad Ddiwydiannol Tondu, a phedwar Gwasanaeth Lleol ar sail model "Dinasyddiaeth Weithredol" wedi'u lleoli'n strategol yn:

 

            Cwm Calon - Gwasanaeth Lleol Maesteg;

            Canolfan Gymorth Oedolion Sarn - Gwasanaeth Lleol Porth y Cymoedd a Phencoed;

            T? Pen-y-bont - Gwasanaeth Lleol Pen-y-bont ar Ogwr;

            Canolfan Bywyd y Pîl - Gwasanaeth Lleol y Pîl a Phorthcawl.

 

Drwy gyllid trawsnewid rhanbarthol a chynlluniau datblygu cysylltiedig, mae'r Cyngor yn gobeithio datblygu 'Cymunedau Cydnerth a Chydgysylltiedig' sy'n cynorthwyo pobl i fodloni anghenion mewn lleoliadau cymunedol a lleihau'r angen am ofal wedi'i reoli. Mae'r ymagwedd hon yn cael ei datblygu mewn partneriaeth â BAVO, ac yn rhan o'r prosiect bydd pum rôl "Llywiwr Cymunedol' yn cael eu creu yn gysylltiedig â hybiau cymunedol, ynghyd â chynllun buddsoddi i gefnogi prosiectau bach, canolig a graddfa fawr yn y Trydydd Sector sydd yn gwella'r gefnogaeth mewn lleoliadau cymunedol. Darperir y gronfa drawsnewid gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n gysylltiedig â'r Byrddau Iechyd Lleol.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd A Hussain

 

Dynion h?n yng Nghymru yw'r gr?p mwyaf unig o bobl yn y DU, ac maen nhw'n profi lefelau uchel o arwahanrwydd.

 

A allai'r Aelod Cabinet ddweud wrthym yr hyn y mae wedi'i gyflawni hyd yma er mwyn hyrwyddo hyfforddiant ar gynhwysiant digidol i bobl h?n? (Gan gadw'r 'Pum Thema Heneiddio'n Dda ym Mhen-y-bont ar Ogwr' mewn cof, rwyf yn cyfeirio at Thema B3)

 

Ymateb

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y byddai naill ai'n rhoi ateb ysgrifenedig mewn ymateb i hyn, neu fel arall gallai'r Cynghorydd Hussein ddod i gynnal trafodaeth bellach ag ef ynghylch yr uchod, a dywedodd yr Arweinydd fod menter o'r enw Sied Dynion yn cael ei chyflwyno ledled y Fwrdeistref Sirol.  Roedd y fenter wedi cael ei chyflwyno yn rhan o'r rhaglen Heneiddio'n Dda ym Mhen-y-bont ar Ogwr er mwyn ymdrin ag unigedd ac arwahanrwydd cymdeithasol a brofir gan ddynion h?n. Mae Sied Dynion yn lle i ddynion gael meddwl, dyfeisio a chreu pethau a bod yn rhan o gr?p unigryw sydd ag ymdeimlad o berthyn. Ychwanegodd yr Arweinydd fod y gweithgareddau a gynhelir yn y siediau yn cynnwys gwaith coed, gwersi cerddorol, gwersi coginio, garddio, creu modelau a chrefft, yn dibynnu ar sgiliau'r gr?p. Ar hyn o bryd, roedd Siediau i'w cael ym Maesteg a Thondu, ac roedd cyfleusterau pellach wedi'u cynnig i ddilyn mewn lleoliadau eraill. Ychwanegodd fod cynhwysiant digidol yn cael ei gynnig yn llyfrgelloedd a Chanolfannau Bywyd y Cyngor er budd y gymdeithas, gan gynnwys yr henoed.

 

Ar ben hyn, ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol fod cynllun o'r enw See Me wedi cael ei gyflwyno yn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn rhan o'r cynllun roedd yr unigolyn h?n yn creu stori am ei fywyd drwy fideo i'w ddangos i'w deulu a'i gysylltiadau agos. Ychwanegodd fod Cynlluniau Gofal Ychwanegol hefyd wedi cyflwyno pensetiau rhith-wirionedd i ddefnyddwyr gwasanaeth. Drwy'r pensetiau gallent brofi anturiaethau o'r byd go iawn fel snorcelu o dan y môr a theithio drwy'r gofod, ymhlith anturiaethau eraill. Ychwanegodd fod ipads hefyd ar gael mewn rhai cyfleusterau Gofal Ychwanegol.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod arwahanrwydd ac unigrwydd yn broblem fawr iawn ymhlith yr henoed, a bod hyd at 29% o farwolaethau yn gysylltiedig â hynny mewn rhyw fodd neu'i gilydd. Atgoffodd yr Aelodau fod y Cyngor yn Awdurdod sy'n Gyfeillgar â Dementia, a oedd yn fath arall o gefnogaeth i bobl sy'n dioddef y salwch hwn. Gorffennodd drwy nodi bod gan y Cyngor hefyd Gydgysylltwyr Cymunedol a oedd yn cydgysylltu sesiynau gr?p yn ein cymunedau i bobl oedrannus a oedd yn profi analluogrwydd ar ryw lefel neu'i gilydd.

 

Dywedodd un o'r Aelodau y dylid ychwanegu Cynhwysiant Digidol at Flaenraglen Waith Pwyllgorau Craffu'r Cyngor, ac roedd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn cytuno â'r argymhelliad hwnnw.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd MC Voisey i'r Arweinydd

 

A all Arweinydd y Cyngor gyfiawnhau pam ei fod o'r farn na ddylai Aelodau etholedig y Cyngor hwn gael yr hawl i ofyn cwestiynau yng nghyfarfodydd y Cyngor, a chraffu yn y siambr ar benderfyniadau a wneir gan y weinyddiaeth hon?

 

Ymateb yr Arweinydd

 

Rheolir gweithdrefn y Cyngor gan y Cyfansoddiad, y cytunir arno yng nghyfarfod llawn y Cyngor.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd MC Voisey

 

Mae'n amlwg bod angen inni newid y Cyfansoddiad er mwyn i'r Cyngor hwn fod yn fwy agored i waith craffu gan yr Aelodau, ac er mwyn gwella democratiaeth. A wnaiff yr Arweinydd gyflwyno newidiadau i'r Cyfansoddiad, er mwyn dangos ein bod yn gwrando ar y bobl, drwy gydweithio â hwy a thrwy weithio ar eu rhan.

 

Ymateb

 

Roedd Gweithgor gwleidyddol trawsbleidiol wedi cael ei sefydlu'n flaenorol er mwyn ystyried newidiadau i'r Cyfansoddiad, gan gynnwys newidiadau'n gysylltiedig â chwestiynau gan yr Aelodau i'r Weithrediaeth yng nghyfarfodydd y Cyngor, ac adroddwyd ar y newidiadau hynny gerbron y Cyngor yn ei gyfarfod ar 20 Tachwedd 2019, a chytuno arnynt. Gan hynny, roedd unrhyw newidiadau a wnaed i'r Cyfansoddiad wedi cael eu cymeradwyo gan yr Aelodau. Roedd cylch gwaith holl Bwyllgorau ffurfiol y Cyngor yn caniatáu gofyn cwestiynau i Swyddogion (ac i Aelodau Cabinet), ac roedd ymateb i'r cwestiynau hynny naill ai'n cael ei roi yn y cyfarfod, neu os oedd angen ymchwilio i'r cwestiwn cyn gallu rhoi ateb cywir, byddai'r ymateb yn cael ei roi yn dilyn y cyfarfod. Ceir cyfarwyddyd clir yn y Cyfansoddiad fod gan yr Aelodau hawl democrataidd i ofyn cwestiynau mewn cyfarfodydd, a chael ymateb priodol i'r rheiny gan Swyddogion/Aelodau Cabinet.

 

Ail gwestiwn atodol gan y Cynghorydd T Thomas

 

A yw'r Arweinydd yn cytuno y dylai cyhoeddiadau'r Aelodau Cabinet gael eu cyflwyno ar ffurf papurau gwybodaeth yn unig, neu a oes cyfleoedd gwell i Aelodau ofyn cwestiynau (am eu cyhoeddiadau) er mwyn sicrhau'r defnydd gorau o amser Cynghorwyr yng nghyfarfodydd y Cyngor.

 

Ymateb

 

Ystyriwyd hyn yn flaenorol hefyd gan Weithgor y Cyfansoddiad a hefyd, gan nad yw cyhoeddiadau Aelodau'r Cabinet yn adroddiadau, nid yw'n arferol i'r Aelodau ofyn cwestiynau ynghylch y rhain p'run bynnag.