Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 hyd 2023-24

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 ddrafft o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 hyd 2023-24, a nodai flaenoriaethau gwariant y Cyngor, yr amcanion buddsoddi allweddol a'r rhannau o'r gyllideb lle targedwyd arbedion angenrheidiol. Roedd y Strategaeth hefyd yn cynnwys rhagolygon ariannol ar gyfer 2020-2024, a drafft manwl o Gyllideb Refeniw 2020-21.  Roedd tri amcan llesiant y Cyngor a oedd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Corfforaethol wedi llywio'r SATC.

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cabinet am y Trosolwg Ariannol Corfforaethol, lle'r oedd y Cyngor wedi sicrhau £68m o ostyngiadau cyllidebol dros y 10 mlynedd diwethaf, a oedd yn cynrychioli 30% o gyllideb y Cyngor yn 2009-10.  Dywedodd fod cyllideb refeniw net y Cyngor wedi'i chynllunio ar £286.885m ar gyfer 2020-21, ond bod gwariant cyffredinol yn uwch na hynny.  O ystyried gwariant a gwasanaethau a ariennir drwy grantiau a ffioedd a thaliadau penodol, tua £420 miliwn fydd cyllideb gros y Cyngor yn 2020-21, gyda'r Cyngor yn chwarae rhan sylweddol iawn yn economi'r Fwrdeistref Sirol. Daw'r rhan fwyaf o gyllid refeniw y Cyngor oddi wrth Lywodraeth Cymru, drwy'r Grant Cynnal Refeniw a chyfran o Ardrethi Annomestig. Mae casgliadau'r Dreth Gyngor, grantiau eraill a ffioedd a thaliadau yn ychwanegu at hyn, a'r Dreth Gyngor sydd i gyfrif am bron i 30% o'r gyllideb.  Tynnodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro at y pwysau ar gyllideb y Cyngor, sef newidiadau deddfwriaethol a demograffig a chynnydd yn niferoedd y disgyblion yn ysgolion y Cyngor.

 

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro drosolwg i'r Cabinet o'r modd y cynigiwyd neilltuo'r gyllideb i bob un o'i feysydd gwasanaeth allweddol:-

 

·         Addysg

·         Gofal Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

·         Tir y Cyhoedd

·         Cefnogi'r Economi

·         Gwasanaethau Eraill

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod SATC y Cyngor wedi'i gosod yng nghyd-destun cynlluniau'r DU ar gyfer yr economi a gwariant cyhoeddus, a blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.  Roedd y SATC yn cynnwys yr egwyddorion a fydd yn rheoli'r strategaeth a rhagolygon ariannol pedair blynedd; y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2019-20 hyd 2029-30 sy'n gysylltiedig â meysydd â blaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad cyfalaf a'r Strategaeth Cyfalaf a'r Strategaeth Rheoli Trysorlys a'r Asesiad Risg Corfforaethol. Hysbysodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro y Cabinet fod Canghellor y Trysorlys ym mis Medi 2019 wedi cynnal Cylch Gwariant blwyddyn ar frys, gan gyhoeddi cynnydd yng ngwariant y llywodraeth.  Mewn ymateb i hyn, roedd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi cyhoeddi y byddai cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn cynyddu 2.3% neu £593 miliwn.  Roedd y cylch gwariant hefyd yn cynnwys cynnydd o £18 miliwn i gyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.  Oherwydd natur y cylch gwariant, hysbysodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro y Cabinet nad oedd y gyllideb a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ond yn cynnwys cyllideb refeniw blwyddyn, a'i bod yn neilltuo dyraniadau ychwanegol at yr hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y cynlluniau cyfalaf dangosol ar gyfer 2020-21.

 

Hysbysodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro y Cabinet ynghylch Setliad Dros Dro Llywodraeth Cymru ar gyfer Llywodraeth Leol 2020-21 a oedd, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau o £183.8 miliwn neu 4.3%, ar draws Cymru ac ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, yn gynnydd o 4.7% mewn Cyllid Allanol Cyfunol neu £9.18 miliwn. Ar ôl addasu ar gyfer y newid yn y sylfaen drethi, 4.57% neu £8.878 miliwn oedd y cynnydd gwirioneddol.  Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro, er bod y setliad dros dro yn welliant sylweddol o gymharu â'r rhagdybiaeth -1.5% “fwyaf tebygol” a oedd wedi'i chynnwys yn SATC wreiddiol y Cyngor ar gyfer 2020-21, nid oedd yn cydnabod llawer o bwysau newydd ar y Cyngor, a dylid edrych arno gyda gofal. Hysbysodd y Swyddog Adran 151 y Cabinet fod y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd wedi hysbysu, yn dilyn cyllideb blwyddyn 2020-21, y byddai goblygiadau ariannu cyllideb Llywodraeth Cymru y tu hwnt i hynny yn cael eu pennu yn rhan o'r Adolygiad Cynhwysfawr nesaf o Wariant y DU sydd wedi'i gynllunio ar gyfer 2020, a fydd yn trafod sawl blwyddyn.

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod drafft Cyllideb Refeniw 2020-21 yn tybio y ceid cynnydd o 4.5% i'r Dreth Gyngor, a oedd yn is na'r cynnydd isafswm o 6.5% a oedd wedi'i gynnwys yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y gyllideb, ond roedd her ariannol sylweddol o flaen y Cyngor o hyd. Hysbysodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro y Cabinet ynghylch y setliad cyfalaf, a ddarparodd £7.893 miliwn o gyllid cyfalaf i'r Cyngor yn 2020-21.

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro gymhariaeth o'r gyllideb yn erbyn yr alldro a ragamcanwyd ar 30 Medi 2019, a adlewyrchai danwariant net o £575,000.  Hysbysodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro y Cabinet am y SATC arfaethedig ar gyfer y 4 blynedd nesaf, ynghyd ag egwyddorion y Strategaeth honno. Tynnodd y Swyddog Adran 151 sylw at y Gronfa Wrth Gefn ar gyfer Gostyngiadau Cyllidebol y SATC. Roedd y Gronfa yn galluogi'r Cyngor i reoli achosion o oedi neu rwystrau nas rhagwelwyd wrth gyflawni cynigion am ostyngiadau sylweddol i'r gyllideb yn y SATC. Rhoddodd amlinelliad o ragolygon y SATC dros y 4 blynedd nesaf, gan ddangos y Senario Orau: Y Senario Fwyaf Tebygol a'r Senario Waethaf. Ar sail y senario fwyaf tebygol, tybiwyd gostyngiadau cyllidebol o £29.332 miliwn o 2020-2024. Roedd gostyngiadau cyllidebol gwerth £8.257 miliwn wedi cael eu nodi dros gyfnod y SATC, gan gynnwys y £2.452 miliwn llawn yr oedd ei angen ar gyfer 2020-21. Amlygodd y Swyddog Adran 151 statws risg y cynigion i ostwng y gyllideb, a ddangosai'r sefyllfa anodd y mae'r Cyngor ynddi, gydag ond £3.464 miliwn (38%) o'r arbedion wedi'u nodi. Manylwyd ar bwysau cyllidebol yn Atodiad A yr adroddiad, tra'r oedd cynigion a oedd wedi'u nodi i ostwng y gyllideb yn Atodiad B yr adroddiad. 

 

Amlygodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro brif ganfyddiadau’r ymgynghoriad ar y gyllideb a gynhaliwyd rhwng 9 Medi a 3 Tachwedd 2019. Bu'r Cabinet a'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol yn myfyrio ar ymatebion yr ymgynghoriad, ac fe ddrafftiwyd y gyllideb yn unol â hynny.

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 ar Ddrafft y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020-21, a oedd yn seiliedig ar gyllideb arfaethedig o £286.885 miliwn, ac a gynigiai gynnydd o 4.5% i'r Dreth Gyngor.  Dywedodd na chafwyd unrhyw gytundeb hyd yma ynghylch yr hawliad cyflogau i staff nad ydynt yn addysgu ac, yn dibynnu ar y canlyniad, y gallai'r gyllideb fod o dan bwysau ychwanegol y byddai'n rhaid i'r Cyngor eu bodloni yn ystod 2020-21.  Byddai pwysau ychwanegol hefyd yn cael ei achosi yn sgil unrhyw ddyfarniad cyflog newydd i athrawon i'w weithredu o fis Medi 2020, er bod Llywodraeth Cymru wedi nodi y dylai'r cynnydd i'r cyllid a ddarperir drwy'r setliad gydnabod yr effaith ar ddyfarniadau cyflog athrawon yn y dyfodol.  Roedd canlyniadau dros dro prisiad actiwaraidd y Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol wedi dod i law, ac effaith hynny oedd y posibilrwydd o ostyngiad o £1.126 miliwn y flwyddyn yng nghyfraniadau'r cyflogwr. Mae cyllidebau'r ysgol wedi'u gwarchod rhag y targed effeithlonrwydd o 1% gan fod y setliad dros dro yn well na'r hyn a ragwelwyd.

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod pwysau newydd cylchol o £2 miliwn ar y gyllideb wedi cael ei gyflwyno i ymdrin â materion ar dir y cyhoedd a materion creu lleoedd ar gyfer ailwynebu cerbytffyrdd, diogelwch trafnidiaeth a ffyrdd, glanhau gylïau, draenio caeau ac ardaloedd chwarae, paratoi safleoedd ar gyfer datblygiadau tai a masnachol a gwaith cynnal a chadw cyffredinol, ynghyd â'r seilwaith cefnogol.  Gwnaed darpariaeth bellach i ddatblygu rhaglen brentisiaethau er mwyn i'r Cyngor feithrin ei staff medrus a phroffesiynol ei hun.  Roedd cynigion gwerth £2.452 miliwn wedi cael eu nodi i ostwng y gyllideb o gyllidebau gwasanaethau a chorfforaethol. 

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro ar y cronfeydd a oedd wedi'u clustnodi ar 30 Medi 2019, a fyddai fel arfer yn cael eu cynnal ar 5% o gyllideb net y Cyngor, ac eithrio'r ysgolion.  Adroddodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro hefyd ar y rhaglen gyfalaf ac ar y strategaeth cyllid cyfalaf. Mae rhaglen gyfalaf 2019-20 i 2029-30 wedi cael ei datblygu'n unol â'r SATC, ac mae'n adlewyrchu'r setliad cyfalaf drafft ar gyfer 2020-21, a oedd yn darparu'r Cyllid Cyfalaf Cyffredinol o £7.983 miliwn ar gyfer 2020-21, y mae £3.986 miliwn ohono yn fenthyciad â chymorth sydd heb ei neilltuo, a'r £3.997 sy'n weddill wedi'i ddarparu drwy grant cyfalaf. Dywedodd fod y rhaglen gyfalaf a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Chwefror 2019 wedi cael ei diwygio i gynnwys cyllidebau a ddygwyd ymlaen o 2018-19 ac unrhyw gymeradwyaeth am grantiau neu gynlluniau newydd. Mae'r rhaglen gyfalaf yn cynnwys nifer o ddyraniadau a delir o gyfanswm y cyllid cyfalaf cyffredinol, sef cyfanswm o £4.820 miliwn.  Hysbysodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro y Cabinet mai cyfanswm y Benthyciadau Darbodus ar 1 Ebrill 2019 oedd £43.998 miliwn, a bod £27.796 miliwn o'r swm hwnnw'n weddill.  Amcangyfrifwyd y byddai cyfanswm y benthyciadau'n codi i £44.95 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. 

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cabinet ei bod yn ofynnol iddi adrodd yn flynyddol ar gadernid lefelau'r cronfeydd, ac adrodd bod lefel gyfredol y cronfeydd, a'r lefel a ragwelir ar eu cyfer yn y dyfodol, yn ddigon i amddiffyn y Cyngor ar sail gofynion neu argyfyngau anhysbys a lefelau cyllido cyfredol. Pwysleisiodd mai'r risgiau ariannol fwyaf i'r Cyngor yw'r ansicrwydd ynghylch cyllid Llywodraeth Cymru.  Os bydd Swyddog Adran 151 Dros Dro o'r farn nad oes digon o adnoddau i gyflawni ei rôl, mae'n ofynnol i’r Swyddog adrodd hynny wrth y Cyngor.  Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro fod digon o adnoddau ar hyn o bryd i gyflawni'r rôl hon. 

 

Wrth gymeradwyo'r cynigion, mynegodd y Dirprwy Arweinydd ddiolch i'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd am y cyllid ychwanegol o £8.8 miliwn yr oedd y Cyngor wedi'i dderbyn yn y setliad. Dywedodd fod y Cyngor yn parhau i wynebu dyfodol anodd, ac y byddai angen sicrhau £29 miliwn o arbedion dros y 4 blynedd nesaf. Dywedodd fod y preswylwyr a gymerodd ran yn ymgynghoriad y gyllideb wedi gwrthod cynnydd mawr i'r Dreth Gyngor, ac wedi gofyn i'r Cyngor ystyried ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaethau. Dywedodd hefyd y byddai'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn awr yn ystyried y cynigion, ac edrychai ymlaen i weithio gyda'r pwyllgorau craffu cyn i'r Cyngor ystyried y gyllideb.

 

Dywedodd yr Arweinydd y dylid bod yn bwyllog ynghylch cynigion y gyllideb, oherwydd nid oedd yn hysbys ai arian newydd oedd y cyllid ychwanegol yn araith y Frenhines ai peidio. Nid oeddem yn gwybod ychwaith beth fyddai ei effaith ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.   Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar lobïo llywodraeth leol am gyllid ychwanegol, ac roedd y Cyngor yntau wedi gwrando ar safbwyntiau'r cyhoedd a oedd wedi cymryd rhan yn ymgynghoriad y gyllideb. Dywedodd hefyd fod y cyllid ychwanegol a dderbynnir gan y Cyngor wedi golygu bod modd gwarchod ysgolion rhag gorfod sicrhau 1% o arbedion effeithlonrwydd yn 2020-21. Credai y byddai'r Cyngor cyfan yn cefnogi'r gyllideb a gynigir, a dywedodd fod rhai cynigion arbed wedi cael eu hepgor. Yr oedd yn gobeithio y byddai Canghellor y Trysorlys yn cadw at ei air ac yn dirwyn mesurau cyni i ben. Dywedodd y Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cabinet nad oedd cytundeb eto ynghylch sut yn union y byddai'r arian newydd y cyfeiriwyd ato yn araith y Frenhines yn cael ei ddyrannu.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio i'r Dirprwy Arweinydd, y Swyddog Adran 151 Dros Dro a'i thîm am y gwaith yr oeddent wedi'i gyflawni i lunio'r SATC.  Dywedodd fod angen yr holl gyllid posibl ar ysgolion. Er mwyn sicrhau llwyddiant y cwricwlwm newydd, byddai angen cyllid  digonol arnynt.  Drwy arloesi a mentergarwch, mae ein swyddogion wedi gallu datblygu prosiectau adfywio er gwaethaf y cyni, ond rydym yn dal i orfod cyflwyno toriadau byrdymor a fydd yn golygu colledion yn y tymor hir.

 

Roedd yr Aelod Cabinet Cymunedau yn croesawu'r gwelliant i'r setliad, ond dywedodd fod angen i'r Cyngor gofio bod ansicrwydd o hyd ynghylch a oedd mesurau cyni wedi dod i ben. Byddai'r setliad gwell yn golygu bod modd buddsoddi i wella priffyrdd a thrwsio seilwaith a phriffyrdd.  Byddai adnoddau ychwanegol yn cael eu neilltuo ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol, gyda chynnig i sefydlu cronfa cefnogi clybiau chwaraeon, ac ni fyddai clybiau sy'n cychwyn trafodaethau i reoli cyfleusterau eu hunain yn wynebu cynnydd mewn ffioedd yn 2020-21. Dywedodd fod y sefydliadau hynny a oedd yn cychwyn trafodaethau yn rhan o'r broses TAC yn gweld manteision hynny, ac y byddai clybiau rygbi sy'n cychwyn deialog o'r fath yn ymuno â mwyafrif y clybiau yng Nghymru.  Hysbysodd yr Aelod Cabinet Cymunedau y Cabinet fod angen deialog â'r heddlu ynghylch ariannu darpariaeth TCC yn y dyfodol.  Er bod y setliad i'w groesawu, dywedodd hefyd na ellid mynd i'r afael â 10 mlynedd o fesurau cyni o fewn un blwyddyn.

 

 Diolchodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol i'r swyddogion sy'n gweithio yn yr holl Gyfarwyddiaethau am eu cyfraniad y tu ôl i'r llenni yn gysylltiedig â'r gyllideb.  Roedd hi'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y setliad cadarnhaol a fyddai'n golygu bod modd rhoi cymorth ym maes tai, brecwastau am ddim yn yr ysgol, draenio caeau chwaraeon ac ardaloedd chwarae, datblygu rhaglen brentisiaeth, darparu cyrbiau is, a phwyntiau gwefru cerbydau trydan, a sicrhau cyllideb gytbwys. Roedd hi hefyd yn falch o weld y byddai cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer y diffyg rhwng y Budd-dal Tai a oedd yn daladwy a chymhorthdal yr Adran Gwaith a Phensiynau y gellir ei hawlio am eiddo i oedolion sy'n agored i niwed.

 

Wrth gymeradwyo'r SATC, adleisiodd yr Arweinydd y sylwadau a wnaed gan Aelodau'r Cabinet, yn enwedig o ran datblygiad y rhaglen brentisiaeth lle mae’r Cyngor wedi llwyddo i feithrin ei staff ei hun, yn enwedig mewn ardaloedd lle ceir cystadleuaeth i recriwtio o du'r sector preifat 'r sector cyhoeddus, a lle bydd hi'n cymryd amryw o flynyddoedd i hyfforddi staff. Dywedodd fod cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer pwysau'r gaeaf, a fyddai'n golygu y byddai llai o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty.  Gofynnodd am adroddiad i gyfarfod o'r Cabinet yn y dyfodol ar y Grant Datblygu Disgyblion, a dywedodd fod newyddion da yn gysylltiedig ag ariannu'r grant cynnal ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd wrth y Cabinet nad oedd yn hysbys faint o grwpiau blwyddyn y byddai'r chwistrelliad o gyllid drwy'r Grant Mynediad i Ysgolion yn ei gynnwys. 

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Cabinet yn cyflwyno, er ymgynghoriad â'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, cyllideb flynyddol 2020-21 a datblygiad y SATC 2020-21 hyd 2023-24, fel y nodwyd yn yr adroddiad hwn, cyn cyflwyno'r fersiwn derfynol i'w chymeradwyo gan y Cyngor ym mis Chwefror 2020.             

                

Dogfennau ategol: