Agenda item

Cyfarwyddyd Erthygl 4 a Gynigiwyd ar gyfer Ardal Gadwraeth Nant-y-moel (Dynodwyd 10 Awst 1973)

Cofnodion:

Adroddodd Arweinydd y Tîm Cadwraeth a Dylunio, Prosiectau Adfywio ac Amgylchedd Adeiledig bod Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2) Brys wedi ei wneud mewn perthynas ag Ardal Gadwraeth Nant-y-moel i fynd i'r afael â bygythiad wrth law i gymeriad ac edrychiad yr Ardal Gadwraeth ac adnabod y rheolyddion ychwanegol uniongyrchol dros ddatblygiad a ganiateir o fewn yr Ardal Gadwraeth drwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) ac wedi amlinellu camau nesaf y broses.

 

Rhoddodd wybod i'r pwyllgor bod swyddogion wedi cael gwybod am y gwaith anawdurdodedig mewn perthynas â dymchwel wal ffiniol blaen eiddo heb ei restru o fewn Ardal gadwraeth Nant-y-moel sydd nawr yn destun cais ar gyfer caniatâd Cynllunio a Chaniatâd Ardal Gadwraeth.  Dywedodd er bod y gwaith hwn yn cael ei ystyried yn anawdurdodedig gan fod y wal ffiniol sy'n wynebu'r briffordd yn fwy na 1m o uchder, bod llawer o'r waliau ffiniol cerrig presennol sy'n cyfrannu at gymeriad yr ardal yn is na metr mewn uchder, a bod modd ystyried eu haddasu neu eu dymchwel fel datblygiad a ganiateir.   Gall newidiadau cynyddol fel y rhain gael effaith negyddol ar gymeriad yr ardal ac felly, heb gyflwyno rheolyddion, mae perygl gwirioneddol y gallai'r ardal gael ei heffeithio'n sylweddol o safbwynt materol, y gellid colli gwerth y dreftadaeth adeiledig am byth.

 

Adroddodd Arweinydd y Tîm Cadwraeth a Dylunio, Prosiectau Adfywio ac Amgylchedd Adeiledig bod Cyfarwyddyd Erthygl 4(2) wedi ei wneud yn dilyn cael gwybod am y gwaith anawdurdodedig, sef dymchwel y rhan o'r wal ffiniol sy'n wynebu'r briffordd a thriniaeth ffiniol o achos hynny, sydd wedi cael effaith sylweddol ar gymeriad ac edrychiad yr ardal sy'n gosod sail anffodus i berchnogion adeiladau eraill ei ddilyn.  Dywedodd, oherwydd yr effaith sylweddol y mae triniaethau ffiniol yn eu cael ar gymeriad arbennig yr ardal, ei bod yn hanfodol bod y Cyfarwyddyd yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl i gynnwys codi neu ddymchwel giât, ffens, wal neu ffordd arall o amgáu o fewn y cwrtil t? annedd sy'n wynebu priffordd neu fan agored.  Oherwydd y bygythiad wrth law i gymeriad yr ardal, gwnaed Cyfarwyddyd Erthygl 4 (2) a chyhoeddwyd Hysbysiad yn y papur newydd lleol a chyflwynwyd Hysbysiad i berchenogion a meddianwyr y mae'r Cyfarwyddyd yn ymdrin â hwy. Daeth y Cyfarwyddyd i effaith yn syth wedi cyflwyno a chyhoeddi'r Hysbysiad a chafodd perchnogion/meddianwyr y cyfle i wneud cynrychioliadau cyn i Aelodau dderbyn adroddiad pellach cyn cadarnhau'r Cyfarwyddyd. Bydd y Cyfarwyddyd yn terfynu ar ôl chwe mis oni bai ei fod wedi ei gadarnhau gan Aelodau.  Mae pamffled drafft wedi ei baratoi a'i anfon i gynorthwyo perchnogion a meddianwyr wrth ddeall goblygiad Cyfarwyddyd Erthygl 4.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Pwyllgor:

 

(1)   Wedi nodi bod Cyfarwyddyd wedi ei wneud dan Erthygl 4(2) Gorchymyn (Datblygiad a Ganiateir Cyffredinol) Cynlluniau Tref a Gwlad 1995 i ddileu hawliau datblygiadau a ganiateir perchnogion a phreswylwyr tai annedd o fewn Ardal Gadwraeth Nant-y-moel, dan y telerau a nodwyd yn Atodiad 2;

 

 Yn cytuno bod Aelodau yn derbyn adroddiad pellach a fydd yn cyflwyno unrhyw sylwadau a dderbynnir o ganlyniad i wasanaethu Cyfarwyddyd Erthygl 4(2).

Dogfennau ategol: