Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24

Gwahoddedigion

 

Mark Shephard, Prif Weithredwr

Kelly Watson - Prif SwyddogGwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio

Martin Morgans - Pennaeth Gwasanaeth - Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth

Cynghorydd Huw David – Arweinydd

Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd

Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet Cenedlaethau'r Dyfodol a Lles

Gill Lewis – Pennaeth Cyllid dros dro

Christopher Morris, Rheolwr Cyllid - Rheoli Cyllidebau: Gwasanaethau cymdeithasol a Lles / Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad i'r Pwyllgor gyda'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig drafft 2020-21 i 2023-24, a oedd yn nodi blaenoriaethau gwario'r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd cyllideb a dargedwyd ar gyfer arbedion angenrheidiol. Roedd y strategaeth yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2020-2024 a chyllideb refeniw ddrafft fanwl ar gyfer 2020-21.

 

Darparodd y Cynllun Corfforaethol-Cyd-destun Polisi a Naratif y Gyllideb fel y nodir yn adran 3 o'r adroddiad.

 

Darparodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro’r Trosolwg Ariannol Corfforaethol a oedd yn dangos bod y Cyngor wedi gwneud gostyngiadau o £68 miliwn yn y gyllideb yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Mae’r graff a 3.3.2 yr adroddiad yn gynrychiolaeth weledol o’r gostyngiadau o flwyddyn i flwyddyn.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod y setliad yn well na'r disgwyl, a'i fod yn 4.7%, sy'n gynnydd o £8.878 miliwn. Dywedodd, fodd bynnag, y byddai hyn yn cael ei daro gan y dyfarniad cyflog athrawon.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fanylion Perfformiad Ariannol y flwyddyn gyfredol (2019-20). Roedd Tabl 1 yr adroddiad yn cymharu'r gyllideb yn erbyn yr alldro rhagamcanol ar 30 Medi 2019.

 

Dywedodd mai’r sefyllfa gyffredinol a ragwelwyd ar 30 Medi 2019 oedd tanwariant net o £575,000, gan gynnwys £659,000 o orwariant net ar gyfarwyddiaethau a £4.808 miliwn o danwariant ar gyllidebau corfforaethol, wedi'i wrthbwyso gan ddyraniadau net o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd o £3.574 miliwn.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod Tabl 2 yr adroddiad yn dangos y cynigion MTFS sy'n cael eu cefnogi gan Gronfa Hapddigwyddiad ar gyfer Lleihau Cyllideb MTFS yn 2019-2020. Byddai lefel yr adolygiad hwn yn cael ei adolygu'n rheolaidd gan y swyddog yn Adran 151 yng ngoleuni'r anawsterau a ragwelwyd wrth gyflawni cynigion penodol i leihau'r gyllideb yn y dyfodol.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod Tabl 3 yr adroddiad yn dangos y newid canrannol yn AEF o ran Senarios MTFS. Roedd Tabl 4 yn dangos gofyniad posibl y cynghorau i leihau'r gyllideb net ar sail yr amlen adnoddau a ragwelwyd, rhagdybiaethau gwariant anorfod a chynnydd tybiedig yn y Dreth Gyngor.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod Tabl 5 yr adroddiad yn amlinellu'r sefyllfa bresennol o ran mynd i'r afael â'r gofyniad mwyaf tebygol o ran lleihau'r gyllideb, sef £39,332 miliwn. Dywedodd fod yn dal angen i'r Cyngor ddatblygu cynigion gwerth £21.1 miliwn a bod ystod o ddewisiadau yn cael eu hystyried, gan gynnwys:

 

  • Trawsnewid gwasanaethau ehangach y Cyngor yn ddigidol
  • Cyfleoedd i gynhyrchu incwm
  • Mwy o ostyngiadau yn nifer y cyflogeion
  • Gweithio gyda phartneriaid i drosglwyddo asedau a diogelu cyfleusterau cymunedol
  • Gweithredu'r Model Landlord Corfforaethol ymhellach.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod Tabl 6 yn dangos y cynigion ar gyfer lleihau'r gyllideb a'u categoreiddio, gyda bron i ddwy ran o dair o'r arbedion arfaethedig yn deillio o ddefnyddio adnoddau'n ddoethach. Roedd Tabl 8 yn dangos Cyllideb Refeniw Ddrafft 2020-21 a dadansoddiad o gyllidebau'r gyfarwyddiaeth Gwasanaethau.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro’r manylion am gyflogau, prisiau a demograffeg. Dywedodd fod corff trafod y Cyngor Uno Cenedlaethol wedi cyflwyno hawliad cyflog ar gyfer staff nad ydynt yn addysgu ar gyfer 2020-21 ac mae’r trafodaethau'n parhau. Gan ddibynnu ar ganlyniad y trafodaethau, dywedodd y gallai fod pwysau ychwanegol ar y Gyllideb y byddai'n rhaid i'r Cyngor eu bodloni. Ychwanegodd y byddai unrhyw ddyfarniad cyflog ychwanegol i athrawon sydd i'w roi ar waith o fis Medi 2020 ymlaen yn achosi pwysau ychwanegol. Rhestrwyd rhagor o fanylion am y pwysau ar y gyllideb yn adran 4 o'r adroddiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Cyllid Dros Dro am yr adroddiad a dywedodd fod y ffaith bod y setliad yn well na'r disgwyl yn ochenaid o ryddhad.

 

Dywedodd un Aelod fod toriadau ym mhob maes heblaw am ysgolion. Roedd aelodau o'r cyhoedd wedi dangos diddordeb mewn diogelu meysydd chwaraeon felly pam roedd toriadau yma ac nid mewn ysgolion. Ymatebodd yr Arweinydd drwy ddweud bod ysgolion eisoes wedi wynebu toriadau mawr yn y gorffennol gydag athrawon a rheolwyr yn cael eu diswyddo, sydd wedi cael effaith ar ganlyniadau addysg mewn rhai ysgolion. Dywedodd fod yr ymgynghoriadau cyhoeddus bob amser yn amlinellu barn y cyhoedd eu bod yn dymuno amddiffyn ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.

 

Dywedodd un Aelod ei bod yn teimlo bod ysgolion yn faes pwysig iawn i'w warchod gan fod addysg yn bwysig o ran helpu plant i fod y gorau y gallant fod. Roedd hi'n poeni nad oedd yr awdurdod lleol yn sicrhau bod gan bob ysgol yr adnoddau i reoli eu cyllidebau'n briodol oherwydd y diffygion niferus.

 

Dywedodd un aelod fod undebau llafur wedi nodi codiad cyflog posibl o 10% a gofynnodd sut mae'r trafodaethau'n mynd rhagddynt. Dywedodd yr Arweinydd eu bod yn parhau i fynd rhagddynt gan mai ar lefel genedlaethol yn hytrach na lefel leol yr oedd hynny. Dywedodd y byddai angen ariannu unrhyw ddyfarniad cyflog yn llawn er mwyn sicrhau nad oedd yn dod ar draul gwasanaethau neu swyddi.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod yr amserlen ar gyfer y dyfarniad cyflog wedi bod yn hir ac na chawn gadarnhad yn ei gylch tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn mae’n debyg. Ychwanegodd y tybiwyd bod cynnydd o 2% yn debygol ac y byddai'r swm angenrheidiol ar gyfer hyn yn cael ei neilltuo.

 

Ar dudalen 7 yr adroddiad, dywedodd Aelod bod lefel isaf y cynnydd yn y dreth gyngor a nodwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus 2% yn uwch na'r hyn a ddewiswyd mewn gwirionedd, a gofynnodd am eglurhad o'r rheswm dros hyn.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro mai'r rheswm bod y cynnydd yn is na'r dewisiadau a roddwyd yn yr ymgynghoriad oedd oherwydd bod y setliad yn uwch na'r disgwyl. Daeth yr ymgynghoriad i ben cyn i ni dderbyn y setliad ac roedd y ffigurau'n seiliedig ar yr hyn yr oeddem yn disgwyl ei gael, nid yr hyn a gawsom mewn gwirionedd.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid rhoi ymwadiad ar waelod y tablau sy'n nodi y gallai'r ffigurau newid os bydd y setliad yn newid.

 

Eglurodd un Aelod fod angen gwella'r berthynas â Chynghorau Tref a Chymuned a bod Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) yn hanfodol.  Roedd yn credu bod y swyddog CAT yn gweithio'n galed ond nad oedd yn cael y gefnogaeth yr oedd ei hangen arno.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn cydnabod bod angen gweithio mwy ar y broses CAT a'i fod yn gweithio ar achos busnes i'w gyflwyno i'r CMB.

Cytunodd fod angen mwy o gydweithio rhwng Cynghorau Tref a Chymuned hefyd a bod angen adolygu'r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned er mwyn sicrhau bod canlyniadau swyddogol yn deillio ohono.

 

Dywedodd un Aelod nad yw swyddogion yr heddlu yn ei ystyried yn flaenoriaeth yn lleol i ddiogelu adeiladau a bod angen i ni atgyfnerthu ein perthynas â Heddlu De Cymru a sicrhau bod digon o ganolbwyntio ar ddinasyddion a'r gymuned.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai Heddlu De Cymru yn cael eu gwahodd i'r Cyngor er mwyn i Aelodau allu holi cwestiynau a mynegi pryderon.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad ar y toriadau arfaethedig i hyfforddiant Aelodau. Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol nad oedd hyfforddiant Aelodau byth yn cael ei ddefnyddio i'w lawn botensial a bod y toriadau yn y gyllideb honno yn ei gostwng i'r lefel yr oedd yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd. 

 

Gofynnodd Aelod pa effaith fyddai’r cynnig yn CEX1 – efallai y bydd angen ailstrwythuro - yn ei chael ar y Gwasanaeth Rheoleiddio ar y Cyd. Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol mai’r rheswm am hyn yw oherwydd yr anhawster i recriwtio i'r SRS. Roedd hyn yn ostyngiad un tro ac ni fyddai'n rhan o'r arbedion y flwyddyn nesaf.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor:

 

  1. Yn ystyried yr wybodaeth sydd yn yr adroddiad a'r atodiadau sydd ynghlwm
  2. Yn gwneud sylwadau ac argymhellion i'w cydgrynhoi a'u cynnwys yn ei adroddiad i'r Cabinet, fel y nodir isod:

 

“Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r setliad cyllideb gwell, sydd wedi cael ei gyfeirio at le ffafriol.”

 

“O ran yr ymgynghoriad ‘Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr’, awgrymodd yr Aelodau y dylai'r Ymgynghoriad ar y Gyllideb yn y dyfodol gynnwys cafeat ar y gwaelod yn nodi ‘petai'r setliad yn fwy hael, gallai hyn newid’ neu rywbeth tebyg."

 

Dogfennau ategol: