Agenda item

Perfformiad y Cyngor yn erbyn ei ymrwymiadau yn chwarter 2 2019-20 (adroddiad gwybodaeth)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o berfformiad y Cyngor o chwarter dau 2019-20.

 

Dywedodd fod y data a gasglwyd ar gyfer y ffurflenni hanner blwyddyn yn awgrymu bod y Cyngor ar y trywydd iawn i sicrhau 38 (93%) o'i ymrwymiadau i'w dri amcan llesiant (gwyrdd) gyda rhywfaint o gerrig milltir y 3 (7%) arall ar goll (oren).

 

Yng nghyswllt y dangosydd cyntaf ar dudalen 95, nododd Aelod fod nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd gan staff cyfwerth ag amser llawn oherwydd absenoldeb salwch yn 11.79. A oes unrhyw beth wedi cael ei roi ar waith i fynd i'r afael â hyn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod targed gwella bellach yn ei le a bod nifer o ymyriadau hefyd ar waith i fynd i'r afael â phroblemau fel straen a phryder. Dywedodd fod cyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar wedi'u sefydlu yn ystod y misoedd diwethaf, yn ogystal â hysbysebu mynediad at gwnsela, a'i bod yn gyfforddus bod digon wedi'i roi ar waith i weld pa mor dda y byddant yn ei wneud. Ychwanegodd fod angen rhoi'r pwyslais ar y staff a sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a'u cadw mewn gwaith yn hytrach nag aros i staff fod yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch.

 

Gofynnodd Aelod a oedd pigiadau ffliw yn cael eu cynnig i aelodau staff. Dywedodd y Prif Weithredwr mai dim ond timau rheng flaen penodol fel y gwasanaethau cymdeithasol ac ati sy'n cael cynnig pigiadau ffliw ar hyn o bryd.

 

Dywedodd aelod fod tipio anghyfreithlon wedi cynyddu a'n bod wedi methu'r targed. Credai fod angen edrych ar y gwasanaeth gan nad oedd yn perfformio'n dda. Ychwanegodd y Cadeirydd fod y duedd wedi gostwng o'r un chwarter y llynedd, ond bod y pryderon yn dal yno gan fod yr awdurdod yn safle 21/22 o ran glendid priffyrdd.

 

Soniodd un aelod am nifer yr eiddo masnachol gwag ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda nifer ohonynt mewn cyflwr gwael. Gofynnodd a oedd modd i ni gymharu ag awdurdodau eraill. Esboniodd y Cadeirydd y gellid priodoli'r rhan fwyaf o hyn i dueddiadau siopa, h.y. gyda siopa ar-lein yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Dywedodd nad oedd landlordiaid wedi gostwng eu hardrethi o ganlyniad, ond y gallai hynny newid oherwydd eu bod yn cael eu gorfodi i dalu ardrethi busnes.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi nodi perfformiad corfforaethol hanner blwyddyn.

 

Roedd yr Aelodau'n dymuno gwneud y sylwadau a'r casgliadau canlynol:

 

O ran y DRE 6.6.4 Canran y gweithwyr sy'n cwblhau modiwlau e-ddysgu, holodd yr Aelodau pam fod y targed blynyddol wedi'i leihau o 45% yn 18/19 i 25% yn 19/20, o gofio bod y targed hwn yn cynnwys gofynion gorfodol e-ddysgu?

 

O ran DC 01.1.3 ii, DC 01.1.3 iii, DC 01.1.3 iv, awgrymodd yr Aelodau fod angen mwy o sylw yma, gan awgrymu darparu cymariaethau gyda threfi eraill, er mwyn cymharu tebyg at ei debyg.

 

O ran PAM/035, holodd yr Aelodau ynghylch y ffigur Qtr2 gwirioneddol, 2.67 diwrnod, ac ystyried bod y naratif yn nodi ‘Mae hwn yn berfformiad da ac mae'n dangos gwasanaeth ymatebol'.

 

Holodd yr Aelodau a oedd nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon (PAM/035) yn effeithio ar ein targed glendid (PAM/010).

 

Mynegodd yr Aelodau bryder yngl?n â'r Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (PAM/015, PSR009a a PSR009b), o ystyried nifer y diwrnodau calendr a gymerwyd ar gyfartaledd i ddarparu grant.

           

Dogfennau ategol: