Agenda item

Monitro Cyllideb 2019-20 - Rhagolwg Refeniw Chwarter 3

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad a oedd yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Cabinet ynghylch sefyllfa ariannol refeniw'r Cyngor ar 31 Rhagfyr 2019.

 

Esboniodd fod y Cyngor, ar 20 Chwefror 2019, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £270.809 miliwn ar gyfer 2019-2020. Yn rhan o'r Fframwaith Rheoli Perfformiad, caiff amcanestyniadau'r gyllideb eu hadolygu'n rheolaidd a'u hadrodd gerbron y Cabinet bob chwarter. Bydd cyflawniad gostyngiadau cytunedig i'r gyllideb hefyd yn cael ei adolygu yn rhan o'r broses.

 

Yn gryno, cymharodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro y gyllideb â'r alldro a ragwelwyd ar 31Rhagfyr 2019, y manylwyd arno yn Nhabl 1 yr adroddiad. Ymhelaethodd ar y tanwariant o £4.391 miliwn gan nodi mai'r prif reswm wrth wraidd hynny oedd bod Llywodraeth Cymru wedi hysbysu Awdurdodau Lleol ynghylch cyllid grant ychwanegol sy'n cael ei neilltuo i dalu cost ychwanegol pensiynau athrawon, pensiynau'r gwasanaeth tân yn ogystal â'r cynnydd yng nghyflogau athrawon. Roedd hyn yn creu cyfanswm o £2,006,096, £272,405 a £343,701, yn yr un drefn.

 

Esboniodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod y Cyngor wedi derbyn ei setliad llywodraeth leol dros dro  ar gyfer 2020-2021 oddi wrth Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr 2019. Cyflwynwyd adroddiad gerbron y Cabinet ar 14 Ionawr 2020 ar ddrafft o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 hyd 2023-24, a nodai flaenoriaethau gwariant y Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a rhannau o’r gyllideb a fyddai'n cael eu targedu i sicrhau arbedion angenrheidiol. Mae'r strategaeth yn cynnwys rhagolygon ariannol ar gyfer 2020-2024 a chyllideb refeniw drafft fanwl ar gyfer 2020-21.

 

Dywedodd na chafwyd unrhyw drosglwyddiadau yn gysylltiedig â'r gyllideb, ond y bu amryw o addasiadau technegol rhwng cyllidebau ers adrodd rhagolygon chwarter 2 gerbron y Cabinet ar 22 Hydref 2019. Amlinellwyd y rhain yn y tabl yn yr adroddiad, yn 4.1.6.

 

Oherwydd y pwysau cynyddol ar Gynghorau Cymru dros oes y SATC, esboniodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod angen datblygu cynigion cylchol i sicrhau gostyngiad o gyfanswm o £29.332 miliwn i’r gyllideb dros y pedair blynedd nesaf, yn seiliedig ar y senario fwyaf tebygol. Roedd gostyngiadau cyllidebol blaenorol a gafwyd yn 2016-17 hyd 2018-19 yn tystio i hyn, lle na lwyddwyd i gyflawni gwerth £3.242 miliwn o gynigion i leihau'r gyllideb yn llawn.

 

Amlinellodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro y gostyngiadau cyllidebol yr oedd eu hangen yn y Cyfarwyddiaethau Addysg a Chymorth i Deuluoedd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Chymunedau. Manylwyd ar y rhain yn Nhabl 2 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro y nodwyd y canlynol fel egwyddor 7 y SATC "Mae cynigion arbed wedi'u datblygu'n llawn ac yn cynnwys graddfeydd amser realistig i'w cyflawni, cyn eu cynnwys yn y gyllideb flynyddol. Bydd Cronfa Wrth Gefn ar gyfer Gostyngiadau Cyllideb yr SATC yn cael ei chynnal i liniaru rhag unrhyw achosion o oedi nas rhagwelwyd". Sefydlwyd Cronfa Wrth Gefn ar gyfer Gostyngiadau Cyllideb yn 2016-17. Defnyddiwyd y gronfa wrth gefn hon i fodloni cynigion penodol i ostwng y gyllideb yn y blynyddoedd cynt ar sail untro, gan ddisgwyl mesurau amgen. Roedd y gronfa'n cael ei defnyddio i liniaru'r diffyg parhaus yng nghynigion lleihau cyllideb, fel y nodwyd yn 4.2.4 yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd grynodeb o gynigion lleihau'r gyllideb ar gyfer pob cyfarwyddiaeth, a oedd wedi'u cynnwys yn nhabl 3 yr adroddiad, a chyda manylion pellach yn atodiad 2. Darparwyd cymhariaeth o'r sefyllfa ar sail CAG yn erbyn Chwarter 2 yn y tabl yn 4.2.5 yn yr adroddiad.

 

Esboniodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro mai dyma oedd y cynigion mwyaf sylweddol am ostyngiadau cyllidebol a fyddai'n annhebygol o gael eu bodloni'n llawn:

 

  • EFS1 Gweithredu'r Polisi Trafnidiaeth Dysgwyr Fesul Cam (£67,000) - nid yw'n debygol y bydd arbedion yn cael eu sicrhau yn 2019-20
  • SSW22 - Arbedion pellach o gyfleusterau llyfrgell a diwylliannol (£60,000) - nid yw'n debygol y bydd unrhyw arbedion yn cael eu sicrhau yn 2019-20
  • COM52 - Gostyngiad i'r gyllideb ar gyfer y Ganolfan Adfer Deunyddiau ac Ynni (£1,300,000) - £650,000 yn debygol o gael ei sicrhau yn 2019-20

 

Esboniodd fod Atodiad 2 yn manylu ar swm yr arbedion a ragamcanwyd yn erbyn y tri chynnig hyn, ac ar y camau i'w cymryd gan y Gyfarwyddiaeth i liniaru'r diffyg. Ychwanegodd fod crynodeb o sefyllfa ariannol pob prif faes gwasanaeth wedi'i gynnwys yn atodiad 3 yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro esboniad i'r aelodau ynghylch y Cronfeydd wedi'u Clustnodi ar gyfer chwarter 3, sef swm o £4.391 miliwn. Roedd yr ychwanegiad net hwn wedi cael ei ariannu o'r tanwariant a ragamcanwyd ar gyllidebau nad oeddent yn perthyn i'r Cyfarwyddiaethau ar ddiwedd Chwarter 3, fel y dangoswyd yn nhabl 1.

 

Esboniodd mai'r prif ychwanegiadau oedd:

  • creu cronfa 'Buddsoddi mewn Cymunedau' £2 filiwn, fel y cyfeiriwyd ati yn adran 4.3.5;
  • ychwanegiad o £2 filiwn i'r gronfa gyfalaf heb ei dyrannu i'w defnyddio yn erbyn pwysau rhagamcanol ar gyfalaf;
  • cynnydd o £500,000 i'r Gronfa Rheoli Newid i gefnogi ceisiadau newydd i'r gronfa; a
  • chynnydd o £335,000 i'r gronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi yn erbyn y Ganolfan Arloesi i gefnogi'r cyfnod datblygu ar gyfer prosiect yr Hwb Menter.

 

Ychwanegodd fod y prif gronfeydd wrth gefn sydd wedi'u dadweindio yn gysylltiedig â'r cynllun cyfalaf Gofal Ychwanegol (£308,000), y Gronfa Hawliadau Mawr (£248,000) a'r Gronfa Diogelwch Cymunedol (£100,000) yn dilyn adolygiad o'r gwariant tebygol ar y meysydd hyn.

 

Gofynnodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro i'r Aelodau nodi sefyllfa'r alldro rhagamcanol ar 2019-20.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Pennaeth Cyllid Dros Dro am y trosolwg, a nododd ei bod hi'n bwysig i CBSPO gydnabod ei sefyllfa gadarnhaol yn sgil derbyn grantiau hwyr gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegodd fod pennu cyllideb yn dal yn heriol heb wybod beth sydd angen ei wario bob blwyddyn, a'n bod yn wynebu heriau gwirioneddol, fel y gwelwyd yng ngofynion arbed bob blwyddyn.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant am eglurhad ynghylch y cynnydd yn nifer y Plant Dan Ofal (PDO) o 376 i 381, ac a oedd hyn yn dangos tuedd neu'n fân amrywiad yn unig.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod y gwasanaeth wedi gwneud cynnydd sylweddol ond ei fod ond megis dechrau, ac roedd angen amser o hyd i'r cynnydd ymwreiddio'n iawn.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr ymhelaethu ynghylch y cynnydd a gafwyd gyda Maple Tree House. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod Maple Tree House wedi agor flwyddyn yn ôl, a bod gan y cyfleuster 16 o blant sy'n cael mynediad i'r uned frys, a bod 6 o blant wedi cael eu derbyn i'r uned asesu. Dyma ganlyniad cadarnhaol, oherwydd byddai'r plant hyn wedi gorfod mynd allan o'r sir i dderbyn gofal, ar gost o oddeutu £4,000 yr wythnos. Ychwanegodd fod y grant cymorth tai wedi ariannu 7 uned o gymorth 24 awr, a 4 lle ar gyfer llety cam-i-lawr. Dywedodd hefyd y bu 2 achos penodol yn y 6 mis diwethaf lle rhoddwyd darpariaeth gan nad oedd lleoliad ar gael yng Nghymru na Lloegr i'r plant dan sylw, oherwydd eu hanghenion neilltuol.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y sefyllfa o ran recriwtio a chadw gofalwyr maeth. Ar hyn o bryd, yr oedd 62 o leoliadau gofal maeth annibynnol a 140 o leoliadau cyffredinol. Yn ogystal â hyn, yr oedd 220 o leoliadau gofal maeth mewnol, a oedd fymryn yn uwch na'r 209 yn 2018-19. Ychwanegodd fod ffynonellau eraill o gymorth dan ystyriaeth, felly teimlai fod mecanweithiau cymorth gofal maeth ar y trywydd iawn. Roedd hyn yn cynnwys defnydd hefyd o'r Gronfa Gofal Integredig, yn ogystal â swyddi gweithiwr cymorth ymarferol sy'n gweithio gyda theuluoedd maeth i ymchwilio i broblemau a'u datrys. Ychwanegodd y gellir cynnig cymorth ychwanegol hefyd ar gyfer pobl ifanc sy'n mynd drwy gyfnodau anodd yn eu harddegau, yn ogystal â chymorth y tu allan i oriau os oes angen.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant am yr ymateb cynhwysfawr, ac i'r tîm am ei waith, yn enwedig am ei fod yn gweithio dan bwysau parhaus.

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei bod hi'n amlwg bod tîm y gwasanaethau cymdeithasol wedi bod yn weithgar, a bod y newidiadau a oedd wedi arwain at welliannau i'r gwasanaeth bellach yn dwyn ffrwyth.

 

Dywedodd yr Arweinydd mai rhagolwg yn unig oedd y gyllideb ar hyn o bryd, yn hytrach na'i bod yn ffigur pendant. Gallai newid am amryw o resymau wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi, ee cerbydau graeanu ychwanegol yn y gaeaf. Gofynnodd a ellid cyflwyno adroddiad diweddaru i'r Cabinet mewn 3 mis, ac adrodd am unrhyw ddatblygiadau o bwys cyn hynny os oedd angen.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

  1. Yn nodi sefyllfa'r alldro refeniw rhagamcanol ar gyfer 2019-20

Yn gofyn am adroddiad diweddaru mewn 3 mis ac i unrhyw ddatblygiadau o bwys gael eu hadrodd cyn hynny.

Dogfennau ategol: