Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Y Diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 3 2019-20

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad a oedd:

 

  • Yn rhoi'r diweddaraf am Raglen Gyfalaf 2019-20 ar 31 Rhagfyr 2019 (Atodiad A)
  • Yn gofyn am gytundeb y Cabinet i gyflwyno adroddiad i'r Cyngor er mwyn cymeradwyo rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2019-20 hyd 2028-29 (Atodiad B)
  • Yn nodi rhagamcan o ddangosyddion darbodus a dangosyddion eraill ar gyfer 2019-20 (Atodiad C)

 

Dywedodd fod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 fel y cawsant eu diwygio, yn cynnwys darpariaethau manwl o'r rheolaethau cyllid cyfalaf a chyfrifyddu.

 

Ychwanegodd fod y Cyngor, ar 20 Chwefror 2019, wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2019-20 hyd 2028-29 yn rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC). Diweddarwyd a chymeradwywyd y rhaglen gyfalaf ddiwethaf gan y Cyngor ar 23 Hydref 2019.

 

Esboniodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod yr adroddiad hwn yn rhoi'r newyddion diweddaraf am y meysydd a ganlyn:

 

  • Monitro Rhaglen Gyfalaf 2019-20
  • Rhaglen Gyfalaf 2019-20 Ymlaen
  • Monitro Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill
  • Monitro'r Strategaeth Gyfalaf

 

Monitro Rhaglen Gyfalaf 2019-20

Mae'r rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2019-20 ar hyn o bryd yn creu cyfanswm o £33.700 miliwn, y mae £15.057 miliwn ohono wedi'i fodloni o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO), gan gynnwys derbyniadau cyfalaf a chyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn sydd wedi'u clustnodi, a'r £18.643 miliwn sy'n weddill o adnoddau allanol, gan gynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol. Roedd gwybodaeth bellach am raglen gyfalaf bob cyfarwyddiaeth o 2019 wedi'i chynnwys yn nhabl 1 yr adroddiad.

 

Esboniodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod tabl 2 yr adroddiad yn rhoi crynodeb o ragdybiaethau ariannu cyfredol rhaglen gyfalaf 2019-20.

 

Ychwanegodd fod Atodiad A yn rhoi manylion cynlluniau unigol o fewn y rhaglen gyfalaf, gan ddangos y gyllideb a oedd ar gael yn 2019-20 o gymharu â'r gwariant a ragamcanwyd.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod nifer o gynlluniau eisoes wedi'u nodi'n gynlluniau lle'r oedd angen llithro'r gyllideb i flynyddoedd nesaf 2020-21 a thu hwnt. Roedd angen cyfanswm o £5.158 miliwn o lithriant yn chwarter 3, a oedd yn cynnwys y cynlluniau a ganlyn:

 

  • Neuadd y Dref Maesteg (£1.6 miliwn)
  • Hyb Cymunedol - Ysgol Gyfun Brynteg (£0.768 miliwn)
  • Darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn Ysgol Gynradd Cefn Cribwr
  • (£0.387 miliwn)
  • Ravens Court (£0.442 miliwn)
  • TAC Parciau/Pafiliynau/Canolfannau Cymunedol (£0.66 miliwn)
  • Asedau Anweithredol (£0.48 miliwn)

 

Rhaglen Gyfalaf 2019-20 a Thu Hwnt

Ers mis Hydref 2019, dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod nifer o gynlluniau newydd wedi'u hariannu'n allanol ac incwm ychwanegol wedi'u cymeradwyo, a bod hynny wedi'i ymgorffori yn y rhaglen gyfalaf, gan gynnwys y canlynol:

 

  • Hyb Cymunedol - Ysgol Gyfun Brynteg (£0.284 miliwn)
  • Cymorth cyfalaf ar gyfer gweithredu ac ehangu casgliadau
  • cartref ar wahân ar gyfer gwastraff cynnyrch hylendid amsugnol (£0.238 miliwn)
  • Cronfa Gwella Eiddo Canol Tref (£0.1 miliwn)
  • Grant Byw yng Nghanol y Dref (£0.05 miliwn)

 

Dywedodd fod newidiadau o bwys i gynlluniau eraill hefyd:

 

  • Cynllun Rheoli Risg Arfordirol - Porthcawl (£6.032 miliwn)
  • Rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif
  • Darpariaeth Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg
  • Grant Cynnal a Chadw Ysgolion
  • Gwaith ar Anghenion Cymhleth a Meddygol mewn Ysgol
  • Benthyciad Cwm Llynfi

 

Ychwanegodd fod nifer o gynlluniau eraill yn y Rhaglen Gyfalaf yr oedd disgwyl iddynt dderbyn cadarnhad ynghylch cyllid allanol dros gyfnod y gaeaf. Cyn gynted ag y byddai'r gymeradwyaeth yn hysbys, gallai hynny olygu bod angen ailbroffilio cynlluniau eraill, ac nid oedd y Rhaglen Gyfalaf wedi cael ei diweddaru ar y pryd ar gyfer y cynlluniau hynny. Ymhen amser, bydd adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno gerbron y Cabinet a'r Cyngor i'w cymeradwyo pan fydd gwybodaeth bellach ar gael yn eu cylch. Mae Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig wedi'i chynnwys yn Atodiad B yr adroddiad.

 

Monitro Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill 2019-20

Esboniodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod y Cyngor, ym mis Chwefror 2019, wedi cymeradwyo'r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2019-20, a oedd yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2019-20 hyd 2021-22 ynghyd â rhai dangosyddion lleol.

 

Dywedodd mai pwrpas y Strategaeth Cyfalaf yw rhoi trosolwg o'r modd y mae gwariant cyfalaf, cyllid cyfalaf a gweithgarwch rheoli trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau, a rhoi trosolwg o'r modd y rheolir risg gysylltiedig a'r goblygiadau o ran cynaliadwyedd i'r dyfodol.

 

Dywedodd fod Atodiad C yr adroddiad yn cynnwys manylion dangosyddion gwirioneddol 2018-29, y dangosyddion amcangyfrifedig ar gyfer 2019-20 a nodwyd yn Strategaeth Gyfalaf y Cyngor, a'r dangosyddion rhagamcanol ar gyfer 2019-20 yn seiliedig ar y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig.

 

Monitro'r Strategaeth Gyfalaf

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod y Strategaeth Cyfalaf hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i fonitro buddsoddiadau nad ydynt yn gysylltiedig â rheoli trysorlys a rhwymedigaethau eraill hirdymor. Dywedodd fod gan y Cyngor bortffolio presennol o fuddsoddiadau sydd wedi'i seilio'n llwyr yn y Fwrdeistref Sirol, a hynny'n bennaf yn y sectorau swyddfa a diwydiannol. Yn gyffredinol, mae'r ffrydiau incwm wedi'u gwasgaru rhwng y buddsoddiadau swyddfa sengl ac aml-osod ar Barc Gwyddoniaeth Pen-y-bont ar Ogwr. Cyfanswm gwerth yr eiddo buddsoddi oedd £4.635 miliwn ar 31 Mawrth 2019.

 

Ychwanegodd fod gan y Cyngor nifer o Rwymedigaethau Hirdymor Eraill, a oedd wedi'u cynnwys yn y Strategaeth Gyfalaf. Darparwyd manylion am y rhain yn Adroddiad Chwarter 2 i'r Cabinet. Ni chymerwyd unrhyw fenthyciadau newydd yn Chwarter 3.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol ar ran o’r adroddiad a drafodai Neuadd y Dref Maesteg a'r ffigurau a ddarparwyd yn gysylltiedig â hynny. Er bod y costau'n uwch nag a ragwelwyd yn flaenorol, dywedodd mai'r nod oedd sicrhau bod neuadd y dref wedi'i ddiogelu am y tymor hir, yn hytrach nag ymrwymo gwariant uwch a mwy mynych ar gyfer hyn yn y tymor byr.

 

Cytunai'r Arweinydd â'r pwynt a wnaed, a phwysleisiodd bwysigrwydd sicrhau Neuadd y Dref Maesteg ar gyfer y tymor hir. Gobeithiai y byddai'r buddsoddiad uwch yn diogelu'r adeilad am y 30 i'r 40 mlynedd nesaf.

 

Mynegodd y Dirprwy Arweinydd ddiolch am y grantiau ychwanegol a dderbyniwyd a oedd wedi galluogi CBSPO i gyflawni nifer o gynlluniau buddiol ledled y fwrdeistref. Fodd bynnag, dywedodd fod angen o hyd i'r Cyngor sicrhau ei fod yn gwario'n ddarbodus, gan sicrhau ein bod yn meddwl am y tymor hir.

 

Roedd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol yn falch o weld bod yr adroddiad yn cynnwys amrywiaeth o gynlluniau. Ychwanegodd ei bod hi'n arbennig o falch o weld buddsoddiad mewn asedau, wrth gaffael adeilad swyddfa a fyddai'n cynhyrchu incwm o £0.056 miliwn y flwyddyn.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o weld y ddarpariaeth ADY yn Ysgol Gynradd Cefn Cribwr, gan gynnwys cael gwared â'r ystafelloedd dosbarth dros dro. Diolchodd i Reolwr y Rhaglen Ysgolion am y gwaith yr oedd y tîm wedi'i gyflawni er mwyn datblygu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei fod hefyd yn fodlon â'r ddarpariaeth ADY yn Ysgol Gynradd Cefn Cribwr, a'i bod yn ysgol gynhwysol iawn a oedd wedi bod yn cydweithio â'r Awdurdod Lleol ers sawl blwyddyn er mwyn sicrhau'r ddarpariaeth ychwanegol hon. Esboniodd fod 3 lleoliad seiliedig ar adnoddau wedi'u sefydlu i blant ag ADY, a'u bod wedi gwneud gwaith anhygoel ar hyn, gan gynnwys addasu rhai o'r ystafelloedd dosbarth. Ychwanegodd hefyd fod y gymuned wedi arwain llawer o'r gwaith, drwy godi arian i'r ysgol. Esboniodd fod hyn nid yn unig yn newyddion da i'r ysgol, ond hefyd i deuluoedd, o ran sicrhau bod eu plant yn derbyn y ddarpariaeth ofynnol yn ysgolion y Fwrdeistref.

 

Dywedodd yr arweinydd fod hyn yn newyddion ardderchog a bod yr awdurdod wedi gwneud cynnydd da dros y blynyddoedd o ran darparu cymorth ar gyfer anableddau corfforol mewn ysgolion o fewn y fwrdeistref. Ychwanegodd ei fod yn falch o weld 75% o grant ariannu oddi wrth Lywodraeth Cymru a oedd i gyfrif am £4.523 miliwn tuag at y Cynllun Rheoli Risg Arfordirol.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

  • yn nodi rhaglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2019-20 am y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2019 (Atodiad A);

 

  • yn cytuno y dylid cyflwyno'r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig (Atodiad B) i'r Cyngor i'w chymeradwyo;

 

yn nodi'r Dangosyddion Darbodus a'r Dangosyddion Eraill ar gyfer 2019-20 (Atodiad C).

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z