Agenda item

Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol adroddiad a ofynnai am gymeradwyaeth i'r Cabinet ymrwymo i gontract â Knox and Wells Ltd i ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg.

 

Esboniodd mai adeilad rhestredig gradd 2 mewn ardal gadwraeth oedd Neuadd y Dref Maesteg. Yr oedd mewn man amlwg yng Nghanol Tref Maesteg ac yn ganolbwynt i'r celfyddydau ac i weithgareddau cymunedol yng Nghwm Llyfni. Byddai'r gwaith ehangu yn golygu bod modd cael mwy o gyfleusterau fel ystafelloedd hyfforddi a llyfrgell ac ati.

 

Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod yr awdurdod wedi defnyddio tîm amlddisgyblaethol i ddarparu'r dyluniad cysyniadol a'r gost ar gyfer y gwaith trwsio, adfer ac estyn arfaethedig ar Neuadd y Dref Maesteg. Roedd y tîm dylunio yn cynnwys:

 

  • The MACE Group - Rheoli prosiect ac ymgynghori ynghylch costau

 

  • Knox and Wells Ltd - Contractwyr Dylunio ac Adeiladu (wedi'u penodi ar hyn o bryd ar gyfer eu gwasanaethau dylunio proffesiynol)

 

  • Purcell Architects - Penseiri

 

  • Musker Sumner partnership - Peirianwyr Sifil

 

  • Hoare Lea - Ymgynghorwyr Mecanyddol a Thrydanol

 

 

Hyd yma mae'r tîm dylunio wedi:

 

 

  • cynnal amryw o arolygon o fewn yr adeilad

 

  • datblygu'r dyluniadau ymlaen yn unol â chanfyddiadau'r arolwg

 

  • darparu cynllun costau arfaethedig

 

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod Neuadd y Dref wedi cau ym mis Hydref 2019, a bod Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi gwagio'r adeilad. Oherwydd oedi wrth ddychwelyd tendrau is-gontractwyr, cafwyd ychydig oedi cyn dechrau adeiladu. Fodd bynnag, mae'r prosiect bellach wedi cyrraedd y pwynt lle mae angen ymrwymo i ail gam y contract dylunio ac adeiladu, fel bo modd cychwyn gwaith adeiladu. Gwerth contract yr elfen hon fydd £6.5 miliwn o gyfanswm cost y prosiect o £8.2 miliwn a oedd wedi'i gynnwys yn adroddiad Diweddariad Rhaglen Gyfalaf Chwarter 3 a gyflwynwyd gerbron y Cabinet ar 21 Ionawr 2020, a gerbron y Cyngor i'w gymeradwyo ar 22 Ionawr 2020.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol amlinelliad i'r Aelodau o'r Asesiad Effaith Cydraddoldeb a'r asesiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a oedd wedi'u cynnwys yn adrannau 6 a 7 o'r adroddiad.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y cynllun hwn yn fuddsoddiad hirdymor, ac er ei bod hi'n anodd cynllunio'r mathau hyn o gostau, ei fod yn fuddsoddiad gwerth chweil er mwyn diogelu adeilad pwysig am flynyddoedd i ddod. Adleisiodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio y sylwadau hyn, ac ychwanegodd ei fod yn gynllun strategol ar gyfer canol y dref.

 

Nododd y Prif Weithredwr ei bod hi'n bosibl y ceir llawer o sylw i'r cynllun yn y cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol. Roedd hi'n bwysig felly sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol pa mor bwysig yw’r ymrwymiad i fuddsoddi yn yr adeilad am y tymor hir.

 

Adleisiodd Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y sylwadau hyn. Diolchodd i Halo ac ARWEN am eu cefnogaeth drwy gydol y broses, ac roedd yn edrych ymlaen at gael gweld y canlyniad wrth i'r gwaith ar y cyfleuster pwysig hwn gael ei gwblhau.

 

Roedd yr Arweinydd yn gobeithio y byddai'r Cyngor llawn yn cymeradwyo datblygiad Neuadd y Dref Maesteg am ei bod yn bwysig cynnal ei threftadaeth leol.

 

Holodd yr Arweinydd lle'r oedd y gwaith celf a oedd wedi'i greu gan artist lleol. Dywedodd fod y gwaith celf wedi cael ei dynnu i lawr a'i storio yn dilyn gwaith i ailwampio Siambr y Cyngor flynyddoedd yn ôl. Ychwanegodd y byddai'n syniad da cael hyd i'r gwaith hwnnw a'i ailarddangos yn Neuadd y Dref Maesteg.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor:

 

  • Yn rhoi awdurdod dirprwyol i'r Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Adran 151 a'r Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio, ymrwymo i gontract adeiladu gwerth £6.5 miliwn â Knox and Wells Ltd, a'r holl gyfryw ddogfennau contractio eraill ategol, fel bo'r angen, er mwyn cwblhau prosiect Adeiladu Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg.

 

Dogfennau ategol: