Agenda item

Cynllun Shopmobility Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol adroddiad a ofynnai am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cynigion i fodloni'r gofyniad i ostwng cyllideb y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn gysylltiedig â gweithredu Cynllun Shopmobility Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymuned gefndir y cynllun, a dywedodd mai CBSPO oedd yn ei weithredu ym maes parcio aml-lawr Bracla, a'i fod yn rhoi amrywiaeth o ddyfeisiau symudedd ar fenthyg i aelodau'r cyhoedd sy'n ei chael hi'n anodd symud o gwmpas. Roedd y cyfleuster ar agor rhwng 08:30 ac 17:00.

 

Er mwyn defnyddio'r cynllun, esboniodd fod angen i gwsmeriaid ymuno (yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd) a thalu ernes o £2 wrth ddefnyddio'r peiriannau. Wrth eu dychwelyd roedd cwsmeriaid wedyn yn gallu gofyn am y £2 yn ôl, ond roedd hi'n werth nodi bod mwyafrif y cwsmeriaid yn fodlon cyfrannu'r £2.

 

Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol mai'r nod oedd galluogi'r cynllun i fod yn fwy hunangynhaliol a dibynnu llai ar gymhorthdal y Cyngor. Dywedodd wrth yr Aelodau fod costau cyfredol y cynllun wedi'u hamlinellu yn 4.2 yn yr adroddiad. Yr oedd amryw o newidiadau wedi'u cynnig i'r cynllun, a amlinellwyd yn 4.7 yn yr adroddiad. Ceir crynodeb ohonynt isod:

 

  • Newid yr amser agor o 08:30am - 5pm i 10am - 4pm
  • Cyflwyno ffi gofrestru flynyddol o £5
  • Cyflwyno ffi o £5 wrth logi cyfarpar
  • Gwneud cais am Gyllid Grant

 

Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod proses ymgynghori wedi'i chynnal lle'r oedd 48% o'r ymatebwyr o blaid archwilio opsiynau codi tâl am y gwasanaeth Shopmobility. Fodd bynnag, dywedodd fod 39% o'r ymatebwyr yn gwrthwynebu'r ffi llogi o £5 ac yn teimlo y byddai'n anfforddiadwy i'r mwyafrif o ddefnyddwyr. O ran yr amseroedd agor, nid oedd 80% o'r ymatebwyr yn gwrthwynebu'r cais hwnnw, ond yn 20% o'r ymatebion nodwyd y gallai hyn effeithio naill ai ar y gallu i siopa'n gynnar neu ar apwyntiadau meddygol.

 

Ychwanegodd fod y safbwyntiau wedi cael eu hystyried a chynigion diwygiedig wedi'u cyflwyno yn eu sgil, a oedd yn cynnwys y canlynol:

 

  • Diwygio'r cynnig i newid yr amseroedd agor i 10am tan 4pm, er mwyn agor o 9:15am tan 4pm, gan leihau'r amser gweithredol o 51 awr i 40.5 awr. 
  • Newid y ffi a gynigiwyd o £5 i £3. Ar sail defnydd 2018-19, byddai hyn yn creu cyfraniad ariannol o £12,168.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol am yr adroddiad, a dywedodd fod yr ymgynghoriad wedi bod yn gadarnhaol ac wedi cynnwys llawer o safbwyntiau.  Adleisiodd yr Aelod Cabinet Cymunedau bwynt yr Arweinydd, a dywedodd fod y cynigion terfynol yn dangos ein bod yn gwrando ar y cyhoedd, yn gwerthfawrogi eu barn ac yn rhoi ystyriaeth i'w safbwyntiau.

 

Roedd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol yn cytuno â'r pwyntiau hyn ac yn falch o weld ystyriaeth o safbwyntiau defnyddwyr gwasanaeth yn yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb.

 

Gofynnodd i'r Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol am eglurhad ynghylch lefel y defnydd am ei bod hi'n ymddangos fel pe bai'r defnydd wedi gostwng.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod hynny i'w ddisgwyl gan fod prisiau prynu cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd yn gostwng o hyd, a'i bod hi'n haws eu storio ee, mewn cistiau ceir ac ati. Roedd llawer o bobl felly yn prynu un eu hunain gan fod hynny'n fwy cyfleus.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol am adolygiad o'r cynllun diwygiedig ymhen amser, er mwyn gweld sut yr oedd y newidiadau newydd wedi cael eu gweithredu, ac effaith y newidiadau hynny.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:

 

  1. yn cymeradwyo gweithredu'r cynigion a ganlyn o 1 Ebrill 2020 er mwyn bodloni'r gofyniad i leihau cyllidebau yn y SATC yn gysylltiedig â gweithredu Cynllun Shopmobility Pen-y-bont ar Ogwr:

 

  • Newid amser agor Shopmobility o 08:30am - 5pm i 09:15am - 4pm

 

  • Cyflwyno ffi gofrestru flynyddol o £5, gan gynnwys y sesiwn logi gyntaf wrth adnewyddu aelodaeth neu ar gyfer aelodaeth newydd.

 

  • Cyflwyno ffi logi ddyddiol o £3

 

  • Yn rhoi awdurdod dirprwyol i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau awdurdodi newidiadau i wasanaeth Shopmobility Pen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol.

 

Nodi y bydd Swyddogion yn parhau i chwilio am gyfleoedd i gefnogi'r gwasanaeth drwy gyllid grant allanol.

Dogfennau ategol: