Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24

Gwahoddedigion

 

Lindsay Harvey – Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cynghorydd Phil White, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Nicola EchanisPennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd

Joanne Norman, Rheolwr Grwp Cynllunio Ariannol a Rheoli Cyllidebau dros do

Victoria Adams, Rheolwr CyllidRheoli Cyllidebau: Cymunedau, Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Hannah Castle, Prifathro, Ysgol Gyfun Cynffig - Cadeirydd Fforwm Cyllideb Ysgolion

Neil Clode, Prifathro, Ysgol Gynradd Llangewydd - Is-gadeirydd Fforwm Cyllideb Ysgolion

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Strategaeth Ddrafft Ariannol Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24 gan Reolwr y Gr?p Cynllunio Ariannol a Rheoli Cyllidebau. Mae’r strategaeth yn cyflwyno blaenoriaethau gwario'r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd cyllideb sydd wedi'u targedu ar gyfer yr arbedion angenrheidiol.

 

Eglurodd y Rheolwr Gr?p Cynllunio Ariannol a Rheoli Cyllidebau fod cyllidebau ysgolion wedi'u diogelu unwaith eto rhag y targed effeithlonrwydd o 1% yn 2020-21 ar ôl cael setliad dros dro gwell na'r disgwyl gan Lywodraeth Cymru. Yn ogystal, roedd y SATC drafft yn cynnwys cyllid ar gyfer sawl agwedd o gyllideb y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd y mae cryn bwysau arnynt, gan gynnwys cyllid i ysgolion.

 

Cyfeiriodd aelod at y toriad o 10% i'r cyfraniad i Gonsortiwm Canolbarth y De (CCD) a gofynnodd pa mor gynaliadwy oedd hyn o gofio bod toriadau tebyg wedi'u gwneud dros y tair blynedd diwethaf. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod arbedion o 17.5% wedi'u gwneud dros y 5 mlynedd diwethaf ac roedd hyn yn anodd i CCD. Er mwyn lleihau gorbenion, roedd CCD wedi symud i safle newydd ac roeddent yn canolbwyntio ar gynnal gwasanaethau rheng flaen gan leihau staff ystafell gefn ar yr un pryd. Cytunodd Penaethiaid Ysgol Gyfun Cynffig ac Ysgol Gynradd Llangewydd nad oeddent wedi gweld unrhyw newid hyd yma o ran sawl gwaith yr oedd y Cynghorwr Her yn ymweld na chwaith i’r gweithdai a’r cynadleddau a gynhaliwyd. Gofynnodd aelod a oedd pob awdurdod yn gwneud toriadau tebyg. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y cytunai’r Cydbwyllgor ar yr un gostyngiad yn gyffredinol a mynegodd y byddai’r gostyngiad terfynol tebygol yn llai na 10%. 

 

Gofynnodd aelod a fu toriadau o fewn y Gyfarwyddiaeth neu ai’r ysgolion a welodd y toriadau llymaf. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y bu toriadau sylweddol i staff dros y 5 mlynedd diwethaf ac y gwnaed arbedion sylweddol o ran rheoli swyddi gwag.

 

Cyfeiriodd aelod at Egwyddorion SATC ac yn arbennig at y dull "Un Cyngor". Credai nad oedd adrannau'n siarad â'i gilydd a rhoddodd enghraifft o gludiant o'r cartref i'r ysgol a llwybrau diogel i'r ysgol. Darparwyd cludiant am ddim i'r ysgol i blant yng Nghoety a oedd yn byw'n agos i'r ysgol ond na allent gerdded am nad oedd llwybr diogel.

Dywedodd yr aelod na fu unrhyw gydgynllunio a bod ei hawgrym i godi estyniad ar dir sy'n ffinio ag ysgol sydd â gormod o blant ynddi, yn hytrach nag adeiladu ysgol newydd, wedi'i wrthod oherwydd cost adeiladu wal gynnal. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y bu llawer o sgyrsiau yngl?n â'r heriau cysylltiedig â llwybrau cerdded diogel. Roedd yn rhaid iddynt ddilyn canllawiau LlC ac roedd rhai achosion yn haws i'w datrys nag eraill. Ymdriniodd y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ag ysgolion ac estyniadau newydd ac yn aml roedd blaenoriaethau'n cystadlu â'i gilydd. Argymhellodd yr Aelodau y dylid cael agwedd “Un Cyngor”, gyda swyddogion Addysg, Cynllunio a Chyllid yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu llwybrau cerdded a mannau croesi a thrwy hynny leihau'r ddibyniaeth ar gludiant i'r ysgol, a'i gost.

 

Gofynnodd aelod pa effaith a gafwyd ar lefelau salwch yng ngoleuni'r toriadau staff ac a oedd yr awdurdod yn defnyddio staff asiantaeth. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd nad oedd lefelau salwch wedi gwella gyda nifer fach o staff yn absennol am gyfnod sylweddol. Adroddodd hefyd fod straen cysylltiedig â gwaith wedi cynyddu ers y llynedd. Roedd cynllun iechyd galwedigaethol cefnogol iawn ac roeddent yn gweithio'n agos gydag Adnoddau Dynol i gefnogi staff i ddychwelyd i'r gwaith. Roeddent yn osgoi defnyddio staff asiantaeth lle bynnag y bo modd. Cytunodd Penaethiaid Ysgol Gyfun Cynffig ac Ysgol Gynradd Llangewydd y byddai athro cyflenwi ar y safle y rhan fwyaf o ddiwrnodau, ac er eu bod yn ceisio gweithredu systemau roedd yn anodd ei osgoi. Ni welsant gynnydd mewn straen cysylltiedig â gwaith ond gwelsant fod staff yn agored i anhwylderau bychain.

 

Gofynnodd aelod a oedd cyllidebu datganoledig yn gweithio ac a allai'r awdurdod fod yn ffyddiog bod ysgolion yn cael y maint cywir o gyllid. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod 59 o ysgolion â nod cyffredin a bod cynllunio'n anodd. Y pwysau mwyaf oedd codiadau cyflog a phensiwn athrawon ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Awst 2020 a oedd wedi'u hariannu'n llawn, ac effeithiau dyfarniadau cyflog athrawon yn y dyfodol a fyddai'n dod i rym o fis Medi 2020. Canfuwyd hefyd bod angen cymorth ychwanegol 1:1 ar nifer sylweddol o ddisgyblion ysgol arbennig. Eglurodd  Rheolwr y Gr?p Cynllunio Ariannol a Rheoli Cyllidebau y dylai'r codiad cyflog a phensiwn gael ei ariannu'n llawn ar gyfer 20/21 a bod £185,000 wedi'i nodi yn bwysau cyllidebol ar gyfer cymorth 1:1 i ddisgyblion ysgol arbennig.

 

Roedd Penaethiaid Ysgol Gyfun Cynffig ac Ysgol Gynradd Llangewydd yn siomedig nad oedd unrhyw arian ychwanegol wedi'i ddyrannu i ysgolion, er y bu gwelliant sylweddol yn y setliad. Roedd pwysau cyflog a phensiynau athrawon wedi'u bodloni, a oedd yn eu cadw ar eu sefyllfa bresennol. Nid oedd mwy o gyllid mewn termau gwirioneddol a bu'n rhaid iddynt barhau i fod yn hynod greadigol i ymdrin â phwysau newydd ar y gyllideb. Croesawodd y Pwyllgor y setliad cyllideb gwell ond roedd o'r farn bod y Cyngor yn aros yn ei hunfan, ac y byddai'n anos gwneud arbedion yn y dyfodol gan fod llawer o ysgolion wedi gweld cynnydd yng ngofynion ymddygiadol disgyblion, yr oedd yn rhaid i ysgolion eu hariannu eu hunain, ac a fyddai'n anos eu hariannu.

 

Gofynnodd aelod am ragor o wybodaeth am y gyllideb ar gyfer cymorth ymddygiad. Gallai ymddygiad gwael arwain at waharddiadau parhaol a gallai hyn effeithio ar staff a'u lles. Nid oedd yr arolwg staff blaenorol wedi'i anfon at staff ac athrawon yn yr ysgol a phe bai'r staff yn anhapus yna gallai hynny arwain at salwch ac absenoldeb. Nododd yr Aelodau fod diffyg yn y gyllideb yn ychwanegu at y broblem. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod gan hanner yr ysgolion ddiffyg yn eu cyllidebau a bod gan rai ddiffygion cyllideb sylweddol. Os oedd y diffyg yn fwy na 5%, rhoddwyd cynllun adfer diffyg ar waith. Gwelwyd fod pwysau ar gyllidebau oherwydd cymorth gydag ymddygiad, ac roedd ysgolion yn gwneud gwaith hynod wrth gynnal presenoldeb disgyblion anodd iawn. Roedd hefyd yn cydnabod dyletswydd statudol amddiffyn staff. Mynegodd y Pwyllgor bryder y gallai'r cynnydd yng ngofynion ymddygiadol disgyblion gael effaith ar les staff, a allai arwain, yn ei dro, at gynnydd mewn salwch a rhoi pwysau ar gyllidebau ysgolion. Argymhellodd yr Aelodau y dylid gwneud cais i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd am gynnwys staff ysgol yn yr arolwg staff, gan ofyn am eu barn ar reolaeth, lles yn y gweithle, cyfathrebu o fewn y Cyngor, a chyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu.

 

Gofynnodd aelod beth oedd y galw am CLG Landlord Corfforaethol ac a oedd yn gweithio. Eglurodd Pennaeth Ysgol Gyfun Cynffig eu bod wedi dewis haen 1. Nid oedd yn sicr pa mor effeithiol ydoedd ac roedd yn ymddangos bod safbwyntiau gwahanol rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd a haen 1 a haen 2. Dywedodd aelod arall fod y system, o'i phrofiad hi, yn gweithio'n dda gyda materion wedi'u categoreiddio a'u datrys yr un diwrnod, gan fwyaf. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod hyn yn dod o fewn y Gyfarwyddiaeth Gymunedau. Argymhellodd yr Aelodau y dylid rhoi eitem ar y Flaenraglen Waith yngl?n â defnydd ysgolion o'r gwasanaeth Landlord Corfforaethol.

 

Cododd aelod fater ymddygiad a gwaharddiadau disgyblion a'r effaith ar staff. Gofynnodd yr Aelodau pwy oedd yn talu am gludo plentyn i ysgol wahanol yn dilyn ei wahardd. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod lles staff yn hollbwysig. Cadarnhaodd na fyddai unrhyw gost ychwanegol i'r ysgol ac mai dim ond pan fetho popeth arall y cai disgybl ei wahardd. Mae pob ysgol yn gweithio’n eithriadol o galed i gynnal presenoldeb. Weithiau gallai dechrau newydd mewn ysgol wahanol weithio, a byddai'r ALl yn talu'r gost. Roedd yr her yn fwy pan waharddwyd y plentyn ar 2 achlysur oherwydd cost hyfforddiant yn y cartref neu leoliad y tu allan i'r sir.

 

Gofynnodd aelod pa mor weladwy oedd y Swyddogion Cyswllt Ysgolion yn yr ysgolion a faint o gymorth a ddarparwyd gan yr heddlu. Eglurodd Pennaeth Ysgol Gyfun Cynffig fod ganddynt swyddog cyswllt heddlu ysgol a oedd yn bresennol am wahanol resymau megis troseddau cyllell a chamddefnyddio sylweddau. Roedd ar gael yn llai aml oherwydd toriadau ond roedd yn dal i weithio gyda'r plant. Gweithiai SCCH yn dda gyda'r ysgolion ond roedd lefel y cymorth a ddarparwyd ganddynt yn ymddangos yn anghyson ar draws yr ysgolion. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod gweithio mewn partneriaeth yn allweddol a'u bod yn gwneud llawer o waith gyda nifer o asiantaethau megis Cymorth Cynnar, CDA, SCCH a CAMHS. Argymhellodd yr Aelodau y dylid gofyn i'r Heddlu sefydlu'r gwahanol lefelau o gymorth a ddarperir gan yr Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol i gefnogi ysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Cyfeiriodd aelod at gludiant o'r cartref i'r ysgol ac yn benodol, y toriadau arfaethedig ar gyfer disgyblion ôl-16. Credai ei fod yn gwahaniaethu yn erbyn disgyblion a oedd yn byw ymhell o ysgolion gyfun heb unrhyw fai arnynt hwy eu hunain e.e. disgyblion a oedd yn byw yn y cymoedd ac yn mynychu Coleg Cymunedol y Dderwen. Gofynnodd hefyd beth oedd yn digwydd i addysg Ôl-16 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Byddai rhai o'r dewisiadau’n ei gwneud hi’n ofynnol i ddisgyblion deithio mwy, a sut oedd hynny'n cyd-fynd â chludiant o'r cartref i'r ysgol? Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd nad oedd addysg ôl-16 yn statudol ac nad oedd gofyniad i ddarparu trafnidiaeth, felly ni fyddai'n wahaniaethu o safbwynt cyfreithiol. Roedd diffyg yn y gyllideb felly roedd yn rhaid iddynt fynd ati i atal y dirywiad. Roeddent yn cyfarfod â gwahanol ddarparwyr ac yn ystyried amryw ddewisiadau, fel tocynnau teithio; ond roedd hyn yn her fawr iawn. Roeddent wrthi'n paratoi papur i'w gyflwyno i'r Cabinet ym mis Ebrill. Roeddent yn ymwybodol y gallai hyn effeithio ar gannoedd o ddisgyblion. Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei fod yn cydymdeimlo ond dyma'r ddegfed flwyddyn o gyni ac nad oedd diwedd mewn golwg. Roedd yn anodd gweld faint o deuluoedd mewn ardaloedd difreintiedig fyddai'n gallu fforddio trafnidiaeth. Roeddent yn ystyried sawl posibilrwydd ac efallai nad dull gweithredu cyffredinol yw'r ateb, ond ymdrin â phob achos yn unigol. 

 

Cododd aelod bryderon bod staff y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn gweithio gyda disgyblion ac nad oedd yr wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i'r ysgol. Nid dull gweithredu un-cyngor, i bob golwg. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y dylid cynnal cyfarfod tîm gyda chynrychiolydd o'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn bresennol, a chytunodd i ymchwilio i hyn.

 

Cyfeiriodd aelod at y cynnydd yn nifer y disgyblion sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim a gofynnodd a oedd hyn yn effeithio ar gyllidebau ysgolion. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a chost anghenion dysgu ychwanegol yn bwysau cyllidebol. Ychwanegodd Aelod arall fod nifer o ddisgyblion yn ei ward yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac y byddai'r ward hon hefyd yn dioddef pe dilëid cyfleoedd ôl-16 hefyd. Amheuai, hefyd, y ffordd y cai unrhyw gredyd ei ddileu yn y pen draw yn hytrach na’i fod yn crynhoi a chaniatáu i'r disgybl wario rhagor ar ddiwrnod arall. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y gofynnwyd i'r Cabinet edrych ar nifer o ddewisiadau gan gynnwys Clybiau Brecwast am ddim i ysgolion uwchradd, edrych ar bris prydau ysgol a chynlluniau arloesi ar gyfer gwyliau'r haf a'r Nadolig. Roedd Llywodraeth y Cynulliad yn edrych ar Glybiau Brecwast blwyddyn 7 ar gyfer disgyblion sy'n pontio. Roedd ystyriaeth i ddefnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion i brynu bwyd ar gyfer clwb brecwast bach, hefyd. Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar iddo fynd i fore agored i Ofalwyr Ifanc yng Ngholeg Cymunedol y Dderwen a siaradodd am anawsterau plant yn mynd i'r ysgol yn teimlo'n llwglyd. Roedd yn falch o fod yn rhan o fentrau Llywodraeth Cymru a CBS Pen-y-bont ar Ogwr a chydnabu fod staff ysgol yn cadw golwg ar ddisgyblion mewn angen ac yn eu cynorthwyo. Argymhellodd yr Aelodau y dylid sefydlu a ellid defnyddio Grant Datblygu Disgyblion i ddarparu bwyd.

        

 

ARGYMHELLION:

 

Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried cynigion y gyllideb ddrafft ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd, penderfynodd yr Aelodau wneud y sylwadau a'r argymhellion canlynol:

 

·           Croesawodd y Pwyllgor y setliad cyllideb gwell ond roedd o'r farn bod cyllidebau ysgolion yn aros yn eu hunfan ac y byddai'n anos gwneud arbedion yn y dyfodol gan fod llawer o ysgolion wedi gweld cynnydd yng ngofynion ymddygiadol disgyblion, yr oedd yn rhaid i ysgolion eu hariannu eu hunain ac a fyddai'n anos eu hariannu. Mynegodd y Pwyllgor bryder y gallai'r cynnydd yng ngofynion ymddygiadol disgyblion effeithio ar les staff, a allai arwain, yn ei dro, at gynnydd mewn salwch a rhoi pwysau ar gyllidebau ysgolion.

 

·           Bod eitem yn cael ei rhoi ar y Flaenraglen Waith ynghylch defnydd  ysgolion o’r gwasanaeth Landlord Corfforaethol.

 

·         Mewn perthynas ag AChD1 ac AChD41 Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol, Addysg Ôl-16 a'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion gyda datblygu ysgolion newydd a'i heffaith ar ddalgylchoedd presennol a Chytundebau Adran 106 mae angen dull Un-Cyngor gyda swyddogion Addysg, Cynllunio a Chyllid yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu llwybrau cerdded a mannau croesi a thrwy hynny ddiddymu'r ddibyniaeth ar gludiant i'r ysgol a chost cludiant i'r ysgol.  Y dylai llwybrau diogel i'r ysgol fod yn rhan o'r adolygiad addysg Ôl-16. 

 

·         Y dylid gwneud cais i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd gynnwys staff ysgol yn yr arolwg staff gan ofyn eu barn ar reolaeth, lles yn y gweithle, cyfathrebu o fewn y Cyngor, cyfleoedd  dysgu a datblygu.

 

·         Y dylid gwneud cais i'r Heddlu i sefydlu'r gwahanol lefelau o gymorth y mae'r Heddlu, Swyddogion Cymorth Cymunedol a Swyddogion Cyswllt Ysgolion yn eu darparu i gefnogi ysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol

 

Mewn perthynas ag AChD5, y cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, y dylid sefydlu a ellir defnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion i ddarparu bwyd i glybiau brecwast.

Dogfennau ategol: