Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24

Gwahoddedigion

 

Susan Cooper, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Cynghorydd Phil White, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cynghorydd Dhanisha Patel – Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau Dyfodol

Jacqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant

Christopher Morris, Rheolwr Cyllid - Rheoli Cyllidebau: Gwasanaethau cymdeithasol a Lles / Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ddrafft Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24 a oedd yn nodi blaenoriaethau gwario'r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd cyllideb sydd wedi eu targedu ar gyfer arbedion angenrheidiol. Roedd y strategaeth hefyd yn cynnwys rhagolygon ariannol ar gyfer 2020-2024 a drafft manwl o gyllideb refeniw 2020-21.

 

Amlinellodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y cytundeb dros dro gan Lywodraeth Cymru ac adroddodd bod cynnydd gwirioneddol o 4.57% wedi bod, neu £8.878 miliwn. Er bod hyn yn welliant sylweddol o gymharu â'r rhagdybiaeth "fwyaf tebygol", nid oedd yn cydnabod sawl gofyniad newydd y byddai'n rhaid i'r Cyngor eu bodloni.

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Gyllideb Refeniw Ddrafft 2020-21, y Cronfeydd a Glustnodwyd Defnyddiadwy a'r Pwysau Cyllidebol ar gyfer 2020-21. Amlinellodd hefyd y Cynigion Lleihau Cyllideb fel y rhestrwyd yn atodiad B yr adroddiad.  

 

Gofynnodd aelod pe bai mater yn croesi mwy nag un cyfarwyddiaeth, a fyddai staff yn ymwneud yn bennaf gyda'r hyn a fyddai'n berthnasol i'w cyfarwyddiaeth yn unig. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod sawl peth yn gorgyffwrdd, ee. roedd Cymorth Cynnar yn cael ei reoli yn Addysg, fodd bynnag roedd cyswllt anorfod gyda LAC. Fodd bynnag, un dull oedd gan yr awdurdod, waeth ymhle mae'r mater yn codi. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithas a Chymorth Cynnar bod gorgyffwrdd tebyg gydag Aelodau eraill o'r Cabinet a bod yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Nododd aelod arall ei bod yn cefnogi gweithio ar draws cyfarwyddiaethau, ond ei bod yn pryderu y gallai bod rhai meysydd nad oeddent wedi derbyn y sylw yr oeddent yn ei haeddu.

 

Gofynnodd aelod a oedd problemau gyda'r system atgyfeirio, ac yn benodol, atgyfeiriadau a neilltuwyd yn anghywir a oedd wedi cymryd peth amser i'w cydnabod. Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion bod rhai atgyfeiriadau wedi dod trwy'r pwynt mynediad cyffredin, lle roeddent wedi eu blaenoriaethu ar sail angen. Ar y cyfan, roedd proses gadarn mewn lle ar gyfer atgyfeirio aelodau, ac roedd y rhan helaeth o ymatebion wedi eu gwneud o fewn yr amserlen briodol. Os oeddent am gymryd mwy o amser, anfonwyd cydnabyddiaeth.

Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant bod pob atgyfeiriad yn ei maes yn dod trwy MASH. Roedd yr heddlu yn ymwneud ag atgyfeiriadau o natur ddifrifol ac yn ôl yr angen, trefnwyd cyfarfodydd yn cynnwys yr oll bartneriaid a gwnaed penderfyniad o fewn 24 awr. Roedd gan yr awdurdod gyfradd lwyddo o 100% gyda'r dangosydd hwnnw.

 

Gofynnodd aelod a oedd unrhyw duedd o safbwynt ystadegau salwch a'r goblygiadau ariannol. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod salwch yn broblem, fodd bynnag, yn ystod y chwarter diwethaf, roedd gwelliant wedi bod. Roedd hwn yn wasanaeth yn cynnig lefel uchel o ofal personol, a phan oedd aelod o staff yn sâl, roedd yn rhaid iddynt gael eu cyflenwi a oedd yn cael effaith uniongyrchol ar y gyllideb. Roedd ailfodelu gwasanaethau hefyd wedi cael effaith ar lefelau salwch, fodd bynnag, gobeithiwyd y byddai hyn yn gwella gydag amser.  Roedd yn rhaid i staff a oedd yn darparu gofal personol beidio â bod yn eu gwaith am o leiaf 48 awr os oeddent wedi profi dolur rhydd a chwydu ac roedd hyn hefyd wedi cael effaith. Roeddent wedi ceisio recriwtio staff achlysurol oherwydd ei fod yn rhatach na defnyddio staff asiantaeth, a chafodd hyn ei ymestyn i gynnwys recriwtio gweithwyr cymdeithasol achlysurol.

 

Cyfeiriodd aelod at y gost o wasanaethau gofal diwrnod a gofyn a oedd hyn yn gynaliadwy, beth oedd awdurdodau eraill yn ei wneud, a beth fyddai effaith yr isafswm cyflog. Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant bod Maple Tree House wedi agor ym mis Rhagfyr 2018, a bod y model newydd yn dal i gael ei ymsefydlu. Roedd galw cyson wedi bod, a heb y cyfleuster hwn, bydd y rhan helaeth o blant wedi cael eu gosod y tu allan i'r awdurdod o gost o thua £4,000 yr wythnos. Roedd angen iddynt ail ystyried y strwythur staffio ac yn y broses o recriwtio cronfa o staff teithiol. Gofynnodd aelod a oedd swyddogion wedi trafod â staff a phlant yn Maple Tree House. Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant eu bod wedi derbyn adborth ac roedd hi wedi ymweld â nhw o leiaf yn chwarterol ac wedi trafod â staff a phlant. Gofynnodd yr aelod pa ganran o blant oedd yn y lleoliad am amser hirach na'r disgwyl. Nid oedd gan y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant yr union ffigwr, ond ychwanegodd mai un plentyn yn unig oedd wedi bod yn y lleoliad yn hirach na'r terfyn amser o 28 diwrnod, ac roedd un plentyn wedi bod yn yr uned asesu am dros 6 mis, fodd bynnag, yn yr achos hwn, dyna oedd y llwybr gweithredu cywir, ac roedd y rheolyddion wedi cael gwybod. Ychwanegodd y byddai gr?p yn edrych yn benodol am LAC ym mis Chwefror, gyda'r nod o ddod o hyd i fwy o ddarpariaeth. Roeddent yn cael trafferth gyda dau blentyn yn benodol a oedd yn cyfrif am 35% o'r gwariant.

 

Gofynnodd aelod a oedd dull digyswllt o ran cyllid gan Gwm Taf. Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant ei fod yn rhedeg yn esmwyth mewn rhai ardaloedd, ond nid mewn eraill, ond ei fod yn dal yn ddyddiau cynnar.           

 

Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion eu bod yn edrych ar y ddemograffeg a chymhlethdod pobl ac yn cydnabod bod gwahanol ffyrdd o gynnig gwasanaeth. Roeddent wedi arbed swm sylweddol o arian eisoes ac yn ystyried gwasanaethau lleol. Roeddent hefyd yn ystyried gwneud y mwyaf o ddefnydd â phosibl o adeiladau fel Canolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hon yn uned ddementia arbenigol a oedd yn cynnig nifer o weithgareddau. Roedd darn o waith yn mynd rhagddo i adolygu gwasanaethau dydd a sut i wneud y mwyaf o adnoddau yn y gymuned. Awgrymodd aelod nad oedd angen i Ganolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr fod yng nghanol y dref a gellir ei hail-leoli mewn ardal arall haws ei fynychu a gyda chyfleusterau parcio gwell. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y byddai'r Ganolfan Adnoddau yn cynnig gwasanaeth dydd i bobl ag ymddygiad arbenigol. Roedd pobl ag ymddygiad cymedrol yn tueddu i aros yn lleol. Roedd rhwng 60 a 70 o bobl gydag anghenion cymhleth iawn yn mynychu'r Ganolfan Adnoddau. Roedd yn ffordd fwy effeithiol o reoli pobl ac roedd canlyniadau gwell. Roedd y ganolfan yn cynnwys pwll hydrotherapi ac ystafelloedd synhwyraidd, a'r farn broffesiynol oedd y byddai'n anodd darparu'r gwasanaethau hyn mewn ffordd wahanol. Roedd y ganolfan yn cael ei defnyddio rhwng 9am a 4pm bob dydd ac roeddent yn ystyried defnyddio'r ganolfan cymaint â phosibl y tu allan i'r oriau hyn. Roedd trafodaethau wedi eu cynnal gydag YMCA a Chwm Taf.

 

Y Rheolwr Cyllid, Rheoli Cyllid: Adroddodd Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod £766,000 wedi ei arbed ar ddarpariaeth gwasanaeth dydd ers 12/13.

 

Gofynnodd aelod a oedd cyllid wedi ei nodi i gymryd lle grantiau'r EU na fyddai ar gael mwyach. Adroddodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol ei bod wedi cael gwybod y bydd arian ar gael gan San Steffan, felly nid oedd yn rhy bryderus. Roedd y Cabinet a'r Arweinydd mewn cyswllt rheolaidd gyda swyddogion ac roeddent yn cynnwys Aelodau Seneddol er mwyn sicrhau nad oedd yr awdurdod yn colli allan.    

 

Gofynnodd aelod beth oedd yn digwydd gyda Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl gan fod targedau yn dal i gael eu methu. Adroddodd swyddogion bod adolygiad ar y gweill, bod yr adran wedi ei symleiddio, a'u bod yn disgwyl i ganlyniadau wella

 

Cododd aelod bryderon ynghylch absenoldeb 48 awr o'r gwaith yn dilyn dolur rhydd a chwydu ac a oedd hyn yn cael ei gofnodi yn erbyn cofnod salwch personol. Cynghorodd swyddog eu bod yn cynnal trafodaethau gydag Adnoddau Dynol ynghylch y mater.

 

Gan gyfeirio at LAC, adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod pob awdurdod lleol wedi cyflwyno strategaeth leihau a chynllun gweithredu. Roeddent yn gweithio gyda Chymorth Cynnar a Thai er mwyn sicrhau gostyngiad ac i ystyried dulliau a mentrau amgen.

 

Gofynnodd aelod beth fyddai'r effaith pe bai cynnydd yn yr isafswm cyflog a'r hawliad tâl. Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar eu bod yn adolygu'r sefyllfa ac yn cynnal trafodaethau ag Adnoddau Dynol. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaeth Cymdeithasol a Llesiant bod grant gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r materion ynghylch yr isafswm cyflog.

 

Nododd aelod, o ran gwasanaethau ar gyfer plant anabl, bod nifer y Dyddiau Darganfod wedi lleihau, bod Helping Hands wedi cau yn ddiweddar a bod yr YMCA dan bwysau. Gofynnodd a fyddai hyn yn cael effaith ar y gyllideb mewn blynyddoedd i ddod. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod lleihad wedi bod yn y ddarpariaeth o gynlluniau chwarae, fodd bynnag, roedd y Tîm Plant Anabl wedi llwyddo i gael gafael ar gronfeydd a grantiau newydd. Roedd ganddynt hefyd berthynas gadarn gyda'r trydydd sector i chwilio am opsiynau eraill. Ymatebodd yr aelod nad oedd y ddarpariaeth gywir o reidrwydd ar gael ac roedd hyn yn effeithio ar deuluoedd a'r mater o seibiant. Adroddodd swyddogion eu bod yn edrych ar y maes hwn.

 

ARGYMHELLIAD:

 

Yn dilyn ystyriaeth y Pwyllgor o gynigion y gyllideb drafft ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, roedd Aelodau yn benderfynol o wneud y sylwadau ac argymhellion canlynol:

 

Mewn perthynas â SSW26, yn benodol, Canolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr, bydd y pwyllgor yn croesawu archwiliad pellach i safon y ddarpariaeth ac effeithlonrwydd y dull presennol, a ddylai fod yn un cyngor.

 

Dogfennau ategol: