Agenda item

Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2020-21

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad er mwyn rhoi gwybodaeth i'r Cyngor ynghylch gweithredu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2020-21, ac er mwyn esbonio'r gofyniad i Gynghorau fabwysiadu cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor erbyn 31 Ionawr 2020, ynghyd â'r goblygiadau ariannu cysylltiedig.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn rhoi cymorth i rai ar incwm isel sydd yn gorfod talu'r Dreth Cyngor. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynllun sengl wedi'i ddiffinio'n genedlaethol, a'i nodi yn y rheoliadau, er mwyn darparu cymorth ar gyfer y Dreth Gyngor yng Nghymru.  Mabwysiadodd y Cyngor Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2019-20 yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig 2013, a ddaw i ben ar 31 Mawrth 2020.  Ar hyn o bryd, roedd 13,423 o aelwydydd yn derbyn Gostyngiad i'r Dreth Gyngor. Roedd 8,445 o'r rheiny o oed gwaith a 4,978 o oed pensiwn. O'r 13,423 o aelwydydd a dderbyniai Ostyngiadau'r Dreth Gyngor, roedd gan 10,017 ohonynt hawl i ostyngiad llwyr.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yng Nghymru wedi'i seilio ar reoliadau a wnaed o dan Atodlen 1B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (fel y cafodd ei mewnosod gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012).  Roedd

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018 bellach wedi'u gosod ac yn cyflwyno diwygiadau er mwyn:

 

·         Sicrhau bod partneriaethau sifil rhwng unigolion o rywiau gwahanol yn cael eu trin yn gydradd â phriodasau rhwng unigolion o rywiau gwahanol a'r un rhyw, a phartneriaethau sifil rhwng unigolion o'r un rhyw, o ganlyniad i Ddeddf Partneriaethau Sifil, Priodasau a Marwolaethau (Cofrestru ac ati) 2019;

·         Darparu i gyflwyno hawl penodol, statudol i absenoldeb profedigaeth rhiant o ganlyniad i Ddeddf Profedigaeth Rhiant (Absenoldeb a Thâl) 2018.

·         Newid cyfeiriadau at Reoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006, i gyfeiriadau at Reoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016.

·         Cynnwys darpariaeth nad yw nifer yr hawliau i breswylio (a sefydlwyd ar gyfer gwladolion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn gysylltiedig ag ymadawiad y DU â'r UE) yn hawliau preswylio perthnasol i ddibenion sefydlu lle maent yn preswylio fel arfer.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro nad oedd y rheoliadau newydd yn cynnwys unrhyw newidiadau o bwys i'r cynllun cyfredol o safbwynt yr hawlwyr, a bod hawlwyr cymwys yn dal i allu ymgeisio am uchafswm o 100% o gymorth. Esboniodd fod yr ychydig o ddisgresiwn a roddwyd i'r Cyngor, sef cymhwyso elfennau dewisol a oedd yn fwy hael na'r cynllun cenedlaethol fel a ganlyn:-

 

·         Y gallu i gynyddu'r cyfnod estynedig safonol o 4 wythnos o ostyngiad a roddir i unigolion ar ôl iddynt ddychwelyd i'r gwaith (os ydynt wedi bod yn derbyn Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a fydd yn dod i ben o ganlyniad i ddychwelyd i'r gwaith);

·         Disgresiwn i gynyddu swm y Pensiynau Anabledd Rhyfel a'r Pensiynau Gweddw Rhyfel sydd i'w ddiystyru wrth gyfrifo incwm yr hawlydd; a'r

·         Gallu i ôl-ddyddio cais am Ostyngiad i'r Dreth Gyngor yn gysylltiedig â hawliadau hwyr cyn y cyfnod safonol o dri mis cyn yr hawliad.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro ei bod hi'n ofynnol i'r Cyngor fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor waeth a yw'n cymhwyso unrhyw elfennau disgresiwn ai peidio. Os na fydd y Cyngor yn creu Cynllun, bydd cynllun diofyn yn berthnasol.  Ni chaiff y Cyngor ond arfer disgresiwn os yw'n creu ei gynllun ei hun o dan y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro fod ymgynghoriad wedi'i gynnal ar y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn 2016, a bod canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw wedi'u cynnwys yn adroddiad y Pennaeth Cyllid i'r Cyngor ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar 11 Ionawr 2017.  Gan mai'r cynnig oedd peidio newid yr elfennau disgresiwn, nid oedd ymarfer ymgynghori pellach wedi cael ei gynnal.  Cynigiwyd y dylid cadw'r elfennau disgresiwn fel a ganlyn:

 

·         Cadw'r cyfnod talu estynedig yn unol â'r safon ofynnol o 4 wythnos.

 

·         Diystyru Pensiynau Anabledd Rhyfel a Phensiynau Gweddw Rhyfel yn llwyr wrth gyfrifo'r hawl i dderbyn Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Amcangyfrifir mai cost y cynnig hwn o fewn y flwyddyn ariannol fydd £11,100.

 

·         Cadw'r drefn ôl-ddyddio yn unol â'r safon ofynnol o 3 mis.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro mai cyfanswm amcangyfrifedig y tri chynnig i'r Cyngor yw £11,100 ar gyfer 2020-21.  Dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro wrth y Cyngor fod yn rhaid iddo ystyried a ddylid disodli neu ddiwygio ei gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, a'i bod yn rheidrwydd arno i greu cynllun yn ôl gofynion y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig. Mae'r rhwymedigaeth yn ddyletswydd statudol ac yn berthnasol hyd yn oed os yw'r Cyngor yn dewis peidio cymhwyso unrhyw elfennau disgresiwn sydd ar gael iddo. Dywedodd mai'r ymagwedd a argymhellwyd i'r Cyngor o ran yr elfennau disgresiwn sydd ar gael yw cymhwyso'r argymhellion yn Nhabl 1, ym mharagraff 4.23 yr adroddiad. Nid oes unrhyw gyllid ychwanegol i bontio unrhyw fwlch, a bydd disgwyl i bob awdurdod ariannu unrhyw ddiffyg.

 

Dywedodd dy Pennaeth Cyllid Dros Dro ei bod hi'n ofynnol i'r Cyngor fabwysiadu cynllun erbyn 31 Ionawr 2020 o dan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, waeth a yw'n dewis cymhwyso unrhyw elfennau disgresiwn ai peidio. Os na fydd y Cyngor yn creu cynllun, bydd cynllun diofyn yn berthnasol o dan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2013.  Hysbysodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro y Cyngor ynghylch goblygiadau ariannol y cynllun, sef bod Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro 2020-21 yn dangos bod y swm a ddarparwyd ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ledled Cymru ar yr un lefel â 2019-20.  Mae setliad dros dro'r Cyngor oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn cynnwys £13.184 miliwn i ariannu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, sydd £104,000 yn fwy na'r £13.080 miliwn a gafwyd yn 2019-20; nid yw'r swm yn cymryd i ystyriaeth unrhyw gynnydd yn nhaliadau'r dreth gyngor, ond fe'i dosberthir yn seiliedig ar wariant ar gynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor y blynyddoedd cynt, ac mae'n annhebygol o newid yn y setliad terfynol. Ar sail y llwyth achosion cyfredol, amcangyfrifir mai cost y cynllun ar gyfer 2020-21 yw oddeutu £15.3 miliwn (gan gynnwys cost yr elfennau disgresiwn), sydd £2.116 miliwn yn fwy na'r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Y gyllideb arfaethedig gyfredol ar gyfer 2020-21 yw £15.254 miliwn, sy'n cynnwys cyllid ychwanegol i dalu am y cynnydd arfaethedig i'r dreth gyngor yn y SATC. Er bod hyn yn cael ei ystyried yn ddigonol i fodloni'r galw ar hyn o bryd, bwriedir parhau i adolygu'r sefyllfa dros gyfnod y SATC. 

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cyngor:

 

(a)         Yn nodi Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a rheoliadau diwygio 2014 a 2020. 

 

Yn mabwysiadu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2020-21, fel y'i nodir ym mharagraff 4.18 i 4.23 yr adroddiad.

Dogfennau ategol: