Cofnodion:
Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a'r Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad er mwyn cydymffurfio â gofyniad y Rheoli Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer (y Cod) gan Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) i lunio Adroddiadau Rheoli Trysorlys Interim; adrodd ar Ddangosyddion Rheoli Trysorlys rhagamcanol 2019-20 a gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer gweithgareddau Rheoli Trysorlys yn y cyfnod 1 Ebrill 2019 hyd 31 Rhagfyr 2019.
Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro mai Rheoli Trysorlys yw'r rheolaeth ar lifoedd arian, benthyciadau a buddsoddiadau'r Cyngor, a'r risgiau cysylltiedig. Mae'r Cyngor yn agored i risgiau ariannol, gan gynnwys colli arian a fuddsoddwyd ac effaith cyfraddau llog newidiol ar refeniw. Cynhelir gweithgareddau rheoli risg Trysorlys yn y Cyngor o fewn fframwaith Rheoli Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer Rhifyn 2017 y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus (Cod CIPFA). Yn ôl y cod, mae'n ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli Trysorlys (SRhT) cyn dechrau pob blwyddyn ariannol. Arlingclose sy'n cynghori'r Cyngor ynghylch rheoli'r trysorlys.
Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y farn ynghylch cyfraddau llog a gafwyd yn SRhT y Cyngor ar gyfer 2019-20 yn seiliedig ar farn swyddogion, ar sail rhagolygon gan Arlingclose. Pan luniwyd SRhT 2019-20 ym mis Ionawr 2019, oherwydd y cyfnod byr a ragwelwyd i ddod i gytundeb ymadael yn gysylltiedig â Brexit, a'r posibilrwydd o gyfnod estynedig o ansicrwydd yn sgil hynny, senario achos canolog Arlingclose oedd rhagweld 0.25% o gynnydd yng Nghyfradd y Banc yn ystod 2019-20 a fyddai'n codi cyfraddau llog swyddogol y DU i 1.00% erbyn mis Rhagfyr 2019. Dechreuodd Cyfradd y Banc y flwyddyn ariannol ar 0.75%, ac yn ôl y rhagolygon cyfredol bydd yn parhau ar y lefel hon ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.
Rhoddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro grynodeb o'r sefyllfa o ran buddsoddiadau a dyledion allanol ar 31 Rhagfyr 2019, sef bod y Cyngor yn dal £96.87m o fenthyciadau hirdymor allanol a £38.945m o fuddsoddiadau. Tynnodd sylw at y strategaeth fenthyca a'r alldro a ragfynegai y byddai angen i'r Cyngor fenthyca £16m yn 2019-20. Rhagwelwyd na fyddai angen unrhyw fenthyciadau hirdymor yn 2019-20, gan fod grantiau ychwanegol wedi'u derbyn yn chwarter olaf 2018-19, ac yn sgil newid i'r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2019-20. Rhoddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro grynodeb o'r strategaeth a'r alldro fuddsoddi gan esbonio mai'r prif amcanion yn ystod 2019-20 oedd cadw cyfalaf yn ddiogel; cynnal hylifedd cyllid fel bo modd cael gafael ar gyllid ar gyfer gwariant angenrheidiol, a sicrhau'r enillion ar fuddsoddiadau sy'n gymesur â lefelau diogelwch a hylifedd priodol. Balans buddsoddiadau ar 31 Rhagfyr 2019 oedd £38.945m Rhoddodd grynodeb o'r proffil buddsoddi o 1 Ebrill hyd 31 Rhagfyr 2019; y dangosydd Rheoli Trysorlys ar gyfer Prif Symiau a fuddsoddwyd am gyfnodau hwy na blwyddyn, a'r sefyllfa'n gysylltiedig â chyfraddau llog posibl ar fenthyciadau a buddsoddiadau
Gofynnodd aelod o'r Cyngor a roddwyd ystyriaeth i fodelau buddsoddi amgen a ffafrir gan awdurdodau lleol eraill. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod nifer o fentrau buddsoddi ar gael, ac mai ystyriaeth gyntaf y Cyngor bob tro fydd diogelu arian cyn sicrhau enillion, ond mae'r Cyngor yn archwilio gwahanol fentrau a modelau.
Cwestiynai aelod o'r Cyngor y strategaeth o fenthyca arian i awdurdodau lleol eraill. Dywedodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod benthyciadau rhwng awdurdodau lleol yn cael eu cydnabod fel dull diogel o fuddsoddi.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor:-
(1) Yn cymeradwyo gweithgareddau rheoli'r trysorlys ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2019 hyd 31 Rhagfyr 2019;
(2) Yn nodi'r Dangosyddion Rheoli Trysorlys a Materion Ariannol ar gyfer 2019-20 yn erbyn y rhai a gymeradwywyd yn Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019-20.
Dogfennau ategol: