Agenda item

Adroddiad Ymgynghori'r Strategaeth a Ffafrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol

Cofnodion:

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu ar Adroddiad Ymgynghori'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), i'r Cyngor ei ystyried a'i gefnogi. 

 

Adroddodd fod Rheoliad 15 yn Rheoliadau'r CDLl yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi ei gynigion cyn adneuo (y Strategaeth a Ffefrir) i'r cyhoedd gael eu harchwilio ac ymgynghori arnynt cyn penderfynu ar gynnwys ei CDLl ar gyfer Adneuo. Dywedodd fod y cyfnod ymgynghori statudol ar y Strategaeth a Ffefrir wedi cael ei chynnal o 30 Medi 2019 hyd 8 Tachwedd 2019, a bod cyfanswm o 70 o sylwadau ffurfiol wedi dod i law. Wrth baratoi am Gam Adneuo'r CDLl, mae'n rhaid i'r Cyngor ddrafftio Adroddiad Ymgynghori cychwynnol i'w gyhoeddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol yn dilyn yr ymgynghoriad cyn-adneuo, o dan Reoliad CDLl 16A.   Dywedodd wrth y Cyngor fod Adroddiad Ymgynghori wedi cael ei lunio yn amlinellu sut yr oedd y Cyngor wedi cynnwys ac ymgynghori â'r cyhoedd ar y Strategaeth a Ffefrir ei hun.  Dywedodd fod yr Adroddiad yn nodi'r camau a gymerwyd i roi cyhoeddusrwydd ynghylch y gwaith o baratoi'r cynllun, yn unol â'r Cynllun Cynnwys Cymunedau, cyn amlinellu'r cyrff penodol a gymerodd ran, a chrynhoi'r prif faterion a godwyd a nodi pa ymateb a gafwyd/a geir i'r sylwadau. Roedd yr Adroddiad yn cynnwys esbonio'n fanwl sut y byddai'r cyfnod ymgynghori allweddol hwn yn dylanwadu ar ddatblygiad y CDLl Adneuo.

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu fod nifer o ddulliau ymgynghori wedi cael eu defnyddio er mwyn sicrhau ymgynghoriad a chyfranogiad effeithlon ac effeithiol, yn unol â'r Cynllun Cynnwys Cymunedau. Dywedodd nad oedd bwriad i'r Adroddiad Ymgynghori fod yn adroddiad cynhwysfawr ar bob sylw a gafwyd, ond ei fod yn hytrach yn grynodeb o'r prif faterion a godwyd mewn ymateb i'r cwestiynau penodol ar y ffurflen gais. Roedd nifer sylweddol o'r sylwadau hefyd yn canolbwyntio ar safleoedd penodol, ond nid oedd yr Adroddiad yn gwneud unrhyw ymgais i werthuso holl rinweddau'r darpar safleoedd. Dywedodd y byddai'r holl ddarpar safleoedd yn cael eu gwerthuso yn rhan o'r Fethodoleg Asesu Darpar Safleoedd, a gynhelir ar wahân i'r Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir.  Dywedodd wrth y Cyngor fod yr Adroddiad Ymgynghori wedi'i drefnu i gyd-fynd â phob cwestiwn yn yr ymgynghoriad, ac yn nodi'r prif bwyntiau cyfatebol a gafwyd a manylion ymatebion dilynol y Cyngor. Mae'r Adroddiad Ymgynghori yn rhoi trosolwg thematig manwl o'r prif sylwadau a gyflwynwyd gan gynrychiolwyr. 

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Cynllunio wrth y Cyngor fod y diwydiant datblygu wedi rhoi pwysau ar yr Adran Cynllunio i ryddhau safleoedd maes glas i'w datblygu, ond bod yr Adran wedi gwrthateb hynny, gyda chefnogaeth adroddiadau Arolygwyr.  Cymeradwyodd aelod o'r Cyngor y modd yr oedd yr Adran Gynllunio wedi gwrthateb datblygiadau ar safleoedd maes glaw, a bod angen datblygiadau o ansawdd da yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Gofynnodd aelod o'r Cyngor a oedd yr Adran Gynllunio yn sicrhau bod datblygiadau yn y dyfodol yn hygyrch i bobl ag anableddau.  Hysbysodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu y Cyngor fod yr Adran yn cydweithio â Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod datblygiadau'n hygyrch i bawb, ac y byddai hyn wedi'i gynnwys yn y CDLl.

 

Gofynnodd aelod o'r Cyngor am sicrwydd y ceid datrysiad i'r groesfan reilffordd fel bo modd datblygu i'r dwyrain o Bencoed. Hysbysodd y Rheolwr Cynllunio Datblygu y Cyngor y bydd y gwaharddiad ar ddatblygu yn parhau, ond pan fyddai canfyddiadau'r asesiad yn hysbys, byddai adroddiad yn cael ei lunio arnynt i'r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cyngor yn cymeradwyo cynnwys yr adroddiad ac y gofynnir am gymeradwyaeth y Cyngor cyn cyhoeddi'r Cynllun Adneuo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.          

 

Dogfennau ategol: