Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24

Gwahoddedigion:

 

Mark Shephard, Prif Weithredwr

Cynghorydd Richard Young – Aelod Cabinet – Cymunedau

Zak Shell – Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol

Joanne Norman, Rheolwr Grwp Cynllunio Ariannol a Rheoli Cyllidebau dros do

Victoria Adams, Rheolwr Cyllid – Rheoli Cyllidebau: Cymunedau, Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Dros Dro a swyddog S151, i gyflwyno drafft o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24 i'r Pwyllgor, sy'n gosod blaenoriaethau gwario'r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a'r meysydd cyllido sydd wedi'u targedu ar gyfer arbedion angenrheidiol.  Mae'r strategaeth yn cynnwys rhagolygon ariannol ar gyfer 2020-2024 a drafft manwl o gyllideb refeniw 2020-21. 

 

Eglurodd y Prif Swyddog Gweithredol nad oedd am fynd trwy'r adroddiad, a bod ffocws y dydd ar yr MTFS, a gofynnodd y Cadeirydd a oedd gan yr Aelodau unrhyw gwestiynau mewn perthynas â Chyfarwyddiaeth Cymunedau. 

 

Mewn perthynas â COM26, holodd un aelod ynghylch yr effaith ar ddefnyddwyr gwasanaeth ac a oedd gennym unrhyw ffigyrau o ran defnyddwyr yn ystod y blynyddoedd.  Dywedodd Y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol wrth yr aelodau bod oddeutu 4000 defnyddiwr, ar gyfartaledd, bob blwyddyn a'i fod wedi bod yn gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, mae'n debyg bod poblogrwydd y gwasanaeth yn lleihau yn gyffredinol, gyda chynnydd mewn perchnogaeth breifat dros sgwteri fforddiadwy, ysgafn, gan leihau'r gofyn. Yn yr adroddiad i'r Cabinet, dyddiedig 12 Ionawr, tynnwyd sylw at nifer o argymhellion, ond nodwyd y bydd swyddogion yn parhau i archwilio'r posibilrwydd o dderbyn cyllid gan grant allanol i gefnogi'r gwasanaeth. 

 

Bu i aelod dynnu sylw at y maes pwysig sy'n cynhyrchu incwm a ddefnyddir gan rhai cynghorau yn Lloegr, a gofynnodd pa gyfleoedd oedd yn bodoli ar gyfer BCBC, mewn perthynas â COM51.  Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol wrth yr Aelodau bod BCBC wedi gwneud hyn ar raddfa gyfyngedig e.e. Y Ganolfan Arloesedd, rydym yn ei rhentu, fodd bynnag roedd hyn yn canolbwyntio ar fod yn ddarbodus ac adnabod y buddsoddiad cywir. Dywedodd y byddem yn gallu gwneud y mwyaf o'r buddsoddiadau, pe byddent yn bodoli, ond nid ydym yn awdurdod ar raddfa fawr.  Bu i Reolwr Gr?p Dros Dro - Cynllunio Ariannol a Rheolaeth Cyllideb gydnabod yr ymgynghoriad diweddaraf 'Llunio Dyfodol Pen-y-Bont ar Ogwr' a dynnodd sylw at y 61% o ymatebwyr a chytunodd y dylai'r cyngor ystyried mentrau masnachol i ariannu a diogelu gwasanaethau sydd ar flaen y gad. Nododd un Aelod bod rhai cynghorau wedi gweithredu ffi drwyddedu i landlordiaid, ar gost o £500, a gofynnodd a oedd BCBC wedi ystyried hyn. 

 

Datgelodd y Prif Swyddog Gweithredol nad oeddem yn gwneud hynny'n bresennol, ond ei fod yn fodlon archwilio hyn.  Dywedodd un Aelod bod yr adferiad ariannol llawn wedi ei wthio'n ôl o flwyddyn (COM42), a gofynnodd sut fyddai hyn yn effeithio ar ein gallu i gynnal y meysydd hyn, etc.  Nododd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol nad yw'n mynd yn haws, ond er gwaethaf nifer o flynyddoedd o gyfyngiadau cyllidebol, rydym wedi cynnal lefel resymol o waith cynnal a chadw.  Mae hyn wedi bod yn fwy heriol o ran pafiliynau, ac wedi gwaethygu, ac wedi cael ei drafod fel rhan o Drosglwyddiad Asedau Cymunedol (CAT). Nid oes gorwariant yng nghyllideb y parciau oherwydd gwaith cynnal a chadw. O ystyried y lefelau presennol, gallwn gynnal caeau i lefel foddhaol. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau y dylid gohirio adferiad ariannol llawn gan fod CATs yn parhau wedi i gynghorau cymunedol, trefi neu glybiau ddangos diddordeb ym mhob un o'r cyfleusterau chwaraeon fydd o bosib yn cael eu heffeithio. Bydd yr awdurdod i'w cynnal yn y dyfodol yn lleihau. 

 

Gofynnodd un Aelod a oedd clybiau yn cael eu cynnwys yn y broses CAT, a phwy oedd am gynnal y cae os nad oedd yn cael ei drosglwyddo.  Eglurodd y Prif Swyddog Gweithredu bod y Pwyllgor wedi ymrwymo i sicrhau na fyddai costau cynyddol yn berthnasol os nad oedd yn bersonol gyfrifol am yr oediad. Byddwn yn parhau i gynnal y caeau hynny nes bo'r broses CAT wedi'i chwblhau, trwy'r anheddiad amgen.   

 

Nododd aelod bod y broses CAT yn araf, a gofynnodd a oedd adnoddau ychwanegol mewn lle i gefnogi'r Swyddog CAT. Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol fod y Swyddog CAT wedi cyflwyno achos busnes i gynyddu'r adnoddau.  Bu i aelod egluro'r adnoddau oedd y cael eu rhoi i mewn i'r broses CAT, a holodd beth oedd yn cael ei wneud ar ddiwedd y broses. Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau fod y Cabinet wedi ymrwymo i gefnogi hyn. Byddwn yn edrych ar lle sydd angen yr adnoddau fwyaf mewn modd mwy hyderus. Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol bod swyddog paragyfreithiol wedi'i recriwtio i ddelio â phrydlesi, ond tynnodd sylw at y gwasgbwynt mewn eiddo.   

 

Gofynnodd aelod a oedd y pwyllgor Cyfreithiol yn dosbarthu prydlesi model. Bu i'r Prif Swyddog Gweithredu gydnabod yr angen i symleiddio'r broses, ac eglurodd bod proses safonol yn cael ei dilyn gyda'r mwyafrif o brydlesi yn dilyn llwybr safonol gyda rhai eithriadau. 

 

Gofynnodd aelod am ddiweddariad ar Gaeau Newbridge. Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau bod trafodaeth gyda Chlybiau a Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi'u datblygu'n sylweddol, a dywedodd bod trafodaethau â Chaeau Newbridge yn fwy cymhleth oherwydd y nifer o glybiau chwaraeon amrywiol sy'n defnyddio'r cae. Mynegodd aelod bryder ynghylch gwaith cynnal a chadw'r cae yn ystod yr Haf pe byddai clybiau yn cau ym mis Mai ac yn agor ym mis Awst ar gyfer hyfforddi. Dywedodd Aelod Cabinet dros Gymunedau bod hyn yn fater i Gaeau Newbridge yn ogystal â Maesteg.Dywedodd nad oedd yr holl glybiau yn cau, ond mynegodd fod y mater yn rhan o'r trafodaethau parhaus. 

 

 

Gofynnodd aelod a oedd arolygon cyflwr wedi'u cynnal ar arwynebau chwaraeon a nododd bwysigrwydd o gael darlun llawn ar gyfer monitro'r asedau yn y dyfodol.Eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol bod monitro cydymffurfiaeth wedi'i gynnal ers peth amser e.e. asbestos. O ran yr arolygon cyflwr, rydym wedi gweithredu yn ôl y gofyn o ran y broses CAT, ond rydym yn awr yn cynnal arolygon comisiynu cyffredinol. Yr elfen fwyaf diweddar yw neilltuo arian i edrych ar gyflwr caeau e.e. materion traenio. Gall y rhai sydd wedi cael eu harwyddo drosodd a’u cymeradwyo gael eu harchwilio’n achlysurol a gellir codi notis os bydd y cyflwr yn gwaethygu. Os bydd elfennau’n cael eu hanwybyddu, gallwn wneud y gwaith ein hunain a chodi tâl arnynt.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol, o safbwynt COM55 56 a 59, mai arbediad y llynedd oedd hyn a gymeradwywyd dros 2 flynedd ac roedd y cyfan o’r tri eisoes wedi’u gweithredu ac ar waith. Nododd un aelod y sgil effeithiau tebygol o safbwynt taflu sbwriel gyda COM 55 – 59. O ran COM64 bu oedi arno am flwyddyn gan ddibynnu ar setliadau ariannol yn y dyfodol. Cadarnhaodd y Pennaeth Gweithredaidau – Gwasanaethau Cymunedol fod yr Awdurdod yn dechrau edrych i’r dyfodol o ran y cytundeb gwastraff presennol a chyflwynir adroddiad i’r pwyllgor Craffu maes o law.

 

 

O safbwynt COM70, cafwyd trafodaeth hir gan yr aelodau yngl?n â threfnu G?yl Elvis. Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol ei fod ef yn mynychu Gr?p Cynghori Diogelwch Digwyddiadau Pen-y-bont ar Ogwr (ESAG), ynghyd â chyfarfodydd ar drwyddedu a materion yr heddlu. Mae cryn rwystredigaeth gyda G?yl Elvis. Mae’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau eraill yn talu tuag at y digwyddiad e.e. mae digwyddiad 10K dan reolaeth dda ac yn cael buddsoddiad da. Gyda G?yl Elvis, mae amryw o weithgareddau yn cael eu cynnal mewn cyfleusterau trwyddedig, felly yn gyfreithiol nid oes trwydded i’w chymeradwyo mewn gwirionedd. Mae’r heddlu wedi cadarnhau y byddant yno eleni, ond ar gost sylweddol iddynt. Bu i’r Aelod Cabinet dros Gymunedau gadarnhau bod cryn rwystredigaeth yngl?n â’r digwyddiad hwn. Petai rhyw gorff arall yn ei drefnu neu agwedd wahanol gan y trefnydd presennol, ni fyddem yn wynebu’r broblem hon.

 

 

Yn nhermau COM71, cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod y camerâu nifer yr ymwelwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, yno at y diben hwn yn unig a'u bod yn cyfrannu fel dangoswyr perfformiad mewn perthynas â nifer yr ymwelwyr â chanol trefi. 

 

Tynnodd aelod sylw at y toriad bach yn nhermau COM77, ond gofynnodd pa effaith y gallai hyn ei chael ar nifer yr achosion o lifogydd, pe bai gwaith cynnal a chadw gylis a chwlferi ddim yn cael ei wneud. Gofynnodd yr aelod am eglurhad ynghylch pam mai dim ond un sugnydd gylis oedd ganddynt.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol y byddant yn parhau i ymgysylltu ag aelodau lleol. Cydnabu fod y meysydd gwasanaeth wedi wynebu toriadau dros y blynyddoedd, o gylchoedd graenu yn y gaeaf i sugnyddion gylis, ym mhob maes, yn llai nag yn y blynyddoedd blaenorol. O ran y darlun ehangach, byddwn yn ysgwyddo'r lleihad hwnnw mewn costau gyda chyn lleied o effaith ag sy'n bosibl, wrth gydnabod bod pob toriad yn lleihad ein hymatebolrwydd. Dim ond cwtogiad bach ydyw o fewn y gyllideb gyffredinol.  Cydnabu'r Prif Weithredwr yr elfen dwf o'r  Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p Dros Dro - Cynllunio Ariannol a Rheolaeth Cyllideb fod hyn yn cael ei neilltuo i'r gyllideb sylfaenol ar gyfer Cymunedau.    

 

Cododd aelod bryder am y broses sglodi a chwistrellu, mewn perthynas â COM89.  Eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod y broses sglodi a chwistrellu yn sicrhau hirhoedledd y briffordd. Mae'r broses yn dechrau gyda gorchuddio a llenwi'r ceudwll, cyn iddo gyrraedd cyflwr lle bydd rhaid iddo gael ei sglodi a chwistrellu. Cydnabu, fodd bynnag, os yw hyn eisoes wedi cael ei wneud, y byddai angen ailwynebu. Eglurodd drwy arolygon sganio ffyrdd, y byddai proffil o ba ffyrdd y mae angen eu hatgyweirio yn cael ei lunio. 

 

Trafododd aelodau bwysau cyllidebol 2020-21, ar dudalennau 43 a 44 yr adroddiad. 

 

Nododd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod yna, mewn perthynas â COM1, beth atebolrwydd yn gysylltiedig â chanclwm Siapan, yn arbennig lle y gallai effeithio ar eiddo arall. Efallai y bydd angen gwneud cais am ragor o gyllid.

 

Nododd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod yna, mewn perthynas â COM1, beth atebolrwydd yn gysylltiedig â chanclwm Siapan, yn arbennig lle y gallai effeithio ar eiddo arall. Efallai y bydd angen gwneud cais am ragor o gyllid.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol mewn perthynas â COM2, fod hyn yn ymwneud yn gyfan gwbl â thrwyddedu meddalwedd. 

 

O ran COM6, cydnabu'r Prif Weithredwr fod angen mwy o eglurhad ar hyn. Gyda phrosiectau adfywio parhaus mewn perthynas â'r CDLl newydd, mae angen i ni weithredu ar frys neu golli cyllid, ond mae angen rhagor o adnoddau arnom i symud y prosiectau hyn ymlaen.Bydd hyn yn elwa'r Fwrdeistref Sirol i gyd, ond dim ond drwy setliad gwell y gellir gwneud hyn. 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol mewn perthynas â COM7, mai penderfyniad Cyngor Bro Morgannwg oedd hyn a bydd yn dod i rym o Ebrill 2020. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn amherthnasol. 

 

Yn nhermau COM10, cydnabu'r Prif Weithredwr fod y Gyfarwyddiaeth Cymunedau wedi wynebu toriadau anghymesur, a bod ôl-groniad o oddeutu £59 miliwn o waith ar briffyrdd.  Cydnabu'r angen i ddyfeisio rhaglen o waith cyn gynted ag sy'n bosibl, ond bod adnoddau wedi cael eu lleihau. Cydnabu'r Aelod Cabinet dros Gymunedau nad oedd y rhaglen hon yn mynd i leihau'r holl ddiffygion hyn ac y bydd gan Aelodau'r Cabinet syniadau ynghylch blaenoriaethau, ond eu bod yn chwilio am syniadau gan aelodau, y rhai a fydd yn flaenoriaethau ac a fyddai'n alinio â disgwyliadau'r cabinet. 

 

 Argymhellion 

 

Croesawodd Aelodau'r buddsoddiad mewn Cymunedau fel rhan o'r setliad gwell. Mewn perthynas â phwysau cyllidebol COM10, gofynnodd aelodau fod y gronfa gwerth £2m yn rhoi blaenoriaeth i waith cynnal a chadw gylis a chwlferi yn benodol.  

 

Mewn perthynas â COM42a, awgrymodd Aelodau y dylid cynnal arolygon o gyflwr ar bob ased i sicrhau bod cyflwr yr ased yn hysbys cyn ei drosglwyddo. Gofynnodd Aelodau hefyd am gadarnhad ynghylch sut y bydd yr asedau hyn yn cael eu monitro a pha strategaeth sydd ar waith os ystyrir bod ased yn dirywio.

Dogfennau ategol: