Agenda item

Y Diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 3 2019-20

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog 151 Dros Dro adroddiad i gydymffurfio â gofyniad Cod Cyllid Cyfalaf Darbodus 2018 y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth; rhoddodd y newyddion diweddaraf am Raglen Gyfalaf 2019-20 ar 31 Rhagfyr 2019; gofynnodd am gymeradwyaeth ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2019-20 hyd 2028-29, ac i'r Cyngor nodi'r Dangosyddion Darbodus a'r Dangosyddion Eraill a ragamcanwyd ar gyfer 2019-20.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog 151 Dros Dro fod Rheoliadau Awdurdod Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003, fel y cawsant eu diwygio, yn cynnwys darpariaethau manwl ar gyfer rheolaethau cyllid cyfalaf a chyfrifyddu, gan gynnwys y rheolau ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf, a'r hyn y dylid ei drin fel gwariant cyfalaf.  Yn ogystal â hynny, mae'r Cyngor yn rheoli ei weithgareddau Rheoli Trysorlys a Chyfalaf yn unol â chanllawiau cysylltiedig.  Yn ôl y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol sefydlu Strategaeth Gyfalaf sy'n dangos bod yr awdurdod yn gwneud penderfyniadau ynghylch gwario a buddsoddi cyfalaf yn unol ag amcanion gwasanaethau, a'i fod yn rhoi ystyriaeth briodol i stiwardiaeth, sicrhau gwerth am arian, darbodusrwydd, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Cyngor, ar 20 Chwefror 2019, wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf, a gafodd ei diweddaru ddiwethaf ar 23 Hydref 2019.  Dywedodd fod y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2019-20 yn cynnwys cyfanswm o £33.700m. Defnyddir adnoddau'r Cyngor i dalu £15.057m o'r swm hwn, ac adnoddau allanol i dalu'r £18.643 sy'n weddill.  Rhoddodd grynodeb o'r sefyllfa fesul Cyfarwyddiaeth, a'r rhagdybiaethau cyllido cyfredol ar gyfer rhaglen gyfalaf 2019-20.  Rhoddodd fanylion am y gwariant a ragamcanwyd ar gynlluniau unigol o fewn y rhaglen, o gymharu â'r gyllideb a oedd ar gael.  Roedd nifer o gynlluniau wedi'u nodi'n gynlluniau yr oedd angen arian llithriant ar eu cyfer i'r blynyddoedd nesaf. Yn chwarter 3, cyfanswm yr arian llithriant a geisiwyd oedd £5.158 miliwn, yn gysylltiedig â'r canlynol:

 

·         Neuadd y Dref Maesteg (£1.6m)

·         Hyb Cymunedol - Ysgol Gyfun Brynteg (£0.768m)

·         Darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Gynradd Cefn Cribwr (£0.387m)

·         Llys y Gigfran (£0.442m)

·         TAC Parciau / Pafiliynau / Canolfannau Cymuned (£0.66m)

·         Asedau Anweithredol (£0.48m)

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod nifer o gynlluniau newydd wedi'u hariannu'n allanol ac incwm ychwanegol wedi cael eu cymeradwyo, a bod y rheiny wedi'u hymgorffori yn y rhaglen gyfalaf:

 

·         Hyb Cymunedol - Ysgol Gyfun Brynteg (£0.284m)

·       Cymorth cyfalaf i weithredu ac ehangu casgliadau cartref ar wahân ar gyfer gwastraff cynnyrch hylendid amsugnol (£0.238m)

·       Cronfa Gwella Eiddo Canol Trefi (£0.1m) a'r Grant Byw yng Nghanol y Dref (£0.5m)

·         Cynllun Rheoli Risg Arfordirol - Porthcawl (£6.032m)

·         Rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif

·         Darpariaeth Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg

·         Grant Cynnal a Chadw Ysgolion

·         Gwaith ar Anghenion Cymhleth a Meddygol mewn Ysgolion

·         Benthyciad Cwm Llynfi   

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro hefyd ar waith monitro Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill ar gyfer 2019-20.  Bwriedir i'r Strategaeth Cyfalaf a gymeradwywyd ym mis Chwefror 2019 roi trosolwg o'r modd y mae gwariant cyfalaf, cyllid cyfalaf a gweithgarwch rheoli trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau, a rhoi trosolwg o'r modd y rheolir risg gysylltiedig a'r goblygiadau o ran cynaliadwyedd i'r dyfodol.  Cafodd nifer o ddangosyddion darbodus eu cynnwys, a'u cymeradwyo gan y Cyngor.  Yn unol â gofynion y Cod Darbodus, mae'n ofynnol i'r Prif Swyddog Cyllid sefydlu gweithdrefnau i fonitro perfformiad yn erbyn yr holl ddangosyddion darbodus sy'n edrych i'r dyfodol a'r gofyniad a nodwyd.  Manylodd ar y dangosyddion gwirioneddol ar gyfer 2018-19, y dangosyddion a amcangyfrifwyd ar gyfer 2019-20 a nodwyd yn Strategaeth Cyfalaf y Cyngor, a'r dangosyddion a ragamcanwyd ar gyfer 2019-20 ar sail y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig, sy'n dangos bod y Cyngor yn gweithredu'n unol â'r terfynau cymeradwy.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Strategaeth Cyfalaf hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i fonitro buddsoddiadau rheoli nad ydynt yn gysylltiedig â'r trysorlys a rhwymedigaethau eraill hirdymor.  Dywedodd fod gan y Cyngor bortffolio presennol o fuddsoddiadau sydd wedi'i seilio'n llwyr yn y Fwrdeistref Sirol, a hynny'n bennaf yn y sectorau swyddfa a diwydiannol.  Caiff ffrydiau incwm eu gwasgaru rhwng buddsoddiadau swyddfa sengl ac aml-osod ym Mharc Gwyddoniaeth Pen-y-bont ar Ogwr, y stadau diwydiannol aml-osod a'r buddsoddiadau rhent tir rhydd-ddaliadol.  Cyfanswm gwerth yr Eiddo Buddsoddi oedd £4.635 miliwn ar 31 Mawrth 2019.  Dywedodd wrth y Cyngor fod ganddo nifer o Rwymedigaethau Hirdymor Eraill yn y Strategaeth Gyfalaf, ac nad oedd unrhyw fenthyciadau newydd wedi'u derbyn yn Chwarter 3. 

 

Roedd aelod o'r Cyngor yn falch o nodi y byddai gwaith i gwblhau'r ddarpariaeth ADY yn cael ei ariannu yn Ysgol Gyfun Pencoed. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y Cyngor y byddai amgylchedd yr ysgol yn cael ei newid er mwyn galluogi dysgwyr â phroblemau symudedd i gyrchu'r holl gyfleusterau yn yr ysgol.

 

Mynegodd aelod o'r Cyngor bryder bod gwaith arolygu ychwanegol a gwaith i dynnu asbestos wedi cynyddu cost cynllun Neuadd y Dref Maesteg, ac y byddai angen i'r Cyngor dalu £1.9m yn ychwanegol, gan gynyddu cost y prosiect o £6.3m i £8.2m.  Gofynnodd aelod a ddylai'r Cyngor dderbyn adroddiad ar y cynllun oherwydd y cynnydd mewn costau.  Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor fod y Cabinet wedi derbyn adroddiad ar gyllideb ddiwygiedig y prosiect y diwrnod cynt.  Dywedodd fod y penderfyniad i fwrw ymlaen i ailosod y to yn fodd i sicrhau bod gwaith ar Neuadd y Dref yn cael ei gyflawni'n briodol, ac y byddai'r adeilad yn dirnod yn unol â dymuniadau'r Cyngor, yn hytrach na bod y Cyngor yn mynd ati i drwsio darnau o'r to yn unig.  Dywedodd ei bod hi'n bwysig rheoli'r risg llifogydd yn yr adeilad, ac nad oedd y Cyngor eisiau gorfod dychwelyd i drwsio'r to yn y dyfodol, Pwysleisiodd pa mor bwysig oedd buddsoddi yn Neuadd y Dref gan na chafwyd y buddsoddiad gan awdurdodau blaenorol.  Rhannodd aelod o'r Cyngor bryderon ynghylch cost ychwanegol y prosiect, er ei fod yn croesawu'r buddsoddiad yn Neuadd y Dref, a fyddai o fudd i'r rhai sy'n defnyddio'r cyfleuster.  Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Cyngor fod y prosiect yn seiliedig ar ddarluniau cysyniadol pan gafodd ei gynnwys yn rhan o'r rhaglen gyfalaf, nes i'r tendrau ddod i law. Dywedodd fod ystod o astudiaethau ac arolygon dichonadwyedd wedi cael eu cynnal, a bod y prosiect yn nesáu at gam 4 Sefydliad Brenhinol y Penseiri o ran cwblhau'r dyluniad technegol a chostau. Ceir swm wrth gefn o £500k, ac mae'r ymarfer peirianneg gwerth yn cael ei gynnal ar y prosiect er mwyn ceisio gostwng cyfanswm cost y cynllun lle bo modd, heb i hynny amharu ar yr ailddatblygiad cyffredinol.  Credai fod cost y prosiect yn realistig ac mai'r ystyriaeth bob tro oedd a ddylid ysgwyddo gwariant ymlaen llaw neu reoli'r prosiect fel contract dylunio ac adeiladu. Esboniodd y Prif Weithredwr ei bod hi'n well buddsoddi i warchod yr adeilad eiconig drwy osod to newydd arno yn hytrach na thrwsio rhannau o'r to yn unig.

 

Credai aelod o'r Cyngor y dylid bod wedi cyflwyno gwybodaeth i'r Cyngor ynghylch costau'r prosiect a chanlyniadau'r arolygon, a bod cynnydd o 30% mewn costau yn ormodol, ac y dylai'r Pwyllgor Archwilio adolygu'r prosiect hwn a chynlluniau cyfalaf eraill.  Credai aelod o'r Cyngor hefyd fod angen sicrhau bod prosiectau adeiladu yn cynnig gwerth am arian.     

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor y gellid bod wedi trwsio'r to, ond bod manyleb newydd wedi cael ei llunio ar gyfer y prosiect i'w ailosod fel y gallai cenedlaethau'r dyfodol elwa ar yr adeilad, ac er mwyn i'r prosiect fod o'r ansawdd gorau. Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Cyngor fod y dull o fynd ati i ariannu prosiectau cyfalaf wedi cael ei ystyried, yn yr ystyr y gellid creu llinell yn y gyllideb lle cynhelir ymarfer dichonadwyedd ymlaen llaw neu fwrw ymlaen â chontract dylunio ac adeiladu. Pe bai'r gwariant yn cael ei ysgwyddo ymlaen llaw, gallai'r Cyngor fod yn gwario ar brosiect na fyddai'n dwyn ffrwyth.  Dywedodd yr Arweinydd y gallai'r Pwyllgor Archwilio edrych ar y broses o ariannu prosiectau cyfalaf. Dywedodd Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar wrth y Cyngor fod yr aelodau lleol wedi cael eu briffio ynghylch gwariant ar y prosiect.

 

Cyfeiriodd aelod o'r Cyngor at y ffaith bod safle ar Heol Ewenni yn annatblygadwy gan fod hen  waith cloddio arno. Gofynnodd a allai swyddogion gydweithio â Llywodraeth Cymru i ariannu gwaith adfer er mwyn datblygu'r safle. Dywedodd y Prif Weithredwr fod trafodaethau'n mynd rhagddynt â Llywodraeth Cymru ynghylch y safle, sydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Mae'n bosibl y gellid datblygu cyfleuster parcio a theithio, canolfan fenter a thai arno.

 

PENDERFYNWYD:            Bod y Cyngor:

 

·         yn nodi Rhaglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2019-20 ar gyfer y cyfnod hyd 31 Rhagfyr 2019;

·         yn cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig;

·         yn nodi'r Dangosyddion Darbodus a'r Dangosyddion Eraill ar gyfer 2019-20.   

              

Dogfennau ategol: