Agenda item

Strategaeth Ariannol y Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24

Gwahoddedigion:

 

Pob Cabinet a CMB

Deborah Exton - Dirprwy Bennaeth Cyllid dros dro

Jackie Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion

Zak Shell – Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth

Martin Morgans - Pennaeth Gwasanaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth

Cofnodion:

Croesawyd y Gwahoddedigion i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr gyflwyniad byr o’r adroddiad, gan wahodd cwestiynau gan Aelodau i ddilyn.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 5 o’r adroddiad ac, yn nhermau cyd-destun polisi, nododd fod rhai o wahanol bwysau ariannol y Cyngor yn ymwneud â deddfwriaeth a rheoliadau newydd a osodwyd arnyn nhw gan Lywodraeth Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys, er enghraifft, rheoliadau Deddf yr Iaith Gymraeg ac ymrwymiadau a orfodwyd trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Yn aml, doedd y rhain ac eraill ddim yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac felly, gofynnodd os oedd yr achos yn cael ei gyflwyno i rai fel y rhain, y Llywodraeth Ganolog a CLlLC ayyb., i sicrhau bod lefel briodol o ariannu ar gael i CBSP gyflenwi’r rhain.

 

Yn ôl y Prif Weithredwr, roedd yr Arweinydd yn gohebu’n gyson gyda Gweinidogion er mwyn ceisio sicrhau arian i gefnogi’n ariannol y gofynion deddfwriaethol newydd a osodir ar awdurdodau lleol yn nôl a gyfeirir uchod. Ar adegau, fe fyddai Llywodraeth Cymru’n hysbysu fod adnoddau ychwanegol wedi’u darparu mewn setliadau awdurdodau lleol er mwyn gweithredu eu hawl i gyflawni’r ymrwymiadau a osodwyd arnyn nhw trwy ofynion deddfwriaethol newydd. Ar y llaw arall, weithiau doedd dim ariannu ar gael ac roedd awdurdodau lleol felly’n gorfod darparu hyn fel rhan o’u hadnoddau presennol. Roedd yn cydnabod, fodd bynnag, fod hyn yn broblem, os nad oedd ariannu o’r fath yn cael ei ddarparu, bod hyn yn faich barhaus ar, nid yn unig CBSP, ond awdurdodau lleol eraill hefyd.

 

Roedd rhaid i’r Cyngor, fodd bynnag, gyflawni ei holl swyddogaethau o ran rheoliadau, rheolau a deddfwriaeth newydd, p’un ai wedi’u hariannu ai peidio, gan y byddai methu â gwneud hynny’n arwain at sefyllfa o beidio â chydymffurfio pan fo’r Cyngor yn cael ei archwilio ar wahanol elfennau o’i waith a’i berfformiad gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Ariannol Dros Dro a Swyddog S 151 fod ariannu gan Lywodraeth Cymru weithiau’n cael ei ddyrannu a thro arall ddim. Enghraifft o hyn oedd ei bod wedi cefnogi’r Awdurdod yn ariannol mewn perthynas ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol ond nid ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sydd, fel canlyniad, wedi rhoi pwysedd ar gyllideb y Cyngor.

 

Cyfeiriodd Aelod at Atodiad B o’r adroddiad a Chynigion Lleihau’r Gyllideb mewn perthynas â thymor presennol yr MTFS gyda golwg ar Gludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol. Teimlodd y dylid edrych ar hyn yn fwy manwl mewn cydweithrediad â Llwybrau Diogel i’r Ysgol, er mwyn sicrhau fod cludiant i blant yn parhau lle nad oedd llwybr diogel at unrhyw ysgol yn bodoli  ac, i’r gwrthwyneb, ystyried lleihau darpariaeth cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol lle'r oedd Llwybrau Diogel o’r fath at ysgolion yn bodoli. Ychwanegodd na ddylid gwneud toriadau lle'r oedd galw sylweddol ymysg disgyblion a oedd yn dibynnu ar gludiant i’r ysgol, lle bo’n bosib. Ceir enghraifft o hyn yn Ysgol Gynradd Coety lle'r oedd rhai disgyblion, oherwydd diffyg llwybr cerdded diogel i’r ysgol, yn derbyn cludiant rhwng y cartref a’r ysgol.   

 

Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd, yn cydnabod pwysigrwydd yr uchod, yn ogystal â’r angen i ystyried lleoliadau adeiladu ysgolion newydd wrth ystyried datblygiadau mawr o dai newydd cyfagos roedd yn eu gwasanaethu ac ardal y dalgylch ehangach yn ei gyfanrwydd. Hysbysodd fod yr Adran Addysg yn gweithio’n agos ag Adrannau Priffyrdd a Chynllunio’r Cyngor ynghylch hyn a darpariaeth Llwybrau Diogel i’r Ysgol, sef yr hyn yr oedd yn ofynnol i awdurdodau lleol ei ddarparu os/pryd bynnag y bo’r angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

 

Teimlodd un Aelod ei fod hefyd yn bwysig i ystyried yn fanwl darparu lleoedd digonol mewn ysgolion newydd (Band B) (yn ogystal â Llwybrau Diogel i’r Ysgol), ar gyfer yr ardaloedd roedden nhw’n eu gwasanaethu a bod hyn yn rhywbeth y dylid ei ystyried fel rhan o esblygiad Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio, fod gan Deithio Llesol hefyd rhan i’w chwarae mewn perthynas â’r uchod.

 

Hysbysodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau, fod CBSP wedi llwyddo yn ei gais/ceisiadau am arian grantiau ar gyfer Teithio Llesol er mwyn annog ffurf ar deithio a fydd yn hybu iechyd a lles pobl, yn hytrach na’u bod yn teithio gyda bws neu gar ayyb. Gall Teithio Llesol hefyd gysylltu ardaloedd eang o’r Cyngor Bwrdeistref, un ai trwy lwybrau troed neu lwybrau seiclo.

 

Cyfeiriodd Aelod at EFS41 o Atodiad B, lle cyfeiri at y cynnig o fynd ar ôl ad-daliad cost llawn cludiant Ôl-16. Ei theimlad hi oedd y gallai hyn fod o anfantais i’r bobl hynny sy’n byw mewn lleoliadau lle'r oedd mwy o amddifadedd o fewn y Cyngor Bwrdeistref, megis y dyffryn a’r ardaloedd mwy gwledig, wrth iddyn nhw ystyried dilyn cymwysterau galwedigaethol ac addysg uwch mewn ysgolion a cholegau.

 

Atgoffodd Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd yr aelodau fod ymarferiad ymgynghori newydd ddod i ben ynghylch Addysg a Chludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol Ôl-16, gyda chost darparu’r olaf oddeutu  £500mil y flwyddyn, a oedd yn cyfrannu’n arwyddocaol at orwariant y Gyfarwyddiaeth, rhywbeth a oedd angen mynd i’r afael â hi, er mwyn i’r Adran Addysg lwyddo i gael cyllideb gytbwys. Dywedodd ymhellach fod ganddo ymrwymiad i ddiogelu ei wasanaethau statudol a bod Cludiant Ôl-16 yn faes gwasanaeth anstatudol. Gan nad oedd y rhan hon o’r gyllideb i wynebu toriadau hyd nes 2021-22, roedd y cyfamser yn rhoi cyfle i’r Awdurdod Addysg i weithio gyda darparwyr cludiant, Coleg Pen-y-bont a rhai o’r rhanddeiliaid eraill, gyda golwg ar edrych ar ffyrdd o dorri ar gostau presennol, er mwyn ceisio cadw rhai o elfennau’r cludiant a ddarperir ar hyn o bryd.     

 

Cyfeiriodd Aelod at EFS33, lle sonnir am y cynnig i dynnu’n ôl Hybryngwyr ar wasanaethau cludiant ysgolion cynradd lle bo llai nag 8 disgybl yn teithio. Ystyriodd hyn yn risg ac felly, gofynnodd sut fyddai modd lliniaru’r risg yma.

 

Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn cydnabod hyn, gan ychwanegu fod angen cludiant penodol i rai dysgwyr er mwyn delio â’u hanghenion ac y byddai’r math hwn o gludiant yn parhau i gael ei gynnig, gan ei fod yn ddyletswydd statudol i wneud hynny, h.y. ar gyfer disgyblion ADY ayyb. Lle bynnag y bo hynny’n bosib, fe fyddai’r Cyngor yn edrych ar liniaru’r risg trwy leihau’r nifer o bobl sy’n teithio mewn cerbyd ar unrhyw un amser, yn ogystal â sicrhau fod pob cerbyd cludo yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau, achos wrth achos, ond gan sicrhau nad oes unrhyw gyfaddawdu ar ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch yn nhermau diogelwch dysgwyr. Ychwanegodd ymhellach fod yr arbedion angenrheidiol yn y maes yma hefyd yn fynegol ar hyn o bryd, ac felly’n gallu bod yn destun newid.

 

Cyfeiriodd Aelod at EFS56 a’r cynnig i ddiddymu’r Tîm Datganiadau, wrth i’r Ddeddf ADY symud tuag at ddatblygu Cynlluniau Datblygu Unigol gan ysgolion. Gofynnodd a oedd y cynnig wedi’i ohirio hyd nes 2021-22.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod hwn yn gynnig gwyliadwrus ar hyn o bryd, gan na wyddid eto pa newidiadau’n union y byddai’r Ddeddf ADY yn eu cyflwyno. Y teimlad oedd y byddai rhai newidiadau’n effeithio ar Ddatganiadau i’r unigolion hynny gydag AAA ac y byddai hefyd yn cynyddu’r baich gwaith i Seicolegwyr Addysg.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai hyn yn arwain at Ddatganiadau’n cymryd mwy o amser i’w prosesu. Ateb Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd oedd efallai neu efallai ddim. Ychwanegodd, fodd bynnag, ei bod hi’n ddyletswydd statudol prosesu a chwblhau’r Datganiadau’n llawn o fewn 26 wythnos. 

 

Cyfeiriodd Aelod at EFS54, a chynnig am ostyngiad pellach yn y cyfraniad at Gonsortiwm Canolbarth y De. Gofynnodd sut fyddai hyn yn effeithio ar gyllideb Addysg y Cyngor.

 

Yn ôl Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio, yr effaith cyffredinol ar gyllideb flynyddol Addysg fyddai gostyngiad o bron i £100mil.

 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd, y caiff y gostyngiad hwn effaith ar staff swyddfa gefn ac nid effaith yn nhermau gostyngiad yng nghyllideb ysgolion fel y cyfryw. Ychwanegodd ymhellach, er y nodwyd yn yr adroddiad, Atodiad (B) y byddai hyn gyfystyr â chyfanswm gostyngiad o 10% o’r gyllideb, mae wedi’i addasu i 3% erbyn hyn.

 

Cyfeiriodd Aelod at EFS57, adolygiad pellach o strwythurau staffio ar draws Addysg a Chymorth i Deuluoedd, gan ofyn a gafodd yr adolygiad hwn ei gynnal eto.

 

Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd, fod yr adolygiad hwn yn effeithio ar yr holl Gyfarwyddiaeth ac y byddai cynigion yn ymwneud â hyn yn destun adroddiad i’r CMB ym mis Ebrill. Rhagwelodd y byddai’r newidiadau’n cael eu cadw i’r lleiaf posib ac y byddai’n bennaf yn ymwneud â pheidio â llenwi swyddi gwag ymysg staff ac, o bosib, ymddeoliadau cynnar/dileu swyddi’n wirfoddol.

 

Nododd Aelod, yn SSW19, 20 a 22, fod y Cyngor yn edrych, fel rhan o arbedion, i adolygu’r Contract partneriaeth gyda Halo, yn ogystal â lleihau oriau’r gwasanaethau a ddarperir mewn Canolfannau Hamdden a Llyfrgelloedd. Teimlodd y byddai hyn yn lleihau diwylliant o fewn i’r Cyngor Bwrdeistref, yn ogystal â chyfaddawdu iechyd a lles trigolion y CBS.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion y byddai oriau gostyngol mewn Canolfannau Hamdden a Llyfrgelloedd yn cael eu cadw i’r lleiaf posib yn nhermau effaith ar y gwasanaethau a ddarperir yn bresennol yn y meysydd hyn. Fodd bynnag, roedd y gostyngiadau ar gyllideb a osodwyd ar Gyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol yn golygu bod yn rhaid gwneud rhai arbedion effeithlonrwydd, er bod y rhain yn fach iawn yn nhermau canrannau o’u cymharu â maint cyllideb lawn y Gyfarwyddiaeth.

 

Cyfeiriodd Aelod at SSW29, yn ymwneud ag adolygiad pellach o strwythurau staffio ar draws meysydd Gwasanaethau Oedolion a Phlant. Mynegodd bryder yngl?n â hyn, yn enwedig mewn perthynas â Gweithwyr Cymdeithasol lle, yn hanesyddol, ceir anhawster recriwtio a chadw'r gweithwyr proffesiynol hyn. Roedd baich achosion yn parhau’r un fath, neu’n cynyddu hyd yn oed, ac felly ei obaith oedd na fyddai’r pwysedd gwaith yn y maes gwasanaeth tra phwysig hwn yn cael ei gyfaddawdu trwy unrhyw gynigion strwythuro posib.    

 

Hysbysodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion fod beichiau gwaith pob Gweithiwr Cymdeithasol yn gorfod cael eu cyfarfod o fewn llinellau amser rhagnodedig, gan gynnwys yn unol â deddfwriaeth, ac felly wedi’u diogelu’n ofalus. Roedd hyn yn arbennig o bwysig, gan fod y gwaith yn ymwneud â rhai o’r bobl fwyaf bregus yn y gymdeithas.

 

Gofynnodd Aelod faint oedd yn weddill o’r Contract rhwng CBSP a Halo yn nhermau cyfrifoldebau’r cwmni yma i gynnal y cyfleusterau hamdden.  

 

Yn ôl y Prif Weithredwr, fe ddechreuodd y Contract yn 2012 ac fe ddaw i ben yn 2026/27.

 

Cyfeiriodd Aelod at COM26, chwilio i mewn i’r posibilrwydd o godi ar ddefnyddwyr gwasanaeth Shopmobility yng nghanol tref Pen-y-bont, er mwyn lleihau/dileu’r lefel bresennol o gymhorthdal neu, fel arall, bydd rhaid cau’r gwasanaeth. Teimlodd y dylai’r gwasanaeth hwn barhau ar ryw ffurf neu’i gilydd, gan fod yr anabl a’r henoed yn dibynnu arno. Roedd wedi siarad â rhai o’r defnyddwyr ac yn cadarnhau fod yr adborth a gafodd yn adlewyrchu’r teimlad y bydden nhw’n derbyn codiad yn y tâl.

 

Hysbysodd y Prif Weithredwr fod y gwasanaeth Shopmobility wedi bod yn destun adroddiad i’r Cabinet yr wythnos hon, lle’r cytunwyd, yn unol ag elfen o arbed sy’n angenrheidiol o dan MTFS y Cyngor, fod yr oriau’n cael eu lleihau, yn ogystal â chyflwyno tâl o £3 am y gwasanaeth yn y dyfodol. Ymgymerwyd ag ymgynghoriad yn flaenorol, gyda’r adborth yn cadarnhau nad oedd gwrthwynebiad mawr ymysg defnyddwyr i’r cynigion. Teimlodd fod hyn yn gyfaddawd rhesymol, er mwyn gwneud y newidiadau angenrheidiol wrth barhau i gynnal y gwasanaeth.

 

Cyfeiriodd Aelod at Comm42 a 42a, adolygiad o wasanaethau parciau a meysydd chwarae a throsglwyddo caeau/pafiliynau trwy’r Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC), yn eu tro, a gofynnodd a oedd adnoddau ariannol a staffio digonol am fod ar gael i gefnogi Clybiau a Mudiadau a fyddai’n dymuno cymryd cyfrifoldeb am asedau trwy TAC.

 

Hysbysodd Aelod Cabinet – Cymunedau, fod cynigion i fuddsoddi mewn staff a chyllid ychwanegol i gefnogi TAC (i Glybiau ayyb.) ac ychwanegodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog S151, y byddai £500mil yn cael ei neilltuo ar gyfer yr olaf mewn cronfeydd-wrth-gefn wedi’u clustnodi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan Aelod, cadarnhaodd Aelod Cabinet - Cymunedau, fod yr arbedion a glustnodwyd yn 2020-21 a 2021-22 am gael eu gwneud, hyd yn oed os bydden nhw’n cymryd mwy o amser i’w gwireddu nag a ragwelwyd.

 

Cyfeiriodd Aelod at gynigion i leihau defnydd Teledu Cylch Cyfyng, yn enwedig gyda golwg ar gamerâu ar gyfer cyfrif y nifer o ymwelwyryn ein trefi a gofynnodd a oedd unrhyw drafodaethau wedi’u cynnal gyda’r Heddlu ac unrhyw rhanddeiliaid eraill, gyda golwg ar geisio rhyw fath o gydariannu i gynnal y ddarpariaeth bresennol.  

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr mai dymuniad CBSP ydy i’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu i wneud cyfraniad tuag at ddarpariaeth Teledu Cylch Cyfyng mewn lleoedd cyhoeddus, gan gynnwys ar gyfer digwyddiadau canol tref. Fodd bynnag, hyd yn hyn, doedd dim wedi’i gytuno. Roedd y Cyngor bellach hefyd yn edrych at weithio, o bosib, gydag awdurdodau lleol eraill, i ddarparu Teledu Cylch Cyfyng ar y cyd. Roedd y cyfarpar ym mhrif Uned Teledu Cylch Cyfyng y Cyngor yn Storfa Bryncethin hefyd angen ei ddiweddaru, felly fe fyddai angen gwariant pellach rhywbryd yn y dyfodol i sicrhau cyfarpar newydd o’r fath. Ychwanegodd ei fod yn rhesymol ystyried darparu Teledu Cylch Cyfyng trwy gyfrwng aml-asiantaeth, gan gynnwys mewnbwn gan yr Heddlu, gan y byddai hyn yn helpu lleihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, nid yn unig yn y trefi, ond mewn cymunedau eraill hefyd.

 

Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd y byddai’r Cyngor hefyd yn parhau i ofyn i Lywodraeth Cymru am gymorth i ariannu darpariaeth Teledu Cylch Cyfyng i helpu amddiffyn diogelwch y cyhoedd.

 

Gan fod hyn wedi dod â’r drafodaeth i ben ar yr eitem hon, diolchodd y Cadeirydd i’r holl Wahoddedigion am fynychu’r cyfarfod ac ymateb yn gadarnhaol i gwestiynau gan Aelodau; yn dilyn hyn, fe adawon nhw’r cyfarfod.   

  

Argymhellion:

 

Yn dilyn ystyriaeth y Pwyllgor o gynigion cyllideb ddrafft ar gyfer yr awdurdod, penderfynodd Aelodau i wneud y sylwadau a’r argymhellion canlynol:

 

Mewn perthynas ag EFS41, mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch y cynnig i geisio adfer costau llawn cludiant Ôl-16, gan ei fod yn credu y byddai ei ddiddymu yn effeithio ar yr economi a phlant dan anfantais mewn ardaloedd gwledig ac mewn cymunedau yn y cymoedd, trwy eu hamddifadu o fynediad at addysg ôl-16 oherwydd y pellterau y byddai gofyn iddyn nhw deithio i fynychu gwersi. Gofynnodd y Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu i’r Cabinet ystyried dileu’r cynnig lleihau cyllideb hwn o’r Strategaeth Ariannol y Tymor Canolig hyd nes bod yr ymgynghoriad ar addysg ôl-16 wedi’i gwblhau.     

 

Mewn perthynas â chynnig lleihau’r gyllideb EFS33, y dylai’r Cabinet ystyried peidio â dileu hebryngwyr ar wasanaethau ysgolion cynradd â llai nag 8 o ddisgyblion ar seiliau diogelwch i’r disgyblion, er mwyn amddiffyn gyrwyr cludiant rhwng y cartref a’r ysgol ac er budd diogelwch ar y ffyrdd.  

 

Mewn perthynas â chynnig lleihau’r gyllideb CEX19, cais i’w wneud i’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu fod yr heddlu’n ystyried gwneud cyfraniad tuag at ariannu’r gwasanaeth Teledu Cylch Cyfyng oherwydd bod yr Heddlu’n gwneud defnydd o gynnwys y Teledu Cylch Cyfyng i ganfod troseddau ac wrth sicrhau euogfarnau. Y dylai’r Awdurdod archwilio’r posibilrwydd o gydweithio gydag awdurdodau lleol eraill ynghylch darpariaeth gwasanaeth Teledu Cylch Cyfyng.

 

Bod yr Awdurdod yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ariannu’n llawn cost newidiadau deddfwriaethol er mwyn lleddfu’r pwysedd hwnnw a’r cyfrifoldebau newydd roed ar lywodraeth leol i gyflenwi agenda Llywodraeth Cymru.     

 

Mynegodd y Pwyllgor nad oedd asiantaethau eraill, yn enwedig y GIG, yn cydweithredu gyda’r Awdurdod i hysbysebu Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a gwnaed cais i’r Prif Weithredwr godi’r mater hwn trwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Yn ychwanegol at hyn, gofynnodd y Pwyllgor i’r Prif Weithredwr sgwennu at Lywodraeth Cymru, yn gofyn iddo ymgymryd ag ymgyrch trwy’r cyfryngau i hysbysebu’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, er mwyn annog dinasyddion i gofrestru i ddod yn ddinasyddion y DU. 

             

Dogfennau ategol: