Agenda item

Asesiad Risg Corfforaethol, Polisi Rheoli Risg Corfforaethol a’r Weithdrefn ar gyfer Hysbysu ynghylch Digwyddiadau Gwirioneddol a Digwyddiadau Trwch Blewyn

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Interim adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i’r Pwyllgor am ganlyniad Asesiad Risg Corfforaethol 2020-21 yn Atodiad A, yn hysbysu’r Pwyllgor ynghylch y newidiadau i Bolisi Rheoli Risg y Cyngor yn Atodiad B ac yn rhoi diweddariad am Ddigwyddiadau Gwirioneddol a Digwyddiadau Trwch Blewyn yr hysbyswyd yn eu cylch yn Atodiad C.

 

Hysbysodd fod Atodiad A yn yr adroddiad yn cynnwys dyddiadau anghywir, a rhoddodd gopi wedi’i argraffu i’r Pwyllgor o’r fersiwn gyfoes o Asesiad Risg Corfforaethol 2020-21.

 

Holodd un o’r Aelodau yngl?n â’r risg a oedd yn gysylltiedig â chadw a recriwtio staff a beth oedd y prif broblemau. Dywedodd y Pennaeth Cyllid Interim fod a wnelo’n aml â chyflog ac ansawdd y farchnad. Dywedodd fod y sector preifat o’i gymharu â Llywodraeth Leol yn aml yn cynnig cyflog uwch a mwy o amrywiaeth o swyddi. Ychwanegodd fod nifer o gymhlethdodau pan fo swydd yn cael ei gwerthuso/newid a dywedodd fod un newid bach yn gallu effeithio ar nifer o agweddau eraill.

 

Holodd un o’r Aelodau beth oedd y sefyllfa o ran cyflogi gweithwyr cymdeithasol gan bod anhawster gyda hyn ar un adeg. Dywedodd y Pennaeth Cyllid Interim fod y sefyllfa’n well nag yr arferai fod ond bod anhawster o hyd gyda’r prinder, a oedd yn wir am nifer o feysydd gan gynnwys syrfewyr a pheirianwyr. Ychwanegodd fod y cyflog isel am wneud nifer o’r swyddi’n golygu ei bod yn anodd apelio at bobl.

 

Mynegodd un o’r Aelodau bryderon ynghylch y ffaith bod y cyfrifoldeb yn cael ei ddangos fel un i’r ‘Bwrdd Rheoli Corfforaethol’ ac awgrymodd fod hyn yn atal perchnogaeth go iawn.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Interim fod y mwyafrif o’r risgiau’n rhai nad ydynt yn berthnasol i un Cyfarwyddwr Corfforaethol yn unig ac felly bod rhannu’r cyfrifoldeb ar draws y Bwrdd Rheoli Corfforaethol i gyd yn golygu bod gan bob un ohonynt gydgyfrifoldeb i sicrhau yr ymdrinnir â’r risgiau. Roedd un o’r Aelodau’n cytuno y byddai dangos un enw’n creu diwylliant o fwrw bai a oedd yn ddiangen.

 

Cynigiodd y Cadeirydd y dylai’r Pwyllgor ddarllen drwy bob un o’r risgiau a oedd wedi’u rhestru yn Atodiad A i sicrhau bod pawb yn hapus gyda’r camau gweithredu.

 

Mynegodd un o’r Aelodau bryderon ynghylch Risg 4 a gofynnodd a oedd ysgolion presennol yn cael eu gwella, h.y. a oedd yr arian ar gael i ysgolion presennol yn ogystal ag ysgolion newydd. Cytunodd y Cadeirydd fod angen bwrw golwg ar ysgolion presennol a dod o hyd i ffyrdd o wella’r lle a ddefnyddir yn ogystal â sicrhau bod plant sy’n byw gerllaw’r ysgol yn gallu mynd yno mewn gwirionedd.

 

Fe wnaeth un o’r Aelodau ailddatgan hyn a dywedodd fod CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn ysgwyddo bil mawr am orfod cludo plant am nifer o filltiroedd mewn tacsi oherwydd y diffyg lleoedd i nifer o blant sy’n byw yn nalgylch ysgol ond nad oeddent yn gallu cael lle.

 

Holodd un o’r Aelodau a oedd y berthynas â’r Byrddau Iechyd cystal ag y gallai fod gan iddi hi ofyn am wybodaeth yn ddiweddar ynghylch y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ac wedi cael ei throi i ffwrdd. Dywedodd y Cadeirydd fod hyn yn rhywbeth a drafodwyd mewn cyfarfod Craffu hefyd.

 

Gofynnodd un o’r Aelodau a ydym yn trafod arfer gorau gydag Awdurdodau Lleol eraill. Dywedodd y Pennaeth Cyllid Interim ein bod yn trafod dulliau arfer gorau a sut y gallwn rannu gwasanaethau gyda’n gilydd, a oedd wedi bod yn digwydd am nifer o flynyddoedd gydag awdurdodau cyfagos.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleyg sut yr oedd y cyflenwyr wedi’u cynnwys yn y cynllun digwyddiadau mawr o ran cydnerthedd ariannol. Dywedodd y Pennaeth Cyllid Interim ei bod yn anodd cynllunio ar gyfer sefyllfa lle byddai cwmni’n dioddef ymosodiad seiber neu’n syrthio i ddwylo’r gweinyddwyr a bod hyn yn rhywbeth y byddai angen i ni ei fonitro.

 

Dywedodd un o’r Aelodau ei bod yn ofynnol bod gan ysgolion bolisi cymorth cyntaf; fodd bynnag, wrth edrych ar ganllawiau ynghylch polisi cymorth cyntaf ar wefan Llywodraeth Cymru, y cyfarwyddyd oedd i ddilyn canllawiau’r awdurdod lleol. Dywedodd nad oedd gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr ei bolisi ei hun a’i fod yn defnyddio canllawiau a gyhoeddwyd gan awdurdodau yn Lloegr. Ychwanegodd nad oedd hyfforddiant digonol wedi cael ei roi i athrawon ar sut i ddefnyddio diffibrilwyr ar y plant mewn Ysgolion Cynradd.


Dywedodd y Cadeirydd fod angen ymchwilio i hyn ac ychwanegodd at y cofnod gweithredu i sicrhau bod CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn datblygu polisi cymorth cyntaf sy’n cwmpasu ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ogystal â darparu hyfforddiant addas.

 

Cwestiynodd un o’r Aelodau a oedd y tebygolrwydd ar gyfer rhai o’r risgiau’n gywir, ac a ddylai lefel y risg fod yn uwch o ganlyniad. Dywedodd y Cadeirydd y byddai perygl yn deillio o wneud hyn gan y byddai rhai risgiau’n codi i lefel rhy uchel lle byddai hysbysu gormodol ynghylch materion.

 

Dywedodd un o’r Aelodau fod gan y bwrdd iechyd system hysbysu dda ac y gallai fod yn werth bwrw golwg ar eu system hwy. Cytunodd y Cadeirydd y gallai hyn fod yn fuddiol ac y byddai’n werth i Swyddogion geisio’r ffordd orau o ganlyn arni â hyn.

 

PENDERFYNWYD: Fod Aelodau’r Pwyllgor:

 

  1. Wedi ystyried yr Asesiad Risg Corfforaethol 2020-2021 (Atodiad A) a’r Polisi Rheoli Risg Corfforaethol wedi’i ddiweddaru (Atodiad B)

 

Yn nodi’r Digwyddiadau Gwirioneddol a Digwyddiadau Trwch Blewyn yr hysbyswyd yn eu cylch yn y 12 mis diwethaf (Atodiad C)

Dogfennau ategol: