Agenda item

Deilliannau Addysgol

Gwahoddedigion:

Lindsay Harvey – Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cynghorydd Charles Smith – Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Nicola Echanis – Pennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd

Michelle Hatcher, Rheolwr Gr?p Cynhwysiant a Gwella Ysgolion

Andrew Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Cynorthwyol Consortiwm Canolbarth y De

Andy Rothwell, Uwch Ymgynghorydd Her, Consortiwm Canolbarth y De

Hannah Castle, Prifathro, Ysgol Gyfun Cynffig - Cadeirydd Fforwm Cyllideb Ysgolion

Neil Clode, Prifathro, Ysgol Gynradd Llangewydd - Is-gadeirydd Fforwm Cyllideb Ysgolion

Andrew Slade, Prifathro, Ysgol Uwchradd Porthcawl - Cadeirydd Cymdeithas Penaethiaid Uwchradd Pen-y-bont ar Ogwr

Kath John, Prifathro, Ysgol Gynradd Brackla - Cadeirydd Ffederasiwn Cynradd Pen-y-bont ar Ogwr

Meurig Jones, Prifathro, Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd - Cynrychiolydd Ysgol Ganolig Cymru

Jeremy Evans, Prifathro, Ysgol Heronsbridge - Cynrychiolydd Ysgol Arbennig

Angela Keller, Prifathro, Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath - Cynrychiolydd Ysgol Ffydd

Jeremy Phillips, Prifathro, Ysgol Gynradd Litchard - Cynrychiolydd Ysgol Gynradd

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Uwch Gynghorydd Her Consortiwm Canolbarth y De (CCD), a’i ddiben oedd cyflwyno deilliannau addysgol 2018-2019 i’r Pwyllgor ar gyfer y cyfnod sylfaen, cyfnodau allweddol 2, 3 a 4, ac ôl-16 yn ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Roedd yr adroddiad yn gwerthuso perfformiad addysgol yn ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod 2018-2019.

 

Esboniodd fod cynnwys yr adroddiad yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau sylweddol o ran y ffordd y mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn adrodd ar fesurau perfformiad a sut y dylid eu defnyddio. Ymhelaethwyd ar fanylion pellach mewn perthynas â hyn yn y wybodaeth gefndir i’r adroddiad (paragraff 3).

 

Roedd Atodiad A yr adroddiad yn cynnwys tablau â’r data pennawd ar gyfer cyfnod allweddol 4 ac ôl-16.

 

Hefyd, roedd angen ystyried yr adroddiad o fewn cyd-destun arolygiad Estyn o wasanaethau addysg llywodraeth leol Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Mawrth 2019, a amlygodd nifer o gryfderau ym mherfformiad yr awdurdod lleol ynghyd â nodi meysydd i’w datblygu ymhellach. Gellir gweld adroddiad arolygu llawn Estyn yn Atodiad B (i’r adroddiad).

 

Er mwyn cynorthwyo’r Aelodau i ddeall y newidiadau i fesurau perfformiad, cynhaliwyd sesiwn ddiweddaru gan CCD a’r awdurdod lleol ar gyfer yr holl aelodau etholedig ym mis Medi 2019. Roedd copi o’r cyflwyniad hwn ynghlwm yn Atodiad C yr adroddiad.

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad yn cynnwys canlyniadau ar ffurf manylion perfformiad gan gynnwys canlyniadau perfformiad ysgolion/disgyblion yn y grwpiau oedran blwyddyn ysgol canlynol:-

 

·         Cyfnod Sylfaen

·         Cyfnod Allweddol 2

·         Cyfnod Allweddol 3

·         Cyfnod Allweddol 4

·         Ôl-16

 

O ran cryfderau data deilliannau Addysgol, amlygodd yr adroddiad hefyd fod deilliannau’r Cyfnod Sylfaen yn parhau i fod ymhell uwchlaw cyfartaledd Cymru gyfan.

 

Gwelwyd perfformiad gwell o ran deilliannau Cyfnod Allweddol 2, o gymharu â’r cyfartaledd rhanbarthol a chyfartaledd Cymru gyfan.

 

O dan y mesur perfformiad interim newydd yng Nghyfnod Allweddol 4, mae’r awdurdod lleol wedi perfformio’n dda, yn gyffredinol yn unol â chyfartaleddau rhanbarthol ac yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan. Yn hyn o beth, roedd y bwlch mewn perfformiad rhwng dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim (eFSM) a dysgwyr nad ydynt yn gymwys am brydau ysgol am ddim (nFSM) yn llai na’r cyfartaledd cenedlaethol.

 

Hefyd, o dan y mesurau perfformiad interim newydd, roedd perfformiad bechgyn yng Nghyfnod Allweddol 4 yn well na chyfartaledd Cymru gyfan.

 

O ran data deilliannau Addysgol, meysydd i’w datblygu, cafwyd tystiolaeth o welliant parhaus mewn perfformiad llythrennedd yng Nghyfnod Allweddol 2.

 

Gwelwyd gwelliant hefyd yn y cyfnod ôl-16 ym mesur A* - C, a oedd cystal â, neu’n well na, chyfartaledd Cymru gyfan.

 

Dywedodd yr adroddiad fod angen cau’r bwlch mewn perfformiad rhwng disgyblion eFSM ac nFSM ym mhob cyfnod. Roedd cyflymder y cynnydd mewn ysgolion yn achosi rhywfaint o bryder hefyd ac roedd angen gwella rhywfaint.

 

Roedd paragraffau 4.52 i 4.76 cynwysedig yr adroddiad yn amlinellu gwybodaeth mewn perthynas â’r her a’r gefnogaeth a ddarperir gan CCD, ynghyd â gwybodaeth ystadegol arall a data cysylltiedig mewn perthynas ag ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP), gan gynnwys arolygiadau a/neu adolygiadau o rai ysgolion gan Estyn. Roedd hyn hefyd yn cynnwys manylion y berthynas barhaus sydd gan CCD â’r Cyngor, a’r berthynas arfaethedig wrth symud ymlaen.

 

Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn nodi bod CCD yn parhau i chwarae rhan arweiniol yn natblygiad y Cwricwlwm i Gymru; a’i fod yn gweithio gydag ysgolion arloesi, Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â’r consortia rhanbarthol eraill ledled Cymru. Rhoddwyd enghreifftiau o’r math o waith roedd hyn yn ei gynnwys ym mharagraff 4.75 yr adroddiad.

 

Yn olaf, roedd yr adroddiad yn nodi y darparwyd cyllid ychwanegol yn 2018-19 i gefnogi blaenoriaethau penodol Pen-y-bont ar Ogwr trwy Atodiad yr Awdurdod Lleol. Y cyllid a ddyrannwyd oedd £19,449.

 

Yn 2018-19, defnyddiwyd y cyllid i gyllido gweithgareddau fel rhan o ?yl Ddysgu Pen-y-bont ar Ogwr. Gwnaed sylwadau gan randdeiliaid ar lwyddiant yr ?yl Ddysgu yn ystod arolygiad Estyn yr awdurdod lleol ym mis Mawrth 2019.

 

Holodd Aelodau’r cwestiynau canlynol:

 

Ailadroddodd Aelod gais blaenorol i gynnwys Crynodeb Gweithredol cryno a chlir mewn adroddiadau – roedd yr adroddiad ar gael i’r cyhoedd ac roedd angen ei ddeall.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth Teulu y bydd yn bwrw ymlaen â’r cais.

 

Cyfeiriodd Aelod at strwythur gwybodaeth ategol yr adroddiad sydd wedi’i chynnwys fel rhan o’r Atodiad, a theimlai y gellid bod wedi darparu mwy o esboniad, mewn perthynas â’r newidiadau newydd yn ogystal â’r system bwyntiau.

 

Dywedodd Uwch Gynghorydd Her CCD fod hwn i raddau yn waith ar y gweill o hyd, a bod cyflwyniad wedi’i ddarparu i’r Aelodau ar y newidiadau newydd i fesurau perfformiad ym mis Medi 2019 a bod y sleidiau hyfforddiant wedi’u hatodi i’r adroddiad gerbron yr Aelodau. Ychwanegodd fod Cyfnod Allweddol 4 bellach wedi symud i ffwrdd oddi wrth ‘fesurau trothwy canrannol’, i sgorau pwyntiau. Cyflwynwyd hyn o ganlyniad i naratif gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod y system bwyntiau newydd yn rhoi dealltwriaeth well o’r ffordd roedd ysgolion yn perfformio ym meysydd ehangach y cwricwlwm.

 

Cafwyd sylwadau gan Aelod ar y bwlch cyffredinol mewn perfformiad addysgol rhwng bechgyn a merched yn y pynciau craidd, o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol a Phen-y-bont ar Ogwr, o flwyddyn i flwyddyn.

 

Dywedodd Uwch Gynghorydd Her CCD y byddai’r Llwybr Dilyniant yn mynd i’r afael â gwelliannau a’i bod hefyd yn anodd tynnu cymhariaeth rhwng Cyfnod Allweddol 4 eleni a’r flwyddyn flaenorol.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 9 yr adroddiad a’r adran ar ddata deilliannau Addysgol, a nododd nad oedd cyfeiriad at Gyfnod Allweddol 3, lle’r oedd perfformiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi gostwng am y flwyddyn honno i ychydig yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Teimlai fod angen rhagor o wybodaeth yn hyn o beth.

 

Dywedodd Uwch Gynghorydd Her CCD fod paragraffau 4.47 i 4.51 yr adroddiad yn canolbwyntio ar feysydd i’w datblygu yn unig mewn cyfnodau gwahanol of fewn Cyfnodau Allweddol mewn ysgolion. Cydnabu y bu gostyngiad mewn perfformiad yng Nghyfnod Allweddol 3 eleni ond, ar y cyfan, roedd y duedd yn gadarnhaol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr athrawon a oedd yn bresennol yn y cyfarfod sut oedd y newidiadau sylweddol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) o ran y ffordd mae ysgolion (ac awdurdodau lleol) yn adrodd ar fesurau perfformiad, gan gynnwys sut y dylid defnyddio’r rhain, wedi effeithio ar eu hysgolion.

 

Dywedodd Penaethiaid Ysgolion Uwchradd fod mesur perfformiad mewn Gwyddoniaeth wedi newid 3 gwaith mewn 3 blynedd, gyda rhai negeseuon cymysg gan LlC. Bu dryswch ymhlith pobl ifanc, ac roedd angen esbonio’r newidiadau i staff a chyrff llywodraethu ynghylch y sgôr pwyntiau cyfartalog a’r newidiadau yn y defnydd o iaith.

 

Croesawodd Penaethiaid Ysgolion Cynradd rai o’r newidiadau, roeddent yn falch i symud oddi wrth ddull data mawr, ac roeddent yn ailadrodd fod y broses olrhain yn fesur cadarn i olrhain cynnydd unigolyn.

 

Dywedodd Pennaeth YG Llangynwyd y byddai gostyngiad hefyd yn y cymwysterau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Arbennig Heronsbridge fod y cynigion newydd sydd ar waith wedi arwain at gynnydd gwell yn yr ysgol, ond nad oeddent yn cynorthwyo’r rhai a oedd eisiau cymharu perfformiad ysgolion.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 3.6 yr adroddiad, lle nodir ei bod bellach yn amhriodol i gyhoeddi data ar lefel ysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 mewn adroddiad cyhoeddus.

 

Dywedodd Uwch Gynghorydd Her CCD fod un o’r newidiadau a gyflwynwyd wedi gweld symudiad i ffwrdd oddi wrth ddata’n cael eu rhannu a’u cymharu rhwng ysgolion, tuag at system fwy cydweithredol. Roedd data a gasglwyd yn flaenorol yn parhau i fodoli, ychwanegodd; fodd bynnag, nid oedd awdurdodau lleol yn eu cydgrynhoi’n allanol fesul ysgol at ddibenion cymharu rhwng ysgolion. Roedd y ffordd ymlaen yn arwain mwy at ddeillio data cydweithredol, yn hytrach na data cystadleuol, oedd ei gasgliad. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod angen edrych ar godi ymwybyddiaeth am y newidiadau mewn perfformiad ac wrth adrodd ar gategoreiddio, gan fod diffyg dealltwriaeth ynghylch hyn.

 

Hysbyswyd y Gwahoddedigion gan Aelod ei bod yn ymwybodol bod plentyn ym Mlwyddyn 6 mewn ysgol leol wedi sefyll prawf mathemateg ar-lein gan dalu ffi i’w gwblhau. Roedd yn ymwybodol bod profion tebyg mewn pynciau eraill y gallai disgyblion eu sefyll ar-lein yn yr un modd. Holodd gynrychiolwyr CCD p’un ai oeddent yn teimlo bod hyn yn gam cadarnhaol ymlaen.

 

Cadarnhaodd Uwch Gynghorydd Her CCD fod prawf darllen cenedlaethol, yn ogystal â phrawf rhesymu a phrawf rhifedd, ar gael ar-lein. Profion wedi’u haddasu oedd y profion hyn lle gallai disgyblion sefyll profion ar lefelau gwahanol o anhawster. Roedd y profion yn mesur lle’r oedd gan ddisgyblion gryfderau a gwendidau. Gallai disgyblion sefyll y profion eto i gael canlyniad gwell yn ddiweddarach yn y flwyddyn. O ran p’un ai oedd y profion yn gwella cyrhaeddiad disgyblion ers iddynt gael eu cyflwyno, dywedodd ei fod wedi derbyn negeseuon cymysg yn hyn o beth.

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Heronsbridge ei fod yn cefnogi’r asesiadau/profion ar-lein uchod, gan eu bod yn hygyrch ac yn galluogi athrawon a disgyblion i fesur dilyniant o ran plant yn cyflawni lefelau gwahanol o gyrhaeddiad. Yn ogystal, roedd canlyniadau’r rhain ar gael ar unwaith.

 

Ategwyd yr uchod gan Bennaeth Ysgol Gynradd Llangewydd. Roedd y math hwn o brofion yn fanteisiol i’w cymryd ar ddechrau ac ar ddiwedd blwyddyn, er mwyn edrych ar ganlyniadau disgyblion ac asesu p’un ai oeddent wedi gwella mewn meysydd pynciau allweddol.

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Bracla fod yr asesiadau ar-lein ar gael i blant ym Mlynyddoedd 2 – 9 yr ysgol, ond teimlai nad oedd y profion yn addas ar gyfer disgyblion iau, gan y gallent roi straen a phwysau sylweddol ar oedran cynnar. Nid oedd y profion yn addas ychwaith ar gyfer plant agored i niwed a phlant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

 

Gofynnodd Aelod p’un ai oedd materion yn cael eu hadrodd i Lywodraeth Cymru pan oeddent yn cael eu nodi.

 

Dywedodd Cadeirydd Ffederasiwn Cynradd Pen-y-bont ar Ogwr eu bod yn rhoi adborth i LlC ym mhob cyfarfod.

 

Awgrymodd yr Aelod os oedd adborth wedi’i ddarparu, o ystyried y pwysau a roddir ar blant iau, fod angen gwneud yr adborth yn gryf.

 

Holodd Aelod p’un ai oedd plant mewn dosbarth yn gwybod beth oedd lefelau eu carfan.

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Llangewydd ei fod yn asesiad personol, o gymharu â phrofion blaenorol, a rannwyd â rhieni.

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Heronsbridge fod y profion yn benodol i’r plentyn. Gall disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) ac ADY fod yn sylweddol h?n na’u cyfoedion prif ffrwd.

 

Holodd Aelod p’un ai y cafwyd unrhyw adborth gan y plant am y profion ar-lein.

 

Dywedodd yr ysgol na fu gwerthusiad hyd yn hyn, ond roedd plant yn hoffi Technoleg Gwybodaeth (TG) ac nid oeddent yn hoffi profion.

 

Cyfeiriodd Aelod at berfformiad cadarnhaol disgyblion sy’n gymwys am Brydau Ysgol Am Ddim o gymharu â’r perfformiad cenedlaethol, ond nododd y bwlch o gymharu â pherfformiad disgyblion nFSM.

 

Esboniodd Uwch Gynghorydd Her CCD fod hyn yn gulach ym Mhen-y-bont ar Ogwr na ledled Cymru, a bod addysgu o safon yn digwydd mewn ystafelloedd dosbarth felly roedd pawb yn ennill, ond mae gwahaniaeth yn parhau.

 

Cyfeiriodd Aelod at y datganiad ar dudalen 27 adroddiad Estyn: “Yn gyffredinol, ledled yr Awdurdod Lleol, ychydig iawn o ysgolion sy’n rhannu’r hyn sy’n gweithio’n dda wrth wella’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog”, a chwartel uchaf Cyfnod Allweddol 4 a gostyngiad Ôl-16.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth Teulu fod gwaith yn mynd rhagddo, ond bod sefydlu arferion gorau ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog mewn polisi yn flaenoriaeth ar gyfer ei datblygu.

 

Gofynnodd yr Aelod i’r adroddiad gynnwys diweddariad ar y cynnydd yn hyn o beth yn y dyfodol.

 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Llangewydd fod angen i’r polisi fod yn addas ar gyfer ysgolion, a chael ffocws penodol ar brydau ysgol am ddim.

 

Holodd Aelod am gydweithredu ymhlith ysgolion a’r ffordd mae arferion gorau yn cael eu rhannu ar hyn o bryd.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth Teulu fod ffocws ar rannu arferion gorau trwy weithdai, er nad oeddent yn canolbwyntio ar ddisgyblion mwy abl a thalentog, a bod angen cael polisi ar waith. Roedd Consortiwm Canolbarth y De yn datblygu polisi, ond roedd canllawiau sylweddol ar gael i ysgolion.

 

Nododd Aelod fod nifer y gwaharddiadau parhaol wedi cynyddu dros y tair blynedd diwethaf a gofynnodd am ddarparu i Aelodau’r Pwyllgor nifer y disgyblion a symudwyd i ysgolion eraill a’r Uned Cyfeirio Disgyblion ar ôl cael eu gwahardd.

 

Holodd Aelod p’un ai oedd CBSP wedi hawlio arian Tlodi Mislif a ph’un ai y  bydd Llywodraeth Cymru’n cyllido’r Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf eleni.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth Teulu y ddau uchod.

 

Roedd Aelodau’n dymuno gwneud y sylwadau a’r casgliadau canlynol:

 

-       Ailadroddwyd cais blaenorol gan Aelod i ddarparu crynodeb gweithredol ar gyfer adroddiadau hir, gan nodi unrhyw bryderon a’r argymhellion.

 

-       Holodd Aelod ynghylch strwythur y newidiadau i fesurau perfformiad ar gyfer 2019 a gofynnodd am esboniad o’r sgorio pwyntiau. Tynnwyd sylw Aelodau at y Cyflwyniad Hyfforddiant sydd ynghlwm wrth yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Aelodau ym mis Medi a gellid darparu sesiwn arall pe bai angen.

 

-       Holodd Aelod pam na chynhwyswyd Cyfnod Allweddol 3 yn y Meysydd i’w Datblygu yn yr adroddiad, er gwaethaf y gostyngiad a nodwyd mewn perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf.

 

-       Cyfeiriodd Aelod at y datganiad ar dudalen 27 adroddiad Estyn: “Yn gyffredinol, ledled yr Awdurdod Lleol, ychydig iawn o ysgolion sy’n rhannu’r hyn sy’n gweithio’n dda wrth wella’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog”, a gofynnodd i’r adroddiad gynnwys diweddariad ar gynnydd yn hyn o beth yn y dyfodol.

 

-       Cyfeiriodd Aelod at gydweithredu ymhlith ysgolion a holodd sut mae arferion gorau yn cael eu rhannu ar hyn o bryd.

 

-       Nododd Aelod fod nifer y gwaharddiadau parhaol wedi cynyddu dros y tair blynedd diwethaf a gofynnodd am ddarparu i Aelodau’r Pwyllgor nifer y disgyblion a symudwyd i ysgolion eraill a’r Uned Cyfeirio Disgyblion ar ôl cael eu gwahardd.

     

Dogfennau ategol: