Agenda item

Trafnidiaeth rhwng y Cartref a'r Ysgol

Gwahoddedigion

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cyng Charles Smith, Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Mark Shephard – PrifWeithredwr

Robin Davies, Rheolwr Grwp Strategaeth Fusnes a Pherfformiad

Tony Hart, Uwch Swyddog Trafnidiaeth

Jonathan Parsons, Rheolwr Gr?p Gwasanethau Cynllinio a Datblygu

 

Cofnodion:

Bu i Reolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad gyflwyno adroddiad Cartref i'r Ysgol yn dilyn adolygiad annibynnol yn ddiweddar gan Peopletoo, a diweddarodd yr Aelodau ar y mesuriadau a adnabuwyd a chynigion yn ymwneud â'r statws presennol ym mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Nododd yr Aelodau nad oedd cynrychiolwyr o Wasanaethau Cymdeithasol wedi derbyn gwahoddiad i fynychu er eu perthnasedd i bwnc y mater. Dywedodd Rheolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad bod swyddogion angen asesu a oedd y cynigion yn yr adolygiad yn ddibynadwy neu wedi'u derbyn, a bod angen pennu ar hyn.

 

Bu i'r Aelodau ofyn faint o ddysgwyr a ellir all deithio ar un bws. Dywedodd Rheolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad bod yr adolygiad wedi adnabod y cyfle i gomisiynu cerbydau Gwasanaethau Cymdeithasol (maint bws mini) fyddai fel arall yn cael eu defnyddio i gludo dysgwr gartref yn unig. Nododd na fyddai nifer sylweddol o fysys ar gael, er gwaethaf y fantais i rai dysgwyr a'r fantais ariannol i'r Awdurdod Lleol (ALl).

 

Mynegodd yr Aelodau yr angen i gyflwyno llwybrau cerdded mewn rhai wardiau, e.e. Penyfai, gan dderbyn y dylai plant ysgol gynradd gerdded i'r ysgol. Ymatebodd y Rheolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad drwy ddweud nad oedd pob llwybr cerdded ar gael ac yn ddiogel, a dim ond y llwybrau hynny a ystyriwyd yn ddiogel gan ddeddfwriaeth fyddai’r ALl yn eu hystyried. Yn unol â deddfwriaeth, ni fyddai gwaith yn cael ei gynnal ar y llwybrau nad oedd ar gael yn hanesyddol. Ategwyd hyn gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd a gytunodd hefyd â'r Aelodau ar y ffaith bod y pwnc yn ffurfio elfen bwysig o'r cwricwlwm a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Nododd yr Aelodau fod y cynnig i beidio â darparu trafnidiaeth i ysgolion, ac eithrio'r rhai oedd wedi'u diogelu (ysgolion Cyfrwng Cymraeg a Ffydd), mewn perthynas â Thrafnidiaeth Addysg Ôl-16, yn wahaniaethol a bod posib iddo gael effaith niweidiol ar dderbyniadau i ysgolion; Ni adnabuwyd ysgolion Ffydd yn yr adroddiad, a'r mater oedd yn peri problem sylweddol oedd y mwyafrif o Gatholigion Rhufeinig ym mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr oedd yn byw ym Maesteg, a sut fydden nhw'n gallu mynychu ysgolion megis Esgob Llandaf, 2) bydd cydlynu darpariaeth mewn ysgolion yn caniatáu dysgwyr i fynychu ysgol wahanol. Sut y trefnir trafnidiaeth ac ar draul pwy? Cadarnhaodd Rheolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad fod yr effaith ar Drafnidiaeth Ôl-16 wedi ei gydnabod a bydd gan y Cabinet adroddiad llawn i'w gyflwyno iddynt. Yn ogystal, cadarnhawyd nad oedd cynnig i dynnu Trafnidiaeth Ôl-16 o'r ysgolion oedd wedi'u diogelu, oedd yn cyfateb i un ysgol Cyfrwng Cymraeg ac ysgol Ffydd, ym mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr. Ymhellach, gall argaeledd trafnidiaeth effeithio ar y penderfyniad i fynychu ysgol Ffydd. Roedd y Rheolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad yn cydnabod y risg, ond ategodd bod y cynnig yn diogelu ysgolion Cyfrwng Cymraeg a Ffydd yn unig, a bod y Cabinet yn gyfrifol am wneud y penderfyniad. Cydnabuwyd y risg ymhellach gan y Cyfarwyddwr Gweithredol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd. Eglurodd 1) nad oedd Addysg Ôl-16 yn statudol, 2) bod Trafnidiaeth Ôl-16 yn cysylltu'r ddau, 3) derbyniwyd adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus gan rieni, plant a chyrff llywodraethol, a chanfuwyd bod y mwyafrif yn ystyried trafnidiaeth i'r ysgol yn anodd, 4) roedd un ysgol Cyfrwng Cymraeg (statudol) ac un ysgol Ffydd (anstatudol) wedi'u diogelu, ond roedd gweddill yr ysgolion dan anfantais, a 5) bod angen ystyried effaith y cynnydd mewn ceir ar yr amgylchedd ac mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Bu i'r aelodau gwestiynu lwfans milltiroedd yr ALl, sef 47c i bob milltir (sydd yn uwch na chyfradd CThEM o 45c i bob milltir) ac a oedd y gyfradd hon yn berthnasol i staff yr ysgolion yn unig ac a oeddynt yn ymwybodol eu bod nhw'n derbyn treth ar filltiroedd ychwanegol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai hyn yn cael ei adrodd yn ôl i'r adran Gyllid i'w gadarnhau.

 

Teimlodd yr Aelodau nad oedd cyfarwyddyd clir ar sut y gweithredir y polisi yn ystod y cyfnod hwn, a bod posib ei nodi yn yr adroddiad yn ystod y Pwyllgor hwn yn unig. Gofynnodd yr Aelodau beth oedd yn ofynnol ganddynt yn y Pwyllgor hwn er mwyn sicrhau eu bod nhw'n ychwanegu gwerth. Roeddynt eisiau cael eu briffio'n llawn er mwyn sicrhau bod yr argymhellion a phenderfyniadau cywir yn cael eu hanfon i'r Cabinet. Datgelodd y Rheolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad bod yr adroddiad yn cynnwys rhai o'r mentrau ar gyfer arbedion ariannol, gyda'r arbedion mwyaf o amgylch Polisi Teithio Dysgwr. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei fod wedi ystyried sylwadau'r Aelodau yn yr ysbryd a fwriadwyd nhw e.e. i ddiogelu'r ALl a'r dysgwyr. Gofynnodd i'r Aelodau ystyried cynigion 3.21 yn ddwys a chadarnhau a oeddynt yn eu cefnogi a/neu angen rhagor o wybodaeth. Yn ogystal, dywedodd y byddai canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus ar gael i'r pwyllgor Craffu ar 9 Mawrth er paratoad ar gyfer penderfyniad y Cabinet ym mis Ebrill.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd Polisi Teithio'r Dysgwr yn berthnasol i 1) ddysgwyr o ysgolion cynradd ac uwchradd sy'n 2) teithio i'w hysgol neu eu haddysg i'r dyfodol. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod nifer o ddigwyddiadau wedi'u cynnal a'u cefnogi gan y Cyngor Ieuenctid i hysbysu'r ymgynghoriad cyhoeddus. Rhoddwyd croeso i'r holl ddysgwyr, ond rhieni oedd fwyaf presennol. Cynrychiolwyd ysgolion cynradd ac uwchradd, ac roedd yr hanner arall wedi'u cysylltu â'r ymgynghoriad Ôl-16. Bu i'r ysgolion gynnal eu sesiynau eu hunain ac adroddwyd y canlyniadau i'r ALl.

 

Gofynnwyd am eglurhad gan yr Aelodau ynghylch y gwahaniaeth rhwng llwybr cerdded oedd ar gael a llwybr ddiogel, yn ogystal ag effaith posib asesiad llwybrau cerdded bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr ar ddarpariaeth ysgolion. Dywedodd y Rheolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad, bod llwybr sydd ar gael hefyd yn golygu llwybr diogel. Ymhellach, roedd asesiad yr ALl ar lwybrau a oedd ar gael ac ddim ar gael yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.

 

Bu i'r Cyfarwyddwr Gweithredol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd dynnu sylw at y tri dewis o dan Bolisi Teithio Dysgwr, a dywedodd nad oedd y trydydd dewis ('cynnal chweched ddosbarth ym mhob ysgol, ond gyda datblygiadau pellach i wella darpariaeth y dewis hwn') yn cyfleu'r sefyllfa bresennol, ond bydd gofyn i ysgolion gydlynu eu horiau i gynorthwyo dysgu cyfunol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod Adroddiad Teithio Dysgwr yn cael ei ddychwelyd i'r pwyllgor Craffu ar 9 Mawrth, ac awgrymodd y posibilrwydd o Bwyllgor ar y Cyd ar y dyddiad hwn.

 

Holodd yr Aelodau a oedd cerbydau amgen ar gael gan yr ALl i'w defnyddio ar y safle yn ychwanegol at gerbydau Gwasanaethau Cymdeithasol, er mwyn lleihau'r gofyn. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod hyn wedi ei archwilio, ac eithrio bod y ceir wedi'u dylunio ar gyfer teithwyr sy'n oedolion, ac nad oeddynt wedi eu haddasu ar gyfer anghenion dysgu/ychwanegol. Yn ôl y Rheolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad, roedd gan ALl fflyd o geir ar gyfer teithiau pellach, ond cafodd ei dynnu'n ôl oddeutu pum mlynedd yn ôl.

 

Gofynnodd yr Aelodau sut fyddai defnyddio'r cerbydau fel trafnidiaeth o'r Cartref i'r Ysgol yn bodloni Cynlluniau Datblygu Lleol. Dywedodd Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu bod angen i'r Polisi gydymffurfio â'r agenda aer glân/trafnidiaeth cyffredinol presennol, a bod angen mwy o bwyslais ar ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a cherdded.

 

Roedd Aelodau'n bryderus ynghylch y gost ychwanegol o gyflwyno meddalwedd newydd gyda'r Awdurdod Lleol yn ceisio lleihau costau, a gofynnwyd a fyddai adroddiad ar dechnoleg ar gael yn y dyfodol. Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen. 17, Bwrdd 2 'Adnabod arbedion ariannol posib a gofynion buddsoddi', a nododd bod buddsoddi yn y feddalwedd yn fantais ariannol yn y tymor hir. Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad bod buddsoddiad wedi ei wneud yn nefnydd technoleg, ond roedd yn anodd mesur yr arbediad ariannol. Os oedd yr ALl eisiau buddsoddi i'r system unwaith yn rhagor, cynghorodd bod angen dilyn y broses gaffael a'i bod hi'n werth ystyried hyn eto drwy'r pwyllgor Craffu. Dywedodd y Cadeirydd bod angen cynhyrchu adroddiad ar y dechnoleg.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd prawf modd wedi ei gynnal ar Drafnidiaeth Dysgwr, e.e. yn seiliedig ar yr asesiad i brofi a oedd rhieni yn gallu talu am y gwasanaeth. Awgrymwyd bod posib i rieni fod â dau blentyn yn mynychu'r Chweched Dosbarth, ac y gallai fod yn gostus. Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad bod cynllun talu mewn lle ar hyn o bryd o fewn yr ALl ar gyfradd isel o £2 y diwrnod, a'i bod hi'n cael ei hadolygu'n flynyddol. Cynigwyd gweithredu lleoedd gweigion ar fysys, ond byddai angen ystyried goblygiadau cyfreithiol, yn ogystal â'r effaith ar deuluoedd gydag incwm isel. Cadarnhaodd Rheolwr Gr?p Strategaeth Busnes a Pherfformiad eu bod nhw'n ymwybodol o safbwyntiau'r gweithredwyr ac y byddai adborth yn cael ei ddarparu i'r pwyllgor Craffu.

 

Gan i'r adroddiad drafod y posibilrwydd o roi'r gorau i ddarparu Trafnidiaeth Ôl-16, roedd yr Aelodau eisiau eglurhad yn ei gylch. Bu i'r Aelodau ddadlau bod angen 'gr?p canol', e.e. yn amodol ar daliad prawf modd enwol. Nododd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio na ddylid ystyried y ddarpariaeth fel opsiwn 'ia' neu 'na'.

 

Argymhellion:

 

Gan fod y gyfradd filltiroedd bresennol yn 47c i bob milltir, teimlodd yr Aelodau bod angen ystyried gostwng y gyfradd i lefel CThEM, sef 45c. Gofynnod yr Aelodau a oedd y ffigwr hwn yn berthnasol i'r holl gyngor, neu staff ysgolion yn unig.

 

Teimlodd yr Aelodau nad oedd yn bosib gwneud argymhellion nes eu bod wedi gweld canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus, gan bod posib i broblemau godi, nad oeddynt wedi eu cynnwys yn yr adolygiad. Fodd bynnag, dymunodd yr Aelodau i'r sylwadau canlynol gael eu hystyried a bu iddynt ofyn am ragor o wybodaeth:

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad yngl?n â monitro'r swm o arian fyddai'r rhai oedd yn anfon eu plant eu hunain i'r ysgol yn ei dderbyn, os o gwbl.  O ganlyniad, gwnaethant sylweddoli bod modd i hyn gynyddu'r defnydd o geir ar y ffyrdd a gofyn a oedd unrhyw ymchwil amgylcheddol wedi ei wneud?

 

Roeddynt yn credu bod angen gwneud mwy o waith i gynyddu'r defnydd o gerbydau trafnidiaeth y Gwasanaeth Cymdeithasol.

 

Gofynnod yr Aelodau am eglurhad pellach am Bolisi Fflyd Ceir yr Awdurdod.

 

Yn ôl yr Aelodau, roedd angen i'r Awdurdod gyfathrebu'n well gyda rhieni a phlant a'u hannog i ddefnyddio llwybrau iach i gyrraedd yr ysgol, lle bynnag fo'n bosib.

 

Yn eu barn nhw, roedd angen archwilio'r posibilrwydd o drafnidiaeth gyhoeddus, a chynnwys cymariaethau costau yn yr adroddiad trefnedig, er mwyn i rieni wneud penderfyniad gwybodus.

 

Gofynnodd yr Aelodau y dylai'r adroddiad trefnedig gynnwys adborth gan weithredyddion ynghylch y newid posib i gontractau, e.e. peidio â defnyddio hebryngwyr disgyblion.

 

O ystyried y dewis o ddim trafnidiaeth neu drafnidiaeth â thâl, sylweddolodd yr Aelodau bod yn well gan rai ddewis yr opsiwn arall. Gofynnodd yr Aelodau i'r adroddiad trefnedig gynnwys barn y rhieni ynghylch cyfrannu, fel trydydd dewis.

 

Bu i'r Aelodau fynegi pryder am y posibilrwydd o adolygiad barnwrol mewn perthynas ag Addysg Ôl-16, a gofynasant i gynnwys tablau risg yn yr adroddiad trefnedig.

 

Mynegwyd pryder gan yr Aelodau ynghylch cynnig statws diogelu i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg a Ffydd, mewn perthynas â thrafnidiaeth Ôl-16, a bod hynny'n gwahaniaethu Ysgolion Cyfrwng Saesneg, yn benodol o fewn Cymoedd Ogwr a Garw. 

 

Codwyd pryderon pellach gan yr Aelodau y byddai hyn â'r gallu i greu effaith negyddol ar bresenoldeb yn y Chweched Dosbarth.

 

Byddai Aelodau yn croesawu sesiwn friffio ar fanteision systemau tracio ar gyfer disgyblion sy'n defnyddio trafnidiaeth ysgol, yn cynnwys costau a'r manteision ar gyfer monitro unig weithwyr.

 

Gofynnodd y Pwyllgor i gynnal y Cyfarfod Cyfunedig SOSC1 a SOSC2 ar 9 Mawrth, er mwyn ystyried yr adroddiad ynghylch Trafnidiaeth Dysgwr ac Addysg Ôl-16, ar ôl yr ymgynghoriad a chyn penderfyniad y Cabinet ym mis Ebrill.

 

Dogfennau ategol: