Agenda item

Cais am Drwyddedu Cerbyd Hacni

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r is-bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer cerbyd hacni.

 

Cafodd y cais ei wneud gan Lee Grabham o’r Pîl i drwyddedu Seat Toledo Ecomotive saloon, rhif cofrestru cerbyd YH64 FPE, fel cerbyd hacni ar gyfer 4 o bobl. Derbyniwyd y cais ar 9 Ionawr 2020. Roedd cyfanswm milltiroedd y cerbyd yn 129,275. Cafodd y cerbyd ei gofrestru gyda’r DVLA am y tro cyntaf ar 7 Hydref 2014. 

 

Nododd y Rheolwr Tîm Trwyddedu fod y cerbyd wedi'i drwyddedu fel cerbyd hacni HC255 a bod y drwydded yn dod i ben ar 10 Hydref 2020. Roedd Mr Grabham wedi rhoi bil gwerthiant iddo ef ei hun dyddiedig 6 Rhagfyr 2019, a oedd ynghlwm wrth y papurau. Roedd Mr Grabham wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig i rai dogfennau gael eu datgelu fel rhan o'i gais.

 

Eglurodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu, o ran y drwydded cerbyd hacni, i'r perchennog roi gwybod i'r Cyngor ei fod yn ildio'r drwydded ar 13 Rhagfyr 2019. Felly nid oedd y drwydded yn effeithiol ar y dyddiad hwnnw ac felly roedd y cais hwn yn ymwneud â dyfarnu trwydded cerbyd hacni. Ychwanegodd nad oedd y cais yn berthnasol i’r Polisi Cerbydau Hacni y mae’r Pwyllgor Trwyddedu yn eu cymeradwyo, ac nad oedd y cerbyd yn addas i gadeiriau olwyn. Y tro diwethaf i’r Gwasanaethau Fflyd gynnal prawf ar y cerbyd oedd 11 Hydref 2019 pan oedd cyfanswm y milltiroedd yn 126,794. Cynghorwyd bod angen rhoi sylw i un teiar a bod ychydig o olew yn gollwng ond pasiodd y cerbyd y prawf. Roedd yr ymgeisydd wedi nodi bod y cerbyd mewn cyflwr gwael ac nad oedd yn lân pan gafodd ei werthu, a'i fod wedi cyflwyno lluniau a dynnodd pan brynodd y cerbyd. Cyflwynodd hefyd dystiolaeth o’r gwaith a gyflawnwyd ar y cerbyd sydd wedi'i gynnwys yn Atodiad B i'r adroddiad. Gofynnodd Mr Grabham i'r is-bwyllgor ystyried amgylchiadau'r pryniant, y gwaith gwella a wnaethpwyd i gyflwr y cerbyd a gofynnodd i'r is-bwyllgor ystyried llacio'r polisi oedran dan amgylchiadau eithriadol.

 

Rhoddodd K Spencer wybodaeth gefndirol i'r is-bwyllgor. Bu'n gweithio gyda Mr Grabham, yr ymgeisydd, ac roedd yn ymwybodol o'r broses. Roedd Mr Grabham dan yr argraff bod y cerbyd hwn a'r cerbyd blaenorol, YB63 APY, wedi eu trwyddedu. Ni fyddent byth wedi talu'r swm hwnnw o arian am y cerbydau pe na baent yn gerbydau hacni. Pan gafodd y cerbydau eu casglu, nid oedd ganddynt deiar sbâr, pecynnau cymorth cyntaf na diffoddyddion tân. Aethant â’r cerbydau i Rely on Tyres i’w trwsio. Pan oedd y cerbydau yno, cafodd y platiau eu tynnu a rhoddwyd y gorau i’w defnyddio fel tacsis. Roedd wedi gwario mwy na £6,000 ar wella'r ddau gerbyd a gyda chost gychwynnol y cerbydau, roedd wedi buddsoddi £13,000 yn y ddau gar. Roedd yn gyfarwydd â'r polisi a gofynnodd a fyddai modd ei lacio oherwydd yr amgylchiadau eithriadol.    

      

Ychwanegodd K Spencer fod y cwmni wedi cael arolygiadau wythnosol a'i fod yn tyfu'n gyflym. Roeddent wedi prynu'r cerbydau i gynyddu'r fflyd ac i wasanaethu ardaloedd difreintiedig o'r gymuned.

 

PENDERFYNWYD:     Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais am drwyddedu cerbyd gyda rhif cofrestru YH64 FPE fel cerbyd hacni. 

 

                                     Nododd yr Aelodau nad yw’r cais yn berthnasol i'r Polisi Trwyddedu ym mharagraff 2.1 oherwydd oedran y cerbyd.

 

                                     Nododd yr Aelodau ymhellach fod paragraff 2.2 y Polisi yn nodi y caniateir ei lacio mewn amgylchiadau eithriadol fel y manylir ym mharagraff 2.4 o'r polisi.

 

                                     Ar ôl archwilio'r cerbyd ac ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd, roedd yr is-bwyllgor o'r farn bod amgylchiadau eithriadol yn berthnasol ac felly caniatawyd y drwydded. 

 

Dogfennau ategol: