Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Drafft 2020-21 i 2022-23 a'r Broses Ymgynghori ar y Gyllideb Ddrafft

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllideb y Cyngor (BREP) adroddiad ar ran y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol (COSC). Diben yr adroddiad oedd cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i’r Cabinet, mewn perthynas â:

 

·         Canfyddiadau BREP oedd wedi eu hamgáu yn Atodiad A ac Atodiad B i’r adroddiad.

·         Ymatebion yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu mewn perthynas â chynigion cyllideb drafft y Cabinet, oedd wedi eu hamgáu yn Atodiad C.

 

Fel gwybodaeth gefndir, esboniodd fod Aelodau BREP, wrth ystyried yr heriau cysylltiedig â’r gostyngiadau parhaus yn y gyllideb, yn cydnabod yr angen i fabwysiadu ymateb y ‘Cyngor cyfan’ wrth reoli’r toriadau disgwyliedig mewn gwasanaethau, yn erbyn cefndir o alw cynyddol a’r rhagolwg ariannol heriol.

 

Roedd adran nesaf yr adroddiad yn cadarnhau rôl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol (COSC) a BREP yn yr ystyr mai gan y ddau gorff yma y mae’r cyfrifoldeb cyffredinol am fonitro’r gyllideb drwy gydol y flwyddyn.

 

Roedd cylch gorchwyl BREP wedi ei amlinellu ym mharagraff 4 yr adroddiad.

 

Aeth ymlaen i ddweud y byddai COSC yn  ystyried canfyddiadau BREP a phob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 4 Chwefror 2020, er mwyn penderfynu a ddylid anfon yr argymhellion ymlaen i’r Cabinet fel rhan o broses ymgynghori’r gyllideb. Rhannwyd y rhain i’r Atodiadau y cyfeiriwyd atynt uchod oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Wedyn rhoddodd Cadeirydd BREP grynodeb o beth o’r wybodaeth allweddol oedd wedi ei chynnwys yn yr Atodiadau i’r adroddiad, ac yn dilyn hynny, gwahoddodd yr Arweinydd unrhyw sylwadau neu gwestiynau gan aelodau'r Cabinet.

 

Mynegodd yr Is-arweinydd ei ddiolch i BREP, holl aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r adran Graffu am eu gwaith caled yn sicrhau bod cynigion cysylltiedig â Strategaeth Gyllido Tymor Canol y Cyngor wedi cael eu rhannu, eu hystyried a’u harchwilio. Roedd yn cydnabod y ffaith fod Craffu yn yr Awdurdod yn drawsbleidiol ac felly, bod unrhyw sylwadau oedd yn cael eu bwydo’n ôl i’r Cabinet ar y gyllideb yn ffurfio ‘Dull Un Cyngor’. Câi argymhellion yr adran Graffu eu harchwilio gan y Cabinet gyda chymorth y Bwrdd Rheoli Corfforaethol a cheid ymateb ffurfiol iddynt fel rhan o’r brif adroddiad Strategaeth Gyllido Tymor Canol a gâi ei ystyried gan y Cabinet ac wedyn ei benderfynu gan y Cyngor llawn. Roedd hefyd yn canmol y ffordd drylwyr y craffwyd ar gynigion cyllideb y Cyngor, a gydnabuwyd yn gadarnhaol fel ‘arfer gorau’ gan reoleiddwyr y Cyngor.

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar at Argymhelliad 2 yn Atodiad A i’r adroddiad, lle y ceid y sylw ‘bod angen gwneud gwaith pellach i dorri’r dull seilo o gyllidebu’. Ei deimlad ef oedd bod y Cyngor yn y blynyddoedd diwethaf wedi torri i ffwrdd oddi wrth y dull ‘seilo’.

 

Roedd Cadeirydd BREP yn cydnabod hyn a’r ffaith fod y Cyngor yn y blynyddoedd diwethaf wedi gwella yn y maes hwn, wrth i’r gweithlu deneuo mewn ymateb i doriadau mewn setliadau. Ychwanegodd, fodd bynnag, fod BREP a rhai Aelodau eraill o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, yn teimlo y gellid gwneud mwy o waith drwy bartneriaethau a sefydliadau yn mynd i’r afael â materion gyda’i gilydd, gan gynnwys cronni eu hadnoddau. Teimlai ef mai esiampl o hyn oedd bod angen gwaith pellach o’r fath rhwng yr Awdurdod a Chynghorau Tref/Cymuned, er mwyn goresgyn materion a phroblemau ar lefel gymunedol, gan gynnwys drwy Gynghorau Tref/Cymuned yn cynyddu eu praeseptau i’r diben hwn, er mwyn parhau i gynnal CBS Pen-y-bont ar Ogwr yn ariannol ar rai mentrau llai.

 

Dywedodd yr Arweinydd, gyda chyllideb net o £270 miliwn oedd yn talu am 800 o wasanaethau oedd yn cael eu darparu gan 6,000 o weithwyr, bod yna risg y byddai rhai gweithwyr yn gweithio mewn seilo, ond hynny i raddau helaeth oherwydd bod nifer sylweddol o’r gweithwyr hyn yn canolbwyntio ar feysydd arbenigol. Ychwanegodd, serch hynny, fod y dull hwn wedi gwella o fewn y Cyngor yn y blynyddoedd diwethaf drwy gyflwyno newidiadau diwylliannol a gostyngiad yn nifer y Rheolwyr, oedd wedi golygu bod Rheolwyr yn gyfrifol am feysydd gwaith ehangach, ers cychwyn cyni. Roedd yn cydnabod, fodd bynnag, fod yna rywfaint o le i wella ymhellach yn y maes hwn.

 

Adleisiwyd y sylwadau hyn gan y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog S151, ac ychwanegodd fod y Cyngor wedi bod yn mabwysiadu dull mwy strategol yn y blynyddoedd diwethaf, nag yr oedd wedi gwneud yn y cyfnod cyn hynny.

 

Ychwanegodd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol a Llesiant fod yna esiamplau lle roedd y Cyngor yn torri i ffwrdd oddi wrth y ‘dull seilo’, er enghraifft drwy gyfuno meysydd gwaith, megis Lles a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cyfeiriodd wedyn at Argymhelliad 1 yn Atodiad A, ‘o ran ymrwymiadau Cyfreithiol a Chaffael i’r Strategaeth Gyllido Tymor Canol, yr argymhelliad bod cyllid yn cael ei gynyddu i fynd i'r afael, er enghraifft, â chefnogaeth benodol i fentrau newydd, e.e. Cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol’.  Gofynnodd am eglurder a oedd y cais hwn am gynnydd yn y cyllid o ran Cyfreithiol a Chaffael ynteu Trosglwyddo Asedau Cymunedol.

 

Dywedodd Cadeirydd BREP fod yr Argymhelliad hwn yn gofyn a oedd digon o gefnogaeth ariannol ar gael i gyflogi mwy o staff gweinyddol fel y byddai, fwy na thebyg, eu hangen i brosesu’r gwaith ychwanegol a ragwelid yn y dyfodol i gefnogi’r broses o Drosglwyddo Asedau Cymunedol, pan fyddai Clybiau a Sefydliadau yn mynd ymlaen i ymgymryd â rheoli pafiliynau chwaraeon a meysydd chwarae.

 

Wedyn cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol a Llesiant at Argymhelliad 4, ‘gofyn i’r Cabinet adolygu perthynas ariannol yr Awdurdod gyda phartneriaid, yn enwedig o fewn y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.’ Gofynnodd a fyddai hyn yn golygu ceisio cael rhagor o gefnogaeth ariannol, ar gyfer cydweithio i gefnogi, er enghraifft, gwelliannau o fewn cymunedau. Gofynnodd ymhellach a oedd y cais hwn yn ymwneud â’r Heddlu’n unig ynteu â rhanddeiliaid allweddol eraill yn ogystal.

 

Dywedodd Cadeirydd BREP mai un o swyddogaethau Trosolwg a Chraffu oedd ceisio arbed arian i’r Awdurdod mewn meysydd lle yr oedd modd iddo wneud hynny. Roedd a wnelo’r argymhelliad hwn â’r gost o ddarparu teledu cylch cyfyng (CCTV) ar draws y Fwrdeistref Sirol ac er bod y brif system ganolog ar gyfer hyn yn seiliedig yn y Cyngor yn Nepo Bryncethin ac yn cael ei redeg gan staff CBS Pen-y-bont ar Ogwr, teimlai BREP y gallai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, yn neilltuol, roi cymorth ariannol i hyn yn ogystal â sefydliadau eraill sy’n perthyn i’r Bwrdd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol.

 

Cyfeiriodd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol a Llesiant wedyn at Argymhelliad 6, sef ‘Bod BREP yn ystyried canlyniad y broses graffu gyda golwg ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol ym mlwyddyn ariannol 2020-21 a bod y Cabinet yn cefnogi’r argymhelliad hwn’. Gofynnodd am ragor o eglurder ar yr argymhelliad hwn.

 

Esboniodd Cadeirydd BREP fod hyn yn ymwneud â’r ffaith fod BREP yn dymuno cael diweddariad rheolaidd ar ddyfodol Trosglwyddo Asedau Cymunedol wrth fynd ymlaen. Roedd hyn yn cynnwys y cynnydd oedd yn cael ei wneud gyda golwg ar Glybiau Chwaraeon yn cymryd asedau drosedd drwy broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol, a bod yr adran Graffu hefyd yn dal i dderbyn gwybodaeth am y lefelau cyllid fyddai’n cael eu neilltuo i’r pwrpas hwn yn y dyfodol. Ychwanegodd fod hyn yn gysylltiedig ag Argymhelliad 1 a wyntyllwyd yn gynharach yn y drafodaeth a bod Aelodau BREP yn gofyn am sicrwydd bod yna ddigon o allu i gyflawni’r ddau argymhelliad.

 

O ran Argymhelliad 5 yn Atodiad A, gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Genedlaethau’r Dyfodol a Llesiant a oedd BREP wedi trafod “gwerth” Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned y Cyngor.

 

Teimlai Cadeirydd BREP, heb fod yn wahanol i Aelodau eraill, nad oedd llawer o'r eitemau a ystyrid gan y Fforwm yn cyflawni canlyniadau mesuradwy. Cafwyd cryn drafodaeth ymysg yr Aelodau o ganlyniad i adroddiadau yn cael eu cyflwyno i’w gyfarfodydd chwarterol, yn ogystal a’i fod yn gyfarfod oedd yn rhannu gwybodaeth ar bynciau allweddol yn ymwneud â’r Awdurdod a sefydliadau allanol, gan gynnwys rhai fel y trydydd sector. Ond nid oedd gan y Pwyllgor bwerau ac felly ni allai wneud penderfyniadau pendant ar eitemau. Ystyriai BREP y dylai’r Fforwm gael cefnogaeth ychwanegol hefyd drwy ystyried diweddaru Siarter y Cynghorau Tref a Chymuned a Memorandwm Dealltwriaeth i gyd-fynd ag ef. Dylai’r Fforwm gynnig mwy o gyfeiriad ac arwain ar weithio ar y cyd yn fwy rhagweithiol, gan gynnwys cydweithredu rhwng Cynghorau Tref a Chymuned, yn enwedig y rheiny mewn wardiau cyfagos, ac i Gynghorau Tref a Chymuned hefyd roi mwy o gefnogaeth i beth o'r gwaith a wneir gan yr awdurdod lleol, lle roedd modd gwneud hynny.

 

Diolchodd yr Arweinydd i Gadeirydd BREP am fod yn bresennol yn y cyfarfod ac am gyflwyno’r adroddiad a gofynnodd iddo a oedd ganddo unrhyw sylwadau terfynol ar gyfer y Cabinet.

 

Diolchodd Cadeirydd BREP i’r Cabinet a’r CMB am roi’r cyfle iddo gyflwyno’r adroddiad. Cadarnhaodd y byddai angen i BREP gadarnhau’r argymhellion ac ailedrych arnynt maes o law pe bai angen, er mwyn sicrhau eu bod yn ddilys a bod modd eu cyflawni, a monitro wrth i'r amser fynd ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf a’r broses o osod y gyllideb, gan gynnwys meysydd lle roedd cyllideb Refeniw a Chyfalaf y Cyngor yn cael e gwario.

 

Daeth yr Arweinydd â’r drafodaeth i ben ar yr adroddiad drwy ddatgan mai Panel trawsbleidiol oedd BREP ac felly, er mwyn iddynt gyrraedd safbwynt cytbwys ar bob elfen yn cynnwys cynigion y Strategaeth Gyllido Tymor Canol wrth iddo fonitro’r gyllideb ar hyd y flwyddyn, bod angen i lefelau presenoldeb Aelodau BREP mewn cyfarfodydd wella a bod angen cynnal y gwelliant hwnnw. Byddai ef yn atgoffa Arweinwyr y Grwpiau am hyn yng nghyfarfod nesaf Arweinwyr y Grwpiau. Ychwanegodd yr anfonid ymatebion y Cabinet i’r argymhellion at holl Aelodau BREP cyn cyfarfodydd cyllideb y Cabinet a’r Cyngor. Byddai ef a chydweithwyr yn y Cabinet yn croesawu unrhyw adborth gan aelodau BREP ynghylch y rhain wedi iddynt eu derbyn.

 

PENDERFYNWYD:        Cytunodd y Cabinet i ystyried argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, mewn ymateb i Strategaeth Gyllido Tymor Canol 2020-21 i 2023-24 a’r Broses Ymgynghori ar y Gyllideb Ddrafft, ac ymateb i’r rhain yn yr adroddiad i’w ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf dyddiedig 25 Chwefror 2020.     

  

 

Dogfennau ategol: