Agenda item

Cynllun Corfforaethol 2018-2022 Wedi’i adolygu ar gyfer 2020-21

 

Gwahoddedigion:

 

Pob Aelod Cabinet a CMB

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog A151 Interim wybod i’r aelodau yn gyntaf bod y Cynllun Corfforaethol wedi cael ei ddiweddaru ar gyfer 2020-21, yn dilyn proses cynllunio corfforaethol a gynhaliwyd rhwng mis Hydref 2019 a mis Ionawr 2020 gyda nifer o fewn y sefydliad yn rhan o’r broses, a oedd yn cynnwys proses gynhwysol o’r gwaelod i fyny ac o’r brig i lawr eleni. Yn ail, roedd llawer mwy o ffocws ar egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac, yn drydydd, roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar yr hyn yr oedd yr awdurdod yn ceisio’i wella a’r adnoddau yr oedd eu hangen, a oedd yn amlwg yn yr uchelgeisiau a oedd wedi’u nodi.

 

Cododd Aelodau’r mater nad oedd cyfeiriad penodol at y newid yn yr hinsawdd o fewn yr adroddiad ac roeddent yn teimlo, fel pwyllgor, bod hwn yn fater a oedd yn tyfu’n gyflym a bod angen dangos y sefyllfa yr oedd yr awdurdod ynddi. Nododd y Prif Weithredwr fod hyn yn amlwg yn rhywbeth a oedd wedi magu momentwm a chydnabu hyn. Cadarnhaodd fod adroddiad yn mynd i gael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Ebrill.

 

Fe wnaeth un o’r aelodau nodi’r ffigyrau mewn perthynas â Digartrefedd ar Dudalen 10 a gofynnodd am gadarnhad o’r cynnydd sy’n cael ei wneud – a ydym yn helpu ein holl bobl ddigartref a phwy ydym yn eu hepgor? Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol ei bod hi wedi ymweld yn ddiweddar â darpariaethau Huggard a Th? Tresilian yng Nghaerdydd, ynghyd â’r Rheolwr Gr?p ar gyfer Tai a’r Pennaeth Gwasanaethau Partneriaeth a dywedodd ei bod yn cydnabod y berthynas â Chaerdydd yn ogystal â nodi’r darn parhaus o waith i weld sut y gellid cynnig darpariaeth o fewn y fwrdeistref. 

 

Cydnabu’r Aelod hefyd fod pobl i’w cael nad oeddent yn gallu cael eu helpu ac a allai syrthio drwy’r rhwyd a gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud. Cydnabu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod llawer o’r achosion hyn yn ymwneud â phobl â phroblemau iechyd meddwl, ond nododd fod llawer yn cael ei wneud i’w hatal rhag dod yn ddigartref yn y lle cyntaf. Roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda’r rhai a oedd â phroblemau iechyd meddwl lefel is. O ran estyn allan yn y gymuned, roeddent yn cael help fel rhan o’u teuluoedd. Roedd hwn yn fater a oedd yn cael ei gefnogi nid dim ond gan y gwasanaeth tai.

 

 

Roedd un o’r aelodau o’r farn y dylai’r rhestr Addysg ar Dudalen 10 ddangos Ysgolion Cymraeg fel categori ar wahân.


Nododd un o’r aelodau fod y llinell olaf ar Dudalen 12 yn cyfeirio at le ‘da’ i bobl fyw, gweithio, astudio ac ymweld ac roedd o’r farn mai ‘gwych’ ddylai hyn fod. Cydnabu’r Prif Weithredwr hyn ond eglurodd mai’r her yw ceisio cael cyfatebiaeth rhwng yr uchelgais ar flaen y ddogfen a’r camau gweithredu yng ngweddill y ddogfen; fodd bynnag roedd yn hapus i wneud y newid a awgrymwyd
.

 

Fe wnaeth un o’r aelodau nodi nifer o brosiectau a restrir ar dudalen 16, a fyddai’n cyflawni’r deilliannau i helpu Pen-y-bont ar Ogwr i ffynnu dros y tymor hir a gofynnodd faint o gynnydd oedd wedi cael ei wneud gyda’r prosiectau hyn, e.e. y Fargen Ddinesig. Fe wnaeth y Prif Weithredwr atgoffa’r aelodau a swyddogion mai rhaglen hirdymor oedd hon, lle na fyddai rhyw lawer yn digwydd yn y ddwy flynedd gyntaf, er iddo nodi bod rhai mentrau da wedi bod yn mynd rhagddynt. Cadarnhaodd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Mawrth ar y Fargen Ddinesig. Teimlai y byddai o gymorth dwyn adroddiad gerbron i roi blas ar waith sy’n mynd rhagddo o ran Tasglu’r Cymoedd, Ford a.y.b. Fe wnaeth yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio nodi’r cyfeiriad ar Dudalen 16 at Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, a theimlai y dylid hyrwyddo Pen-y-bont ar Ogwr fel lle i fuddsoddi ynddo, ond nododd fod llawer o fusnesau sy’n cael eu gwarchod yn glòs ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a oedd yn hapus felly.

 

Fe wnaeth un o’r aelodau nodi’r targedau ar Dudalen 19 mewn perthynas â ‘Chanran y dysgwyr ym Mlwyddyn 1 a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg’ a ‘Nifer y Safleoedd Gwag yng Nghanol Trefi’ a theimlai y dylai’r rhain fod yn realistig ac yn her. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod hyn yn ymwneud â nifer y dysgwyr, ac eglurodd wrth yr aelodau fod lleoedd gwag mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, felly bod cynnal y sefyllfa bresennol yn darged sy’n her ynddo’i hun. Eglurodd y Prif Weithredwr o ran safleoedd gwag bod hyn wastad yn fater o gadw’r ddysgl yn wastad ond bod cynnal y sefyllfa bresennol yn her weithiau. Nododd aelod arall hefyd y gallai’r cynnwys ar Dudalen 19 o dan ‘safleoedd gwag’ awgrymu bod arnom eisiau rhagor o siopau gwag ac felly bod angen rhagor o wybodaeth yn y blwch. Awgrymodd y Prif Weithredwr efallai y dylid cynnwys atodiadau gyda’r adroddiad i ddarparu rhywfaint o gyd-destun ar gyfer y cyhoedd mewn perthynas â rhai o’r mesurau. Awgrymodd un o’r aelodau y byddai’n ddefnyddiol fel canran ym mhob canol tref, e.e. gallai 6 ym Mhen-coed fod allan o 7.

 

Cododd un o’r aelodau’r mater yngl?n â diffyg ffigyrau cymharol yng Nghymru, a oedd yn golygu ei bod yn amhosibl gwybod ble’r ydym ni o’i gymharu ag awdurdodau eraill, o ran gwariant. Roedd ymchwil i’w gwneud, ond fe allai hyn fod yn fwy ystyrlon i bobl eraill. Eglurodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog A151 Interim mai dyma oedd yr amcan, ond bod categoreiddio’r gwariant wedi dod yn amhosibl bron gan ei fod yn cael ei gyflunio mewn gwahanol ffyrdd. Rhoddwyd cynnig ar hyn trwy asesu gwariant. Yr hyn yr ydym yn ceisio’i wneud trwy’r gwahanol wasanaethau yw cael gwybodaeth mor fanwl â phosibl. Rydym wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru yngl?n â chost, gan nad oedd dangosyddion costau ar gyfer y rhan fwyaf o Fesurau Atebolrwydd Cyhoeddus. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei fod yn cydnabod bod hwn yn gynllun a oedd yn canolbwyntio ar Ben-y-bont ar Ogwr, ond y gellid ychwanegu cyswllt â Fy Nghyngor o ran data cymharol.

 

Nododd un o’r aelodau fod y dangosydd ar dudalen 23 ar gyfer ‘Nifer yr anheddau ychwanegol....eu defnyddio unwaith eto’ i’w weld yn isel. Roedd un o’r aelodau o’r farn y gallai fod yn fuddiol aralleirio’r geiriad ar dudalen 25, ‘datblygu sgiliau ac ymddygiadau staff’. Roedd un o’r aelodau o’r farn y dylai’r dangosydd mewn perthynas â ‘Chanran y rheolwyr sy’n cwblhau’r Rhaglen Sefydlu Rheolwyr’ ddangos targed. Cytunodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog A151 Interim i roi ystyriaeth i’r awgrymiadau hyn.

 

Bu’r aelodau’n trafod y dangosyddion mewn perthynas â Rheoli Coed ar dudalen 28 ac fe wnaethant nodi, er ei fod yn anodd i’w fesur, y gallai’r dangosydd hwn gael ei wella. Roedd y Prif Weithredwr yn cytuno bod hwn yn bwnc llosg ar hyn o bryd ac eglurodd fod cais wedi cael ei wneud am gyllid. Gallwn ddwyn rhywbeth gerbron y pwyllgor craffu. Dywedodd un o’r aelodau fod hwn hefyd yn fater y gellir ei godi gyda Chynghorau Tref a Chymuned. Bu’r Aelodau a’r Swyddogion yn trafod y cynllun ‘Plannu coeden yn 73’ ac fe awgrymon nhw hyrwyddo ‘Plannu coeden cyn 23’ a allai ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned ac ysgolion. Nododd y Prif Weithredwr mai’r her oedd taro’r cydbwysedd cywir gan bod angen gofalu amdanynt a’u cynnal a’u cadw. Dywedodd un o'r aelodau hefyd y dylem ni fel cyngor annog tirfeddianwyr a thrigolion i wneud hyn.

 

Nododd un o’r aelodau fod hwn yn gynllun da a oedd yn nodi gweledigaeth ac egwyddorion. Gofynnodd mewn perthynas â thudalen 34 ‘Gweithio gydag Eraill’, a fyddai proses rheoli perfformiad o ran ein trefniadau gweithio mewn partneriaeth a pha rôl allai fod gan y pwyllgor craffu. Eglurodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog A151 Interim, o ran partneriaethau, eu bod nhw i gyd yn wahanol, a bod ganddynt drefniadau llywodraethu cwbl wahanol. Roedd hyn wedi cael ei drafod fel rhan o Asesu Perfformiad Corfforaethol. Yr allwedd yma oedd y byddent hwy i gyd yn gallu ein dwyn ninnau i gyfrif yn yr un modd, ond nodwyd fod hwn yn faes i'w ddatblygu ymhellach; sut ydym yn gwneud hynny’n rhan o drefniadau llywodraethu priodol. O ran Asesu Perfformiad Corfforaethol, mae gennym fesurau perfformiad a gyflwynir i’r bwrdd ac o ran y gwaith, byddai cyfleoedd i fwrw golwg ar Halo ac Awen. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod yr holl Gyfarwyddiaethau’n gweithio ar y Cynllun Busnes a oedd yn bwydo i mewn i'r Cynllun Corfforaethol. O ran Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf, roedd 4 aelod etholedig ac roedd sylw’n cael ei roi i Lywodraethu i’w wneud yn fwy effeithiol. Nododd ddarn o waith sydd ar ddod gan Lywodraeth Cymru ar waith byrddau partneriaeth. Awgrymodd un o’r aelodau efallai yr hoffai’r pwyllgor feddwl am wahodd pobl o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gyfrannu at eitemau yn y dyfodol.

 

Roedd aelodau’n dymuno gwneud y sylwadau a dwyn y casgliadau canlynol:

 

Dywedodd aelodau nad oedd mater cynyddol y Newid yn yr Hinsawdd wedi cael ei gynnwys yn y Cynllun Corfforaethol diwygiedig.

 

Fe wnaeth un o’r Aelodau sylw am wall yn y paragraff cyntaf a’r trydydd paragraff ar dudalen 8 yn y Cynllun Corfforaethol.

Gofynnodd Aelodau am gynnwys Ysgolion Cyfrwng Cymraeg yn y rhestr Addysg.

 

Gofynnodd Aelodau am ddiweddariad Briffio cyn y Cyngor am gynnydd gyda’r Fargen Ddinesig a Thasglu’r Cymoedd (a Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr)

 

Gofynnodd Aelodau am ddiwygio’r datganiad yn y frawddeg olaf ar dudalen 11 a 12 i: “...ein helpu i wneud y Fwrdeistref Sirol yn lle gwych i bobl fyw, gweithio, astudio ac ymweld”.

 

Cwestiynodd aelodau’r ffaith bod y targed ar gyfer dysgwyr Cymraeg a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg yn llonydd ar dudalen 19 yn y Cynllun.

Gofynnodd aelodau am newid i ddarparu manylion y safleoedd gwag yng Nghanol Trefi fel canrannau ar Dudalen 19 yn y Cynllun.

Gwnaeth aelodau’r sylw ei bod yn anodd gweld sefyllfa’r Awdurdod o’i gymharu â Chyfartaledd Cymru wrth edrych ar y Siartiau Cylch. Roedd y Cynllun yn canolbwyntio ar Ben-y-bont ar Ogwr ond awgrymwyd y gellid ychwanegol cyswllt â Fy Nghyngor i’w gwneud yn bosibl gweld data cymharol.

 

Fe wnaeth aelodau gwestiynu’r targed ar gyfer nifer yr anheddau ychwanegol sy’n cael eu defnyddio unwaith eto, sef cynnydd o 2 yn unig eleni.

 

Roedd aelodau o’r farn y gallai’r ymadrodd ar Dudalen 25 yn y Cynllun: “…ymddygiadau staff” gael ei gamddehongli ac y dylid ei aralleirio.

Gofynnodd aelodau am sefydlu llinell sylfaen ar gyfer y targed o ran Canran y Rheolwyr sy’n cwblhau’r Rhaglen Sefydlu Rheolwyr a ddywedodd ei bod yn rhagorol neu’n dda ar dudalen 27.

Roedd aelodau o’r farn nad oedd y targed o 3 ar gyfer “Cyflawni cynlluniau i gynyddu gorchudd coed y Fwrdeistref Sirol” ar Dudalen 28 yn ddigon uchelgeisiol.

 

Gofynnodd aelodau am eglurhad o’r targed ar dudalen 28 mewn perthynas â ‘Cyflawni rhaglen Rheoli Coed y Cyngor’ gan eu bod yn meddwl ei bod yn annhebygol bod y camau gweithredu yn y rhaglen wedi’u cwblhau 100%.

 

Roedd aelodau’n cydnabod bod y Cynllun Corfforaethol yn Gynllun da ac yn nodi’r weledigaeth ac egwyddorion ac fe ofynnon nhw sut y byddai’r perfformiad mewn perthynas â gweithio mewn partneriaeth yn cael ei reoli.

Dogfennau ategol: