Agenda item

Monitro’r Gyllideb 2019-20 – Rhagolwg Refeniw Chwarter 3

Gwahoddedigion:

 

Pob Aelod Cabinet a CMB

Cofnodion:

Fe wnaeth y Pennaeth Cyllid a Swyddog A151 Interim gyflwyno’r adroddiad i’r Aelodau gyda diweddariad am sefyllfa ariannol refeniw y Cyngor ar 31 Rhagfyr 2019. Fel cefndir, eglurodd fod y Cyngor, ar 20 Chwefror 2019, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £270.809 miliwn ar gyfer 2019-20. Roedd Tabl 1 yn dangos cymhariaeth rhwng y gyllideb a’r alldro rhagamcanol ar 31 Rhagfyr 2019. Roedd 4.1.2 yn dangos tanwariant net o £798k ac roedd 4.1.3 yn dangos y rheswm dros y tanwariant. Roedd y Gostyngiadau yng Nghyllideb y Flwyddyn Flaenorol yn cael eu dangos o 4.2.1 ymlaen. Roedd Tabl 2 yn dangos, o’r £2.342 miliwn o ostyngiadau a oedd yn dal heb eu cyflawni, bod £1.795 miliwn yn debygol o gael eu cyflawni yn 2019-20, gan adael diffyg o £547k. Roedd adroddiad monitro’r gyllideb refeniw hyd at 31 Rhagfyr 2019 yn cael ei ddangos yn Atodiad 3.

 

Fe wnaeth un o’r aelodau nodi, ar dudalen 58 o’r adroddiad, bod cyllideb ddirprwyedig ysgolion yn dangos, yn Chwarter 3, bod 46% o’r holl ysgolion yn rhagfynegi cyllideb ddiffygiol a mynegodd bryder bod rhai ysgolion yn fwy cydnerth na’i gilydd ac y gallai hyn olygu, i rai ysgolion, bod disgyblion ar eu colled lle mae cyfleoedd trawsgwricwlaidd yn y cwestiwn. Cydnabu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y ffigyrau’n adrodd stori gyda thros hanner ein hysgolion mewn cyllideb ddiffygiol. Mynegodd bryder bod gan oddeutu 3 neu 4 ysgol ddiffygion difrifol. Fodd bynnag, eglurodd fod Brynteg wedi gwneud yn wych i leihau ei diffyg a bod disgwyl y bydd yn mantoli’r gyllideb ond nododd fod hyn yn gryn her i ysgolion bach gan bod perthynas rhwng y gyllideb a niferoedd y disgyblion. Cadarnhaodd ei fod yn cwrdd â’r holl benaethiaid yn dymhorol ac eglurodd am y bwrdd perfformiad a monitro ariannol, sy’n mynd drwy’r gyllideb fesul llinell. Nododd fod grantiau cymorth ychwanegol ar gael hefyd.

 

Gofynnodd un o’r aelodau a oedd ysgolion h?n dan anfantais o ran gwariant uwch ar gynnal a chadw, ac a oeddent yn cael yr un faint o gyllid. Eglurodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid fod pob ysgol yn cael cyllid ar sail arwynebedd y llawr yn bennaf; os yw ysgolion o faint tebyg maint yn cael swm tebyg, ond mae cyflwr yr adeilad yn cael ei gymryd i ystyriaeth hefyd, a adlewyrchir mewn pwysiad ffactor cyflwr. Roedd yn rhywbeth a oedd yn cael ei ystyried yn rheolaidd i wneud yn si?r bod y cyllid yn cael ei dargedu ble mae ei angen, ac yn cael sylw gyda’r fforwm cyllid ysgolion i sicrhau bod cyllid yn deg.

 

Nododd un o’r aelodau fod y paragraff ar Blant sy’n Derbyn Gofal ar dudalen 61 yn nodi’n glir pam fod gorwariant. Gofynnodd beth oedd yn digwydd ledled Cymru a pha un a oedd unrhyw arweinyddiaeth yn dod gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo’r 22 o awdurdodau i reoli’r gweithgarwch caffael a pha un a ellid rhannu’r wybodaeth am arfer da. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod hwn yn faes sydd dan gryn dipyn o bwysau a bod y Cyngor wedi bod yn hynod gefnogol o ran Plant sy’n Derbyn Gofal a rheoli’r gyllideb. Yr hyn nad oedd yr adroddiad yn ei ddangos oedd yr ymdrech aruthrol i leihau’r gorwariant. Eglurodd am y model ar gyfer gwasanaethau preswyl (Maple Tree House) a chadarnhaodd fod 16 o blant gwahanol wedi bod trwy’r gwasanaeth a 6 o blant yn yr uned asesu, a fyddai wedi cael eu lleoli y tu allan i’r sir yn flaenorol a hynny am gost o £4k yr wythnos. Roedd hi’n gweithio gyda’r gwasanaeth tai i ddatblygu dewisiadau eraill gyda darparwyr lleol; roedd hyn yn ddefnydd da o’n grant tai cymdeithasol. O safbwynt cenedlaethol, roedd Plant sy’n Derbyn Gofal yn un o flaenoriaethau Prif Weinidog Cymru a’r Dirprwy Weinidog a gafodd wybod beth oedd y stori gyfan gan bob awdurdod lleol yn ddiweddar. Roedd y gr?p technegol Plant sy’n Derbyn Gofal yn dal i gwrdd. Roedd pob awdurdod lleol yn trafod strategaethau lleihau niferoedd Plant sy’n Derbyn Gofal. Roedd rhai materion mewn perthynas â CAMHS. Mae gan Lywodraeth Cymru brosiect sy’n bwrw golwg ar y rhain fel astudiaeth achos. Roedd hyn wedi cael ei drafod yn y pwyllgor rhianta corfforaethol. Roedd yr aelod yn dawelach ei feddwl o gael gwybod bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo yn Llywodraeth Cymru ond yn teimlo efallai y dylai Llywodraeth Cymru farchnata hyn ychydig yn fwy i aelodau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y byddai’n bwydo hyn drwy’r Pwyllgor Rhianta Corfforaethol.

 

Nododd un o’r aelodau fod Tudalen 60 yn cyfeirio at ôl-groniad o waith addasiadau – a ydym yn darparu adnoddau ar gyfer y maes hwn i’r fath raddau fel ein bod yn diwallu ei anghenion yn llawn. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod gorwariant, gan ein bod yn gallu helpu rhagor o bobl er ei fod yn nodi ein bod wedi llwyddo i gael cyllid grant. Awgrymodd un o’r aelodau y dylid ceisio adnabod pot i fuddsoddi mewn gwario i arbed y gellid ei drin yn wahanol.

 

Gofynnodd un o’r aelodau sut ydym ni’n gwybod faint sy’n mynd drwy’r gwasanaeth mabwysiadu ar hyn o bryd? Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y byddai’n dod yn ôl gyda’r ffigyrau.

 

Nododd un o’r aelodau’r cyfeiriad ar dudalen 55 at y ‘Cynllun Trwyddedu Gwaith Ffordd’ a gofynnodd faint o bwysau ydym yn ei roi ar Lywodraeth Cymru i gael ateb. Eglurodd y Prif Weithredwr ei fod bron â bod yn embaras faint o amser yr oedd hwn wedi bod yma. Ei farn bersonol ef oedd y dylid ei dynnu allan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, gan mai cynllun cenedlaethol oedd y syniad diweddaraf. Nid oedd cynnydd penodol.

 

Cododd un o’r aelodau bryder ynghylch nifer y ‘swyddi staff gwag ar hyn o bryd’ a nodir ar dudalen 59. Eglurodd y Prif Weithredwr mai’r peth cyntaf yngl?n â swyddi gwag yw nad ydynt yn fwriadol ond mai dyma ble’r ydym yn ei chael yn anodd llenwi swydd. Roedd Iechyd a Diogelwch yn flaenoriaeth gorfforaethol, ond roedd ffyrdd eraill o wneud hyn, a nododd fod peth cynnydd wedi bod gydag Iechyd a Diogelwch. Roedd yn cydnabod y cydbwysedd rhwng llenwi swyddi a chanfod arbedion posibl. Pe na bai’r setliad wedi bod mor ffafriol fe fyddem yn wynebu toriadau ac o bosibl yn amcanu at wneud arbedion. Nododd ymarfer parhaus i adnabod pa swyddi oedd yn wag. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod recriwtio ym maes Iechyd a Diogelwch wedi bod yn anodd, yn enwedig recriwtio i swydd y Pennaeth. Roedd pedair swydd wag wedi cael eu llenwi bellach. Eglurodd eu bod yn gweithio gyda’r Adran Adnoddau Dynol i “dyfu ein talent ein hunain”, ond bod peth risg yn gysylltiedig â hyn. Rydym yn cynnal cyfarfodydd chwarterol y mae’r Dirprwy Arweinydd yn bresennol ynddynt. Mae’r Gr?p Cynghori ar Gludiant i’r Ysgol (STAG) yn darparu ac yn sicrhau yr ymdrinnir â materion.

 

Nododd un o’r aelodau fod y naratif ar dudalen 63 yngl?n â ‘Gwasanaethau Fflyd’ yr un fath ag yn y chwarter diwethaf a holodd a oedd y gwasanaethau fflyd wedi cael eu hailstrwythuro. Eglurodd y Prif Weithredwr, o ran gwasanaethau fflyd, ein bod yn hyderus bod y gwaith i ailstrwythuro ac adolygu cynhyrchiant wedi cael ei wneud a’i fod mor gystadleuol ag unrhyw wasanaeth allanol. Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd ei fod wedi cymryd diddordeb yn hyn a chadarnhaodd y byddant yn hyfyw o safbwynt masnachol.

 

Fe wnaeth un o’r aelodau nodi tanwariant y gwasanaethau parcio ar Dudalen 62 a gofynnodd a ydym yn gwybod bod yr arian gwirioneddol yn cael ei glustnodi ar gyfer cynnal a chadw’r tir comin a’r maes parcio yn Nhraeth y Rest. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog A151 Interim mai cyfanswm y tanwariant ar gyfer meysydd parcio oedd hwn a’u bod yn cael eu dangos ar godau unigol. Cadarnhaodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid nad oedd unrhyw danwariant o Draeth y Rest.

 

Roedd aelodau’n dymuno gwneud y sylwadau a dwyn y casgliadau canlynol:

 

Mynegodd aelodau bryder ynghylch y potensial y gallai disgyblion mewn ysgolion â diffyg ariannol fod ar eu colled lle mae gweithgareddau allgyrsiol yn y cwestiwn a’i bod yn hanfodol bod ysgolion yn cael arweiniad ac yn rhannu arfer gorau ar gyfer sefydlu’r rheolaeth orau a’r cyngor gorau ar gyfer sefydlu Grwpiau Cyfeillion.

 

Roedd yr aelodau’n dawelach eu meddyliau o gael y diweddariad am y gwaith sy’n cael ei wneud gan y Gr?p Technegol Plant sy’n Derbyn Gofal a sut yr oedd Maple Tree House wedi gostwng nifer y Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal a’r costau cysylltiedig. Fe ofynnon nhw am sicrhau bod adroddiad gan y Gr?p Technegol Plant sy’n Derbyn Gofal ar gyfer y Pwyllgor Cabinet Rhianta Corfforaethol yn cael ei gylchredeg i Aelodau’r Pwyllgor Craffu er gwybodaeth.

 

Gofynnodd aelodau a ellid archwilio’r posibilrwydd o sefydlu cronfa Buddsoddi i Arbed ar gyfer Byw’n Annibynnol yn hytrach na mynegi hyn fel gorwariant, gan bod y gwariant ar fesurau ataliol a oedd yn lleihau’r pwysau ar gyllidebau meysydd gwasanaeth eraill.

 

Gofynnodd aelodau am nifer y plant sy’n mynd trwy’r Gwasanaeth Mabwysiadu ar hyn o bryd.

 

Mynegodd aelodau bryder ynghylch nifer y swyddi gwag na ellir eu llenwi, ond fe wnaethant groesawu’r gwaith a oedd yn cael ei wneud i adnabod y swyddi a pha un a ellid recriwtio iddynt.

 

Gofynnodd aelodau am fwrw ymlaen â’r Pwnc Craffu Iechyd a Diogelwch mewn Ysgolion, gan bod y Swyddi Craffu Gwag wedi cael eu llenwi bellach.

Dogfennau ategol: