Agenda item

Strategaeth Gyfalaf o 2020-21 Ymlaen

Gwahoddedigion:

 

Cynghorydd Huw David, Arweinydd

Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd

Gill Lewis, Pennaeth Cyllid dros dro

Nigel Smith, Rheolwr Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog A151 Interim trwy ddweud mai mawr oedd ei dyled i’r Dirprwy Bennaeth Cyllid a’r Rheolwr Gr?p Interim – Prif Gyfrifydd lle mae’r Strategaeth Gyfalaf yn y cwestiwn. Aeth ymlaen trwy egluro bod y rheolaethau mewn perthynas â Gwariant Cyfalaf yn seiliedig ar ddeddfwriaeth ac mai’r ail adroddiad oedd hwn, yn dilyn cyflwyno’r gofyniad i gyhoeddi Strategaeth Gyfalaf y llynedd. Cyflwynir y Strategaeth Gyfalaf i’r Cyngor fel dogfen Fframwaith Polisi ac mae’n cysylltu â’r Cynllun Corfforaethol, y Strategaeth Rheoli Trysorlys, y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chynllun Rheoli Asedau’r Cyngor. Mae gan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 13 o egwyddorion, y mae 3 ohonynt yn cyfeirio at y Rhaglen Gyfalaf. Mae Adran 2 yn sôn am wariant cyfalaf ac mae tabl 1 ar dudalen 91 yn nodi’r amcangyfrifon ar gyfer gwariant cyfalaf a thabl 2 yn nodi manylion cyllido Cyfalaf. Mae Adran 3 yn cysylltu ag amcanion diogelwch, hylifedd ac yna cynnyrch cyfalaf. Mae Adran 4 yn nodi’r cyd-destun ariannol, mae Adran 5 yn bwrw golwg ar gynigion gwariant cyfalaf, mae Adran 6 yn rhoi sylw i lywodraethu a rheoli risg ac mae Adran 7 yn ymdrin â gwybodaeth a sgiliau.

 

Er bod yr adroddiad wedi cael ei ddiweddaru, fe nododd y Dirprwy Bennaeth Cyllid y byddai’r ffigyrau’n newid ar gyfer y fersiwn derfynol a fydd yn cael ei chyflwyno ochr yn ochr â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ym mis Chwefror, yn unol â’r rhaglen gyfalaf wedi’i diweddaru.

 

Fe wnaeth un o’r aelodau nodi fod y tabl ar dudalen 97 i’w weld fel pe bai’n dangos amrywiaeth o godiadau o ran cyfanswm benthyca a rhwymedigaethau hirdymor, e.e. £117m yn 18-19, £130m yn 20-21, £135m yn 21-22 a £143m yn 22-23 a gofynnodd a oedd unrhyw reswm penodol pam fod 2021 yn edrych yn wahanol iawn. Fe eglurodd y Rheolwr Gr?p Interim – Prif Gyfrifydd fod y cynnydd yn y ddyled y flwyddyn nesaf yn ymwneud â’r cynnydd mewn gwariant ar y Rhaglen Gyfalaf a chynnydd cysylltiedig yn y lefel fenthyca.

 

Fe wnaeth un o’r aelodau nodi’r egwyddorion arweiniol ar dudalen 89, ac roedd yn deall mai’r Cynllun Corfforaethol sy’n llywio buddsoddi cyfalaf, ond sut ydym ni’n sicrhau cydraddoldeb ledled y fwrdeistref sirol i gyd. Gofynnodd hefyd beth oedd yn cael ei wneud i reoli’r risg ac aros o fewn y gyllideb. Eglurodd y Dirprwy Arweinydd fod dull bwrdeistref gyfan yn cael ei ddefnyddio wrth ystyried meysydd sy’n flaenoriaeth e.e. Neuadd y Dref Maesteg. Byddwn yn ystyried a allwn gael arian cyfatebol i gefnogi’r prosiect hwnnw e.e. amddiffynfeydd môr ym Mhorthcawl. O ran rheoli’r risg, mae hwnnw’n ymarfer anos o lawer, a gallwch oramcangyfrif i wneud yn si?r eich bod yn aros o fewn y gyllideb. Gallwch naill ai roi’r risg ar yr Awdurdod neu ar y contractwr, sy’n ysgwyddo’r risg honno. Mae angen i ni reoli hynny a tharo cydbwysedd. Fe wnaeth y Pennaeth Cyllid a Swyddog A151 Interim adleisio sylwadau’r Dirprwy Arweinydd, gan gadarnhau fod hyn wedi cael ei godi yn y cyngor yn flaenorol, ac mae anaml iawn yr ydym yn gweld cynlluniau’n tanwario’r gyllideb. Naill ai rydych yn ceisio’n galed er mwyn bod mor gywir â phosibl, ond wedyn gallai ddod yn gynllun di-fudd neu fe rydych yn taro cydbwysedd. Mae’r Pwyllgor Archwilio wedi ymddiddori’n frwd ac maent yn cwblhau darn o waith i fwrw golwg ar yr amrywiant e.e. adeiladwr, pris, ac amrywiannau yr ydym yn eu cael o ran caffael.

 

Cododd un o’r aelodau fater cyfraddau llog a gofynnodd a oeddem yn cael y fargen orau. Eglurodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog A151 Interim, er bod cyfraddau llog yn is nag erioed, y byddai ein cyfradd ni’n hanesyddol uwch ac na ellir ei newid ar hap. Byddai’n rhaid ei phroffilio’n ofalus.

 

Gofynnodd un o’r aelodau am eglurhad o ran gwybodaeth a sgiliau. Eglurodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog A151 Interim nad ydym wedi rhoi’r gorau i hyfforddi pobl. Rydym yn ceisio darparu ar gyfer hyfforddi pobl a gweithio ac rydym yn parhau i hyfforddi staff i astudio CIPFA ac AAT, ac rydym hefyd wedi gofyn am gael bod yn rhan o’r cynllun prentisiaethau newydd.

 

Roedd aelodau’n dymuno gwneud y sylwadau a dwyn y casgliadau canlynol:

 

Gofynnodd aelodau sut y gallai’r Awdurdod sicrhau bod cydraddoldeb rhwng cymunedau ledled y fwrdeistref sirol o ran buddsoddi cyfalaf a hoffent weld dull mwy strategol o ran buddsoddi cyfalaf.

 

Gwnaeth un o’r Aelodau sylw yngl?n â gwall yn Nhabl 2 ar dudalen 91, a ddylai nodi 2020-21.

 

Cyfeiriodd un o’r Aelodau at Adran 7, tudalen 107 Gwybodaeth a Sgiliau ac roedd yn croesawu’r penderfyniad i ddarparu hyfforddiant CIPFA ac AAT yn gorfforaethol a’r cais i gael ein cynnwys yn y cyllid prentisiaeth.

Dogfennau ategol: