Agenda item

Cynllun Darparu Gwasanaethau – Ein Gweledigaeth 5 Mlynedd Strategol

Gwahoddedigion:

 

Susan Cooper, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Cynghorydd Phil White, Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant

Jacqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Stephen Davies, Rheolwr Rhaglen Newid Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant trwy egluro y byddai cyflwyniad, yn egluro’r weledigaeth strategol, a nododd fod pob agwedd ar y Gyfarwyddiaeth mewn un cynllun. Roedd cysylltiad clir â’r Cynllun Corfforaethol, y Cynllun Rhanbarthol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Eglurodd fod y cynllun yn ddogfen fanwl a helaeth a oedd wedi’i strwythuro fel ei bod yn cynnwys gosod y cywair, gwasanaethau plant, gwasanaethau pontio (plant i fywyd fel oedolion), gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion, gwasanaethau llesiant a chyflawni’r cynllun gweithredu, ac fe siaradodd yn fras am bob maes.

 

Aeth y Rheolwr Rhaglen Newid Busnes drwy gyflwyniad, ac eglurodd ei fod yn seiliedig ar y ddogfen.

 

Diolchodd un o’r aelodau i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’i thîm am yr adroddiad helaeth a thynnodd sylw at y pwynt yngl?n â chyfathrebu, yn enwedig rhwng yr awdurdod a Chyngor Tref Pen-y-bont. Nododd natur gilyddol sianelu adnoddau nad yw’r cyngor yn gallu eu hariannu mwyach. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod hyn yn rhywbeth y gellir bwrw golwg arno ar ôl y cyfarfod.

 

Fe wnaeth un o’r aelodau nodi’r ystadegau a’r angen i gynllunio rhag blaen a gofynnodd a oedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn cael digon o gymorth gan Lywodraeth Cymru i sianelu’r gyllideb ac a oedd unrhyw arwydd o unrhyw help gan Lywodraeth Cymru, i bobl dros 85 oed. Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gydnabod y Gronfa Gofal Integredig, a oedd yn fuddsoddiad sylweddol yn ein gwasanaeth, ond nododd mai cyllid grant oedd hwn o hyd. Rhoddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion rai enghreifftiau gan gydnabod y newid mewn demograffeg. Fe wnaeth yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar nodi’r ymrwymiad o £9m i iechyd a gofal cymdeithasol a chadarnhaodd fod yr hyn a oedd yn cael ei wneud dros breswylwyr yn ddigymar. Nododd fod y Gweinidog wedi cyhoeddi y bydd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn newid tuag at Barciau Iechyd, a nododd fod yr awdurdod yn barod ar gyfer hyn ar sail yr asesiad o anghenion y boblogaeth.

 

Gofynnodd un o’r aelodau am sicrwydd bod yr awdurdod iechyd yn talu ei gyfran lawn. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod yr arian hwn yn dod drwy’r awdurdod iechyd ond bod rhaid ei wario o fewn y bartneriaeth. Roedd arian a oedd yn dod allan o’r sector acíwt yn anos i’w symud. Roedd hi’n teimlo, o fewn y gwaith Cymru gyfan, bod gan yr awdurdod berthynas well â’r bartneriaeth o’i gymharu ag ardaloedd eraill. O ran CAMHS a Phlant, roedd hwn yn faes sydd dan bwysau ac y mae angen buddsoddi ynddo; mae angen adolygu’r cyfraniad iechyd. Roedd llawer mwy o waith i’w wneud, ond roedd y sylfeini yno.

 

Gofynnodd un o’r aelodau a oedd archwiliad o sgiliau yn y dyfodol wedi cael ei gynnal ac a oedd unrhyw un o’n darparwyr gofal yn rhagweld unrhyw broblemau pan fyddwn yn gadael yr UE. Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod y sgyrsiau hynny wedi digwydd ddoe. Roedd arwyddion o broblemau gyda recriwtio a chadw a sgyrsiau yngl?n â sgilio. Mae angen i ni nodi pwysigrwydd rolau gweithwyr gofal ac yngl?n â rhoi iddynt y sgiliau ar gyfer y swydd ar draws Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod cofrestr staff Gofal Cymdeithasol Cymru a’r corff cyfatebol ym myd iechyd wedi bod yn cydweithio i godi ymwybyddiaeth o'r prinder sgiliau. Roedd I-Care Wales Pen-y-bont ar Ogwr yn ystyried sut i recriwtio staff gan bod pryderon y byddai’n well gan bobl fynd i fyd adwerthu. Eglurodd fod yr awdurdod yn ystyried tyfu ein talent ein hunain. Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod prinder staff mewn gwasanaethau oedolion, therapyddion galwedigaethol, gweithwyr cymdeithasol mewn Gwasanaethau Plant. Nododd goridor yr M4 a’r diffyg graddfa gyflog genedlaethol, gydag awdurdodau eraill megis RhCT yn rhoi cymhelliad, ynghyd â Chaerffili, sy’n talu mwy. Yn y pen draw gall pobl symud o gwmpas. Nododd hefyd y bu ymdrech ar y cyd yn y Gwasanaethau Plant a nododd eu bod yn dal i golli staff, ond yn fewnol yn aml. Nododd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar wasanaethau diweddar ffeiriau swyddi, ond ailadroddodd y pwynt yngl?n â diffyg graddfa gyflog genedlaethol.

 

Gwnaeth un o’r aelodau sylw bod maint y ddogfen yn golygu nad oedd hi’n hawdd ymgynghori yn ei chylch a nododd fod y cynllun gweithredu ar ddiwedd y ddogfen yn anghyflawn a gofynnodd am eglurhad mai gwaith ar y gweill ydoedd. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant mai gwaith ar y gweill ydoedd yn wir a chydnabu fod y ddogfen yn edrych yn noeth, ond y bydd yn cael ei phoblogi.

 

Holodd aelod a oedd unrhyw sôn am fodel cydweithredol ym maes gofal cymdeithasol, a dywedodd ei fod o’r farn y dylid rhoi anogaeth ar gyfer y math hwn o fodel e.e. taliadau uniongyrchol, a dywedodd ei fod o’r farn y byddai’n dda gweld hyn yn cael ei ymgorffori mewn strategaeth hirdymor. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod angen gwaith pellach i ddatblygu modelau cymunedol amgen gan gynnwys modelau cydweithredol ac y byddai’n ymgynghori ynghylch hynny gyda grwpiau. Mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol, roedd hi’n ystyried ymddiriedolaethau, a chwmnïau cydweithredol, ac yn teimlo bod cyfle yma, a chydnabu nad oedd hynny’n ddigon amlwg yn y ddogfen. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y byddai’n ddefnyddiol gofyn i Ganolfan Cydweithredol Cymru siarad gyda ni, ar lefel leol.

 

Roedd aelodau’n dymuno gwneud y sylwadau a dwyn y casgliadau canlynol:

 

Cynigiodd un o’r aelodau y galli cyfathrebu â’r Cynghorau Tref mwy ynghylch cyllid ar gyfer yr agenda Llesiant adnabod ffyrdd posibl y gallent gysylltu mewn meysydd sy’n gorgyffwrdd gydag allgymorth i gyrraedd yr angen mwyaf a pheidio â gwastraffu adnoddau.

 

Dywedodd un o'r Aelodau ei fod yn croesawu’r archwiliad o’r boblogaeth ond ei fod o’r farn bod angen archwiliad o sgiliau a gwaith, gyda chydweithrediad gan sefydliadau addysg bellach ac uwch o ran y sgiliau a’r wybodaeth y bydd eu hangen yn y dyfodol i ddarparu gwasanaethau.

 

Mynegodd yr aelodau bryder ynghylch anhawster recriwtio ac fe ofynnon nhw faint o recriwtio oedd wedi cael ei wneud, a pha mor aml y mae recriwtio’n digwydd ar gyfer gwasanaethau oedolion.

 

Dywedodd aelodau eu bod yn cydnabod bod yr asesiad o anghenion y boblogaeth yn arfer da ac fe ofynnon nhw am ei ledaenu ymhlith yr Aelodau ac am rannu arfer da o ran cynnal yr asesiad o’r boblogaeth gyda gwasanaethau eraill.

 

Mae’r aelodau’n argymell y dylid gwahodd Canolfan Cydweithredol Cymru i roi cyflwyniad i’r Awdurdod ynghylch Modelau Cydweithredol.

Dogfennau ategol: