Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

(iv) Swyddog Monitro

Cofnodion:

Y Maer

 

Cyhoeddodd y Maer fod enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth Flynyddol y Maer bellach ar gau a bod yr enillwyr wedi eu gwahodd i seremoni i'w chynnal ddiwedd Mawrth.  Roedd safon y ceisiadau yn arbennig o uchel a diolchodd i bawb a roddodd o'u hamser i lenwi'r enwebiad.  Yr oedd yn wych darllen am holl drigolion arbennig y fwrdeistref sirol a'r gwaith anhygoel y maent yn ei wneud yn ein cymunedau, yn aml heb i neb sylwi, ac yr oedd yn edrych ymlaen at gael cwrdd â'r bobl hyn y mis nesaf.

 

Gan barhau â’r thema gwobrau roedd yn bleser croesawu holl sectorau'r diwydiant adeiladu i Ben-y-bont ar Ogwr i ddathlu Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu blynyddol am y pedwerydd tro ar ddeg.  Mae'r gwobrau wedi'u hanelu at holl ystod y diwydiant adeiladu ac maen nhw yno i helpu, i annog, ac i gymeradwyo technegau adeiladu, sgiliau cyfathrebu, bodlonrwydd cwsmeriaid, ac adeiladu o safon uchel. Diolchodd y maer i bawb am gymryd rhan, i staff rheoli adeiladu Pen-y-bont ar Ogwr am drefnu'r digwyddiad, a llongyfarchodd yr enillwyr ar ran y cyngor.

 

Un o freintiau bod yn Faer yw’r gwahoddiadau i ymweld â mudiadau ac elusennau lleol er mwyn cwrdd â staff, gwirfoddolwyr, a defnyddwyr y gwasanaeth, dywedodd y Maer.  Yr wythnos diwethaf fe'i gwahoddwyd i'r YMCA ym Mhorthcawl i weld eu cyfleusterau ac i dystio i rai o'r gweithgareddau sy'n digwydd yn y Ganolfan. Sefydlwyd y Ganolfan yn 1908 ac mae wedi parhau i fod yn gymorth i lawer o grwpiau gwahanol ers hynny. Nid yn unig lle i ddysgu ydyw bellach, ond lle i fod yn ddiogel ac i wneud ffrindiau. Diolchodd felly i Ganolfan YMCA Porthcawl am eu hamser a'u lletygarwch o ran yr uchod.

 

Ar ôl ymgymryd â’r swydd, penderfynodd Uchel Siryf Morgannwg Ganol weithio gyda phob awdurdod lleol a threfnu "Strafagansa Gerddorol". Dyma ddathliad o dalentau cerddorol ifanc yr holl gymunedau, ac roedd yn cynnwys cantorion unigol, offerynwyr unigol, a chorau. Cynhaliwyd y rowndiau terfynol o gwmpas Morgannwg Ganol, a chynhaliwyd y rownd derfynol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru'r wythnos diwethaf.  Roedd y noson yn ddathliad gwych o'n talentau cerddorol ifanc, a rhoddodd y Maer ddiolch i Simon Gray, ein hyfforddwr cerddoriaeth, am ei holl waith caled ac i’r holl bobl ifanc a gymerodd ran, a rhoddodd longyfarchiadau pellach i'r enillwyr haeddiannol.

 

Dirprwy Arweinydd

 

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd ei fod yn falch iawn o weld gwerthiant tri o eiddo gwag y Cyngor mewn arwerthiant yn ddiweddar er mwyn helpu i gynhyrchu arian gwerthfawr iawn i'r awdurdod.

 

Yn yr arwerthiant gwerthwyd hen floc toiledau cyhoeddus yn Derwen Road, Pen-y-bont ar Ogwr, hen gartref gofal Hyfrydol ym Maesteg, a swyddfeydd hen Gyngor y dref ym Mhorthcawl yn gwerthu am £736,000.

 

Roedd hyn yn fwy na chwarter miliwn o bunnau dros y pris wrth gefn, canlyniad da iawn i unrhyw un.

 

Bydd y derbyniadau yn helpu i ariannu ein rhaglen gyfalaf, sy'n cynnwys y fenter moderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif a fydd yn buddsoddi amcangyfrif o £68,000,000 mewn ysgolion Band B.

 

Fel y g?yr yr Aelodau, yr oedd gwerthu Hyfrydol yn rhan o'r achos busnes i ddarparu cyfleuster gofal ychwanegol newydd sbon ym Maesteg, a symudodd Cyngor Tref Porthcawl i safle mwy addas yng nghanol y dref y llynedd.

 

Fel rhan o bartneriaeth rhwng Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr a'r gymdeithas masnachwyr marchnad, bydd toiledau newydd canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn agor yn fuan yn y farchnad dan do, tra bo toiledau cyhoeddus dal ar gael yng ngorsaf fysiau Pen-y-bont.

 

Roedd yn sicr y byddai’r Aelodau yn croesawu'r newyddion fel rhan o gynllun rheoli asedau hirdymor parhaus y Cyngor i ail-fodelu gwasanaethau a gwerthu asedau nad oes eu hangen bellach.

 

Hefyd, atgoffwyd yr Aelodau gan y Dirprwy Arweinydd fod sesiwn ddatblygu ar Gredyd Cynhwysol wedi'i threfnu ar gyfer dydd Llun 9 Mawrth. Bydd hyn yn digwydd yn Siambr y Cyngor am 9.30 am a bydd yn rhoi trosolwg o Gredyd Cynhwysol yn ogystal â gweithgareddau ychwanegol wedi’u darparu gan y Ganolfan Waith, felly gofynnodd i Gynghorwyr wneud pob ymdrech i fod yn bresennol.

 

Yn olaf, mae sesiwn galw heibio yn cael ei threfnu ar gyfer unrhyw Aelod sydd angen cymorth i gwblhau adroddiadau blynyddol.

 

Bydd hyn yn digwydd ddydd Llun 2 Mawrth yn ystafelloedd pwyllgora dau a thri, a bydd y rheolwr gwasanaethau democrataidd ar gael i gynnig cyngor ac arweiniad rhwng 9am a 11am.

 

Aelod Cabinet – Cymunedau

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau ei fod yn si?r y bydd yr Aelodau'n falch o nodi bod achos busnes llawn yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu cynllun atal llifogydd newydd gwerth £6 miliwn ym Mhorthcawl.

 

Os bydd yn llwyddiannus, bydd yn arwain at waith mawr yn cael ei wneud ar ardaloedd y Western Breakwater, Eastern Promenade a Sandy Bay, a bydd yn chwyddo’r swm a fuddsoddwyd yn adfywiad parhaus y dref dros y chwe blynedd diwethaf i fwy na £17 miliwn.

 

Wedi'i gynllunio i ddiogelu 530 o gartrefi a 175 o fusnesau wrth ategu cynlluniau adfywio ar gyfer Salt Lake, mae'r gwaith yn dilyn cyflwyniad amddiffynfeydd môr newydd ar draeth y dref, sy'n diogelu 260 o gartrefi, busnesau, ac adeiladau hanesyddol fel y Grand Pavilion.

 

Mae’r Western Breakwater yn 200 oed erbyn hyn, tra bod morglawdd yr Eastern Promenade ond ychydig yn iau, yn 160 oed. Bydd y gwaith hwn yn cynnig amddiffyniad parhaus rhag llifogydd, ac yn gweithredu fel sicrwydd ar gyfer buddsoddwyr, busnesau, ymwelwyr, trigolion, ac ati yn y dyfodol.

 

Bydd gwaith peirianyddol a thrwsio gwagleoedd yn helpu i'w cryfhau, ond gan eu bod yn strwythurau rhestredig rhaid i'r holl waith fodloni gofynion cadwraeth treftadaeth.

 

Bydd wal fach sy'n gwarchod yr ysgwrfa yn cael ei hychwanegu o amgylch pen y morglawdd, a bydd ardal y promenâd yn cael arwyneb newydd yn ogystal â gwaith tirweddu, gyda gwelyau plannu uchel, ardaloedd eistedd newydd, a mwy.

 

Yn sgil llwyddiant yr amddiffynfeydd môr newydd gwerth £3m ar draeth y dref, roedd ganddo obeithion mawr am y cynllun diweddaraf hwn ac yn edrych ymlaen at roi rhagor o newyddion i'r Aelodau wrth iddo ddatblygu.

 

Yn olaf, diolchodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau i bawb a gysylltodd ag ef yn ddiweddar, dros e-bost yn bennaf, i ddymuno gwellhad buan iddo ar ôl ei gwymp yn ddiweddar tra ar fusnes y Cyngor ym Merthyr.

 

Aelod Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol a Lles

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Cenedlaethau'r dyfodol ei bod wedi cael cyfle yn ddiweddar i weld dau gynllun tai arloesol yr oedd hi'n gobeithio a fyddai o ddiddordeb i'r Aelodau. Roedd y cyntaf yn ymwneud ag adnewyddu'r adeilad Gaylards gwag ar Court Road yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr sydd, yn gyfleus, ychydig gamau oddi wrth orsaf drenau Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Mae’r eiddo gwag yng nghanol y dref wedi'i ddwyn yn ôl i ddefnydd cyhoeddus fel 15 o fflatiau modern a fforddiadwy, ac fe'u crëwyd gan ddefnyddio arian grant Cartrefi yn y Dref.  Mae V2C yn marchnata'r cartrefi gan osod y rhenti'n is na chyfraddau cyfartalog y farchnad, maent yn addas i bobl sy'n gweithio yng nghanol y dref neu'n defnyddio'r orsaf drenau gyfagos i deithio i'r gwaith ac oddi yno.

 

Roedd yr ail brosiect yn cynnwys 4 o dai pâr a adeiladwyd drwy Gronfa Tai Arloesol Llywodraeth Cymru gan Wernick Buildings ar Stad Ddiwydiannol Cynffig ar gyfer V2C.

 

Diolch i ddyluniad modiwlaidd unigryw, mae'r cartrefi hyn yn cael eu paratoi i deuluoedd ddod i fyw yno yn chwim iawn.  Caiff y cartrefi eu hadeiladu oddi ar y safle, ac yna caiff cyfarpar fel gwresogi a thrydan eu rhagosod yn ystod y cyfnod adeiladu.  Mae cartrefi modwlar yn lleihau costau cyfleustodau'r perchenogion yn sylweddol, nid ydynt yn cael cymaint o effaith negyddol ar yr amgylcheddol o gymharu â dulliau adeiladu traddodiadol, ac maent yn tarfu llai ar y gymuned.

 

Roedd y ddau gynllun yn rhoi cipolwg ar sut mae tai modern yn cael eu creu, dyna ei chasgliad.

 

Aelod Cabinet – Gwasanaeth Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Cyhoeddodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei fod wrth ei fodd gyda chanlyniadau'r cydarolygiad diweddar i wasanaethau ar gyfer pobl h?n ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Bu Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Iechyd Cymru yn archwilio sut mae'r cyngor a'i bartneriaid yn hyrwyddo annibyniaeth ymhlith oedolion h?n ac yn atal eu hanghenion a'u problemau rhag gwaethygu.

 

Gwelwyd bod cynnydd da yn cael ei wneud, a bod gweithdrefnau a dulliau gweithredu’r gwasanaethau yn gadarn, gyda thystiolaeth o ymyrraeth gynnar ac ymdrechion sylweddol a llwyddiannus i ganolbwyntio ar fuddiant yr unigolyn yn ogystal â'r canlyniad.

 

Dywedodd yr arolygwyr fod pobl yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn eu clywed, a hynny yn sgil sefydlu ymgysylltiad cryf er mwyn helpu i lywio datblygiad y gwasanaeth, a bod adborth gan staff yn gadarnhaol ac yn dangos ymroddiad i’w gwaith.

 

Mae amrywiaeth dda o grwpiau cymunedol ar gyfer pobl h?n ar gael, ac mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn elwa ar benderfyniadau cyflym, a dull gweithredu cydgysylltiedig.

 

O ran y meysydd i'w gwella, argymhellodd yr adroddiad y dylid sicrhau bod pobl yn gallu derbyn cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg, gan symleiddio rhai prosesau er mwyn cynyddu prydlondeb y cymorth, sicrhau bod y system ar gyfer trefnu gofal cartref mor effeithlon â phosibl, a gwella cysondeb o ran sut y caiff pobl eu cyfeirio at wasanaethau.

 

Roedd llawer o'r rhain eisoes wedi'u nodi gan y Cyngor, ac mae cynnydd yn cael ei wneud o ran eu datblygu ymhellach.

 

Mae'r adroddiad yn dangos ymrwymiad gweladwy tuag at weithio integredig er budd pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a diolchodd i staff a phartneriaid y Cyngor am eu gwaith caled a'u hymroddiad parhaus.

 

Efallai y bydd yr Aelodau hefyd am sôn wrth eu hetholwyr am yr ymgyrch barhaus i recriwtio gofal cymdeithasol o'r enw 'Gofalwn'.

 

Cynhelir yr ymgyrch fel rhan o bartneriaeth Cwm Taf Morgannwg a'i nod yw egluro pam fod cymaint o bobl o bob cefndir yn dewis gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn ceisio disodli rhai o'r mythau sy'n ymwneud â’r sector cyffrous hwn.

 

Mae gofal cymdeithasol yn cynnig sefydlogrwydd swydd oes, a’r gallu arbenigo mewn maes penodol wrth wneud gwahaniaeth o ddydd i ddydd.

 

Roedd yn gyfle gwych i ddatblygu gyrfa a dilyn hyfforddiant pellach, a gyda digon o gyfleoedd, mae hwn yn sector sy'n gallu cynnig sefydlogrwydd a chyfle yn gyfartal.

 

Am ragor o wybodaeth, gofynnodd i'r rhai a oedd yn bresennol i ymweld â'r dudalen swyddi gofal cymdeithasol yn www.Bridgend.gov.UK/cy.

 

Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio fod sgwâr marchnad hygyrch newydd wedi’i greu. Fe'i cynlluniwyd i gynnal digwyddiadau arbenigol, adloniant teuluol, cyfleusterau chwarae i blant, ac arddangosfeydd gyda’r bwriad o ddenu mwy o siopwyr i'r farchnad.

 

Mae hyn yn rhan o brosiect parhaus i adfywio’r farchnad, prosiect sy'n cynnwys toiledau newydd a ddarperir o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr; y Gymdeithas Masnachwyr Marchnad, a ni ein hunain yn CBSP.

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cyfres o baneli eglurhaol wedi'u gosod i groesawu siopwyr er mwyn rhoi gwybodaeth am hanes cyfoethog y farchnad, ac mae cloch y farchnad sy'n dyddio'n ôl i 1837 wedi'i hadleoli i'w gwneud yn fwy gweladwy.

 

Cyflwynwyd system renti newydd a thelerau prydles hyblyg ynghyd â gostyngiadau rhent sylweddol i stondinwyr presennol. Yn ogystal â chefnogi’r rhai sydd wedi cynnal stondinau hirdymor, rydym am i'r farchnad hefyd ddarparu ar gyfer entrepreneuriaid newydd, rhai a all dechrau mewn uned lai i roi cynnig ar eu syniad cyn penderfynu ar eu cam nesaf yn y sector manwerthu. 

 

Rydym wedi gweld nifer o denantiaid newydd yn dod i mewn i'r farchnad, ac unwaith y bydd y gwaith presennol wedi'i gwblhau byddwn yn marchnata i lenwi'r stondinau gwag. Byddai sgwâr y farchnad hefyd yn lle delfrydol i gwrdd â ffrindiau yn y dref, ychwanegodd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio wrth yr Aelodau fod pob ysgol wedi bod yn derbyn cyngor ar y coronafeirws drwy ganllawiau meddygol addas a fyddai'n cael eu diweddaru wrth i bethau ddatblygu, a hynny drwy gyfrwng eu post wythnosol.

 

Yn olaf, gofynnodd i bob Aelod gysylltu â thrigolion eu cymunedau i'w hysbysu bod nifer o swyddi llywodraethwyr ysgol yn dal ar gael yn ysgolion y Fwrdeistref Sirol, mae angen ennyn diddordeb er mwyn llenwi'r swyddi gwag hyn. 

 

Prif Weithredwr

 

Cyhoeddodd y Prif Weithredwr fod rhai Aelodau wedi gofyn beth oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei wneud mewn ynghylch Covid-19, felly roeddwn yn meddwl y gallai helpu i roi diweddariad byr am ein sefyllfa.

 

Roedd yn bwysig ei fod yn teimlo i daro cydbwysedd rhwng codi bwganod a chadarnhau cyngor addas ac unrhyw ragofalon y gallai'r cyhoedd eu cymryd o ran cynllunio ar gyfer unrhyw achosion yn y dyfodol. Realiti'r sefyllfa yw nad oes, hyd yna, unrhyw ofyn i awdurdodau lleol gymryd camau arbennig o lym, megis cau adeiladau cyhoeddus neu ohirio digwyddiadau cyhoeddus.

 

Rydym yn dilyn y cyngor a’r canllawiau swyddogol a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, a sefydliadau fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd oll yn cydweithio i gydgysylltu ymdrechion i atal lledaeniad y firws.

 

Ar lefel leol, y cyngor presennol yw y dylai ysgolion, swyddfeydd, ac adeiladau cyhoeddus aros ar agor. Rydym eisoes wedi rhoi cyngor arbenigol i ysgolion, ac rydym yn barod i gyhoeddi canllawiau pellach wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

 

Er ei fod yn gobeithio na fydd angen eu gweithredu, mae cynlluniau parhad busnes a chynlluniau argyfwng wedi’u llunio i sicrhau y gall y Cyngor barhau i fod yn gadarn a darparu gwasanaethau pe bai'r sefyllfa yn gwaethygu.

 

Ar lefel genedlaethol, dylai pawb sydd wedi dychwelyd o Iran, gogledd yr Eidal, De Korea, talaith Wuhan, neu dalaith Hubei ers 19 Chwefror hunan ynysu’n awtomatig, a chysylltu â Galw Iechyd Cymru am gyngor pellach hyd yn oed os nad ydynt yn arddangos symptomau.

 

Mae'r un cyngor yn berthnasol i bobl sy'n arddangos symptomau ar ôl dychwelyd o Fietnam, Cambodia, Laos, neu Myanmar ers 19 Chwefror.

 

Yn olaf, dylai unrhyw un sydd wedi datblygu symptomau ar ôl dychwelyd o China, Gwlad Thai, Japan, Gweriniaeth Korea, Hong Kong, Taiwan, Singapore, Malaysia neu Macau o fewn y 14 diwrnod diwethaf hunan-ynysu gartref a ffonio Galw Iechyd Cymru.

 

Yn hyn i gyd, mae'n bwysig nodi bod Covid-19 yn debyg iawn i ffliw'r gaeaf. Gall difrifoldeb yr haint amrywio o symptomau ysgafn yn y llwybrau anadlu uchaf a gwres, hyd at ben arall y pegwn lle gall arwain at achosion difrifol o niwmonia pan fydd angen cefnogaeth yn yr ysbyty a chymorth anadlu uwch.

 

Hyd yma, mae Covid-19 wedi'i ganfod mewn tri ar ddeg o wladolion y DU, ac nid oes yr un ohonynt yn dod o Gymru. Yn anffodus, mae'r clefyd wedi profi i fod yn angheuol i fwy na 2000 o bobl yn China. Fel gyda ffliw'r gaeaf, mae'r mwyafrif llethol o'r rhai a fu farw wedi bod yn bobl oedrannus, neu bobl â chyflyrau iechyd sylfaenol.

 

I roi rhywfaint o gyd-destun i chi o'r marwolaethau hynny, roedd bron i un ar ddeg y cant yn bobl â chlefydau'r galon, saith y cant â diabetes, a chwech y cant â phroblemau ysgyfaint hirdymor.

 

O ran oedran, mae'r gyfradd marwolaethau ar hyn o bryd yn isel iawn, yn llai na dim ond pwynt-pump y cant i bobl o dan 50. Mae hyn yn codi i wyth y cant i bobl yn eu saithdegau, a phymtheg y cant i bobl sy'n h?n na 80.

 

Gan fod mesurau rheoli heintiau cadarn ar waith ar lefelau rhyngwladol a chenedlaethol, mae'n bwysig sicrhau bod ein hymateb fel awdurdod lleol yn briodol ac wedi’i ystyried yn ofalus. Yn hynny o beth, mae ein hagwedd yn un o 'fusnes fel arfer', ac yr ydym yn parhau â'n rolau fel arfer.

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud mai'r ffordd orau o warchod rhag heintiad yw drwy ddilyn rhai egwyddorion cyffredinol yr ydym yn helpu i'w hyrwyddo.

 

Mae'r rhain yn cynnwys golchi eich dwylo'n rheolaidd am o leiaf 20 eiliad gan ddefnyddio sebon a d?r, defnyddio diheintydd sy'n seiliedig ar alcohol, cael gwared ar unrhyw hancesi a ddefnyddir ar unwaith, glanhau a diheintio gwrthrychau ac arwynebau sydd wedi'u cyffwrdd yn aml, a mwy.

 

Efallai y bydd yr Aelodau am gynghori eu hetholwyr i geisio rhagor o wybodaeth gan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n cynnig rhestr o gwestiynau cyffredin am Covid-19 yn ogystal â chyngor a chymorth yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Yn y cyfamser, mae'r Cyngor yn parhau i fod yn gadarn ac yn ymwybodol, ac yn barod i gymryd camau pellach yn ôl y gofyn.

 

Swyddog Monitro

 

Gofynnodd y Swyddog Monitro i'r Cyngor ystyried y newidiadau i ddyddiadau’r pwyllgorau ar y gweill canlynol:

 

1.    Cyfarfod Cyfunol o Bwnc OSC1 a Phwnc OSC2 i ystyried yr adroddiadau ar Deithio gan Ddysgwyr ac Addysg ôl-16 gyda'i gilydd, wedi’i symud i 19 Mawrth am 2.30pm a chanslo’r cyfarfod SOSC1 ar 9 Mawrth.

 

2.    Pwnc O&SC 3 a oedd i'w gynnal ar 18 Mawrth 2020 wedi ei ail-drefnu ar gyfer 23 Mawrth 2020.

 

3.    Pwnc O&SC Corfforaethol a oedd i'w gynnal ar 23 Mawrth 2020 wedi ei ail-drefnu ar gyfer 30 Mawrth 2020.

 

Roedd Cadeiryddion pob un o'r pwyllgorau uchod wedi cytuno i newidiadau arfaethedig o'r fath.