Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod y DU wedi gweld tywydd gwirioneddol druenus yn ddiweddar, ac roedd yn canmol staff y cyngor a fu’n gweithio'n ddiflino, ddydd a nos, drwy gydol y stormydd a'r glaw trwm diweddar.

 

Fel arfer, maent wedi rhoi’r ymdrech fwyaf i ddiogelu pobl ac eiddo, ac i helpu i gadw'r fwrdeistref sirol ar ei thraed.

 

Llwyddodd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddianc rhag y rhan fwyaf o'r difrod eang a brofwyd gan ein cymdogion agos, ychwanegodd yr Arweinydd.

 

Unwaith eto, roedd yn credu bod rhan fawr o hyn o ganlyniad i broffesiynoldeb, profiad, ac ymrwymiad staff CBSP.

 

Ym mhob cwr o'r fwrdeistref sirol, gwiriwyd a chliriwyd ceuffosydd a draeniau ymhell cyn i’r stormydd daro, a gosodwyd llidiardau d?r ar hyd Porth yr Angel.

 

Llanwyd a pharatowyd miloedd o fagiau tywod, ac roedd criwiau’n barod am y gwaethaf gyda chyfarpar a oedd yn cynnwys jetiau d?r, llifiau cadwyn, JCBs, a theclynnau codi.

 

Pan darodd y stormydd, roedd criwiau allan yn y tywydd mawr, yn clirio malurion o ddraeniau, yn dosbarthu bagiau tywod, yn symud coed a syrthiodd ac arwyddion wedi'u difrodi, yn trwsio ffensys wedi torri, yn diogelu goleuadau stryd, a llawer mwy yn ogystal.

 

Yn anffodus, ychwanegodd yr Arweinydd, gwelwyd llifogydd mewn sawl eiddo yn Nyffryn Ogwr oherwydd y glaw, a bu ein staff yno yn helpu’r trigolion. Mae swyddogion y tîm rheoli llifogydd yn ymchwilio achosion y llifogydd.

 

Pan oedd y glaw ar ei anterth, bu llifogydd dros nifer o ffyrdd a chaewyd rhai ohonynt nes cilio’r d?r a chlirio’r malurion, bu'n rhaid i griwiau ddadflocio ceuffosydd ym Mhencoed ar ôl iddynt gael eu tagu gan falurion a oedd wedi’u cario gyda’r afon.

 

Syrthiodd coeden ar y ffordd rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg gan ei chau am gyfnod, tra ar y Bwlch roedd y d?r yn gollwng gyda'r fath rym nes gorlifo’r muriau a draeniau, a gwthio creigiau a cherrig i lawr i'r ffordd.

 

Yn sgil y stormydd, roedd staff y Cyngor hefyd wedi bod wedi cynnal rhag-wiriadau pellach yn 41 o hen safleoedd cloddio glo yng nghymoedd Ogwr, Garw a Llynfi i sicrhau eu bod yn ddiogel.

 

Cynigiwyd cymorth ac offer i gydweithwyr yn Rhondda Cynon Taf hefyd, lle mae cannoedd o gartrefi ac eiddo wedi'u difrodi gan y llifogydd a datganwyd argyfwng mawr. Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i dalu teyrnged i gydweithwyr yn y gwasanaethau brys, yn enwedig Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru, a staff y GIG a fu;’n peryglu eu bywydau ar brydiau wrth ateb y galw.   

 

Gan mai'r holl dystiolaeth a'r rhagolygon yw y bydd tywydd mwy eithafol yn cael ei brofi'n amlach yn y dyfodol, bydd BCBS yn ystyried yn ofalus yn y misoedd nesaf sut y gall gynyddu'r adnoddau i leihau'r perygl o lifogydd yn y dyfodol. Bydd yr Awdurdod hefyd yn ystyried sut y gall gryfhau'r gallu i ymateb i lifogydd pan fydd yn digwydd.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd ei fod yn falch bod yr Awdurdod yn datblygu cynlluniau ar gyfer rhaglen brentisiaeth £600,000 newydd a fydd yn sicrhau bod modd cadw a meithrin sgiliau arbenigol o fewn y sefydliad.

 

Bydd y cynigion yn galluogi staff i ymgymryd â hyfforddiant ffurfiol yn ogystal â datblygu sgiliau ymarferol, a byddant yn targedu meysydd arbenigol fel priffyrdd, peirianneg, cynllunio, tirfesur, TG, rheoli adeiladu, cludiant a mwy.

 

Ers 2013, mae'r Cyngor wedi cefnogi 51 o brentisiaethau, gyda llawer yn mynd ymlaen i weithio'n llawn amser i'r awdurdod lleol.

 

Ond yn debyg i sefydliadau mawr eraill, mae gan y Cyngor weithlu h?n ac mae llawer o bobl yr ydym yn dibynnu arnynt yn agosáu at oed ymddeol, felly mae hyn yn ffordd ragorol o sicrhau nad yw'r sgiliau gwerthfawr hynny'n cael eu colli, ond yn hytrach yn cael eu trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf o weithwyr.