Agenda item

Rheoli'r Trysorlys a Strategaethau Cyfalaf o 2020-21 Ymlaen

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 adroddiad, a'i ddiben oedd cyflwyno Strategaeth Reoli'r Trysorlys 2020-21 (Atodiad A i'r adroddiad) i’r Cyngor, sy'n cynnwys Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, a'r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2020-21 hyd at 2029-30 (Atodiad B), sy'n cynnwys y Dangosyddion Darbodus i'w cymeradwyo.

 

Mae Strategaeth Reoli'r Trysorlys 2020-21 yn cadarnhau cydymffurfiad y Cyngor â Rheolwyr y Trysorlys o fewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer. Mae hefyd yn cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol y Cyngor o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i ystyried Cod CIPFA a Chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd fod Strategaeth Reoli'r Trysorlys yn strategaeth integredig lle caiff benthyca a buddsoddiadau eu rheoli yn unol â'r arferion proffesiynol gorau. Mae'r Cyngor yn benthyca arian naill ai i ddiwallu anghenion llif arian byrdymor neu i ariannu cynlluniau cyfalaf o fewn y rhaglen gyfalaf, ond nid yw’r benthyciadau a gymerir yn gysylltiedig ag asedau penodol. Mae'r Cyngor yn agored i risgiau ariannol gan gynnwys y posibilrwydd o golli cronfeydd buddsoddi ac effaith newidiadau mewn cyfraddau llog ar refeniw. Mae'r Cyngor yn ymdrechu i leihau'r risgiau drwy fuddsoddi ei arian yn ddarbodus, gan roi ystyriaeth yn gyntaf i ddiogelwch buddsoddiadau, yna eu hylifedd, ac yn olaf i geisio'r gyfradd adennill neu gnwd uchaf. Roedd y Strategaeth yn amlinellu diffiniad y Cyngor o

fuddsoddiadau penodedig ac amhenodedig, y terfynau ariannol ar gyfer pob categori o fuddsoddiadau a'r

cydbartïon cymeradwy â statws credyd cysylltiedig.

 

Aeth y Pennaeth Cyllid Dros Dro a'r Swyddog Adran 151 yn ei blaen i gadarnhau bod y Strategaeth Gyfalaf 2020-21 hyd at 2029-30 (Atodiad B o'r adroddiad) wedi'i chyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 13 Chwefror 2020 er gwybodaeth. Cadarnhaodd hyn fod y Cyngor yn cydymffurfio â'r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol. Mae'n nodi'r egwyddorion sy'n llywio penderfyniadau cyfalaf o ran:-

 

1.  Canolbwyntio buddsoddiad cyfalaf ar gyflawni amcanion a blaenoriaethau'r Cyngor

2.  Sicrhau llywodraethu cryf wrth wneud penderfyniadau

3.  Sicrhau bod cynlluniau cyfalaf yn fforddiadwy, yn gynaliadwy, ac yn ddarbodus

4.  Uchafu a hyrwyddo'r defnydd gorau o'r arian sydd ar gael

 

Mae'r Strategaeth Gyfalaf yn nodi fframwaith ar gyfer hunanreoli cyllid cyfalaf ac yn edrych ar y meysydd canlynol:

 

  • Gwariant cyfalaf a chynlluniau buddsoddi
  • Dangosyddion Darbodus
  • Dyled allanol
  • Rheoli'r Trysorlys

 

Roedd hefyd yn adrodd ar y ddarpariaeth, ar fforddiadwyedd, a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r cyd-destun hirdymor, lle y gwneir gwariant cyfalaf a phenderfyniadau buddsoddi.

 

Mae Rheoliadau Awdurdod Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Diwygio) (Cymru)

2008 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor lunio a chymeradwyo Datganiad Blynyddol o Ddarpariaeth Refeniw Gofynnol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol. Pan fo Cyngor yn talu am wariant cyfalaf drwy ddyled, rhaid iddo neilltuo adnoddau refeniw i ad-dalu'r ddyled honno mewn blynyddoedd diweddarach a chodir y tâl hwn ar refeniw.

 

I gloi ei chyflwyniad, dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 fod y datganiad hwn ynghlwm yn Atodiad B - Atodlen A yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:                        Bod y Cyngor yn cymeradwyo:

  • Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020-21 gan gynnwys

           Dangosyddion Rheoli’r Trysorlys 2020-21 hyd at 2022-23 (Atodiad A);

  • y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2020-21 hyd at 2029-30, gan gynnwys y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2020-

           21 hyd at 2022-23 (Atodiad B);

y Datganiad Blynyddol o ran Darpariaeth Refeniw Gofynnol 2020-21 (Atodiad B - Atodlen A).

Dogfennau ategol: