Cofnodion:
Cyflwynwyd y canlynol i'r cyfarfod gan y Maer: C Barton, Trysorydd a H Jakeway, Prif Swyddog Tân Awdurdod Tân De Cymru i roi cyflwyniad ar y cyd.
Cadarnhawyd bod gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) 47 Gorsaf Dân yn cwmpasu'r ardaloedd canlynol:-
• CBS Pen-y-bont ar Ogwr
• Blaenau Gwent
• Rhondda Cynon Taf
• Bro Morgannwg
• Caerffili
• Merthyr Tudful
• Torfaen
• Sir Fynwy
• Casnewydd
• Caerdydd
Ymrwymodd pob un o'r Awdurdodau Unedol uchod y symiau canlynol ar gyfer GTADC, gyda phoblogaeth pob Bwrdeistref Sirol yn cael ei dangos mewn cromfachau yn dilyn y swm:-
1. Merthyr Tudful - £2,790,365 (59,254)
2. Rhondda Cynon Taf - £11,252,298 (238,945)
3. Pen-y-bont ar Ogwr - £6,746,905 (143,272)
4. Bro Morgannwg - £6,047,690 (128,424)
5. Caerdydd - £17,437,965 (370,299)
6. Torfaen - £4,336,523 (92,087)
7. Casnewydd - £7,028,029 (149,243)
8. Sir Fynwy - £4,382,814 (93,070)
9. Blaenau Gwent - £3,266,932 (69,374)
10. Caerffili - £8,537,563 (181,297)
Ychydig dros £70m oedd gan y GTADC fel Cyllideb Refeniw yn 2019/20, a gwariwyd 75% o hyn ar gostau staff. Gwariwyd cryn dipyn o’r swm ar bersonél gweithredol, gyda rhai gwasanaethau’n rhai allanol ond y rhan fwyaf yn wariant mewnol.
Yna, rhoddodd y Swyddog grynodeb o'r hyn yr oedd cyllideb y GTADC yn ei gwmpasu, a oedd yn cynnwys:-
• Trafnidiaeth
• Cyflenwadau
• Hyfforddiant
• Adeiladau
• Incwm Cyllido Cyfalaf
• Arall
Rhannwyd y gyllideb ar gyfer cyflogeion yn gostau Rheoli, Cymorth, Gweithredol a chostau eraill.
Cadarnhaodd swyddogion fod yn rhaid i GTADC ddefnyddio tua 7% o'i gyllideb i ariannu benthyca ar gyfer ei raglen Gyfalaf, er mwyn cyflawni ei swyddogaethau'n llawn. Fodd bynnag, ers dechrau cyni a'r dirwasgiad yn dilyn hynny, bu newid yn y Gyllideb Refeniw Net sy'n cyfateb i ostyngiad o tua 17% mewn termau real.
Yna hysbyswyd y Cyngor bod tri Awdurdod Tân yng Nghymru, yn cwmpasu ardaloedd De Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru. Derbyniodd GTADC hefyd grantiau Llywodraeth Cymru a chyllid ar gyfer costau pensiwn tuag at ei incwm cyffredinol. Amcangyfrifwyd y byddai arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer costau pensiwn yn cael ei dorri o £200k yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Roedd pwysau ariannol o ran costau adeiladau a'r gofyniad i adnewyddu rhywfaint o gyfarpar, h.y. injans tân ac offer diffodd tân eraill.
Bu'n rhaid i GTADC hefyd gadw hyn a hyn o gyllid fel arian wrth gefn ar gyfer gwariant annisgwyl, er enghraifft costau gweithredu diwydiannol, lle byddai angen y gwasanaethau brys o hyd.
O ran pwysau ar y gyllideb, roedd cyllideb GTADC yn tybio arbediad effeithlonrwydd o £0.4m ar staffio bob blwyddyn. Cafodd yr holl ffactorau chwyddiant eraill eu hymgorffori o fewn cyllidebau presennol. Roedd gorwariant cyfredol rhagamcanol o £0.9m wedi'i ymgorffori drwy ddulliau eraill ar gyfer arbedion gwariant.
O ran y risgiau yn ardal De Cymru, eglurodd Swyddogion fod y rhain yn ymwneud â chyfrifoldeb yr Awdurdod Tân wrth ofalu am y seilwaith fel y rhwydwaith priffyrdd a strwythurau eraill megis pontydd, yn ogystal â'r rhai a oedd yn ymwneud â digwyddiadau chwaraeon mawr a digwyddiadau eraill (cerddoriaeth) a oedd yn denu cryn dipyn o'r cyhoedd mewn un lle ar unrhyw adeg benodol.
Roedd y Gwasanaeth hefyd yn edrych ar raglenni Cadetiaid Tân, gydag 13 yn cael eu cynnal ar draws ardaloedd yr awdurdodau lleol, gyda'r rhaglenni'n darparu ar gyfer pobl ifanc 13 – 18 oed i’w hannog (gan gynnwys drwy ddilyn cymhwyster BTEC priodol).
Mae GTADC hefyd yn gweithio ar fentrau diogelwch yn y cartref, gan gyflwyno synwyryddion mwg a gwres am ddim mewn cartrefi sydd mewn perygl, h.y. yn enwedig mewn cartrefi lle mae pobl oedrannus/agored i niwed. Roedd y Gwasanaeth hefyd yn edrych ar lefelau a gofynion diogelwch mewn safleoedd masnachol a diwydiannol.
Roedd GTADC hefyd yn edrych ar lefelau diogelwch mewn unrhyw adeiladau uchel iawn, gan edrych yn benodol am unrhyw risgiau fflamadwy o ran strwythur yr adeilad, yn enwedig ar ôl trychinebau fel tân t?r Grenfell. Roedd yn hanfodol bod gwaith adeiladu adeiladau’n cydymffurfio â safonau diogelwch rheoleiddio tân.
Ers 2017, mae gan yr Awdurdod Tân hefyd ddyletswydd statudol i ymateb i achosion o lifogydd.
Mae gan y Gwasanaeth swyddogaeth ystafell reoli ar y cyd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Heddlu De Cymru. Roedd y trefniant cydweithredol hwn wedi arwain at arbediad o fwy na £1m y flwyddyn.
Yna, cyfeiriodd y Swyddogion at alwadau brys a wnaed gan GTADC yn 2018 o gymharu â 2003 mewn 16 o gategorïau gwahanol ac roedd y canfyddiadau’n gadarnhaol, gan y bu gostyngiad yn nifer y rhain mewn 14 o'r 16 categori, gyda chynnydd bach o 3% mewn galwadau Gwasanaeth Arbennig a chynnydd o 8% mewn galwadau Gwasanaeth Arbennig Eraill, a oedd o ganlyniad i dreial cenedlaethol gyda chriwiau tân yn cynorthwyo'r gwasanaeth ambiwlans gyda rhai galwadau lle roedd perygl tyngedfennol i fywyd.
Rhoddodd sleidiau olaf y cyflwyniad PowerPoint wybodaeth o'r cyfnod rhwng 2009/10 a 2018/19 ar y canlynol:-
1. Digwyddiadau Gweithredol Pen-y-bont ar Ogwr
2. Tanau a gafodd eu trin ym Mhen-y-bont ar Ogwr
3. Marwolaethau yn sgil Tanau ym Mhen-y-bont ar Ogwr
4. Anafiadau yn sgil Tanau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a
5. Tanau Damweiniol Mewn Cartrefi ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Yn dilyn cwestiynau gan Aelodau ac ymatebion y Swyddogion Tân, diolchodd y Maer iddynt am fynychu a rhannu gwybodaeth allweddol gyda'r Cyngor ac adleisiwyd hyn gan yr Arweinydd; yn dilyn hynny, daeth y cyfarfod i ben.
CWBLHAWYD: Nododd y Cyngor yr adroddiad eglurhaol a'r cyflwyniad ategol a roddwyd gan Swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ar rai o'r gwasanaethau allweddol y mae'n eu darparu yn y Fwrdeistref Sirol.
Dogfennau ategol: