Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) 2020-21 i 2023-24

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 Interim y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24, a oedd yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2020-24, cyllideb refeniw fanwl ar gyfer 2020-21 a Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2019-20 i 2029-30.   

 

Rhoddodd wybod i’r Cabinet bod y SATC wedi cael ei harwain yn sylweddol gan amcanion llesiant y Cyngor ac, er bod gostyngiadau o un flwyddyn i’r llall mewn Cyllid Allanol Cyfanredol (CAC) wedi cael eu gwneud yn flaenorol a hynny wedi ei gwneud yn angenrheidiol gostwng cyllidebau ar draws meysydd gwasanaeth, bod y Cyngor yn dal i fod â rôl arwyddocaol iawn yn yr economi leol, ac yntau’n gyfrifol am wariant gros blynyddol o oddeutu £420M, ac yn dal i fod y cyflogwr mwyaf yn y Fwrdeistref Sirol. Rhoddodd y Swyddog Adran 151 Interim wybod i’r Cabinet bod y Cynllun Corfforaethol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor i gael ei gymeradwyo ochr yn ochr â’r SATC 2020-24, sy’n cynnwys rhagor o amcanion llesiant yr ailbennwyd eu ffocws a bod y ddwy ddogfen yn gyson â’i gilydd, gan ei gwneud yn bosibl gwneud cysylltiadau eglur rhwng blaenoriaethau’r Cyngor a’r adnoddau a gaiff eu cyfeirio i’w hategu. 

 

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 Interim Drosolwg Ariannol Corfforaethol i’r Cabinet a thros y 10 mlynedd ddiwethaf mae’r Cyngor wedi gwneud gwerth £68M o ostyngiadau yn y gyllideb. Tua £420m fydd cyllideb gros y Cyngor tra bo’r gyllideb refeniw net sydd yn yr arfaeth ar gyfer 2020-21 yn £286.885M. Dywedodd fod tua £175M o’r gyllideb hon yn cael ei gwario ar staff y Cyngor, gan gynnwys athrawon a staff cymorth ysgolion. Mae cryn dipyn o gost gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau allanol yn gysylltiedig â chyflogau hefyd, gan gynnwys gweithredwyr casglu gwastraff, gweithwyr gofal cartref, staff hamdden a gofalwyr maeth. Mae’r Cyngor yn wynebu bod â llai o incwm i ariannu gwasanaethau, yn ogystal â newidiadau deddfwriaethol a demograffig. Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu cynllun corfforaethol sy’n nodi’r dulliau y bydd yn eu defnyddio i reoli’r pwysau hyn gan barhau i sicrhau, hyd y bo modd, y gellir darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y gymuned.    

 

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 Interim wybod i’r Cabinet bod y Cyngor yn cynnig gwario £121m ar wasanaethau a ddarperir gan yr adran Addysg yn 2020-21, gan gefnogi 59 o ysgolion ac un uned cyfeirio disgyblion. Gwariant ar ysgolion yw’r un maes gwariant mwyaf yn y Cyngor. Ar ôl Addysg, y maes y mae’r Cyngor yn gwario’r mwyaf o arian arno yw Gofal Cymdeithasol, sy’n cynnwys gofal cymdeithasol i blant ac i oedolion sy’n agored i niwed neu’n wynebu risg, ac mae’r Cyngor yn cynnig gwario £71m ar wasanaethau gofal cymdeithasol a llesiant. Dywedodd fod gwaith y Cyngor ar dir y cyhoedd yn cael effaith fwy uniongyrchol a gweladwy yn y gymuned, gyda’r Cyngor yn cynnig gwario £21.8m ar y gwasanaethau hyn. Un o flaenoriaethau’r Cyngor yw Cefnogi’r Economi a bydd y Cyngor yn cydweithio’n fwyfwy gyda’r naw cyngor arall sy’n rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n creu cronfa £1.2 biliwn i fuddsoddi yn y rhanbarth dros yr 20 mlynedd nesaf. Bydd yr arian a fuddsoddir yn cael ei dargedu tuag at wella ffyniant economaidd, cynyddu rhagolygon gwaith a gwella cysylltedd digidol a chludiant. Rhoddodd y Swyddog Adran 151 Interim wybod i’r Cabinet am y gwariant arfaethedig ar Wasanaethau Eraill, a’r meysydd mwyaf arwyddocaol yw’r Gwasanaethau Rheoleiddiol; Cofrestryddion a’r Dreth Gyngor a Budd-daliadau. Hefyd, ceir nifer o wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor i ategu’r gwasanaethau hynny, sef Eiddo a Chynnal a Chadw Adeiladau; Cyllid; Gwasanaethau Cyfreithiol; TGCh ac Archwilio Mewnol.

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Interim ar y Cyd-destun Ariannol Strategol a hysbysodd y Cabinet fod y SATC yn cael ei phennu yng nghyd-destun cynlluniau economaidd a gwariant cyhoeddus y DU, a blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Hysbysodd y Swyddog Adran 151 Interim y Cabinet, mewn ymateb i gyhoeddiad Canghellor y Trysorlys ym mis Medi 2019 ynghylch Cylch Gwariant un flwyddyn carlam ar gyfer 2020-21, a oedd yn cynnwys £600m ychwanegol i gyllideb Llywodraeth Cymru yn 2020-21, fod y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi cyhoeddi y byddai cyllideb Llywodraeth Cymru yn cynyddu 2.3% neu £593m. O ganlyniad i’r Etholiad Cyffredinol, fe oedodd Llywodraeth Cymru cyn cyhoeddi setliad dros dro llywodraeth leol gan beidio â gwneud hynny tan 25 Chwefror 2020. Roedd y SATC a’r gyllideb ar gyfer 2020-21 yn seiliedig ar y setliad dros dro, a oedd yn gynnydd mewn Cyllid Allanol Cyfanredol o 4.7%, ac nid oedd disgwyl y byddai unrhyw newidiadau sylweddol rhwng y setliad dros dro a’r setliad terfynol. 

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 Interim fod y gyllideb refeniw derfynol ar gyfer 2020-21 yn cynnwys cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.5%, a oedd yn is na’r opsiynau a oedd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y gyllideb, sef 6.5%. Eglurodd fod maint yr her ariannol yn dal i fod yn sylweddol unwaith y mae pwysau a risgiau allanol wedi cael eu cymryd i ystyriaeth ac y byddai cynnydd blynyddol tybiedig o 4.5% yn dal i gael ei gynnwys ar gyfer 2021-24.         

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Interim ar gymhariaeth rhwng y gyllideb a’r alldro rhagamcanol ar 31 Rhagfyr 2019, a oedd â thanwariant rhagamcanol o £798k, a oedd yn cynnwys gorwariant net o £85k ar gyfarwyddiaethau a thanwariant net o £5.274m ar gyllidebau ar draws y Cyngor cyfan, a oedd yn cael eu gwrthbwyso gan ddyraniad net i gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi o £4.391m. Eglurodd mai’r prif reswm dros y tanwariant o £4.154m ar Gyllidebau Eraill y Cyngor oedd bod Llywodraeth Cymru wedi hysbysu awdurdodau lleol ynghylch cyllid grant ychwanegol o £2.622m i gwrdd â chost uwch pensiynau athrawon a’r gwasanaeth tân a chodiad cyflog athrawon, yr oeddent i gyd yn wreiddiol yn cael eu hariannu’n llawn trwy’r SATC. 

 

Fe wnaeth y Swyddog Adran 151 Interim grynhoi’r prif benawdau a oedd yn deillio o’r ymgynghoriad cyhoeddus, y cafwyd 7,427 o ryngweithiadau ag ef, a oedd yn gynnydd o 40.6% o’i gymharu â’r rhyngweithiadau y llynedd. Diolchodd hefyd i Banel Ymchwil a Gwerthuso’r Gyllideb am gynorthwyo i hwyluso’r broses o gynllunio’r gyllideb a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a oedd wedi arwain at gyflwyno cyfres o argymhellion gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol i gael eu hystyried gan y Cabinet.

 

Fe wnaeth y Swyddog Adran 151 Interim amlinellu egwyddorion y SATC ac adrodd ar y senarios mwyaf tebygol o ran y gyllideb, a oedd yn seiliedig ar ostyngiadau yn y gyllideb o £29.293m yn 2020-24. Fe wnaeth y Swyddog Adran 151 Interim amlygu’r cynnydd cyfredol o ran adnabod cynigion ar gyfer gostyngiadau yn y gyllideb ynghyd â statws risg pob un o’r cynigion hyn. Rhoddodd y Swyddog Adran 151 Interim wybod i’r Cabinet am y gofyniad o ran cyllideb net i gyflawni swyddogaethau’r Cyngor; daw’r cyllid ar gyfer y gyllideb net o setliad Llywodraeth Cymru ac incwm y Dreth Gyngor. Rhoddodd y Swyddog Adran 151 Interim wybod i’r Cabinet hefyd am y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020-21 a sut y byddai’n cael ei hariannu trwy’r Grant Cynnal Refeniw, Ardrethi Annomestig ac incwm o’r Dreth Gyngor, a oedd yn ei golygu ei bod yn ofynnol cael cynnydd o 4.5% yn y Dreth Gyngor. Fe wnaeth y Swyddog Adran 151 Interim nodi pwysau cyflog, prisiau a demograffeg, pensiynau cyflogeion nad ydynt yn athrawon a chyllidebau ysgolion. Mae cyfanswm y pwysau cylchol yn £6.683m, tra bo cyfanswm y cynigion ar gyfer gostyngiadau yn y gyllideb yn £2.413m.    

 

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 Interim wybod i’r Cabinet am sefyllfa Cronfeydd Wrth Gefn y Cyngor, a oedd wedi cael eu cynnal ar isafswm o £7m ac a oedd yn £8.776m ar 31 Mawrth 2019. Rhagwelir y bydd y symudiad yn y cronfeydd wrth gefn hyd at 31 Mawrth 2020 yn ostyngiad ar y cyfan o £4.250m.  

 

Adroddodd y Swyddog Adran 151 Interim ar y rhaglen gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2019-20 i 2029-30, sydd wedi cael ei datblygu yn gyson ag egwyddorion y SATC a’r strategaeth cyllido cyfalaf. Mae’r cyllid cyfalaf dros dro ar gyfer 2020-21 yn £7.983m, y darperir £3.986 ohono trwy fenthyca digymorth heb ei neilltuo a’r £3.986m sy’n weddill fel grant cyfalaf cyffredinol. Dywedodd fod y Cyngor wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf ym mis Chwefror 2019, sydd wedi cael ei diwygio yn ystod y flwyddyn i ymgorffori cyllidebau a ddygwyd ymlaen a chynlluniau a chymeradwyaethau grant newydd. 

 

Dywedodd y Swyddog Adran 151 Interim hefyd fod Benthyciadau Darbodus a oedd wedi’u cymryd ar 1 Ebrill 2019 yn £43.998m, yr oedd £27.796m ohono’n dal heb ei ad-dalu. Amcangyfrifid y byddai’r cyfanswm a fenthyciwyd yn cynyddu i £44.95m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

 

Diolchodd yr Arweinydd i holl aelodau’r Awdurdod am helpu i lunio’r gyllideb ac dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai’r holl aelodau’n cefnogi’r cynigion yn y Cyngor. Dywedodd fod y Cyngor wedi cael setliad gwell na’r disgwyl eleni a’i fod yn gobeithio bod mesurau cyni wedi cael eu dirwyn i ben, ond y byddai angen i’r Cyngor gynllunio i wneud arbedion mewn blynyddoedd yn y dyfodol. Rhoddodd wybod i’r Cabinet mai ar ysgolion y byddai’r gyfran fwyaf o’r gyllideb yn cael ei gwario a bod y setliad gwell na’r disgwyl yn golygu ei bod wedi bod yn bosibl diogelu ysgolion rhag gwneud yr arbedion effeithlonrwydd blynyddol arfaethedig o 1%. Dywedodd hefyd fod y Cyngor yn bwriadu cynyddu cyllid ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig, tra byddai’r Cyngor yn parhau â’i ymrwymiad i gyfleoedd prentisiaeth i gymryd lle staff arbenigol ac i dyfu ei dalent ei hun. Byddai’r Cyngor hefyd yn buddsoddi yn nhir y cyhoedd a’r seilwaith priffyrdd ac mewn plannu coed i atal llifogydd o ganlyniad i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Dywedodd fod y Cyngor wedi gwrando ar farn y cyhoedd i gadw gwasanaethau teledu cylch cyfyng a dysgu oedolion yn y gymuned.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod cyni’n parhau a bod yr Awdurdod yn dal i orfod gwneud toriadau anodd i wasanaethau; fodd bynnag, roedd angen buddsoddi mewn gwasanaethau. Dywedodd yr Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol fod y Cyngor wedi gwrando ar farn y cyhoedd a chanmolodd y buddsoddiad a oedd yn cael ei wneud yn y cynlluniau a oedd wedi’u cynnwys yn y rhaglen gyfalaf a dywedodd ei bod yn falch i weld y Cyngor yn cefnogi dinasyddion trwy roi cymorth digidol a chymorth gyda chyllidebu personol i’w cynorthwyo gyda hawliadau newydd am Gredyd Cynhwysol. Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn cynnig buddsoddi’n sylweddol mewn ynni adnewyddadwy yng nghynllun Rhwydwaith Gwres Caerau a thrwy fuddsoddi yn ei ysgolion a’i adeiladau h?n. Bydd y Cyngor hefyd yn gweithio’n gynaliadwy gyda Thasglu’r Cymoedd. 

 

Gofynnodd yr Arweinydd a fyddai’r codiad mewn perthynas â chostau byw ar gyfer pecynnau gofal yn cael ei gynnwys fel dyraniad yn y gyllideb. Dywedodd y Swyddog Adran 151 Interim y bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo i’r gyllideb. Gofynnodd yr Arweinydd hefyd sut fyddai’r gostyngiad yng nghyfraniadau cyflogwyr tuag at bensiynau cyflogeion nad ydynt yn athrawon yn effeithio ar y gyllideb. Dywedodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol fod tîm y Gyflogres yn edrych ar y cyfrifiadau, cyn gwneud penderfyniad ynghylch y ffordd ymlaen. 

 

PENDERFYNWYD: Fod y Cabinet yn cymeradwyo’r SATC 2020-21 i 2023-24, gan gynnwys y gyllideb refeniw 2020-21 a’r Rhaglen Gyfalaf 2019-20 i 2029-30, ac yn eu hargymell i’r Cyngor i gael eu mabwysiadu. Yn arbennig, fe gymeradwyodd y Cabinet yr elfennau penodol canlynol i gael eu cymeradwyo gan y Cyngor:

 

• Y SATC 2020-21 i 2023-24 (Atodiad 3).

 

• Y Gofyniad o ran y Gyllideb Net o £286,885,169 yn 2020-21.

 

• Treth Gyngor Band D ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o £1,537.06 ar gyfer 2020-21 (Tabl 11 o’r SATC).

 

 • Cyllidebau 2020-21 a ddyrannwyd yn unol â Thabl 9 ym mharagraff 3.3 o’r SATC.

 

 • Y Rhaglen Gyfalaf 2019-20 i 2029-30, a oedd wedi’i hatodi yn Atodiad G o’r SATC.                      

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z