Cofnodion:
Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Interim ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020-21, a oedd yn cynnwys y Dangosyddion Rheoli Trysorlys a’r Strategaeth Gyfalaf 2020-21 i 2029-30, a oedd yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus cyn eu cyflwyno i gael eu cymeradwyo gan y Cyngor.
Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog 151 Interim fod rheoli trysorlys a rheolaeth ar wariant cyfalaf yn seiliedig ar ddeddfwriaeth, a bod ei weithgareddau rheoli trysorlys yn cael eu rheoleiddio gan ddeddfwriaeth sy’n rhoi’r pwerau i fenthyca a buddsoddi yn ogystal â darparu rheolaethau a therfynau ar y gweithgarwch hwn. Rhaid i weithgarwch benthyca roi sylw i God Darbodus y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol a rhaid gweithredu’r swyddogaeth drysorlys ar y cyfan gan roi sylw i God Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae rheoliadau hefyd yn cynnwys darpariaethau manwl ar gyfer y rheolaethau cyllid cyfalaf a chyfrifyddu, gan gynnwys y rheolau ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf a beth ddylid ei drin fel gwariant cyfalaf. Dywedodd fod y Cod Darbodus diwygiedig yn gosod gofyniad newydd ar awdurdodau lleol o 1 Ebrill 2019 i bennu Strategaeth Gyfalaf. Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus ac mae’r Strategaeth Rheoli Trysorlys yn cynnwys y Dangosyddion Rheoli Trysorlys.
Hysbysodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Interim fod y Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020-21 yn cadarnhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer Rheoli Trysorlys yn y Gwasanaethau Cyhoeddus a hefyd yn cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol y Cyngor dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i roi sylw i God CIPFA a Chanllawiau Llywodraeth Cymru. Strategaeth integredig yw’r Strategaeth Rheoli Trysorlys lle caiff benthyciadau a buddsoddiadau eu rheoli yn unol ag arfer proffesiynol gorau. Dywedodd fod y Cyngor yn benthyca arian naill ai i ddiwallu anghenion llif arian byrdymor neu i ariannu cynlluniau cyfalaf o fewn y rhaglen gyfalaf ond nad yw benthyciadau a gymerir yn gysylltiedig ag asedau penodol. Roedd y Strategaeth Rheoli Trysorlys wedi cael ei hystyried a’i hadolygu’n drylwyr gan y Pwyllgor Archwilio.
Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Interim fod y Strategaeth Gyfalaf 2020-21 i 2029-30 wedi cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 13 Chwefror 2020 er gwybodaeth. Mae’n cadarnhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â’r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol. Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn nodi fframwaith ar gyfer hunanreoli cyllid cyfalaf ac yn archwilio’r meysydd canlynol:
· Cynlluniau gwariant a buddsoddi cyfalaf
· Dangosyddion Darbodus
· Dyled allanol
· Rheoli Trysorlys
Mae’n adrodd ar gyflawni, fforddiadwyedd a risgiau sy’n gysylltiedig â’r cyd-destun hirdymor ar gyfer gwneud penderfyniadau yngl?n â gwariant a buddsoddi cyfalaf. Mae’r Strategaeth Gyfalaf yn gysylltiedig â’r Cynllun Corfforaethol, y Strategaeth Rheoli Trysorlys, y SATC a’r Cynllun Rheoli Asedau. Mae’r Cyngor yn cynllunio gwariant cyfalaf o £56.434m yn 2020-21, ac amlygodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Interim y ffynonellau y byddai’n cael ei ariannu ohonynt.
Fe grynhodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Interim y sefyllfa o ran buddsoddi a dyled allanol ar 31 Rhagfyr 2019, a oedd yn dangos bod gan y Cyngor £96.87m o fenthyciadau a £38.95m o fuddsoddiadau. Cyflwynodd fantolen a oedd yn dangos newidiadau a ragwelir mewn benthyciadau a buddsoddiadau ac sydd wedi cael ei llunio gan ddefnyddio amcangyfrifon o wariant cyfalaf a rhagolygon ar gyfer cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy yn y flwyddyn ariannol gyfredol a’r tair blynedd nesaf. Rhoddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Interim wybod i’r Cabinet am newidiadau yn y driniaeth gyfrifyddu ar gyfer prydlesi dan Safon Adrodd Ariannol Ryngwladol (IFRS) 16 a fydd yn cael effaith ac unwaith y bydd yn hysbys bydd Strategaeth Rheoli Trysorlys wedi’i diweddaru’n cael ei chyflwyno i’r Cyngor i gael ei chymeradwyo.
Fe wnaeth y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Interim amlygu’r strategaeth fenthyca ac alldro a chrynhoi’r strategaeth fuddsoddi ac alldro gyda’r prif amcanion yn ystod 2020-21, sef cynnal sicrwydd cyfalaf; cynnal hylifedd fel bod arian ar gael pan fo angen gwariant a chyflawni’r elw ar fuddsoddiadau sy’n gymesur â’r lefelau priodol o sicrwydd a hylifedd.
Fe amlygodd yr Arweinydd bwysigrwydd dull pwyllog y Cyngor mewn perthynas â Rheoli Trysorlys gan fod yn ymwybodol o risg wrth fuddsoddi. Roedd yn ddiolchgar i’r Pwyllgor Archwilio am ei rôl o ran adolygu’r Strategaeth Rheoli Trysorlys. Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Interim a’r tîm am lefel y profiad a chyngor maent yn ei rhoi mewn perthynas â gweithgarwch Rheoli Trysorlys.
PENDERFYNWYD: Fod y Cabinet wedi ystyried yr adroddiad ac yn nodi y byddai’r canlynol yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor i gael eu cymeradwyo:
· y Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020-21 gan gynnwys y Dangosyddion Rheoli Trysorlys 2020-21 i 2022-23 (Atodiad A);
· y Strategaeth Gyfalaf 2020-21 i 2029-30 gan gynnwys y Dangosyddion Darbodus 2020-21 i 2022-23 (Atodiad B);
y Datganiad Blynyddol ar y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw 2020-21 (Atodiad B - Atodlen A).
Dogfennau ategol: