Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Trosglwyddo Asedau Meysydd Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Pharciau a Phafiliynau

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol ddiweddariad ar y prosesau trosglwyddo asedau cymunedol ar gyfer meysydd chwarae a phafiliynau parciau i Gynghorau Tref a Chymuned a/neu glybiau chwaraeon dan drefniadau hunanreoli. Adroddodd hefyd ar gynigion i roi cymorth i wella a datblygu meysydd chwarae a phafiliynau parciau ar ôl eu trosglwyddo i sicrhau bod cyfleusterau’n dod yn fwy cynaliadwy. Roedd y mesurau a nodwyd wedi’u bwriadu hefyd i ysgogi Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor a sicrhau bod disgwyliadau clybiau chwaraeon yn cael eu rheoli’n briodol a bod trosglwyddiadau’n mynd rhagddynt ac yn cael eu cwblhau mewn modd amserol i ategu’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC).

 

Adroddodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol fod y setliad dros dro ar gyfer y Cyngor yn dangos cynnydd ar y cyfan o 4.7% yn y gyllideb, o’i gymharu â’r dybiaeth “fwyaf tebygol” o -1.5% a oedd wedi’i chynnwys yn SATC wreiddiol y Cyngor ar gyfer 2020-21. Dywedodd nad oedd y setliad dros dro’n cydnabod nifer o bwysau newydd a wynebir gan y Cyngor; fodd bynnag, roedd yn gyfle i arbedion a oedd wedi’u hadnabod yn flaenorol yn y SATC gael eu hailystyried yn unol â blaenoriaethau’r Cyngor. Dywedodd hefyd fod yr arbediad yn y SATC Derfynol o £300,000 ar gyfer meysydd chwarae a pharciau wedi cael ei ohirio tan flwyddyn ariannol 2021-22 i adlewyrchu lefel y gweithgarwch Trosglwyddo Asedau Cymunedol parhaus gan roi rhagor o amser i glybiau chwaraeon a’r Cyngor gwblhau trosglwyddiadau mewn modd trefnus; ac i alluogi’r Cyngor i ymgysylltu’n fwy effeithiol â chyrff llywodraethu chwaraeon a lle y bo’n bosibl datblygu strategaethau ar y cyd a mwy o waith mewn partneriaeth. Hysbysodd y Cabinet fod cyfarfodydd cadarnhaol cychwynnol eisoes wedi cael eu cynnal gydag Undeb Rygbi Cymru (URC), Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a Criced Cymru.

 

Adroddodd hefyd y byddai angen i’r sefyllfa y tu hwnt i fis Ebrill 2021 gael ei hailasesu gan y Cyngor ym mis Rhagfyr 2020 i ystyried y setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 a lefel y gweithgarwch Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn enwedig nifer y trosglwyddiadau a gwblhawyd. Dywedodd fod lefel gyfredol y diddordeb mewn Trosglwyddo Asedau Cymunedol o du’r Cynghorau Tref a Chymuned a chlybiau chwaraeon lleol, y nifer fwy o adnoddau y mae’r Cyngor yn bwriadu eu rhoi ar waith i gefnogi prosesau Trosglwyddo Asedau Cymunedol, y ddeialog gadarnhaol gyda’r Cyrff Llywodraethu perthnasol, a’r pecynnau cymorth estynedig sydd bellach yn eu lle, yn golygu y bydd prosesau Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn cyflymu’n sylweddol dros y flwyddyn nesaf. Amlygodd lefel y gweithgarwch Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar 31 Ionawr 2020 a’r cynnydd o ran prosesau Trosglwyddo Asedau Cymunedol gyda Chynghorau Tref a Chymuned a chlybiau chwaraeon.

 

Adroddodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol fod cynigion ar gyfer adnoddau staffio ychwanegol wedi cael eu nodi mewn achos busnes a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Rheoli Corfforaethol yn fuan a bod cyllid ychwanegol wedi cael ei adnabod a’i glustnodi dros dro yn y Gronfa Rheoli Newid i gefnogi’r cais hwn am ragor o adnoddau a fydd yn sicrhau bod prosesau Trosglwyddo Adnoddau Cymunedol yn cael eu cwblhau’n gyflymach. Dywedodd fod y dull “Tîm” a ffefrir gan y Gr?p Tasg a Gorffen Trosglwyddo Asedau Cymunedol lle mae staff amlddisgyblaethol o wahanol rannau o’r Cyngor yn cydweithio eisoes wedi dechrau gyda Gr?p Gweithrediadau Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn cael ei ffurfio.

 

Dywedodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol hefyd fod y Gronfa Pafiliynau Chwaraeon wedi’i hailddynodi’n Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol a bod y cwmpas ar gyfer cyllid wedi’i ehangu dan y SATC 2019-20 i 2022-23 ym mis Chwefror 2019 fel ei fod hefyd yn cynnwys gwaith adeiladu ar gyfleusterau eraill sy’n eiddo i’r Cyngor megis canolfannau cymunedol a thoiledau cyhoeddus, i gefnogi’r broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Y rheswm dros hyn yw er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl o adeiladau’n gallu cael eu cadw ar agor a dwyn manteision hirdymor i’r gymuned. Dywedodd fod cyfanswm o £340,520 wedi cael ei ddyrannu o’r ffynhonnell hon i chwe phrosiect hyd yma. Rhoddodd wybod i’r Cabinet fod swm o £340,520 eisoes wedi’i neilltuo o’r Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol sy’n werth £1 filiwn, tra’i fod wedi bod mewn cysylltiad gyda Chynghorau Tref a Chymuned ynghylch cyllid dan y Cynllun Grant Cyfalaf. Dywedodd fod ceisiadau i’r cynllun grant cyfalaf Cynghorau Tref a Chymuned 2020-21 ar gael ym mis Ionawr 2020 ac mae 28 Chwefror 2020 oedd wedi’i sefydlu fel y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi’u cwblhau. 

 

Adroddodd y Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol y bydd Cronfa Gymorth Timau Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr (BSTSF) yn cael ei sefydlu i roi anogaeth i gyfranogi mewn chwaraeon, a’i bod yn ofynnol trefnu bod £75k ar gael i’r gronfa hon yn 2020-21 a 2021-22. Nododd fentrau sydd wedi’u bwriadu i wella mannau gwyrdd cyn ac ar ôl Trosglwyddo Asedau Cymunedol ac y byddai cwmpas y gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn cael ei hestyn i gynnwys cynnal a chadw meysydd chwarae. Nododd hefyd y cymorth trosiannol i gyfleusterau bowls, lle byddai grant unigol o £5,000 ar gael i bob cyfleuster bowls. Adroddodd ar y strategaeth ar gyfer Newbridge Fields y gall fod angen trefniadau rheoli a gweithredol eraill ar eu cyfer ac felly hefyd Parc Llesiant Maesteg ac Aberfields sydd hefyd yn cael eu defnyddio’n helaeth fel parciau cyhoeddus. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei fod yn croesawu’r camau i gyflymu prosesau Trosglwyddo Asedau Cymunedol ac fe wnaeth sylw yngl?n â’r angen i ddod o hyd i adnoddau ychwanegol ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol fod yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i ddiweddaru bellach yn helpu grwpiau gwarchodedig ac y byddai’r gronfa gymorth a’r gronfa Cynghorau Tref a Chymuned yn gwella asedau. Dywedodd yr Arweinydd y byddai clybiau’n gymwys i gael mynediad at gyllid trwy eu cyrff llywodraethu i wella cyfleusterau na fyddent yn hygyrch i’r Cyngor.   

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod i’r Cabinet bod y cyfeiriad teithio’n dal i fod yr un fath a bod angen sicrhau lefel ddigonol o gymorth ar gyfer hunanreoli ac er bod setliad gwell na’r disgwyl, mai dim ond am flwyddyn yr oedd yr arbedion wedi cael eu gohirio. Roedd yn gobeithio y byddai lefel sylweddol o ddiddordeb mewn Trosglwyddo Asedau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD:           Cymeradwyodd y Cabinet fel a ganlyn:

 

  • bod y Cyngor yn mynd ati’n rheolaidd i fonitro lefel yr ymgysylltiad o ran Trosglwyddo Asedau Cymunedol â Chynghorau Tref a Chymuned a chlybiau chwaraeon a’r cynnydd cysylltiedig fesul achos unigol i sicrhau bod y flaenoriaeth allweddol hon yn cael ei chyflawni yn unol â gofynion y SATC.
  • cytuno ar egwyddor ailgyflenwi’r Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn ôl yr angen wrth i brosesau Trosglwyddo Asedau Cymunedol gael eu cwblhau, yn amodol ar ymrwymiadau hysbys, ac ar yr amod bod adnoddau cyfalaf digonol ac y ceir cymeradwyaeth y Cyngor trwy adrodd yn chwarterol ar gyfalaf.
  • creu Cronfa Gymorth Timau Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr am gyfnod cychwynnol o 2 flynedd, a hithau’n cael ei hadolygu cyn blwyddyn ariannol 2022-23 a hynny’n cael ei oleuo gan lefel y defnydd o bolisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor ar gyfer meysydd chwarae a phafiliynau parciau a llwyddiant y polisi hwnnw.
  • estyn cwmpas y Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol i gynnwys gwelliannau i gaeau ac i systemau draenio a grantiau ar gyfer offer ar gaeau.
  • comisiynu arolygon o gyflwr a systemau draenio caeau.

egwyddor darparu cyllid trosiannol i hwyluso’r drefn o hunanreoli lawntiau bowls erbyn 30 Medi 2020, yn amodol ar sefydlu cronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi at y diben hwn.    

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z