Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Cynnig i Dreialu’r Fenter Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (AGPC)

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd ar opsiynau i fwrw ymlaen â chynllun peilot Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (AGPC) Llywodraeth Cymru a gofynnodd i’r Cabinet gymeradwyo’r opsiwn yr oedd yn ei ffafrio. Nododd y sefyllfa gyfredol o ran darpariaeth blynyddoedd cynnar ym Mhen-y-bont ar Ogwr a bod Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn ymrwymiad i ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi’u hariannu ar gyfer plant 3 a 4 oed i rieni sy’n gweithio sy’n gymwys ar gyfer y ddarpariaeth am hyd at 48 wythnos y flwyddyn (39 wythnos o ddarpariaeth yn ystod y tymor ysgol a 9 wythnos y flwyddyn yn ystod gwyliau ysgol).    

 

Adroddodd mai dull newydd sy’n cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru yw AGPC sydd wedi’i fwriadu i ddatblygu gweledigaeth holistaidd ar gyfer addysg a gofal plant i gefnogi plant yn eu blynyddoedd cynnar. Byddai treialu dull AGPC yn datblygu dealltwriaeth am yr heriau a’r cyfleoedd y gallai’r newid hwn eu dwyn a chanolbwyntio ar ddileu rhwystrau sy’n bodoli rhwng addysg a gofal i sicrhau bod unrhyw leoliad, boed yn ysgol neu’n lleoliad gofal plant preifat/gwirfoddol, yn gallu cynnig darpariaeth AGPC. Dywedodd y byddai’r Cyngor yn cael cyllid ar gyfer y cynllun peilot AGPC; byddai Pen-y-bont ar Ogwr yn dal i ymrwymo i ddarparu 30 awr o addysg ar gyfer ‘plant sy’n codi’n 4’; mae’r holl leoliadau sy’n mynegi diddordeb mewn bod yn rhan o’r cynllun peilot, yn ysgolion ac yn lleoliadau yn y sector gofal plant, yn cael eu cefnogi i ddarparu 30 awr o AGPC; ni fydd rhieni sy’n gweithio’n waeth eu byd ym Mhen-y-bont ar Ogwr nag mewn awdurdodau lleol eraill (bydd rhieni sy’n gweithio’n gallu cael mynediad at oriau’r ‘Cynnig Gofal Plant’ yn ystod tymhorau lle mae darpariaeth Meithrin y Cyfnod Sylfaen ar gael, ochr yn ochr â darpariaeth gofal plant yn y gwyliau); caiff opsiynau sydd ar gael i rieni nad ydynt yn gweithio’u nodi ym mharagraff 4.8; a bydd gweithgarwch gwerthuso a monitro’n rhedeg ochr yn ochr â’r cynllun peilot. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod hyd at £3.5m y flwyddyn ar gael i gefnogi’r cynllun peilot hwn. Dywedodd y byddai cefnogi’r cynllun peilot yn golygu bod angen i’r Cyngor ddatblygu, rheoli a phrosesu system ar gyfer talu’n fisol i ddarparwyr yn ogystal â gallu casglu gwybodaeth fonitro a gwerthuso. Nododd y pedwar opsiwn a oedd ar gael a dywedodd mai’r bwriad oedd y byddai’r cynllun peilot AGPC yn cychwyn ar ddechrau blwyddyn ysgol 2021-2022 (o fis Medi 2021). Rhoddodd wybod i’r Cabinet y bydd AGPC yn cael ei ariannu yn ôl cyfradd o £4.50 yr awr i bob lleoliad yn unol â’r gyfradd a delir am ofal plant dan y Cynnig Gofal Plant a bod 64% o deuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn rhieni sy’n gweithio sy’n gymwys dan y Cynnig Gofal Plant cyfredol. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio y dylid mynd ar drywydd ‘Popeth i bob rhiant’ ac mai dyna fyddai’n rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant. Dywedodd yr Arweinydd mai yn y blynyddoedd cynnar y gwneir y gwahaniaeth mwyaf cost-effeithiol a pharhaol i blentyn a’i fod yn awyddus bod plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael mynediad at y ddarpariaeth. 

 

PENDERFYNWYD:             Fod y Cabinet:

  • wedi ystyried y pedwar opsiwn a nodir yn yr adroddiad; ac
  • wedi dewis opsiwn 2 fel yr opsiwn a ffefrir i fwrw ymlaen ag ef fel y cynllun peilot;
  • yn gofyn i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd gyflwyno adroddiad i’r Cabinet ar gynnydd y cynllun peilot ymhen chwe mis;
  • yn gofyn i swyddogion weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddiogelu’r ddarpariaeth bresennol a chynnal deialog gyda Llywodraeth Cymru ynghylch cyllid cyfalaf i wneud newidiadau i ddatblygu’r ddarpariaeth.  

   

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z