Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Cydwasanaeth Addysg Consortiwm Canol De Cymru

Cofnodion:

Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd ar gynnig i sicrhau ymrwymiad y Cabinet i ddyfodol hirdymor Cydwasanaeth Addysg Consortiwm Canol De Cymru. 

 

Rhoddodd wybod i’r Cabinet fod Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau sylweddol i’r modd y darperir addysg yng Nghymru ac yn hydref 2018, fe roddodd pum Aelod Cabinet Addysg Cydbwyllgor Consortiwm Canol De Cymru gomisiwn i’r ISOS Partnership gynnal adolygiad annibynnol o Gonsortiwm Canol De Cymru i sicrhau ei fod yn addas i’w ddiben ac yn hyfyw o safbwynt ariannol hyd y gellir rhagweld yn y dyfodol. Dywedodd fod y Cydbwyllgor wedi cymeradwyo cais bod y pum awdurdod lleol yn rhannu adroddiad ISOS gyda chabinetau’r pum awdurdod lleol sy’n rhan o Gonsortiwm Canol De Cymru cyn diwedd mis Chwefror 2020, a bod y pum Cyngor yn ystyried ac yn ailddatgan eu hymrwymiad i ddull ar y cyd o wella ysgolion trwy Gonsortiwm Canol De Cymru. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd wybod i’r Cabinet bod adroddiad ISOS yn darparu tystiolaeth gadarn fod perfformiad addysgol Rhanbarth Canol De Cymru wedi bod yn rhagori gryn dipyn ar berfformiad addysgol y tri rhanbarth arall yng Nghymru. Dywedodd fod y mwyafrif o benaethiaid y rhanbarth yn gadarnhaol yngl?n â’r cymorth, y cyngor a’r arweiniad a roddir gan y Cydwasanaeth. O ystyried newidiadau sylfaenol i’r dirwedd addysgol yng Nghymru yn erbyn cefnlen o bwysau parhaus ar y cyllid, roedd yn hollbwysig bod y gwasanaeth yn esblygu i ddiwallu anghenion mewn modd hyblyg a chynaliadwy. Dywedodd fod y Cydbwyllgor Aelodau Cabinet Addysg wedi bod yn rhagweithiol ac wedi comisiynu’r adolygiad gan ISOS i fynd ati’n annibynnol i werthuso perfformiad y Cydwasanaeth, adnabod y meysydd i’w gwella a sicrhau ei fod yn addas i’w ddiben ac yn hyfyw o safbwynt ariannol ar gyfer yr hirdymor. Rhoddodd wybod i’r Cabinet bod peth ansicrwydd wedi bod yn un o’r pedwar rhanbarth ynghylch dyfodol hirdymor eu cydwasanaethau cynghori addysgol. Dywedodd fod ymrwymiad eglur yn cael ei geisio gan bob un o’r pum Cyngor i ddyfodol hirdymor Consortiwm Canol De Cymru i roi rhywfaint o sicrwydd i ysgolion a staff Consortiwm Canol De Cymru mewn cyfnod o drawsnewid sylweddol i’r sector addysg yng Nghymru. Byddai ymgysylltu sylweddol â phenaethiaid a llywodraethwyr fel rhan o ailfodelu Consortiwm Canol De Cymru, ac wrth gyflawni rhaglenni gwaith yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol yngl?n â sut yr oedd yr ysgolion wedi cael eu dethol i gyfranogi yn yr adolygiad o Gonsortiwm Canol De Cymru, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai’n darparu’r wybodaeth honno ar gyfer y Cabinet.  

 

PENDERFYNWYD: Yn seiliedig ar y ffaith bod adolygiad annibynnol o waith Consortiwm Canol De Cymru wedi pennu y bydd y Cydwasanaeth mewn sefyllfa dda i gyflawni swyddogaethau gwella ysgol yn effeithiol, a chynorthwyo ysgolion i reoli’r prif ddiwygiadau ledled y rhanbarth, ynghyd ag adborth cadarnhaol a gafwyd gan benaethiaid mewn sesiynau Craffu diweddar, cytunodd y Cabinet i gefnogi penderfyniad Cydbwyllgor Consortiwm Canol De Cymru i barhau i ddarparu cydwasanaethau cynghori addysgol mewn partneriaeth â’r pedwar Cyngor arall yn y rhanbarth am y tair blynedd nesaf o leiaf.

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z