Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

P/19/911/RLX – Tir yn Moor Lane, Porthcawl

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Caniatáu’r cais uchod, gyda’r Amodau a oedd wedi’u cynnwys yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau:-

 

Cynnig 

 

Amrywio amodau 1, 3, 8, 9, 10, 11, 12, 13 14, 18, 19, 23 a 24 yn P/19/115/RLX i’w gwneud yn bosibl cynyddu’r ddarpariaeth o ran unedau llety ar ffurf cabanau pren o 56 i 80.

 

Dylai Amod 13 ddarllen fel hyn yn awr:-

 

13. O fewn chwe mis i ddyddiad y caniatâd hwn, dylai Cynllun Rheoli Traffig a Danfoniadau wedi’i ddiweddaru ar gyfer y safle gael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a chael ei gytuno’n ysgrifenedig ganddo. Dylai’r holl symudiadau cyrraedd ac ymadael gan westeion a symudiadau gan gerbydau gwasanaethu a danfon nwyddau i’r safle gael eu gwneud yn unol â’r Cynllun Traffig a Danfoniadau y cytunwyd arno unwaith y bydd y datblygiad mewn defnydd llesiannol.

 

Rheswm: Er budd diogelwch priffyrdd.

 

O ganlyniad, dylid newid nodyn cynghori g. ar ddiwedd yr argymhelliad i gyfeirio at Amod 13, nid 10 fel a ganlyn:

 

g. Bydd angen i’r Cynllun Rheoli Traffig a Danfoniadau sy’n ofynnol i fynd i’r afael ag Amod 13 gynnwys digon o wybodaeth mewn perthynas â’r canlynol:-

 

(i) Trefniadau cyrraedd ac ymadael gan westeion (cyfarwyddiadau i’r safle ac amseriad y symudiadau hynny);

(ii) Symudiadau cyrraedd ac ymadael gan westeion yn safle cyfagos Parc Carafanau Brodawel;

(iii) Amserlenni Danfon Nwyddau Arfaethedig;

(iv) Meintiau Arfaethedig Cerbydau Danfon Nwyddau/Cerbydau Gwasanaethau;

(v) Diagramau llwybr ysgubedig ategol; a hefyd

(vi) Yr angen i adolygu’r cynllun os bydd unrhyw drefniadau o blith yr uchod yn newid neu ar gais yr Awdurdod Priffyrdd.

 

Dylai Amod 22 yn yr argymhelliad gael ei ddisodli gan y geiriad canlynol:

 

22. Dylai gwaith clirio safle gael ei wneud yn gwbl unol â’r canlynol:-

 

·         Manylion dyluniad goleuadau, y dull clirio llystyfiant, y protocol clymog a gymeradwywyd dan Gais Rhif P/18/827/DOC dyddiedig 15 Chwefror, 2019.

·         Y mesurau atal llygredd sy’n cynnwys clustogfa 5m o led o’r Safle o Bwysigrwydd Er Cadwraeth Natur ynghyd â bwnd clai 2m x 1m a gymeradwywyd dan Gais Rhif P/19/307/DOC dyddiedig 31 Mai, 2019.

 

Rheswm: Er budd bioamrywiaeth.

 

Yn amodol ar gynnwys amod pellach, sef Amod 25, fel a ganlyn:-

 

25. Cyn meddiant llesiannol y cabannau gwyliau, dylai cynllun ar gyfer darparu arwyddion traffig ar y ffordd ddynesu sy’n rhybuddio ynghylch presenoldeb marchogion sy’n rhannu’r briffordd wrth gyffordd Moor Lane gyda’r A4229 a chyffordd Moor Lane ar bwys Ffynnon Dewi i’r dwyrain a chyffordd Moor Lane gyferbyn â Maes Carafanau Fferm Parc Newydd i’r gorllewin, ynghyd ag unrhyw fesurau goleuo angenrheidiol, gael ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a chael ei gytuno’n ysgrifenedig ganddo. Wedyn dylid rhoi’r cynllun a gymeradwywyd ar waith yn unol â’r manylion cymeradwy cyn bod y datblygiad mewn defnydd llesiannol a dylai gael ei gynnal a’i gadw wedi hynny hyd byth.

 

Rheswm: Er budd diogelwch priffyrdd.

 

Hefyd, dylid cynnwys yr Amod gwreiddiol canlynol dan yr argymhelliad:

 

26. Dylai’r holl waith i glirio’r safle gael ei wneud yn unol â’r dulliau a mesurau sydd wedi’u cynnwys yn y Datganiad Dull Lliniaru – Madfall Dd?r Gribog a baratowyd gan Soltys Brewster Ecology (dyddiedig 28 Hydref 2016).

 

Rheswm: Er budd bioamrywiaeth.

 

Yn amodol hefyd ar y canlynol, sef Amod 27:-

 

27. O fewn 6 mis i ddyddiad y caniatâd hwn dylai cynllun ar gyfer darparu mannau pasio priodol ar hyd Moor Lane i’r dwyrain o’r safle gael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i gael cymeradwyaeth ganddo. Dylai’r cynllun cymeradwyo gael ei roi ar waith yn unol â’r manylion a gymeradwywyd cyn bod y datblygiad mewn defnydd llesiannol a dylai’r mannau pasio gael eu cadw wedi hynny hyd byth.

 

Rheswm: Er budd diogelwch priffyrdd.

 

Yn amodol hefyd ar Nodyn i. isod:-

 

Nodyn

Argymhellir bod y datblygwr yn archwilio dulliau o roi anogaeth ar gyfer dulliau cludiant cynaliadwy i ac o’r safle i gyfyngu ar swm y traffig ar y rhwydwaith priffyrdd o’i amgylch.

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z