Agenda item

Strategaeth Lleihau Nifer Plant sy'n Derbyn Gofal a Strategaeth y Bwrdd Diogelu a Chymorth Cynnar

Gwahoddedigion:

 

Laura Kinsey – Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant

Iain McMillan – Rheolwr Gr?p - Rheoli Achos a Throsglwyddo

Mark Lewis – Rheolwr Gr?p Gwaith Integredig a Chymorth i Deuluoedd

Dave Wright – Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Teuluoedd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am waith Gr?p Technegol Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, cyflwynwyd yr adroddiad i Rianta Corfforaethol ar 29 Mai 2019, ac yr oedd yn nodi'r camau a gymerwyd gan yr Awdurdod Lleol ers y dyddiad hwnnw o ran gweithredu ei strategaeth i leihau’r nifer o Blant sy'n Derbyn Gofal (LAC).

 

Rhoddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant gefndir i'r cynnydd a wnaed yn ogystal â’r drafft o gynllun gweithredu newydd a fyddai'n ailffocysu ar weithgarwch y gyfarwyddiaeth drawsbynciol. Amlinellodd Strategaeth Ddisgwyliadau Lleihau’r Nifer o Blant sy'n Derbyn Gofal, yn ogystal â lansiad y Gr?p Monitro Sefydlogrwydd, a'r Cynllun Gweithredu ar y Cyd a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Cymorth a Diogelu Cynnar yn fuan.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn fodlon bod cynnydd yn cael ei wneud, ond nododd y bu cynnydd bach yn nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal yn ystod y 12 mis diwethaf, a holodd a allai hyn fod yn arwydd o duedd gyffredinol. Gofynnodd hefyd am effaith y swyddi Gweithwyr Cymorth Ailuno o fewn y Gwasanaeth Maethu yn ogystal â phecyn cymorth ailuno'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC). Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant y bu problem gyda nifer fach o blant oedd ag anghenion cymhleth, ond ni fu cynnydd sydyn ac nid dyma'r cyfeiriad y byddent yn ei ddilyn. Roedd hi’n cydnabod i’r niferoedd gael eu heffeithio gan grwpiau mawr o frodyr a chwiorydd.  O ran y swyddi Gweithwyr Cymorth Ailuno, roedd dau berson eisoes yn eu swyddi ac wedi’u hyfforddi, a chanddynt garfan o achosion wedi'u nodi ar eu cyfer. Roedd y ddwy swydd arall wedi'u hail hysbysebu ac roeddent yn hyderus y byddent yn penodi'n fuan. Yr allwedd i becyn cymorth yr NSPCC oedd asesu ac roedd y broses ar waith yn un briodol.      

 

Gofynnodd aelod a oedd unrhyw welliant o ran recriwtio gofal maeth o dan Gwm Taf. Y cyngor a roddwyd iddi oedd bod recriwtio'n symud i’r cyfeiriad cywir. Eglurodd Rheolwr y Gr?p Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod gweithio gyda Chwm Taf yn gadarnhaol iawn. Bellach, roedd gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (a arferai fod o dan fesurau arbennig) weithiwr iechyd penodol, a gallai ddefnyddio swm sylweddol o arian ychwanegol yn gysylltiedig â'r ICF. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod Cwm Taf, o safbwynt y gwasanaethau i blant, wedi bod yn gadarnhaol iawn, a chanddynt gysylltiadau cryf a phrosesau llywodraethu sefydledig wrth gydweithio.     

 

Gofynnodd aelod a oedd yr awdurdod yn ymgysylltu â'r byd academaidd. Ychwanegodd y gallai Brifysgol Caerdydd rannu llawer iawn o wybodaeth o ran y maes hwn. Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd nad oedd yn ymwybodol o unrhyw waith ar lefel leol ond fod cysylltiadau wedi bod â'r prifysgolion drwy grwpiau cynghori a ffrydiau gwaith. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y bu trafodaethau'n ddiweddar yngl?n â'r ffordd orau o fanteisio ar y wybodaeth hon. Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi ymweld â phob un o'r 22 awdurdod yn ddiweddar i drafod plant sy'n derbyn gofal. Cyflwynwyd adroddiad gwybodaeth ganddynt i Gr?p Cynghori’r Gweinidog, ag ynddo nifer o argymhellion ac awgrymiadau ar gyfer ymchwil bellach a nodi arfer gorau. Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd at waith gyda Heddlu De Cymru i ymyrryd yn gynharach o ganlyniad i ymchwil, yn ogystal â gwaith gyda Phrifysgol De Cymru o ran teuluoedd a oedd eisoes â phlant wedi’u cymryd oddi arnynt. Dywedodd yr Arweinydd fod Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd a'u bod wedi cynnig darparu ymchwil pe bai angen.  

 

Gofynnodd aelod a oedd unrhyw ardaloedd penodol yn y fwrdeistref wedi’u hadnabod a’u targedu fel rhai lle ceir problemau yn aml. Atebodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant nad oedd unrhyw fannau penodol lle ceir problemau cyson, a bod y plant sy'n derbyn gofal wedi'u gwasgaru ar draws y tri thîm yn y fwrdeistref. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles mai themâu sydd i’w gweld yn hytrach nac ardaloedd daearyddol, ac y byddai dogfen gryno yn cael ei chyflwyno i'r cyfarfod nesaf i drafod hyn ymhellach. Byddai dadansoddiad hefyd o’r plant sy'n derbyn gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys astudiaethau achos.

 

Gofynnodd aelod am symud Plant sy’n Derbyn Gofal i Orchmynion Gwarcheidwaeth. Holodd am y meini prawf ar gyfer hyn, holodd faint o amser y byddai'n ei gymryd, a pham nad oedd wedi cael ei ystyried o'r blaen. Rhoddodd Rheolwr y Gr?p – Rheoli Achosion a Phontio eglurhad o’r broses ac ychwanegodd fod nifer o resymau pam na fyddai gorchymyn o'r fath wastad yn briodol.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at leoliadau y tu allan i'r sir a thu allan i'r wlad, a gofynnodd a oedd ffordd o sicrhau bod plentyn yn aros mewn lleoliad os mai dyna'r lle gorau i'r plentyn hwnnw. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y byddai'n ddefnyddiol i edrych ar y boblogaeth o Blant sy'n Derbyn Gofal o fewn grwpiau gwahanol, megis grwpiau oedran, rhesymau, a chategorïau. Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod 87 o blant wedi'u lleoli y tu allan i'r awdurdod lleol ond o fewn Cymru, a bod 7 o blant yn Lloegr, ond fod dros hanner y rheini gyda pherthnasau iddyn nhw a’u bod yn y lle iawn.

 

Darparodd Rheolwr y Gr?p – Rheoli Achosion a Phontio wybodaeth bellach am y trefniadau rhwng gwarcheidwaid, rhieni a phlant, cynlluniau cymorth, a gofalwyr sy'n berthnasau. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod gofalwyr sy’n berthnasau yn ofalwyr maeth cofrestredig a chanddynt weithiwr cymdeithasol wedi'i neilltuo ar eu cyfer. Cawsant adolygiad blynyddol ar gyfer cymwyseddau craidd ac roedd hon yn broses gadarn.

 

Gofynnodd aelod a oedd yr awdurdod wedi elwa o gyflwyno'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Eglurodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod y dull rhanbarthol o weithredu o fudd, a bod plant yn cael eu lleoli yn gyflymach. Roedd prinder o rai i fabwysiadu o hyd ond mae’r sefyllfa'n gwella o ran hynny.

 

Daeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles i gasgliad trwy ddweud y byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei chyflwyno i gyfarfod yn y dyfodol, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaeth Meddwl am y Babi. Roedd 87% o fabanod a gafodd gymorth yn ystod 2018-19 gan dîm Meddwl am y Baban wedi cael eu hatal rhag dechrau derbyn gofal. Eglurodd Rheolwr y Gr?p, Gweithio Integredig a Chymorth i Deuluoedd fod yr awdurdod wedi cyrraedd rownd derfynol i dderbyn gwobr yn sgil y gwaith hwn.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i'r tîm a'r swyddogion am eu dull "un cyngor".

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ddiweddariad i’r Pwyllgor ar ôl iddyn nhw fynychu Cynhadledd y Gr?p Polisi Gwasanaethau Cymdeithasol. Eglurodd y ddau y dylen nhw ailedrych ar eu rôl yn sgil y cynnydd parhaus mewn proffil, a hynny er mwyn gwella canlyniadau yn y tymor hir. Gellid ystyried:

 

·         term gwell na "Phlant sy'n Derbyn Gofal"

·         ymgysylltu mwy â phlant a oedd wedi derbyn gofal

·         gwahodd cynrychiolwyr o faes Iechyd a'r Heddlu

·         ystyried lleoliadau amgen

·         gwahodd plant a aeth ymlaen i’r Brifysgol ar ôl derbyn gofal

·         gwahodd teuluoedd maeth

·         cyflwyniadau i'r Cyngor Llawn

·         darparu amgylchedd lle gallai partïon siarad yn anffurfiol

·         croesawu profiadau bywyd go iawn

·         gwahodd cynrychiolwyr Penaethiaid Ysgolion, cynrychiolwyr o’r trydydd sector, a'r gwasanaeth eiriolaeth

·         ystyried dylanwadu ar y cynlluniau Polisi Derbyn i Ysgolion a Phrentisiaeth

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles i ymchwilio i'r rhain ac i’r awgrymiadau eraill cyn adrodd yn ôl.

                     

Dogfennau ategol: