Agenda item

Uwchraddio System Gyfryngau a Cherddoriaeth Gyfrifiadurol y Capel

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth adroddiad, a'i ddiben oedd cynghori'r Cyd-bwyllgor ar y gwelliannau gofynnol i systemau cyfryngau a cherddoriaeth gyfrifiadurol Capel Crallo a Chapel Coety yn Amlosgfa Llangrallo a cheisio cymeradwyaeth i wario ar gael rhai newydd yn eu lle, er mwyn darparu cyfleuster mwy modern i ddefnyddwyr y gwasanaeth profedigaeth.

 

Darparodd yr adroddiad ychydig o wybodaeth gefndirol, ac yn dilyn hynny, cynghorodd  Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth fod Wesley Media Ltd wedi datblygu cynhyrchion a rhaglenni arbenigol addas i amlosgfeydd sy'n bodloni disgwyliadau pobl mewn galar yn yr 21ain Ganrif. O ystyried ei ddibynadwyedd profedig yn y maes arbenigol hwn caiff ei ddefnyddio gan y rhan fwyaf o Amlosgfeydd y DU a gan bob un o'r Amlosgfeydd gerllaw, fel y cyfeirir ato ar ffurf pwynt bwled ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Aeth Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth ymlaen i gadarnhau bod Wesley Media yn darparu pecyn caledwedd cyfrifiadurol addasedig arbenigol i bob capel, wedi'i lwytho â meddalwedd weithredol gyda mynediad at ystod ddiddiwedd o gerddoriaeth yn cynnwys arddulliau cyfoes, emyn-donau a chlasurol. Mae'r feddalwedd hefyd wedi'i rhyngwynebu i sicrhau nad oes lle ar gyfer camgymeriadau. Mae Wesley Media hefyd yn darparu recordiadau USB o wasanaethau angladd ac yn trefnu gweddarllediadau ar gyfer y rheiny nad ydynt yn gallu mynychu'r gwasanaeth angladd. Yn ogystal mae'n darparu teyrngedau gweledol sydd wedi'u teilwra i ofynion teuluoedd mewn galar, y gellir eu lawrlwytho ar gyfrifiadur cerddoriaeth i gapeli Wesley Media i'w chwarae ar eu sgriniau teyrnged-gytûn. Ychwanegodd y rhoddir sylw i bob agwedd ar y gwasanaeth angladd, o drefn y gwasanaeth i acwsteg y lleoliad unigol, i natur sensitif seremonïau personol.

 

Ychwanegodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth, er bod cerddoriaeth organ yn dal i fod yn gyfeiliant poblogaidd i wasanaethau a bod yr holl ganu emynau yn cael ei gyfeilio gan organ bib yr Amlosgfa, gofynnir am fathau eraill o gerddoriaeth yn aml, yn lle cerddoriaeth organ neu i ychwanegu ati.

 

Ymgynghorwyd ag Wesley Media ym mis Rhagfyr 2019 a chynhaliwyd adolygiad ganddynt o'r system gyfryngau a cherddoriaeth bresennol yn yr Amlosgfa. Amlinellodd eu hadroddiad dilynol y gallent gynnig yr holl gyfleusterau modern sydd eu hangen ar yr Amlosgfa, fel y disgrifir ym mharagraff 4.5 yr adroddiad.

 

Byddai ychwanegu sgriniau-gytûn Wesley Media yn y ddau gapel yn galluogi'r bobl mewn galar i wylio'r teyrngedau gweledol y mae Wesley Media wedi'u fformatio yn unol â'u gofynion. Dyma wasanaeth a ddarperir gan Amlosgfeydd gerllaw a osododd system Wesley Media yn ddiweddar gyda mantais yr ychwanegiadau mwy modern hyn at wasanaeth Wesley Media. Byddai gosod sgriniau-gytûn Wesley Media ym mhen uchaf a phen isaf y clawstr yn arwain at Gapel Crallo, yn manteisio ar gamera gweddarlledu Wesley Media a fyddai ymlaen yn awtomatig gyda theyrngedau gweledol, gan alluogi galarwyr sy'n sefyll yn yr ardal hon yn ystod ymgynulliadau mawr, i wylio'r gwasanaeth yn y capel yn hytrach na gwrando ar y siaradwyr yn unig. Byddai hyn yn caniatáu iddynt gymryd mwy o ran yn y gwasanaeth angladd.

 

I gloi ei chyflwyniad, cadarnhaodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth, o ganlyniad i anghenion unigryw'r gwasanaeth Amlosgfa a natur arbenigol y ddarpariaeth gerddoriaeth ddigidol, y byddai Rheolau Gweithdrefnau Contract Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gymwys, gydag ildiad yn cael ei gymhwyso drwy'r Cynllun Dirprwyo, yn unol â darpariaeth 3.2.3.

 

Gofynnodd Aelod i'r Swyddog a oedd cynllun wrth gefn, pe bai'r cyfarpar hen neu newydd a'r cyfleusterau cysylltiedig yn methu am unrhyw reswm.

 

Cadarnhaodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth fod gan yr Amlosgfa stoc o gofau bach USB a chryno ddisgiau ar y safle bob amser y gellid eu defnyddio i ddarparu cerddoriaeth a bod teuluoedd bob amser yn barod i gyflenwi'r rhain hefyd. Pe bai unrhyw ddarpariaethau llai newydd at y diben hwn yn ofynnol, yna gellid cyflawni hyn yn gyflym gydag isafswm cost, yn dilyn ymarfer caffael syml, sydyn.

 

Gofynnodd Aelod a oedd y gwaith sy'n angenrheidiol yn mynd i gael ei gynnal yn y flwyddyn ariannol hon neu'r flwyddyn ariannol nesaf a sut fyddai'r gwaith yn effeithio ar fusnes yr Amlosgfa.

 

Cynghorodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth y byddai'r gwaith yn cael ei gynnal yn unol â chynigion Cynllun Busnes 2020/21, ac y gobeithiwyd, y byddai'r gwaith sy'n angenrheidiol, cyn belled ag sy'n bosibl ac ymarferol, yn cael ei amserlennu o amgylch angladdau/amlosgiadau. Y sefyllfa waethaf bosib, ychwanegodd fyddai'r posibilrwydd o orfod cau'r prif Gapel dros dro er mwyn cwblhau'r gwaith ar amser, gyda Chapel Coety yn cael ei ddefnyddio yn ei le yn ystod y cyfnod hwn.  

 

PENDERFYNWYD:                        Bod y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo gwariant ar y gwaith a amlinellir yn yr adroddiad gan Wesley Media Ltd, am gyfanswm o £41,696, ar y cyd â chymeradwyo'r Cynllun Busnes.   

Dogfennau ategol: