Agenda item

Cynllun Busnes a Ffioedd yr Amlosgfa

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgorau o'r Cynllun Busnes a'r rhaglen wariant ar gyfer 2020-21, sy'n cynnwys cynnydd arfaethedig i ffioedd amlosgi.

 

Cynghorodd fod Cynllun Busnes yn cael ei gyflwyno'n flynyddol i'r Cyd-bwyllgor ei gymeradwyo, sy'n cynnwys amcanion y gwasanaeth a phrosiectau cynnal a chadw a gwella arfaethedig, i wella a chynnal tir ac adeiladau'r Amlosgfa ar gyfer y cyfnod sydd i ddod.

 

Cadarnhaodd mai cyfanswm yr amlosgiadau ar gyfer 2019 oedd 1,625, yn cynnwys 1,004 o Ben-y-bont ar Ogwr, 143 o Fro Morgannwg a 400 o Rondda Cynon Taf, gyda 78 ddim yn preswylio yno. Mae cytundeb gydag Ysbyty Tywysoges Cymru ar gyfer amlosgi gweddillion ffetysol anhyfyw (NVF) wedi arwain at 11 amlosgiad cymunedol ychwanegol. Trefnwyd 8 amlosgiad NVF arall yn uniongyrchol â theuluoedd. Mae cofnodion ystadegol ar gyfer y cyfnod o fis Ionawr i fis Rhagfyr 2018 a 2019 i'w cael yn y Cynllun Busnes er mwyn cymharu.

 

Mae'r Cynllun Busnes Lefel Gwasanaeth arfaethedig ar gyfer 2020-21 ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac mae hwn yn amlinellu amcanion y gwasanaeth ar gyfer y cyfnod. Rhoddodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth grynodeb ohono er budd yr Aelodau drwy echdynnu rhai o'r elfennau pwysicaf ohono.

 

Roedd y Cynllun Busnes yn ymdrin â'r meysydd allweddol canlynol yn dilyn ei gyflwyniad:

 

·         Adran 1 - Gwasanaethu ein Cymuned

·         Adran 2 - Datblygiadau i'r Gwasanaeth

·         Adran 3 - Cyllidebau Refeniw

·         Adran 4 - Adolygiad o'r Cynllun Busnes

·         Adran 5 - Cysylltiadau

 

Nododd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth fod cost amlosgi'r Amlosgfa yn safle 267 allan o 299 o awdurdodau amlosgi, mewn tabl cynghrair o ffioedd cenedlaethol a gyhoeddwyd yn haf 2019 gan Gymdeithas Amlosgi Prydain Fawr (lle mae'r gost uchaf yn cael ei nodi gyntaf).  Argymhellwyd bod y gost amlosgi yn cael ei chynyddu gan lefel chwyddiant o £680.70 i £696.40. Mae hyn yn seiliedig ar gynnydd cyffredinol mewn ffioedd o 2.3% (1% yn ogystal â'r Mynegai Pris Defnyddwyr ar 1.3% yn unol â'r ffigyrau mwyaf diweddar a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2019).  Mae'r tabl ym mharagraff 4.3 yr adroddiad yn cyflwyno cymhariaeth o ffioedd amlosgi cyfredol (2019-20) amlosgfeydd gerllaw.

 

Nododd Aelod o'r adroddiad fod amlosgiadau am ddim i'r rheiny dan 18 oed ar ddyddiau'r wythnos, ond nid ar gyfer unrhyw amlosgiadau ar gyfer y categori oedran hwn ar ddydd Sadwrn.

 

Cynghorodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth mai dim ond y gwasanaeth sylfaenol safonol oedd am ddim o dan yMemorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) ar ddyddiau'r wythnos i'r rheiny dan 18 oed, lle ar ddydd Sadwrn codir ffi ychwanegol i dalu am gostau staffio'r Amlosgfa i gefnogi a/neu weinyddu gwaith amlosgi y tu allan i oriau dyddiau'r wythnos arferol. Ychwanegodd fod rhai amlosgiadau ar ddydd Sadwrn, er hynny.  

 

Nododd Aelod gyda phleser fod yr estyniad i'r Cwrt Blodau bellach yn mynd rhagddo.

 

Cadarnhaodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth fod caniatâd cynllunio wedi'i gadarnhau ar gyfer hyn a bod y gwaith cynllunio yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Ychwanegodd fod y cais cynllunio ar gyfer y prosiect hwn wedi cymryd mymryn yn hirach i'w baratoi nag y tybiwyd i ddechrau gan fod y strwythur yn Adeilad Rhestredig.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr adroddiad a'r Cynllun Busnes Lefel Gwasanaeth gan gyfeirio at faterion megis, Asesiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Lleihau Mercwri ac mae Newid yn yr Hinsawdd yn rhywbeth arall sydd wedi cael ei ystyried hefyd wrth symud ymlaen, mewn perthynas â lefelau penodol o benderfyniadau gan yr Awdurdod. Gyda hyn i gyd yn y cof, gofynnodd a oedd gan yr Amlosgfa unrhyw gynlluniau neu weledigaeth hirdymor ynghylch cynhesu byd-eang ac allyriadau, etc.  

 

Cynghorodd Rheolwr a Chofrestrydd y Gwasanaethau Profedigaeth fod y ffordd a'r modd y mae'r Amlosgfa yn gweithredu mewn nifer o agweddau ar ei gwaith, yn cael eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth ac yn unol â'i thrwydded y mae'n ddarostyngedig i'w darpariaethau. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn monitro Amlosgfeydd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau statudol ynghylch amddiffyn yr amgylchedd etc, mewn perthynas ag Amlosgfeydd a Chyfarpar Lleihau Mercwri, er enghraifft.

 

PENDERFYNWYD:                       Y dylai'r Cyd-bwyllgor:-

 

(1)  Gymeradwyo'r Cynllun Busnes Lefel Gwasanaeth 2020-21

(2)  Cymeradwyo'r ffi amlosgi ar gyfer 2020-21 o £696.40 a chynnydd cyffredinol yn yr holl ffioedd o 2.3%  

 

Dogfennau ategol: