Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 y Cyngor i'r Cabinet er mwyn ei gymeradwyo. Nodwyd gwall yn yr adroddiad, dylai pwynt bwled 5 ar dudalen 73 o becyn yr agenda ddarllen “rydym wedi ymgynghori ar gynigion yn ddiweddar” nid “rydym wedi ymgynghori ar gynigion yn 2018/19”.
Amlinellodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb yr ymarfer ymgynghori ac ymgysylltu a chynghorodd fod amcanion wedi'u gosod yn unol â chanfyddiadau adroddiad ac ymgynghoriad cyhoeddus “A yw Cymru yn Decach?" y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Amlinellodd y chwe amcan trosfwaol a ddatblygwyd er mwyn adlewyrchu barn preswylwyr a rhanddeiliaid o bob rhan o'r fwrdeistref sirol. Dyma oedd sylfaen ymarfer ymgynghori’r cyngor a ddechreuodd ar 23 Rhagfyr 2019 ac a ddaeth i ben ar 9 Chwefror 2020. Ymgysylltodd y Cyngor â 220 o breswylwyr i gyd a derbyniodd 424 o ymatebion i'r arolwg. Defnyddiwyd yr ymatebion i'r arolwg a dderbyniwyd a'r adborth a gafwyd i gefnogi datblygiad terfynol yr amcanion cydraddoldeb.
Esboniodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y byddai cynllun gweithredu manwl yn cael ei ddatblygu yn ystod mis Mai a Mehefin 2020 fyddai'n amlinellu'r tasgau a'r camau gweithredu penodol sydd angen eu cymryd dros y pedair blynedd nesaf a byddent yn canolbwyntio ar ganlyniadau. Byddai'r cynllun gweithredu terfynol yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Cydraddoldeb y Cabinet ar gyfer ei gymeradwyo ym mis Gorffennaf 2020.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod gan y ddogfen hon naws wahanol i'r un a etifeddwyd ganddynt ac y gallai weld bod llawer o waith wedi cael ei wneud arni. Roedd gan y ddogfen hefyd synergeddau ag amcanion Llywodraeth Cymru ac roedd yn llawer cliriach i aelodau'r cyhoedd ei deall.
Cytunodd yr Arweinydd fod llawer o waith wedi'i wneud i ddatblygu’r ddogfen ac yn bwysicach fyth, y cynllun gweithredu. Gofynnodd sut byddai'r gwerthoedd, yr amcanion a'r weledigaeth yn cael eu gweithredu. Esboniodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y byddai'r cynllun gweithredu terfynol yn darparu'r manylion hyn. Byddai gan y Bwrdd Rheoli Corfforaethol rôl yn y gwaith o fonitro'r effaith.
Ychwanegodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod rhaid i swyddogion herio eu hunain a bod yn ysbrydoledig wrth ystyried prosesau adrodd a monitro ac adlewyrchwyd hyn yn y cynllun gweithredu.
Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn awyddus i’r awdurdod archwilio “Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth” gyda phobl ifanc gan fod hyn yn parhau i fod yn broblem gynyddol. Atebodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod ymrwymiad wedi'i wneud i barhau i weithio gydag ysgolion ac i alluogi staff o fewn ysgolion i gynnig hyfforddiant i'w wneud yn fwy cynaliadwy.
Esboniodd y Prif Weithredwr fod cais wedi'i wneud am Grynodeb Gweithredol ac y gallai hynny ychwanegu gwerth a gwneud y ddogfen yn fwy hygyrch. Bu aelodau'n trafod y dogfennau a grëwyd gan awdurdodau eraill a phwysigrwydd canolbwyntio ar gamau gweithredu. Awgrymodd yr Arweinydd y dylid ychwanegu gwaith yn ymwneud â ffoaduriaid, agor y Ganolfan Adnoddau Dysgu a'r ymrwymiad i ddatblygu gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg at y ddogfen.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyodd a mabwysiadodd y Cabinet Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 yr awdurdod.
Dogfennau ategol: